Safonau'r Gymraeg

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru. Er 1994 mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu mwy na £4 miliwn i gefnogi prosiectau Cymraeg sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau.

Rydym yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn annog pobl ddi-Gymraeg i ddysgu'r iaith. Mae llinell ymholiadau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi'i staffio gan siaradwyr dwyieithog, mae pob deunydd arweiniad ac ymgeisio ar gael yn ddwyieithog ac mae staff Cymraeg eu hiaith yn asesu ac yn rheoli grantiau ar gyfer grwpiau sydd wedi dewis i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers y 25ain o Ionawr 2017 mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch iawn i fod yn cyd-weithio â Chomisiynydd y Gymraeg ar weithredu ein Safonau’r Gymraeg. Mae rhestr lawn o’n Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’w gweld yma yn ein hysbysiad Cydymffurfio Terfynol (PDF, 356KB). Mae trosolwg o'r hyn y mae safonau'r Gymraeg yn ei olygu i ni a sut rydym yn cydymffurfio â nhw ar gael yma: Safonau Iaith Gymraeg Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (PDF, 333KB)

Mae rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn goruchwylio, hybu a hwyluso ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ar gael yma: Goruchwylio, Hybu a Hwyluso - Safonau'r Gymraeg (PDF, 1.2MB)

Yn 2011, daeth Mesur y Gymraeg i rym sydd wedi sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. O dan Fesur y Gymraeg 2011, rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau sy'n derbyn cyllid gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fodloni gofynion grant y Gronfa wrth ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg o fewn ein grantiau, darllenwch polisi'r Iaith Gymraeg mewn grantiau (PDF, 197KB).

Os ydych yn chwilio am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd angen i chi ystyried y Gymraeg wrth i chi ymgynghori a datblygu'r syniad o'ch prosiect gyda'ch cymuned. Mae'n bwysig eich bod yn meddwl sut y byddwch yn cyflwyno'ch prosiect yn ddwyieithog cyn i chi gyflwyno'ch cais am gyllid gan y bydd angen i chi gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig o fewn cyllideb eich prosiect. Gellir dod o hyd i fanylion am reoli eich prosiect yn ddwyieithog yma: Rheoli eich prosiect y ddwyieithog (PDF, 130KB).

Rydym yn annog prosiectau i gwblhau canllaw prosiect dwyieithog sy'n nodi sut rydych yn bwriadu cynnal eich prosiect yn ddwyieithog. Bydd hyn yn ein helpu wrth asesu eich cais ond gall hefyd fod yn ddogfen ddefnyddiol i'r rhai sy'n rheoli'r prosiect, ac i'ch defnyddwyr gwasanaeth weld pa wasanaethau sydd gennych ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir dod o hyd i fanylion am beth i'w gynnwys mewn canllaw prosiect dwyieithog yma (PDF, 1.2MB)

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol diweddaraf (PDF, 184KB) ar sut yr ydym wedi parhau i gwrdd â’n Safonau’r Gymraeg.

I gael mwy o wybodaeth am weithdrefnau dwyieithog Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cysylltwch â Thîm y Gymraeg ar cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk

Os nad ydych yn derbyn gwasanaeth derbyniol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn sefydliad hollol ddwyieithog ac rydym yn falch iawn o’n gallu i ddarparu gwasanaeth cyflawn yn y Gymraeg neu’r Saesneg i’n cwsmeriaid, ond weithiau mae pethau yn mynd o chwith.

Os hoffech drafod y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gennym drwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni ar cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk neu os teimlwch fod angen i chi wneud cwyn am ein gwasanaeth, darllenwch ein Dogfen Gwynion (PDF 111KB)