Pob rhaglen

#

#CelebrateNationalLottery25

We’re marking The National Lottery’s 25th birthday by bringing people together. We’re offering people and communities with great ideas the chance to receive a grant between £100 and £1,000.

A

D

Dyfarniadau o Bortffolio’r DU

Mae'r Portffolio Deyrnas Unedig yn cefnogi syniadau a phrosiectau ar draws y DU. Mae'n profi ac yn tyfu syniadau blaengar sy'n galluogi pobl i arwain ar fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol hir dymor a gwella ansawdd bywyd ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Digital Fund

Mae’r rownd gyntaf o’r Gronfa Ddigidol bellach ar gau. Dan edefyn 1 a 2, fe ddyfarnom £12.1 miliwn i 29 mudiad a £500,000 i gontract cefnogi i weithio â nhw. Mae £2.4 miliwn yn weddill o’r £15 miliwn a ddyrennir i’r Gronfa Ddigidol, fel y cyhoeddwyd yn 2018. Rydym wrthi’n gwneud ychydig o waith darganfyddiad i bennu anghenion micro-fudiadau ledled y DU, ac os yw’r anghenion hyn yn bennaf yn ddigidol. Byddwn yn defnyddio’r gwaith hyn i hysbysu sut y byddwn yn cefnogi’r grwpiau hyn yn 2020. Ynghyd â hyn, rydym yn cwmpasu sut y gall yr arian sy’n weddill gael yr effaith fwyaf, ac rydym yn gobeithio lansio nifer fach o gronfeydd strategol, bach yn 2020. Am ddiweddariadau rheolaidd ar y Gronfa Ddigidol, dilynwch blog canolig y tîm.

Digitisation Archived Wedi’i archifo

Providing funding to make learning materials available, free of charge, on the Internet

B

Basic Online Skills Archived Wedi’i archifo

Sgiliau digidol ar gyfer y bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus

M

Mewn Undod Mae Nerth

Mae’r cyllid hwn i brosiectau sy’n adeiladu cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau. Rydym ni’n chwilio am syniadau sy’n cryfhau’r cysylltiadau hyn drwy archwilio a datblygu’r amodau sydd eu hangen i adeiladu ffyrdd gwell a mwy hirhoedlog i ddod â phobl ynghyd.

Millennium Now Archived Wedi’i archifo

Pum prosiect ysbrydoliaethus o fudd i gymunedau'r DU

G

Gweithredu hinsawdd – arianwyr eraill

Os byddwch yn aflwyddiannus gyda'n grant, neu os nad yw'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn iawn i chi, efallai y byddwch am ystyried arianwyr eraill.

Cysylltwch â sefydliadau unigol am ba gyfleoedd sydd ganddynt ar hyn o bryd ac am eu meini prawf cymhwysedd.

Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed

Rydym yn cynnig £1,000 hyd at £10,000 o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

C

Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ynni a Hinsawdd

Nod y cyllid hwn yw helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym ni’n chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar brosiectau ynni sydd wedi’u llywio gan y gymuned sy’n buddio’r hinsawdd, yr amgylchedd a chymdeithas, gan gryfhau iechyd a lles pobl a

Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Mae’r cyllid hwn yn ceisio helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng natur a hinsawdd. Hoffem ariannu prosiectau sy’n defnyddio natur i annog rhagor o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned.

Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni

Y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yw ein hymrwymiad i helpu cymunedau i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Gyda’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni, rydym am gynnwys mwy o bobl mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Ac rydym am ysbrydoli newid beiddgar a pharhaol a fydd yn cael effaith.

Rydym wedi ymestyn y cyfnod ymgeisio ar gyfer yr ariannu hwn hyd 17 Rhagfyr 2025. Mae galw mawr am yr ariannu hwn, felly dim ond y ceisiadau cryfaf a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rydym am weld mwy o brosiectau sy’n:

  • glir ynglŷn â’r effaith barhaol y maen nhw am ei chael
  • y gellid eu hehangu neu eu hefelychu mewn mannau eraill
  • cael eu cyflawni gan bartneriaethau amrywiol
  • dod â lleisiau newydd o wahanol gymunedau, yn enwedig y rhai hynny sy’n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais
  • edrych y tu hwnt i’r hinsawdd neu’r amgylchedd at fuddiannau eraill fel ffordd o ddenu pobl i weithredu
  • sydd â chynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn i rannu stori eu gwaith.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn mwy o geisiadau gan brosiectau sy’n gweithio naill ai ar lefel ranbarthol, cenedlaethol neu ledled y DU gyfan a’r rhai sy’n cyflawni prosiectau tymor hwy.

Rydym am gefnogi cymysgedd o wahanol gymunedau, themâu a dulliau ledled y DU a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o’n hasesiad.

Dim ond prosiectau sydd wedi eu datblygu mewn partneriaeth ffurfiol â sefydliadau eraill y byddwn yn eu hariannu. Nid yw’r ariannu hwn ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau unigol.

Rydym eisiau clywed gan ragor o bartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr amgylchedd neu sy’n cynnwys y sefydliadau hynny. Dylent fod yn anelu at gyrraedd pobl sy’n newydd i weithredu ar yr hinsawdd.

Rydym yn chwilio am brosiectau partneriaeth sy'n cyrraedd mwy o bobl naill ai trwy:

  • ddylanwadu ar gymunedau ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu lefel y DU. Fel ymgyrchoedd neu brosiectau mwy a fydd yn ysbrydoli pobl i weithredu ar faterion hinsawdd. Neu helpu cymunedau i ddylanwadu ar y bobl sy'n llunio polisïau sy'n effeithio arnyn nhw.
  • cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â bywydau beunyddiol a diddordebau cymunedau lleol. Defnyddio gweithgareddau dydd i ddydd pobl i'w hysbrydoli i wneud pethau'n wahanol a gweithio tuag at effaith barhaol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cynnwys pobl, llefydd a chymunedau sy'n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais. Mae'n bwysig cael cynrychiolaeth o'r cymunedau y mae eich partneriaeth yn eu cefnogi.

Climate Action Fund - round 1

The Climate Action Fund is a ten-year £100 million fund supporting communities across the UK to take action on climate change.

Caru'n Cynefin

Mae IKEA (UK) a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gefnogi cymunedau ffyniannus, gwydn a chynaliadwy ledled y DU.

Cronfa'r Deyrnas Unedig

Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig symiau mwy o arian ar gyfer prosiectau presennol. Byddwn ni’n ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddwn ni hefyd yn ariannu prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar newid.

F

Forces in Mind

Yn cefnogi lles seicolegol cyn-filwyr a'u teuluoedd, a'u helpu i symud yn llwyddiannus i fywyd fel sifiliaid

T

Tyfu Syniadau Gwych

Mae ein rhaglen Tyfu Syniadau Gwych yn canolbwyntio ar gefnogi newid trawsnewidiol a hirdymor.

The People's Millions Archived Wedi’i archifo

Prosiectau i wella cyfleusterau lleol neu helpu pobl i elwa'n fwy o'u hardal

Their Past Your Future Archived Wedi’i archifo

Yn coffáu 60 mlynedd ers y digwyddiadau a arweiniai at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd

H

I

Improving Futures Archived Wedi’i archifo

Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau posib mewn bywyd

K

L

Leaders with Lived Experience Pilot Programme

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau

Rhaglen beilot yw Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon sy’n cyflwyno grantiau’r Loteri Genedlaethol o rhwng £20,000 a £50,000 i gefnogi arweinyddiaeth trwy brofiad o lygad y ffynnon. Yn y cam hwn, fe fyddwn yn edrych ar gyflwyno rhwng 15-20 o grantiau.

Living Landmarks Archived Wedi’i archifo

Yn cefnogi prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr trwy ddwy ffrwd ariannu unigryw

N

O

Other National Lottery Funders

Os nad oes yr un o raglenni presennol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn addas ar gyfer eich prosiect, efallai y bydd un o arianwyr eraill y Loteri yn gallu helpu.

P

Prosiectau’r Bobl

Mae’r rhaglen hon ar gau i geisiadau newydd


Rydym ni’n ôl gyda’r Loteri Genedlaethol, ITV, UTV ac, am y tro cyntaf eleni, y Sunday Mail. Rydym ni’n cynnig y cyfle i sefydliadau cymunedol ymgeisio am gyllid hyd at £70,000.

Yn dilyn ymgyrch genedlaethol, bydd yr enillwyr yn cael eu penderfynu arnynt trwy bleidlais gyhoeddus. Y syniad yw rhoi cyfle i chwaraewyr y Loteri a’r cyhoedd i benderfynu sut y mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario.

Rydym ni’n chwilio am brosiectau sy’n:

  • dod â phobl ynghyd ac yn meithrin perthnasoedd cryf mewn cymunedau ac ar eu traws
  • gwneud cymunedau’n gryfach ac yn fwy cynhwysol
  • helpu pobl neu gymunedau i ddatblygu’r sgiliau a’r galluedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu huchelgeisiau
  • ymgysylltu’r bobl yr ydych chi’n eu cefnogi yn nyluniad, datblygiad a darpariaeth eich prosiect
  • cefnogi pobl i greu newid ystyrlon yn eu cymuned leol neu ei helpu i ffynnu
  • helpu pobl a chymunedau gysylltu trwy ymgysylltu â byd natur
  • meithrin cysylltiadau ar draws gwahanol ddiwylliannau, cymunedau, neu’r ddau ohonynt.

Rydym ni’n chwilio am syniadau creadigol gan sefydliadau sydd eisoes wedi gwneud gwaith da yn eu cymuned leol. Byddwn ni’n blaenoriaethu sefydliadau llai gyda throsiant blynyddol o dan £500,000.

Byddwn ni’n dyfarnu grantiau hyd at £70,000 i 57 o enillwyr ledled y DU. Byddwn ni’n cynnig grantiau hyd at £10,000 i hyd at 38 o sefydliadau eraill.

Mae hwn yn gyfle cyffrous, ond bydd angen amser ac ymrwymiad dros sawl mis er mwyn i’ch prosiect gael y pleidleisiau sydd eu hangen arnynt i ennill. Cyn i chi benderfynu ymgeisio, ystyriwch a ydych chi’n hapus i gynnal ymgyrch gyhoeddus a allai dod â llawer o gyhoeddusrwydd i’ch prosiect. Byddwn ni’n cynnig cefnogaeth a hyfforddiant am ddim i’ch helpu i wneud hyn.

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’n cyflwyniad i Brosiectau’r Bobl gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

R

Realising Ambition Archived Wedi’i archifo

Yn helpu pobl ifanc i osgoi'r llwybrau sy'n arwain at droseddu

Y

Y Gronfa Jiwbilî Platinwm

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Mae’r rhaglen hon bellach wedi cau i geisiadau. Ewch i Raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol lle mae gwybodaeth am grantiau sydd ar gael i gefnogi digwyddiadau neu ddathliadau cymunedol i nodi blwyddyn y Jiwbilî Platinwm drwy gydol 2022.

Mae'r Jiwbilî Platinwm yn dathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi Y Frenhines ac i nodi'r achlysur hwn, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu 70 o brosiectau ledled y DU.

Mae hon yn foment Genedlaethol sylweddol, ac yr ydym yn chwilio am brosiectau sy'n mynd y tu hwnt i ddathlu ond i'r rhai sy'n creu newid i gymunedau.

Rydym am ariannu prosiectau sy'n creu mwy o etifeddiaeth i'n lleoedd a'n mannau, ac sy'n cefnogi cyfleoedd, gweithgareddau newydd ac yn meithrin gwell perthynas â'i gilydd, ar draws cenedlaethau a chyda'r byd naturiol.

Bydd angen i brosiectau a ariennir fod ar waith erbyn Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines ar 5 Mehefin 2022.

Rydym yn bwriadu gwneud ein penderfyniadau terfynol ar ba brosiectau i'w hariannu yng Ngwanwyn 2022. Felly, byddem yn disgwyl i'r prosiectau a ariennir gennym o dan y rhaglen hon ddechrau o Wanwyn 2022 ymlaen.

Byddwn yn gweithio gyda'r holl brosiectau a ariennir fel y gallwn rannu a chodi eich gwaith yn gyhoeddus erbyn penwythnos y Jiwbilî ar 4 a'r 5 o Fehefin 2022.

Ein tri maes ffocws yw:

1. Ar draws Cenedlaethau - Cryfhau'r berthynas rhwng cenedlaethau a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Prosiectau sy'n cysylltu pobl ar draws cenedlaethau drwy wneud gweithgareddau gyda'i gilydd
  • Prosiectau sy'n ystyried cenedlaethau'r dyfodol a sut y gall y Jiwbilî adael etifeddiaeth iddynt yn y gymuned
  • Prosiectau a gynlluniwyd ac a arweinir gan bobl ifanc sydd am fod yn fwy egnïol wrth lunio dyfodol eu cymunedau

2. Adnewyddu Cymunedol - Cefnogi cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn eu cymuned leol, yn ogystal â chyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd mewn ffyrdd a mannau newydd neu wahanol.

  • Mae'r prosiect yn defnyddio safleoedd neu fannau lleol sylweddol – parciau, adeiladau treftadaeth, mannau cymunedol ac ati.
  • Mae'r prosiect yn creu cyfleoedd newydd i'r bobl sy'n byw'n lleol gyfrannu a/neu i feithrin sgiliau a phrofiad
  • Mae'r prosiect yn rhoi rhywbeth newydd (cyfres o weithgareddau, grŵp, gofod cymunedol, gwasanaeth, rhwydwaith) sy'n nodi'r Jiwbilî fel trobwynt yn y gymuned

3. Ein Byd Naturiol a Rennir - Tyfu ein gofal a'n gweithredu'n lleol ar gyfer y byd naturiol.

  • Mae'r prosiect yn cychwyn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r byd naturiol yn lleol - gan roi cyfle i fwy o bobl ofalu am y blaned ar lefel leol

Ar draws yr holl geisiadau byddwn yn chwilio ac yn blaenoriaethu prosiectau sy'n:

  • defnyddio creadigrwydd y gymuned
  • eisiau gwneud rhywbeth newydd a dyfeisgar
  • dod â chyfleoedd newydd
  • defnyddio safleoedd o arwyddocâd lleol
  • defnyddio niferoedd o sianeli y gall pobl gymryd rhan ynddynt
  • a fydd yn cael effaith ar fwy nag un o'r meysydd ffocws uchod, a
  • rydym yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau'n cael eu harwain gan bobl ifanc.

Darllenwch y blog hwn am rai enghreifftiau o'r mathau o brosiectau y byddwn ac na fyddwn yn eu hariannu.