Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y Gronfa) yn https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh.

Caiff y wefan hon ei rhedeg a'i chynnal gan y Gronfa. Beth bynnag fo'ch anghenion neu'ch galluoedd, gallwch ddisgwyl cydraddoldeb o ran mynediad wrth wneud cais am ein hariannu. Rydym yn hapus i roi cymorth ychwanegol i chi os bydd ei angen arnoch. Er enghraifft, efallai y bydd angen gwybodaeth arnoch mewn ffordd wahanol, neu efallai y bydd angen amser ychwanegol arnoch wrth siarad â ni.

Ar ein gwefan, dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • defnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi ceisio gwneud cynnwys y wefan yn hawdd ei ddeall.

Mae gan wefan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os ydych yn anabl.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • mae rhai o'n ffurflenni cais yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mae yna ddelweddau addurnol sy'n ei gwneud hi'n anodd llywio wrth ddefnyddio darllenydd sgrin.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, gallwch gysylltu â ni. Er enghraifft, gallwn ddarparu gwybodaeth mewn PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad yw'r wefan hon yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost atom yn webmaster@tnlcommunityfund.org.uk.

I'n helpu ni i ddeall a datrys y broblem, ceisiwch gynnwys cymaint ag y gallwch o'r wybodaeth a ddisgrifir yn Contacting Organisations about Inaccessible Websites.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 yng Ngogledd Iwerddon.

Cysylltu â ni dros y ffôn

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl fyddar, sydd â nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd. Gallwch gysylltu â ni ar:

  • 18001 plws 0345 410 2030 (Lloegr)
  • 18001 plws 028 9055 1431 (Gogledd Iwerddon)
  • 18001 plws 0300 123 7110 (Yr Alban)
  • 18001 plws 0300 1230735 (Cymru)
  • 18001 plws 0345 410 2030 (ar gyfer prosiectau sy’n gweithio ar draws y DU)

Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â ni gan ddefnyddio:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Gronfa wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae gwefan y Gronfa yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid oes gan rhai o'r ffeiliau sain a fideo is-benawdau neu drawsgrifiadau. Os nad yw trawsgrifiad ar gael pan gyhoeddir cynnwys sain neu fideo, anelwn at ychwanegu un cyn gynted â phosib wedyn. Rydym wrthi'n creu trawsgrifiadau o gynnwys hŷn. Mae hyn yn methu WCAG 1.2.2 Capsiynau (A), 1.2.3 Disgrifiadau Sain a Chyfryngau Amgen (A), a 1.2.5 Disgrifiadau Sain (AA).
  • Ar rai o'r tudalennau gyda gwybodaeth am y rhaglenni ariannu, nid yw'r penawdau yn dilyn strwythur hierarchaidd. Er enghraifft, ar dudalen rhaglen Mewn Undod Mae Nerth, mae'r pennawd 'Pa wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud cais' wedi'i labelu fel pennawd ail lefel. Dylai'r pennawd hwn fod yn is-adran o'r dudalen. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr â darllenwyr sgrin ei chael hi'n anodd deall y dudalen a sut mae wedi'i strwythuro. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 gwybodaeth a pherthnasoedd (A).
  • Mae delweddau addurniadol ar y wefan sy'n cael eu cyhoeddi'n glywadwy i ddefnyddwyr gyda darllenwyr sgrin. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i'r defnyddwyr hyn lywio drwy'r dudalen. Er enghraifft, ar yr hafan, mae prif ddelwedd y faner yn addurniadol ond fe'i cyhoeddir yn glywadwy fel 'Superstars club'. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 cynnwys di-destun (A).
  • Mae rhai dolenni wedi'u cuddio ar y wefan ar gyfer defnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin. Mae hyn yn golygu na fydd y defnyddwyr hyn yn cael yr un cynnwys â defnyddwyr eraill. Gall hyn arwain at ddefnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin yn colli rhywfaint o gyd-destun y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.2 enw, rôl, gwerth (A).
  • Mae rhai dolenni na all defnyddwyr bysellfwrdd yn unig eu cyrchu. Mae hyn yn golygu na fydd defnyddwyr sy'n llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn gallu cyrchu na dewis y ddolen. Er enghraifft, ar y dudalen sy'n rhestru'r holl ariannu dros £20,001, ni fydd defnyddwyr bysellfwrdd yn unig yn gallu dewis y ddolen i drosolwg prosiect Rosemount Lifelong Learning. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1.1 bysellfwrdd (A).
  • Ar rai tudalennau, mae dolenni heb destun. Er enghraifft, ar dudalen rhaglen Mewn Undod Mae Nerth (cyn y ddolen 'Beth rydym yn gobeithio ei ariannu'), mae dolen nad yw'n cynnwys testun cyswllt. Gallai hyn fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr gyda darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.4 pwrpas cyswllt (A).
  • Ar y tudalennau gyda gwybodaeth am y rhaglenni ariannu, mae pedwar tab sy'n cynnwys manylion pellach am y rhaglenni. Y tabiau hyn yw 'Sut i ymgeisio', 'Pwy sy’n gallu ymgeisio a pheidio', 'Beth rydym yn gobeithio ei ariannu' ac 'Ar beth y gallwch wario'r arian'. Mae'r tabiau hyn yn rhyngweithiol ond nid ydynt wedi'u hychwanegu at y dudalen gan ddefnyddio'r cod cywir. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr â darllenwyr sgrin yn ei chael hi'n anodd deall strwythur y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.1 dosrannu (A).
  • Ar y sgrin mewngofnodi, mae eicon rhyngweithiol siâp llygad sy'n eich galluogi i ddangos neu guddio'r cyfrinair rydych chi newydd ei nodi. Bydd darllenwyr sgrin yn disgrifio'r eicon hwn fel 'botwm'. Nid yw hyn yn ddisgrifiadol felly bydd yn ddryslyd i'r defnyddwyr hyn. Mae'r eicon hwn hefyd yn diflannu pan fydd defnyddwyr yn diffodd y CSS neu'n defnyddio eu dalennau arddull eu hunain. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 gwybodaeth a pherthnasoedd a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
  • Ar rai tudalennau o'r wefan, mae'r lliwiau mewn cyferbyniad isel. Gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl â golwg gwan ddefnyddio rhai tudalennau. Er enghraifft, ar y sgrin mewngofnodi mae eicon rhyngweithiol siâp llygad sy'n eich galluogi i ddangos neu guddio'r cyfrinair rydych chi newydd ei nodi. Pan ddewisir hwn, bydd defnyddwyr bysellfwrdd yn unig yn ei chael hi'n anodd gweld lliw'r border glas yn erbyn y cefndir gwyn. Mae hyn yn golygu y bydd rhai defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd llywio'r dudalen hon. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 1.4.3 Cyferbyniad Isafswm (AA) a 1.4.11 cyferbyniad di-destun (AA).
  • Ar y dudalen sy'n eich helpu i ailosod eich cyfrinair, mae botwm sy'n darllen 'Ailosod cyfrinair'. Pan fyddwch yn dewis y botwm hwnnw, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin sy'n darllen: 'Byddwn yn anfon dolen atoch i ailosod eich cyfrinair os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost sydd wedi cofrestru gyda ni'. Nid yw'r neges hon yn cael ei darllen allan ar gyfer defnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.3 negeseuon statws (AA).

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau baich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni cais wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Dros amser byddwn yn trwsio'r dogfennau hanfodol hyn neu'n rhoi tudalennau gwe HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Cynnwys trydydd parti

Mae gan rai o'n gwasanaethau gynnwys trydydd parti nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni reoli'r mathau hyn o gynnwys, ond os oes gennych broblem gydag unrhyw un o'r cynnwys a gynhelir ar y wefan hon, cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio helpu.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Lle bo modd, rydym yn ceisio profi ein gwasanaethau gydag ystod gynrychioliadol o ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl.

Rydym hefyd yn profi cydrannau i sicrhau eu bod yn gweithio gydag amrywiaeth o borwyr, dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn cynnwys chwyddwydrau sgrin, darllenwyr sgrin ac offer adnabod lleferydd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Rhagfyr 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Ionawr 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2020. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, comisiynwyd y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) gennym i gynnal archwiliad cydymffurfio technegol lefel AA WCAG 2.1, a oedd yn cynnwys profion helaeth gan ddefnyddwyr ag ystod eang o anableddau.