Forces in Mind

Yn cefnogi lles seicolegol cyn-filwyr a'u teuluoedd, a'u helpu i symud yn llwyddiannus i fywyd fel sifiliaid

Ardal
Ledled y DU
Cyfanswm ar gael
£35 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Dim dyddiad cau

Beth yw ei bwrpas?

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi £35 miliwn yn Ymddiriedolaeth Forces in Mind (FIMT), Ymddiriedolaeth annibynnol ledled y DU.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Forces in Mind, ewch i

fim-trust.org

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn buddsoddi ac yn gwario £35 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf i gefnogi lles seicolegol a phontio cyn-filwyr a'u teuluoedd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy i fywyd sifil. Bydd yn darparu cymorth hirdymor sy'n cefnogi ac yn cyd-fynd â'r gwaith gwerthfawr sydd eisoes yn cael ei wneud gan amrywiaeth o sefydliadau.

Mae Forces in Mind yn adeiladu ar ein hetifeddiaeth o dros £88 miliwn o gymorth i gyn-filwyr drwy raglenni fel Heroes Return ac yn canolbwyntio ar gyn-filwyr o wrthdrawiadau mwy diweddar.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn Ariannwr Sy'n Ystyriol o Gyflogau Byw. Mae hyn yn golygu ein bod yn annog ein hymgeiswyr i dalu Cyflog Byw'r DU i'w staff.

Ewch i'n tudalen Cyflog Byw am fwy o wybodaeth

Gwiriadau

Fel sefydliad sy'n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhai gwiriadau ar y wybodaeth a roddwch i ni. Dysgwch fwy am ein gwiriadau