Derbyniodd Hope Church Merthyr Tudful, elusen tlodi bwyd, grant o £78,000 am eu prosiect. Dechreuodd gwaith cyfredol Hope Church yn ystod y cyfnod clo cyntaf wrth iddyn nhw fynd siopa dros bobl nad oeddent yn gallu gadael y tŷ, cyn esblygu i ddosbarthu parseli bwyd argyfwng a chynnig gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn.