Gweithredu hinsawdd – arianwyr eraill

Os byddwch yn aflwyddiannus gyda'n grant, neu os nad yw'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn iawn i chi, efallai y byddwch am ystyried arianwyr eraill.

Cysylltwch â sefydliadau unigol am ba gyfleoedd sydd ganddynt ar hyn o bryd ac am eu meini prawf cymhwysedd.

Ardal
Ledled y DU

Arianwyr posibl eraill

Dewis eang newid hinsawdd

Grantiau sydd wedi cefnogi ystod eang o fentrau hinsawdd a'r amgylchedd, yn hytrach na chael ffocws thematig penodol. Mae gwahanol symiau o grantiau wedi bod ar gael - o grantiau bach i grantiau mwy a thymor hwy.

Defnyddio, storio a chreu ynni

Cyllid sy’n edrych yn benodol ar rôl ynni, megis ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon-isel.

Cyngor ynni

Mae cynllun Energy Redress ac E.O.N Next Fund yn cynnig cyfleoedd ariannu ar gyfer biliau ynni cartref.

Effeithlonrwydd ynni

Transmission Net Zero Fund ar gyfer cefnogaeth ar drafnidiaeth cerbyd trydan a gwella effeithlonrwydd ynni.

Gallwch ddod o hyd i ragor o gyfleoedd ariannu sy’n berthnasol i sefydliadau ynni cymunedol yn Lloegr yma

Cyfiawnder amgylcheddol, ymgyrchu a gweithredu ar lawr gwlad

Ymhlith y meysydd ffocws allweddol ar gyfer yr arianwyr hyn mae cyfiawnder hinsawdd a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldebau, yn enwedig i'r rhai sy'n fwy agored i niwed ac sy'n cael eu taro galetaf gan newid yn yr hinsawdd. Mae grantiau hefyd wedi cefnogi prosiectau i ddatblygu ymgyrchu, actifiaeth a mudiadau cymdeithasol ar lawr gwlad.

Bwyd

Grantiau sy’n canolbwyntio ar weithredu yn yr hinsawdd ac yn amgylcheddol gan edrych ar systemau a strwythurau bwyd.

Natur a defnydd tir

Mae grantiau wedi cwmpasu meysydd fel gwella bioamrywiaeth, creu a chynyddu mannau awyr agored cymunedol a chysylltu pobl â natur, cadwraeth, addysg, ac adfer yr amgylchedd.

Polisi, cyllid a'r economi

Nid yw pob rhaglen ariannu wedi canolbwyntio'n benodol ar weithredu yn yr hinsawdd ond mae grantiau wedi cefnogi meysydd fel busnes a chyfranddaliadau cymunedol, grantiau arloesol, dylanwadu ar bolisi, gwerthoedd ac agweddau, newid systemig, a phrosiectau sy'n ceisio datblygu economi deg a phŵer heriol.