Leaders with Lived Experience Pilot Programme

Programme Design Workshop

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau

Rhaglen beilot yw Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon sy’n cyflwyno grantiau’r Loteri Genedlaethol o rhwng £20,000 a £50,000 i gefnogi arweinyddiaeth trwy brofiad o lygad y ffynnon. Yn y cam hwn, fe fyddwn yn edrych ar gyflwyno rhwng 15-20 o grantiau.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol a sefydlwyd neu sy’n cael eu rhedeg gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon.
Maint yr ariannu
£20,000 hyd at £50,000
Terfyn amser ymgeisio

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau

Pwy all ymgeisio?

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn darllen hawdd o’r arweiniad

Mae’r rhaglen peilot 2019 bellach ar gau

Nid ydym yn derbyn ceisiadau i’r rhaglen hwn bellach. Yn dilyn y peilot, lansiom rhaglen Profiadau o Lygad y Ffynnon 2020 ac mae hwn hefyd wedi cau i geisiadau bellach.

Gallwch ymgeisio os yw eich mudiad:

  • Wedi cael ei sefydlu gan arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
  • Yn cael ei redeg gan arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
  • Ag arweinwyr sy’n adlewyrchu’r sawl yr ydych eisiau ei gefnogi

A’i fod hefyd yn un o’r canlynol:

  • mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • grŵp neu glwb sydd â chyfansoddiad
  • cwmni nid er elw neu gwmni buddiant cymunedol
  • menter gymdeithasol

Ni allwn dderbyn ceisiadau oddi wrth:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • cwmnïau sy’n anelu at greu elw yn bennaf i’w ddosbarthu’n breifat
  • mudiadau a leolir y tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • ceisiadau a wneir gan un mudiad ar ran un arall
  • ysgol
  • corff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned).

Os nad ydych yn diwallu’r meini prawf ymgeisio, edrychwch am raglenni ariannu eraill y gallwch fod yn gymwys ar eu cyfer yma:

Beth ydym ni’n edrych amdano yn eich cais?

Rhaid i’ch cais ddiwallu o leiaf un o’r tair blaenoriaeth ariannu

Ein blaenoriaethau yw:

  • treialu a dysgu am wahanol ffyrdd y gallwn ddatblygu arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon
  • cefnogi gwaith i newid y ffordd y caiff profiad o lygad y ffynnon ei ystyried a’i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
  • annog enghreifftiau dyfeisgar o sut i ddatblygu profiad o lygad y ffynnon ar bob lefel o fewn mudiad

Mae’r mathau o gynigon y gallwn eu derbyn yn cynnwys:

  • rhaglenni neu gynlluniau arweinyddiaeth sy’n ymwneud â datblygu arweinyddiaeth, megis mentora neu hyfforddi
  • dulliau sefydlu arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon o fewn mudiad fel y gall y mudiad ddod yn fwy cynaliadwy, e.e. gwella strwythurau llywodraethu/gwneud penderfyniadau, cynllunio olyniaeth, pecynnau cefnogaeth ar gyfer lles
  • herio a hyrwyddo ffyrdd ystyrlon o sefydlu arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau
  • prosiectau sy’n cyflwyno arbenigedd gydag arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon ar gyfer thema, lleoliad, gwasanaeth neu sector lle maent yn cael eu tangynrychioli

Mae eich prosiect neu weithgaredd wedi'i arwain gan bobl â phrofiad o lygad y ffynnon

Mae’n bwysig dweud wrthym ni fod pob mudiad a ariennir trwy’r rhaglen hon yn cael eu harwain gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon. Rydym eisiau pobl â phrofiad o lygad y ffynnon i fod ar y blaen wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau y maent yn eu cynllunio.

Er enghraifft, gall arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon fod yn:

  • rhywun a fu’n ddigartref sy’n gweithio i wella gwasanaethau digartrefedd
  • unigolyn â HIV sydd wedi sefydlu ac yn rhedeg gwasanaeth cefnogi rhwng cymheiriaid i bobl eraill sydd â HIV
  • unigolyn sydd wedi colli anwylyn i hunanladdiad ac wedi sefydlu ac yn rhedeg grŵp cefnogi i eraill sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad.

Ni fyddai arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn:

  • unigolyn heb fod yn anabl sydd wedi gwirfoddoli gyda phobl anabl, ac eisiau sefydlu elusen i’r anabl
  • rhiant/gofalwr i rywun â HIV sydd wedi sefydlu grŵp cefnogi i bobl sydd â HIV
  • rhywun dosbarth canol sy’n rhedeg cynllun mentora dosbarth gweithiol.
Ar beth y gallwch wario’r arian?

Gallwn ariannu ystod eang o eitemau am hyd at ddwy flynedd. Mae rhai enghreifftiau o’r rhain isod. Nid yw’r rhestr yn un drwyadl, felly dylech gysylltu â ni os nad ydych yn siŵr.

Gallwn ariannu:

  • offer (e.e. offer swyddfa)
  • digwyddiadau unigol
  • costau staff
  • costau hyfforddi
  • cludiant
  • costau cyfleustodau/ costau rhedeg
  • treuliau gwirfoddolwyr

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau statudol
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • taliadau cynhyrchu trydan a thaliadau tariffau bwydo trydan i mewn i’r grid
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • gweithgareddau er elw/codi arian
  • TAW y gellir ei adennill
  • alcohol
  • prynu neu adnewyddu adeiladau – a adwaenir hefyd fel ariannu cyfalaf (os ydych angen grant cyfalaf, gall rhai o’n rhaglenni ariannu eraill gefnogi hyn; dylech gysylltu â ni os hoffech drafod).
Yr hyn yr ydym angen ei wybod

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio:

Cam cyntaf:

Ynglŷn â’ch prosiect

Mae angen i chi ddweud y canlynol wrthym ni:

  • enw eich prosiect
  • ble bydd eich prosiect yn cael ei gynnal
  • yr holl gostau sydd ynghlwm â’ch prosiect
  • a yw eich prosiect yn targedu grŵp penodol o bobl ai beidio, ac os felly, pwy?

Yr hyn yr ydych eisiau ei wneud

Fe fyddwch yn cael y cyfle i ddweud wrthym ni'r hyn yr ydych eisiau defnyddio’r arian ar ei gyfer. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig neu drwy ffilmio fideo byr.

Fe fyddwn yn ystyried dau faes allweddol wrth wneud penderfyniad ar eich cais:

1. A ydych yn diwallu o leiaf un o’r blaenoriaethau ariannu ai peidio, sef i:

  • peilota a dysgu am wahanol ffyrdd y gallwn ddatblygu arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon
  • cefnogi gwaith i newid y ffordd y caiff phrofiad o lygad y ffynnon ei ystyried a’i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
  • annog enghreifftiau dyfeisgar o sut y gallwch ddatblygu profiad o lygad y ffynnon ar bob lefel o fudiad

2. P'un a yw eich mudiad wedi'i arwain gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon ai beidio.

Ail gam:

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi arian sydd wedi cael ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Am y rheswm hwn, mae gennym ni reolau am y wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn eich ariannu. Ni fyddwn yn gofyn i chi gyflwyno’r wybodaeth ariannol a chyfreithiol isod ar gam cyntaf y broses ymgeisio. Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam cyntaf, yna byddwn yn gofyn am y wybodaeth hon yn ystod yr ail gam. Unwaith y byddwn wedi derbyn a gwirio bod y wybodaeth hon yn cyd-fynd gyda’n gofynion, byddwch yn derbyn yr arian.

Mae’r manylion hyn yn ofynnol er mwyn derbyn unrhyw arian oddi wrth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a llawer o arianwyr eraill. Mae’n werth sicrhau fod gennych y wybodaeth hon neu eich bod yn dechrau gweithio tuag at gael y wybodaeth hon i’ch helpu i wneud cynnydd trwy’r broses.

Manylion y byddwn eu hangen

Manylion cyswllt

Rydym angen y wybodaeth isod ar gyfer dau unigolyn nad oes cyswllt rhyngddynt o'ch mudiad, un a fydd yn gyswllt sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw grant a ddyfernir. Gyda ‘nad oes cyswllt rhyngddynt’, rydym yn golygu heb fod yn perthyn trwy waed neu briodas, mewn perthynas tymor hir, neu’n byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad.

  • enw llawn
  • cyfeiriad/rhif ffôn neu e-bost
  • dyddiad geni.

Manylion y mudiad

  • Math o fudiad (e.e., elusen, cwmni buddiannau cymunedol, menter gymdeithasol)
  • Enw cyfreithiol llawn, cyfeiriad a chod post eich mudiad.

Manylion cyfrifyddu

I fod yn gymwys am arian, mae angen i chi lunio cyfrifon blynyddol, neu fod wedi sefydlu eich mudiad llai na 15 mis yn ôl a heb fod wedi’u cyflwyno. Fe fyddwn angen gwybod:

  • dyddiad diwedd eich blwyddyn cyfrifyddu
  • cyfanswm yr incwm blynyddol.

Cyfriflen banc

I fod yn gymwys am arian, mae angen i chi fod â chyfrif banc Deyrnas Unedig yn enw eich mudiad.

Os byddwch yn mynd ymlaen at y cam cyntaf, mae angen i chi anfon copi o gyfriflen banc ddiweddar (o fewn y tri mis diwethaf) oddi wrth eich mudiad. Rhaid iddi ddangos:

  • enw cyfreithiol y mudiad
  • y cyfeiriad yr anfonir y datganiadau iddo
  • enw’r banc
  • y rhif cyfrif a'r côd didoli
  • dyddiad

Gallwch weld cyfarwyddyd manylach am yr hyn y byddwn yn chwilio amdano ar eich cyfriflenni banc (PDF, 600KB)

Ymgeisio

Mae’r rhaglen peilot 2019 bellach ar gau

Nid ydym yn derbyn ceisiadau i’r rhaglen hwn bellach. Yn dilyn y peilot, lansiom rhaglen Profiadau o Lygad y Ffynnon 2020 ac mae hwn hefyd wedi cau i geisiadau bellach.

Os ydych yn llwyddiannus yn y cam ariannu cyntaf, fe fyddwn mewn cysylltiad i ganfod ychydig yn fwy o wybodaeth am eich mudiad. Unwaith y byddwn wedi derbyn y wybodaeth hon, byddwn yn gwneud ein gwiriadau er mwyn rhoi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Rydym yn awyddus i gefnogi mudiadau bychain. I gyflawni hyn, byddwn yn ystyried incwm eich mudiad fel rhan o’n penderfyniad cyffredinol.

Ein nod yw rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad terfynol erbyn diwedd mis Ebrill 2019.

Gwneud cais trwy e-bost

Lawrlwytho'r ffurflen gais (DOCX 185 KB)

Gwiriadau

Fel corff sy’n cyflwyno cyllid cyhoeddus, rydym yn cynnal ambell wiriad ar y wybodaeth y byddwch yn ei chyflwyno i ni. Dysgu mwy am ein gwiriadau.

Cysylltu â ni

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth wrth lenwi eich cais (neu angen y deunyddiau ymgeisio ar ffurf arall), cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at livedexperience@tnlcommunityfund.org.uk neu ffonio ein tîm cymorth ar 0300 123 0735.

Defnyddwyr negeseuon testun (text relay), defnyddiwch 18001 gan gynnwys 0300 123 0735.

Hoffem glywed eich adborth ar eich profiad o ymgeisio a’ch barn am hyn.

Mae cwestiynau ymgeisio i’w hateb trwy ddogfen word neu fideo. Gellir cyflwyno tabl cyllideb a manylion cyswllt gyda cheisiadau fideo. Ni ddylai fideos fod yn hirach na chwe munud ac ni ddylai dogfennau word fod yn hirach na phedair tudalen A4.

1) Beth yw enw eich mudiad (os oes gennych rif elusen, a fyddech gystal â’i nodi)?

2) Pa rôl mae profiad o lygad y ffynnon yn ei chwarae yn eich mudiad?

Mae gennym ddiddordeb yn unig mewn mudiadau:

  • a sefydlwyd gan arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
  • yn cael eu rhedeg gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
  • y mae eu harweinwyr yn adlewyrchu’r sawl y maent yn dymuno eu cefnogi

Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd mae profiad o lygad y ffynnon yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer y gwaith a wnewch, ac rydym eisiau gwybod sut mae’n cael ei sefydlu o fewn eich prosiect a/neu fudiad. Rydym yn deall fod profiad o lygad y ffynnon yn cynnig golwg a gwybodaeth werthfawr ar gyfer newid positif. Nid ydym angen gwybod manylion eich hanes neu stori bersonol.

3) Beth ydych chi eisiau ei wneud a sut mae gweithgareddau eich prosiect yn cyd-fynd ag un neu ragor o flaenoriaethau’r rhaglen?

Y tair blaenoriaeth ariannu yw:

  • peilota a dysgu am wahanol ffyrdd y gallwn ddatblygu arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon
  • cefnogi gwaith i newid y ffordd y caiff profiad o lygad y ffynnon ei ystyried a’i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
  • annog enghreifftiau dyfeisgar o sut y gallwch ddatblygu profiad o lygad y ffynnon ar bob lefel o fewn mudiad

Hoffem glywed am eich cynnig prosiect, yr hyn yr ydych eisiau ei wneud, sut yr ydych yn mynd i’w wneud, a’r hyn y byddwch yn ei gyflawni ar ddiwedd y prosiect.

Rydym yn dychmygu y bydd y mathau o gynigion y byddwn yn eu derbyn yn gallu cynnwys:

  • rhaglenni neu gynlluniau arweinyddiaeth megis cefnogi, mentora, hyfforddi neu annog cymheiriaid
  • ffyrdd i sefydlu arweinyddiaeth trwy brofiad o lygad y ffynnon o fewn mudiad fel y gall ddod yn fwy cynaliadwy, e.e. cynllunio olyniaeth, pecynnau cefnogi ar gyfer lles, gwella strwythurau llywodraethu
  • herio a hyrwyddo’r ffyrdd gorau o sefydlu arweinyddiaeth trwy brofiad o lygad y ffynnon wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaeth
  • prosiectau sy’n cyflwyno arbenigedd trwy brofiad o lygad y ffynnon i thema, lleoliad, gwasanaeth neu sector lle nad dyma fu’r achos o’r blaen

4) Lle fydd eich prosiect yn gweithio o fewn y Deyrnas Unedig?

Rhestrwch bob ardal lle y byddwch yn datblygu’r gwaith hwn. Gallwch restru yn ôl awdurdod lleol neu ardal ddaearyddol neu dref/dinas e.e. Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr neu Lichfield.

5) Dywedwch wrthym ni beth yw’r costau yr hoffech i ni eu hariannu

Eitem neu Weithgaredd

Cost

e.e. Offer swyddfa

£1,000

e.e. Costau staff

£25,000

Cyfanswm

£

Dylech ddefnyddio penawdau cyllideb, yn hytrach na rhestr fanwl o eitemau.

Er enghraifft, os ydych yn ymgeisio am ysgrifbinnau, pensiliau, papur, amlenni, mae defnyddio ‘cyflenwadau swyddfa’ yn iawn.

6) At bwy y mae eich prosiect yn anelu i’w cefnogi

e.e. pobl/cymunedau sydd wedi profi digartrefedd, caethiwed, anhawster iechyd

7) Pwy sy’n arwain ar eich cais?

  • Enw:
  • E-bost cysylltu:
  • Rhif ffôn:

Cyflwynwch eich cais trwy anfon e-bost at livedexperience@tnlcommunityfund.org.uk