Telerau defnyddio

Trwy ddefnyddio neu hygyrchu'r Wefan rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau hyn a chadw atynt. Mae eich mynediad i'r Wefan hon a'ch defnydd ohoni hefyd yn destun Polisi Preifatrwydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y Wefan hon (y Polisi Preifatrwydd), sy'n esbonio sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn diogelu eich data personol.

1. Diffiniadau

Yn y telerau defnyddio hyn:

Mae Cynnwys yn golygu'r holl gynnwys sy'n hygyrch i chi a defnyddwyr eraill ar y Wefan, ond yn eithrio unrhyw gynnwys y gellir ei hygyrchu ar wefannau nad ydynt yn perthyn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol megis hyperddolenni o'r Wefan.

2. Eich defnydd chi o'r Wefan

2.1 Mae'n rhaid i'ch defnydd chi o'r Wefan gydymffurfio ar bob adeg gyda'r telerau defnyddio hyn ac unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir o dro i dro gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar y wefan.

2.2 Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi i chi yr hawl anunigryw ac anhrosglwyddadwy i hygyrchu'r Wefan ac, yn amodol ar y telerau defnyddio hyn, i gofrestru fel defnyddiwr y Wefan.

2.3 Rydych yn cytuno y gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol heb rybudd, unrhyw bryd ac am unrhyw reswm, yn ôl ei disgresiwn llwyr, a heb atebolrwydd i chi:

a. wrthod eich cais i fod yn ddefnyddiwr cofrestredig y Wefan; ac/neu b. eich diddymu chi fel defnyddiwr y Wefan; ac/neu c. eich atal chi rhag hygyrchu unrhyw ran o'r Wefan, ac/neu ch. eich dileu chi fel defnyddiwr ynghyd â'ch cyfrif defnyddiwr.

3. Cofrestru

3.1 Mae'n rhaid i chi gofrestru fel defnyddiwr y Wefan i gofrestru am yr e-fwletin.

3.2 Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddisgresiwn llwyr i benderfynu p'un a ddylid derbyn neu wrthod eich cais i gofrestru fel defnyddiwr y Wefan.

3.3 Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr y Wefan byddwch yn dewis enw defnyddiwr a chyfrinair i hygyrchu eich cyfrif defnyddiwr. Rydych yn gyfrifol am gynnal cyfrinachedd eich cyfrinair. Mae'n rhaid i'ch enw defnyddiwr beidio â bod yn sarhaus na chynnwys rhegfeydd. Gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddefnyddio ei disgresiwn i benderfynu p'un a yw enw defnyddiwr yn briodol ai beidio.

3.4 Chi sy'n gyfrifol trwy'r amser am eich cyfrif defnyddiwr ac am unrhyw weithredoedd a gyflawnir gan ddefnyddio eich cyfrif. Mae'n rhaid i'r wybodaeth a ddarparwch pan fyddwch yn sefydlu eich cyfrif fod yn wir ac yn gywir. Os yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn amau bod yr wybodaeth a ddarperir yn anghywir, yn gamarweiniol neu'n anwir, gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ohirio neu derfynu eich cyfrif.

3.5 Mae'n rhaid i chi hysbysu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar unwaith am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o'ch cyfrinair, eich cyfrif defnyddiwr neu unrhyw dor-ddiogeledd arall mewn perthynas â'r Wefan. Dylech sicrhau eich bod yn allgofnodi o'ch cyfrif bob tro y byddwch yn gorffen defnyddio'r Wefan.

4. Hawliau eiddo deallusol - Cynnwys a Brandio

4.1 Rydych yn cydnabod y canlynol:

a. mae pob hawlfraint, nod masnach a hawl ddeallusol arall yn y Cynnwys (ar wahân i'r hyn sydd yn eich Cyfraniadau chi); b. mae'r enwau, delweddau a logos sy'n adnabod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Brandio), naill ai'n eiddo i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, neu wedi'u trwyddedu i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan drydydd partïon.

4.2 Nid oes unrhyw beth yn y telerau defnyddio hyn yn trosglwyddo i chi unrhyw hawl, teitl neu fuddiant (gan gynnwys unrhyw hawliau eiddo deallusol) mewn perthynas â'r Cynnwys neu'r Brandio.

4.3 Mae'n rhaid i chi beidio â defnyddio, atgynhyrchu neu fel arall ddarparu i unrhyw barti arall y Cynnwys a'r Brandio heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y gallwch ofyn amdano trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ym mharagraff 7 isod.

5. Cais am ddefnyddio Cynnwys neu Frandio

5.1 Yn unol â pharagraff 6 uchod, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig i ddefnyddio Cynnwys neu Frandio i'r:

Tîm Cyfryngau Digidol, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, 1 Plough Place, Llundain EC4A 1DE neu webmaster@tnlcommunityfund.org.uk.

5.2 Dylai eich cais gynnwys manylion eich defnydd arfaethedig o'r Cynnwys neu Frandio, a'ch manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost).

6. Dolenni a Fframiau

6.1 Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i greu dolenni uniongyrchol i dudalennau, ffeiliau neu adnoddau a ddelir ar y Wefan hon.

6.2 Mae'n rhaid i chi beidio â chaniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar wefan arall. Mae'n rhaid i dudalennau'r Wefan lwytho i ffenest gyfan y defnyddiwr.

6.3 Mae'r Wefan yn creu dolenni dim ond i dderbynyddion ein grantiau, ein partneriaid a gwefannau y maent yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sy'n ategu gwasanaethau gwybodaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei hun. Mae unrhyw ddolenni sy'n creu cysylltiadau rhwng y Wefan a gwefannau eraill yn cael eu darparu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol er cyfleuster yn unig, a thrwy hygyrchu'r gwefannau cysylltiedig hynny rydych yn cytuno i unrhyw delerau mynediad neu ddefnydd sy'n ofynnol yn y gwefannau cysylltiedig hynny. Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

a. yn gyfrifol am gynnwys, gwybodaeth, cywirdeb neu safbwyntiau'r gwefannau cysylltiedig na dolenni iddynt; b. yn darparu unrhyw warant, neu ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb, mewn perthynas ag ansawdd, cywirdeb, ffynhonnell neu unrhyw agwedd arall ar y deunyddiau ar y gwefannau cysylltiedig.

7. Defnydd Gwaharddedig o'r Wefan hon

7.1 Mae'n rhaid i chi beidio, unrhyw bryd, â:

a. chyhoeddi, cyfathrebu neu addasu unrhyw ran o'r wybodaeth neu Gynnwys y gellir cael mynediad iddynt ar y Wefan; b. gwneud copïau ar unrhyw ffurf o ran neu'r cyfan o'r Cynnwys heblaw'r hyn sy'n ofynnol yn rhesymol at eich defnydd personol anfasnachol; c. cofrestru proffiliau defnyddiwr lluosog; dd. addasu, cyfieithu, peiriannu o chwith, dadosod neu ddatgrynhoi'r Wefan neu unrhyw ran o'r Wefan; d. ailfformatio neu fframio unrhyw ran o'r gwe-dudalennau sy'n ffurfio rhan o'r Wefan; ff. defnyddio'r Wefan i hysbysebu neu hyrwyddo unrhyw wasanaethau masnachol, neu i ledaenu spam; ng. defnyddio'r Wefan at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon, yn hyrwyddo gweithgareddau anghyfreithlon, yn torri unrhyw gôd ymddygiad perthnasol, yn torri ar draws hawliau trydydd parti neu fel arall sydd wedi'i wahardd gan y telerau defnyddio hyn.

7.2 Yn ôl ei disgresiwn, gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol benderfynu i ohirio neu ddiddymu cyfrifon defnyddwyr hefyd.

8. Adrodd am broblemau neu wneud cwynion

8.1 Gallwch gyfleu unrhyw sylwadau neu gwynion ynglŷn â'r Wefan hon i dîm gwasanaeth cwsmeriaid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol trwy ffonio 0300 123 0735 neu anfon e-bosti, gan gynnwys:

a. unrhyw gynnwys y tybiwch ei fod yn amhriodol neu y credwch ei fod yn anghywir; neu b. unrhyw ddeunydd y tybiwch ei fod yn torri ar draws eich hawliau eiddo deallusol chi neu hawliau eiddo deallusol parti arall.

8.2 Os byddwch yn profi unrhyw anhawster gyda'r Wefan, ffoniwch linell gymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar 0845 4 10 20 30 neu anfonwch e-bost i dîm Cyfryngau Digidol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

9. Atebolrwydd

9.1 I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn atebol (gan gynnwys yn achos esgeulustod) am:

a. golli elw, colli refeniw, colli data, colli'r defnydd o ddata, neu unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ddilynol, a geir gennych chi neu unrhyw barti arall neu a ddyfernir yn eich erbyn chi neu unrhyw barti arall sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'ch mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan (neu unrhyw wefan gysylltiedig); neu b. unrhyw gost, colled, atebolrwydd neu draul sy'n deillio o farwolaeth, anaf personol neu ddifrod i eiddo (gan gynnwys difrod i'ch meddalwedd, caledwedd neu ddata) sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'ch mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan (neu unrhyw wefan gysylltiedig).

9.2 Rydych chi'n indemnio ac yn cadw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ei chyflogeion, ei swyddogion a'i hasiantau yn rhydd rhag ac yn ddiniwed yn erbyn unrhyw hawliadau, atebolrwydd, treuliau, colledion, niwed a chostau (gan gynnwys costau a threuliau cyfreithiol) (Colled) a geir gan unrhyw rai o'r sawl sydd wedi'u hindemnio pan achoswyd y cyfryw Golled yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i:

a. eich mynediad i neu ddefnydd o'r Wefan; neu b. unrhyw Gyfraniadau a wneir gennych chi (neu ar eich rhan) i'r Wefan (gan gynnwys, heb gyfyngiad, Colled a achoswyd gan unrhyw hawl bod eich Cyfraniad chi'n torri ar draws hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill unrhyw barti).

10. Yn gyffredinol

10.1 Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio'r Wefan yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun.

10.2 Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am unrhyw Gyfraniadau neu gynnwys a ddaw o ffynonellau allanol. Nid ydym yn darparu unrhyw warant, neu ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb, mewn perthynas ag ansawdd, cywirdeb, ffynhonnell neu unrhyw agwedd arall ar y cyfryw gynnwys.

10.3 Darperir yr holl gynnwys ar sail “fel y mae” yn unig. Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn darparu unrhyw warant y bydd y Wefan neu unrhyw Gynnwys yn diwallu unrhyw un o'ch anghenion neu ofynion neu y bydd yn gyflawn, heb unrhyw wallau, yn gywir neu y caiff ei gyflwyno heb ymyrraeth, diffyg neu wall.

10.4 Os byddwch yn derbyn unrhyw gyngor neu wybodaeth trwy'r Wefan, nid yw hyn yn creu unrhyw ffurf ar warant ychwanegol uwchben yr hyn a amlinellir yn y telerau defnyddio hyn.

11. Newidiadau i'r telerau defnyddio hyn

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau defnyddio hyn o bryd i'w gilydd. Os nad ydych yn derbyn newid a wneir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i'r telerau defnyddio hyn, yr unig rwymedi sydd gennych yw ymatal rhag hygyrchu'r Wefan ar unwaith.

12. Copi caled o'r telerau defnyddio

I gael set copi caled o'r telerau defnyddio hyn, anfonwch amlen hunangyfeiriedig â stamp arni i'r cyfeiriad canlynol:

Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, 1 Plough Place, Llundain EC4A 1DE

13. Gwybodaeth bersonol

13.1 Bydd yr holl ddata a gesglir mewn perthynas â'r Wefan hon yn cael ei gadw'n ddiogel gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol neu fudiad ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ac ni chaiff ei rannu gydag unrhyw drydydd parti oni bai bod y gyfraith yn mynnu bod hyn yn cael ei wneud neu ei fod yn ofynnol i weithredu'r Wefan hon.

13.2 Mae'n bosib y byddwn yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi ynglŷn â'r Wefan. Anfonwch e-bost os nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi.

13.3 I gael mwy o wybodaeth am gasglu data, darllenwch y Polisi Preifatrwydd.

14. Cyfraith Lywodraethu

Caiff y telerau defnyddio hyn eu llywodraethu gan ddeddfau Cymru a Lloegr yn unig a'u dehongli'n unol â hwy, a byddwch yn ildio'n ddiwrthdro i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.