Mewn Undod Mae Nerth

Connect 4 Women

Mae'r Gronfa hon bellach ar gau.


Mae’r cyllid hwn i brosiectau sy’n adeiladu cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau. Rydym ni’n chwilio am syniadau sy’n cryfhau’r cysylltiadau hyn drwy archwilio a datblygu’r amodau sydd eu hangen i adeiladu ffyrdd gwell a mwy hirhoedlog i ddod â phobl ynghyd.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau yr ydym wedi’u hariannu yn y gorffennol. A blog am un o’r prosiectau.

Mae diddordeb gennym mewn prosiectau sy’n:

  • darparu ar draws o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru) – anogwn sefydliadau llai i weithio mewn rhwydwaith neu bartneriaeth
  • mentrus ac yn ymateb yn arbrofol i ddod â phobl ynghyd drwy ddefnyddio dulliau newydd, neu gyfuniad o ddulliau
  • gallu dangos effeithiau cadarnhaol eglur i gymunedau, gan gynnwys y cymunedau hynny sydd â’r angen mwyaf am gefnogaeth
  • canolbwyntio’n eglur ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant
  • gallu dangos eu bod yn gallu dysgu ac addasu wrth fynd yn eu blaenau.

Mae’n rhaid i’ch prosiect hefyd fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau a restrir yn Beth rydym yn gobeithio ei ariannu.

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’n cyflwyniad i Mewn Undod Mae Nerth gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
Maint yr ariannu
Hyd at £1 miliwn am hyd at bum mlynedd. Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r cyllid yn mynd tuag at brosiectau sy’n gofyn am £200,000 i £500,000. Bydd nifer llai o ddyfarniadau ar gyfer prosiectau dros £500,000.
Terfyn amser ymgeisio

Mae'r Gronfa hon bellach ar gau.

Sut i ymgeisio

Mae'r Gronfa hon bellach ar gau.

Os oes syniad gennych am helpu cymunedau i ddod ynghyd, mae Cronfa'r Deyrnas Unedig bellach ar agor i geisiadau.

Os oes cais Mewn Undod Mae Nerth gennych ar y gweill

Os oes gennych chi gais ar y gweill ar hyn o bryd, byddwn ni'n anfon e-bost atoch.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y rhaglen Mewn Undod Mae Nerth neu os hoffech chi drafod unrhyw gyfleoedd ariannu eraill, anfonwch e-bost at ymholiadau.cyffredinol@cronfagymunedolylg.org.uk

Gallwch chi ymgeisio ar-lein  

Byddwn ni’n gofyn i chi am eich syniad a sut mae’n berthnasol i’r meysydd yr ydym yn canolbwyntio arnynt. Hoffem wybod:

  • sut fydd eich prosiect yn gweithio ar draws dwy wlad yn y DU neu’n fwy
  • yr hyn rydych chi’n gobeithio ei newid
  • sut byddwch chi’n cefnogi cymunedau i wneud newid hirdymor
  • sut mae eich syniad yn cefnogi cymunedau cysylltiedig sy’n ffynnu.

Gallwch weld rhestr lawn o’r cwestiynau y byddwn ni’n eu gofyn i chi.

Byddwn ni’n cysylltu â chi am unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai fod ei hangen arnom i wneud penderfyniad cynnar am eich cais.

Os wnaethoch chi ddechrau cais cyn 13 Medi 2022

Gallwch gyrchu eich cais yn yr hen system.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn

Gallwch fynychu digwyddiad rhithiol amdano. Rydym ni’n cynnal digwyddiadau ar-lein ar:

  • 29 Tachwedd 2022 – 2-3pm
  • 14 Rhagfyr 2022 – 10-11am.

Byddwn ni’n anfon gwahoddiad Microsoft Teams atoch wythnos cyn y digwyddiadau.

Os oes unrhyw ofynion hygyrchedd gennych, gallwch anfon e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi:

Os yw’n anodd neu’n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych anghenion cefnogaeth cyfathrebu neu os yw hi’n anodd i chi gwblhau’r ffurflen]. Rydym ni’n hapus i drafod ffyrdd amgen i chi ddweud wrthym am eich syniad, fel:

  • fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r ffurflen gais a’r canllawiau
  • fersiwn PDF o’r ffurflen gais
  • fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r ffurflen gais a’r canllawiau.

Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Sut i ymgeisio

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'sut i ymgeisio' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

Sut i rannu’ch syniadau trwy ddefnyddio fideo

Pan fyddwn ni’n gofyn am eich prosiect neu syniad, gallwch chi rannu fideo yn hytrach na’i ddisgrifio mewn geiriau.

Mae rhai cwestiynau y bydd rhaid i chi eu hateb mewn geiriau.

Mae canllawiau am sut i rannu eich fideo yn y ffurflen gais, ond os oes unrhyw gwestiynau gennych, anfonwch e-bost at

cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

1. Byddwn ni’n asesu eich cais – mae’r galw am gyllid yn uchel, felly dim ond ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf gryfaf fydd yn mynd i’r cam nesaf.

2. Byddwn ni’n gwneud rhai penderfyniadau cynnar – byddwn ni’n bwriadu dweud wrthych os ydych chi wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn wyth wythnos.

3. Os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn ni hefyd yn gofyn am ragor o fanylion am eich sefydliad ac am brif gysylltiadau’r prosiect. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth yn y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chynnal [gwiriadau diogelwch]. Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi am eich cyllideb arfaethedig. Os ydych chi’n ansicr faint rydych am ymgeisio amdano, gallwn drafod hyn â chi. Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw ein penderfyniad terfynol o fewn tua phedwar mis o gael eich gwahodd i'r ail gam.

4. Byddwn ni’n gwneud penderfyniad terfynol – ystyrir eich cais gan un o’n pwyllgorau ariannu.

5. Os yw eich cais yn llwyddiannus – byddwn ni’n cysylltu â chi gyda’r newyddion da! Dyma fydd yn digwydd pan fydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i chi. Byddwn ni hefyd yn trafod sut allwn ni eich helpu:

  • i ddathlu a hyrwyddo eich grant
  • rhannu eich dysgu ag eraill gan gynnwys deiliaid grant eraill ac ymgeiswyr y dyfodol i gyfrannu at gydweithrediadau ehangach yn y meysydd hyn.
Pwy sy'n gallu ymgeisio a pheidio

Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Pwy sy’n gallu ymgeisio

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'pwy sy’n gallu ymgeisio' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

Rydym ni’n cefnogi ceisiadau gan:

  • sefydliadau mawr a bach
  • cydgwmnïau neu bartneriaethau - yn yr achos hwn, bydd angen i bartner arweiniol gymryd cyfrifoldeb dros y broses ymgeisio.

Gallwch chi ymgeisio os ydych chi’n un o’r canlynol ac yn y DU:

  • elusen gofrestredig   
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) 
  • cymdeithas budd cymunedol 
  • cymdeithas gydweithredol (os oes ganddi gymal di-elw ac wedi'i chofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol) 
  • mudiad gwirfoddol neu gymunedol   
  • corff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned) 
  • cwmni cyfyngedig drwy warant (os oes ganddo gymal di-elw neu os yw'n elusen gofrestredig). 

Hoffem gefnogi cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn prosiectau a arweinir, neu sy’n cefnogi pobl a chymunedau sy’n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTC+ a phobl sy’n ceisio lloches neu sy’n ffoaduriaid. Hoffem weld rhagor o bobl yn y cymunedau hyn yn cael eu cynrychioli yn ein hariannu.

Os ydych eisoes wedi derbyn cyllid gennym

Gallwch ymgeisio os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd rhaid i ni ystyried sut y byddai’r cyllid hwn yn cyflenwi ac yn effeithio ar ddyfarniadau cyfredol yn ystod y broses asesu. Os oes galw uchel am y cyllid hwn, efallai bydd angen i ni flaenoriaethu sefydliadau nad oes ganddynt gyllid grant gennym yn barod.

Aelodau’r bwrdd neu’r pwyllgor 

Mae angen i chi gael o leiaf dau o bobl ar eich bwrdd neu bwyllgor sy’n ddigyswllt. Trwy ddigyswllt, rydym yn golygu pobl nad ydynt:

  • yn perthyn â’i gilydd trwy waed
  • yn briod â’i gilydd  
  • mewn partneriaeth sifil â’i gilydd 
  • mewn perthynas hirdymor â’i gilydd 
  • yn byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion   
  • unig fasnachwyr  
  • sefydliadau sy’n canolbwyntio ar wneud elw a rhannu’r elw hwn yn breifat – gan gynnwys cwmnïau sy’n gyfyngedig gan gyfranddaliadau, sefydliadau heb y cloeon asedau cywir, neu sefydliadau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr neu randdeiliaid
  • sefydliadau y tu allan i’r DU  
  • ceisiadau a wneir gan un sefydliad ar ran un arall
  • ysgolion.

Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi:

Beth rydym yn obeithio ei ariannu

Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

Mae’n rhaid i’ch prosiect ganolbwyntio ar un neu’n fwy o’n blaenoriaethau

Rydym yn cydnabod y bydd y rhan fwyaf o brosiectau a arweinir gan y gymuned yn dod â chymunedau ynghyd mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, yn y rhaglen hon, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar un neu’n fwy o’r blaenoriaethau canlynol. Rydym ni’n chwilio am brosiectau sy’n:

  • meithrin cysylltiadau ar draws cymunedau, nid o fewn cymunedau sydd eisoes yn bodoli’n unig. Rydym ni’n chwilio am brosiectau sy’n gallu meithrin ymdeimlad cadarnhaol o les drwy leihau agweddau ‘ni a nhw’ sy’n creu rhaniadau
  • cefnogi ac archwilio’r hyn sydd ei angen i gysylltu cymunedau ac yn galluogi cydweithrediad cryfach i ddod â phobl ynghyd a’u cadw gyda’i gilydd – er enghraifft seilwaith cymunedol fel rhwydweithiau, adnoddau a rennir neu ddulliau cydgysylltiedig, neu gefnogi sefydliadau seilwaith sy’n cefnogi gwaith grwpiau eraill
  • canolbwyntio ar greu newid mwy hirdymor. Gallai hyn olygu ffocws ar wella’r amodau sydd ar gael i gymunedau i helpu creu’r newid hwn (yn lle darparu gwasanaethau neu gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn unig)
  • gweithredu ar y cyd a chryfhau galluoedd cymunedau i gael rheolaeth, dylanwad a gallu o ran y pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.

Mae hefyd diddordeb gennym mewn cefnogi prosiectau sy’n ymateb i adegau cenedlaethol ac arwyddocaol sy’n bwysig i gymunedau ledled y DU ac yn berthnasol i’r heriau cymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu.

Mae diddordeb gennym mewn prosiectau sy’n:

  • darparu ar draws o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru) – anogwn sefydliadau llai i weithio mewn rhwydwaith neu bartneriaeth
  • mentrus ac yn ymateb yn arbrofol i ddod â phobl ynghyd drwy ddefnyddio dulliau newydd, neu gyfuniad o ddulliau
  • gallu dangos effeithiau cadarnhaol eglur i gymunedau, gan gynnwys y cymunedau hynny sydd â’r angen mwyaf am gefnogaeth
  • canolbwyntio’n eglur ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant
  • gallu dangos eu bod yn gallu dysgu ac addasu wrth fynd yn eu blaenau.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau yr ydym wedi’u hariannu yn y gorffennol.

Byddwn ni’n cefnogi amrywiaeth o brosiectau

Hoffem ariannu prosiectau sy’n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a llefydd ledled y DU. Fodd bynnag, rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi:

  • gwasgariad daearyddol o ariannu ledled y DU
  • prosiectau sy’n agored i bawb ac yn gallu dangos pa weithredoedd rhagweithiol sydd wedi’u cymryd i sicrhau y bydd unrhyw rwystrau posibl i gymryd rhan yn cael eu hymdrin â nhw – yn enwedig ar gyfer pobl anabl, cymunedau sy’n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl LHDTC+ a phobl sy’n ceisio lloches neu sy’n ffoaduriaid. Rydym hefyd yn cydnabod y gall fod rhai amgylchiadau lle bydd prosiectau ond yn gweithio gyda chymunedau penodol – dylech egluro pam fod hynny’n angenrheidiol yn eich cais
  • prosiectau a fydd yn cysylltu â’i gilydd ac yn rhannu dulliau a dysgu. Byddwn ni’n cynnig cefnogaeth i’r prosiectau sydd wedi derbyn grantiau fel grŵp cyfan ac yn trafod sut allai’r gweithgaredd hwn edrych yn ystod y cam asesu.

Byddwn ni’n ystyried y ffactorau hyn wrth asesu eich cais yn erbyn rhai eraill.

Mewn Undod Mae Nerth yn ystod adegau ansicr

Rydym ni’n deall bod dod â phobl ynghyd yn parhau i fod yn ansicr ar hyn o bryd, felly croesawn brosiectau sy’n profi syniadau newydd.

Rydym yn gyfforddus ag ansicrwydd – hoffem ddeall yr hyn y gallwn ei wneud i adeiladu capasiti mewn cymunedau a dysgu o’ch profiadau. Byddwn ni’n gweithio’n hyblyg i’ch galluogi i ddod â phobl ynghyd mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi.

Bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd

Rydym yn disgwyl i’r galw am y cyllid hwn fod yn uchel. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd am yr hyn y gallwn ni ei ariannu.

Beth rydym yn annhebygol o ariannu

Rydym yn annhebygol o ariannu: 

  • gweithgareddau sy’n seiliedig ar leoliad ac yn canolbwyntio ar fan neu hwb cymunedol mewn un ardal yn unig ac nad yw’n gweithredu ar draws o leiaf dwy wlad yn y DU – gall hynny fod yn fwy addas i raglenni ariannu eraill
  • digwyddiadau a phrosiectau untro sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth heb unrhyw gynaliadwyedd eglur neu dystiolaeth effaith mwy hirdymor
  • prosiectau sy’n trosglwyddo eu gweithgareddau i ddarparu ar-lein yn unig
  • prosiectau na allant ddangos sut y mae’r gymuned ehangach wedi hysbysu ei ddyluniad a’i ddatblygiad.

Darparu eich prosiect yng Nghymru 

Os yw’r gwledydd y byddwch yn gweithio ynddynt yn cynnwys Cymru, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau’n ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg). Mae hyn yn rhan o amodau ein grant. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer rheoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Fideo Iaith Arwyddion Prydain: Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o 'ar beth y gallwch chi wario’r arian' gyda throslais Saesneg ac is-deitlau (YouTube):

Gallwn ariannu pethau fel:

  • Costau staff, gan gynnwys gweithwyr sesiynol
  • gwaith datblygu (profi ffyrdd newydd o weithio, hyfforddiant a datblygiad staff, datblygu llywodraethiant, diweddaru neu brynu technoleg neu TG, rhannu dysgu)
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau a chostau cynnal 
  • treuliau gwirfoddolwyr 
  • dysgu a gwerthuso
  • offer  
  • costau cyfalaf (gallwn ystyried ariannu costau cyfalaf ond nid ydym yn disgwyl i’r costau hyn fod yn swm arwyddocaol o’r gyllideb arfaethedig)
  • costau sy’n gysylltiedig â darparu eich prosiect yn ddwyieithog yng Nghymru, fel costau cyfieithu.

Os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn ni’n siarad â chi i gytuno ar yr hyn y bydd yr arian yn talu amdano.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau statudol a gweithgareddau sy’n disodli cyllid gan y llywodraeth
  • benthyciadau, gwaddol neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
  • gweithgareddau lle bydd elw’n cael ei ddosbarthu er budd preifat
  • gweithgareddau ariannu  
  • TAW y gallwch ei adhawlio 
  • alcohol 
  • pethau yr ydych wedi gwario arian arnynt yn y gorffennol ac yn chwilio i’w hawlio ar eu cyfer nawr
  • eitemau a fydd ond yn buddio unigolyn, yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • gweithgareddau crefyddol (ond gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect yn buddio’r gymuned ehangach ac nad oes cynnwys crefyddol). 

Os ydych chi’n ansicr am yr hyn y byddwn yn ei ariannu a pheidio, anfonwch e-bost atom.

Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau’r DU

Mae ein grantiau’n dod o gyllid cyhoeddus a gofynnir ceisiadau llwyddiannus i gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau Rhyngwladol y DU a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o gymorth arnoch.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau am leihau eich effaith amgylcheddol. Mae gan ein Hyb Hinsawdd wybodaeth am ein dull i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.

Rydym yn disgwyl i bob sefydliad a ariennir ac unrhyw bartneriaid i ystyried eu heffaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys cael y polisïau neu gynllun gweithredu perthnasol ar waith i helpu lleihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.


Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi: