Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni

North East Young Dads and Lads

Y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yw ein hymrwymiad i helpu cymunedau i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym yn cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Gyda’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni, rydym am gynnwys mwy o bobl mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Ac rydym am ysbrydoli newid beiddgar a pharhaol a fydd yn cael effaith.

Rydym wedi ymestyn y cyfnod ymgeisio ar gyfer yr ariannu hwn hyd 17 Rhagfyr 2025. Mae galw mawr am yr ariannu hwn, felly dim ond y ceisiadau cryfaf a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rydym am weld mwy o brosiectau sy’n:

  • glir ynglŷn â’r effaith barhaol y maen nhw am ei chael
  • y gellid eu hehangu neu eu hefelychu mewn mannau eraill
  • cael eu cyflawni gan bartneriaethau amrywiol
  • dod â lleisiau newydd o wahanol gymunedau, yn enwedig y rhai hynny sy’n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais
  • edrych y tu hwnt i’r hinsawdd neu’r amgylchedd at fuddiannau eraill fel ffordd o ddenu pobl i weithredu
  • sydd â chynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn i rannu stori eu gwaith.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn mwy o geisiadau gan brosiectau sy’n gweithio naill ai ar lefel ranbarthol, cenedlaethol neu ledled y DU gyfan a’r rhai sy’n cyflawni prosiectau tymor hwy.

Rydym am gefnogi cymysgedd o wahanol gymunedau, themâu a dulliau ledled y DU a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o’n hasesiad.

Dim ond prosiectau sydd wedi eu datblygu mewn partneriaeth ffurfiol â sefydliadau eraill y byddwn yn eu hariannu. Nid yw’r ariannu hwn ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau unigol.

Rydym eisiau clywed gan ragor o bartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr amgylchedd neu sy’n cynnwys y sefydliadau hynny. Dylent fod yn anelu at gyrraedd pobl sy’n newydd i weithredu ar yr hinsawdd.

Rydym yn chwilio am brosiectau partneriaeth sy'n cyrraedd mwy o bobl naill ai trwy:

  • ddylanwadu ar gymunedau ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu lefel y DU. Fel ymgyrchoedd neu brosiectau mwy a fydd yn ysbrydoli pobl i weithredu ar faterion hinsawdd. Neu helpu cymunedau i ddylanwadu ar y bobl sy'n llunio polisïau sy'n effeithio arnyn nhw.
  • cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â bywydau beunyddiol a diddordebau cymunedau lleol. Defnyddio gweithgareddau dydd i ddydd pobl i'w hysbrydoli i wneud pethau'n wahanol a gweithio tuag at effaith barhaol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cynnwys pobl, llefydd a chymunedau sy'n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais. Mae'n bwysig cael cynrychiolaeth o'r cymunedau y mae eich partneriaeth yn eu cefnogi.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau ffurfiol, sy’n gweithio ar draws sectorau a chan gynnwys cynrychiolaeth o’r gymuned. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, sefydliadau yn y sector cymunedol a gwirfoddol, y sector cyhoeddus, y sector amgylcheddol, neu rhai sydd ag arbenigedd fel adrodd straeon, dysgu ac effaith.
Maint yr ariannu
Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £500,000. Rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brosiectau fod rhwng £1 a £1.5 miliwn dros o leiaf 3 i 5 mlynedd. Byddwn hefyd yn ystyried prosiectau mwy neu brosiectau tymor hwy. Os ydych chi am wneud cais am fwy o arian dros gyfnod hirach , dylech chi roi mwy o fanylion i ni yn eich ffurflen gais.
Terfyn amser ymgeisio

Byddwch yn gallu gwneud cais tan 17 Rhagfyr 2025.

Sut i ymgeisio

Gallwch chi ymgeisio ar-lein 

Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad a sut mae'n cyd-fynd â'r hyn rydyn ni'n gobeithio ei ariannu.

Ymgeisio ar-lein

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych anghenion cyfathrebu neu os yw'n anodd i chi lenwi'r ffurflen. Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad, fel:

  • fersiwn Hawdd ei Darllen o'r ffurflen gais a'r canllawiau
  • fersiwn PDF o'r ffurflen gais
  • fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau.

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylech chi ymgeisio

Gwiriwch fod eich prosiect yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn gobeithio ei ariannu. Os nad ydyw, dylech wirio ein rhaglenni ariannu eraill.

Gallwch chi hefyd:

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

Fel arfer mae'n cymryd o leiaf chwe mis o'r adeg y byddwch yn anfon eich cais cam cyntaf atom i gael gwybod a ydych chi'n cael arian.

Dyma beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich cais cam cyntaf atom:

  1. Byddwn yn ystyried eich cais.
    Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael rhagor o wybodaeth.
  2. Ein nod yw dweud wrthych chi os ydych chi wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn 12 wythnos.
    Mae yna alw mawr am yr arian hwn. Rydym am gefnogi cymysgedd o wahanol gymunedau, themâu a dulliau ledled y DU a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o'n hasesiad. Dim ond os yw eich cais yn gweddu'n gryf i'r hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu y byddwn yn eich gwahodd i'r cam nesaf.

    Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam. Ond ni fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i chi.

    Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi anfon cynnig llawn atom. Byddwn hefyd yn rhoi rhywfaint o gyngor i chi ar yr hyn i'w gynnwys ynddo.
  3. Byddwch yn anfon eich cynnig llawn atom o fewn 6 wythnos.
    Cewch wybod pa wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn.

    Bydd un o'n tîm yn darllen eich cynnig. Byddant yn gweithio gyda chi i gael gwybod mwy am eich prosiect. Fel arfer byddwn yn cael galwadau ffôn neu e-byst gyda chi a'ch partneriaid. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn a allwn ymweld â'ch prosiect. Os ydym yn credu nad yw eich prosiect yn barod ar hyn o bryd, efallai y byddwn yn penderfynu peidio â'i symud ymlaen ymhellach. Os bydd hynny'n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn rhoi adborth i chi.

  4. Byddwn yn dweud wrthych beth yw ein penderfyniad terfynol tua 4 mis ar ôl i ni gael eich cynnig.
    Bydd ein panel Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn penderfynu a ddylid cynnig arian i chi.

    Os na fyddwn yn cynnig arian i chi , byddwn yn rhoi adborth i chi i esbonio pam. Byddwn hefyd yn ceisio cynnig cefnogaeth i chi. Er enghraifft, rhoi awgrymiadau i chi ynghylch sut i wella unrhyw geisiadau a ysgrifennwch yn y dyfodol. Neu roi gwybod i chi am grwpiau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.
  5. Os bydd eich cais yn llwyddiannus
    Dyma beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n derbyn grant. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich helpu i:
    • ddathlu a hyrwyddo eich ariannu
    • rhannu eich dysgu a chydweithio ag eraill.

Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano yn eich cais

Byddwn yn gofyn i chi am eich prosiect a sut mae'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym am ei ariannu.

Rydym eisiau gwybod:

Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?

Dylech chi ddweud wrthym ni:

  • ynglŷn â’ch prosiect
  • sut mae eich prosiect yn bodloni ein blaenoriaethau
  • syniad o sut y byddwch chi'n dyrannu'r arian i gyflawni eich prosiect
  • beth rydych chi'n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut rydych chi'n gwybod bod ei angen
  • sut mae'r gymuned wedi bod yn rhan o lunio eich syniad
  • pam mai dyma'r amser gorau ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu'r siawns y bydd eich prosiect yn llwyddiannus, er enghraifft, a oes gennych gefnogaeth gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.

Sut fyddwch chi'n gweithio gydag eraill i gyflawni eich prosiect?

Dylech chi ddweud wrthym ni:

  • am eich sefydliad
  • pa brofiad neu ddysgu sydd wedi eich arwain at wneud cais
  • am y cymunedau, sefydliadau neu’r grwpiau rydych chi'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd (neu'r rhai rydych chi'n gobeithio gweithio gyda nhw)
  • pam mai eich partneriaeth chi sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r gwaith hwn
  • beth fydd y partneriaid yn ei wneud yn eich prosiect?
  • sut fyddwch chi'n rhannu’r dysgu ymhlith eich partneriaid a chyda grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.

Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i weithredu ar yr hinsawdd?

Gallwch weld beth rydyn ni'n ei olygu wrth 'weithredu ar yr hinsawdd' yma.

Dylech chi ddweud wrthym ni:

  • sut y bydd eich prosiect yn effeithio'n gadarnhaol ar gymunedau – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu ar yr hinsawdd
  • sut y byddwch yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad sy’n wynebu pobl a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – er enghraifft, y rhai sy'n profi anghydraddoldeb ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTC+, a phobl sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.

Gallwch ysgrifennu hyd at 1,000 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.

Ein telerau ac amodau

Darllenwch ein telerau ac amodau ariannu.

Gweld sut rydym yn defnyddio'r data personol a roddwch i ni

Drwy ddarllen ein datganiad diogelu data.

Rydym yn gwirio'r wybodaeth a roddwch i ni

Fel sefydliad sy'n dyrannu arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhai gwiriadau ar y wybodaeth a roddwch i ni. Dysgwch fwy am ein gwiriadau.

Pwy all ymgeisio

Pwy all ymgeisio

Rydym yn annog partneriaethau sy'n cael eu harwain gan neu sy'n cynnwys sefydliadau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr hinsawdd neu'r amgylchedd i ymgeisio.

Rydym am gyrraedd pobl sy'n newydd i weithredu ar yr hinsawdd drwy ariannu mathau eraill o sefydliadau hefyd. A thrwy ddefnyddio gweithgareddau bob dydd pobl fel man cychwyn ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd. Gallai hyn gynnwys cymunedau y mae pobl yn rhan ohonynt a chlybiau y maent yn eu mynychu. Neu ddiddordebau eraill fel y celfyddydau, chwaraeon ac iechyd.

Rydym yn disgwyl i o leiaf un o'ch partneriaid fod â phrofiad o waith ar yr hinsawdd neu’r amgylchedd serch hynny, i helpu i sicrhau bod y camau gweithredu ar yr hinsawdd rydych chi'n eu cymryd yn effeithiol ac yn cael effaith.

Gallwch ymgeisio hyd yn oed os oes gennych grant gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd eisoes neu os ydych wedi gwneud cais yn y gorffennol. Os oes gennych grant eisoes byddwn yn ystyried sut mae hyn yn cyd-fynd ag unrhyw brosiectau eraill rydych yn gwneud cais amdanynt. Rydym am gefnogi cymysgedd o wahanol gymunedau, themâu a dulliau ledled y DU a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o'n hasesiad.

Dim ond sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth ffurfiol y byddwn yn eu hariannu. Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau unigol.

Dylai’r holl bartneriaid fod yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod y cytunwyd arno.

Mae hyn yn cynnwys partneriaethau sydd:

  • wedi'u lleoli o amgylch ardal neu ranbarth lleol
  • yn cwmpasu un o'r gwledydd sy'n ffurfio'r DU
  • yn cwmpasu'r DU gyfan
  • yn seiliedig ar thema neu hunaniaeth a rennir yn hytrach na lle
  • yn newydd neu eisoes yn gweithio gyda'i gilydd.

I gael eich ariannu, rhaid i bob sefydliad partner fod yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol gyfansoddedig
  • elusen gofrestredig
  • sefydliad elusennol corfforedig (CIO neu SCIO)
  • cwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant – rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig neu fod â chymal 'clo asedau' nid-er-elw yn eich erthyglau cymdeithasu
  • cwmni buddiant cymunedol (CIC)
  • ysgol, coleg, prifysgol ( cyn belled â bod eich prosiect o fudd ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
  • corff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf neu gymuned)
  • cymdeithas budd cymunedol
  • cymdeithas gydweithredol – rhaid i chi gael cymal 'clo asedau' nid-er-elw yn rheolau eich cymdeithas a bod wedi cofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol hefyd.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gweithio gyda mathau eraill o sefydliad yn eich partneriaeth – fel cwmnïau preifat. Ond dydyn nhw ddim yn gallu derbyn unrhyw ran o’n grant.

Rydym fel arfer yn rhoi ein harian i'r sefydliad arweiniol mewn partneriaeth

Yna gallant dalu'r partneriaid eraill am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Bydd angen i chi greu a llofnodi cytundeb gyda'ch partneriaid

Nid oes angen i chi drefnu hyn cyn i chi wneud cais. Ond bydd ei angen arnoch cyn y gallwch chi ddechrau ar eich prosiect. Bydd gennych hyd at 6 mis i ddechrau eich prosiect ar ôl i ni gynnig grant i chi.

Dylai eich cytundeb partneriaeth esbonio:

  • sut y byddwch chi'n gweithio gyda'ch gilydd
  • rolau a chyfrifoldebau pawb
  • eich hymrwymiad i gydweithio.

Gallwch ddefnyddio ein templed cytundeb partneriaethau (PDF, 229 KB). Neu gallwch greu eich cytundeb partneriaeth eich hun.

Mae ein templed yn ddefnyddiol os oes gennych un partner arweiniol sy'n cael yr holl arian ac yn trosglwyddo rhywfaint ohono i'r partneriaid eraill. Canllaw yn unig yw’r templed, ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich cyngor cyfreithiol eich hun cyn llofnodi unrhyw gytundeb os nad ydych yn siŵr.

Os na fydd gan eich partneriaeth sefydliad arweiniol

Byddwn yn talu'r arian ar wahân i bob sefydliad. Er mwyn cael grant, rhaid i'r holl bartneriaid fod yn un o'r mathau o sefydliadau rydyn ni wedi'u rhestru.

Byddwn yn dal i ddisgwyl i chi gael cytundeb ffurfiol gyda'ch partneriaid, hyd yn oed os nad oes partner arweiniol.

Mae angen o leiaf ddau aelod o'r bwrdd neu'r pwyllgor arnoch nad ydynt yn perthyn

Gall perthyn olygu:

  • yn perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn perthyn trwy bartner hirdymor
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf dau gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn mewn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Pwy ddylech chi eu cynnwys yn eich partneriaeth

Dylai eich partneriaeth gynnwys y cymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw

Dylech eu cynnwys wrth ddylunio a chyflawni eich prosiect. A gwnewch yn siŵr eu bod yn parhau i gael dweud eu dweud o ran sut mae'r prosiect yn gweithio. Er enghraifft, gallech gynnwys grwpiau cymunedol lleol llai yn eich partneriaeth. Neu gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o'r mater rydych chi'n gweithio arno.

Rydym yn chwilio am bartneriaethau sy'n gweithio ar draws gwahanol sectorau a meysydd arbenigedd

Rydym am ariannu cymysgedd o brosiectau, cymunedau a dulliau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n defnyddio themâu neu ddiddordebau annisgwyl i ymgysylltu â chymunedau a'u hysbrydoli i gymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gwneud pethau'n wahanol, mewn ffordd a all gyrraedd cymunedau newydd a'u hysbrydoli i gymryd camau gweithredu .

Dylai eich partneriaeth gynnwys arbenigwyr a all helpu gyda:

  • gwerthuso a dysgu
  • cyfathrebu - fel ymgyrchoedd, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau cymdeithasol, a sut i adrodd eich stori.

Byddem hefyd yn disgwyl i'r rhan fwyaf o bartneriaethau gynnwys arbenigwyr mewn ymgysylltu â'r cyhoedd. Gallai'r rhain fod o'ch sefydliad chi, neu drwy gynnwys sefydliad arall sydd ag arbenigedd. Er enghraifft, os ydych chi eisiau cynnwys y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau. Neu os ydych chi'n rhoi cynnig ar ffordd newydd o gyrraedd pobl ynglŷn â chymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd.

Dylai eich partneriaeth gynnwys o leiaf un sefydliad sydd â phrofiad o waith hinsawdd neu amgylcheddol

Yn enwedig os nad dyma yw ffocws eich sefydliad.

Pwy na all wneud cais

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • sefydliadau sengl nad ydynt yn gweithio mewn partneriaeth ffurfiol ag eraill
  • unigolion
  • masnachwyr unigol
  • sefydliadau sy'n ceisio gwneud elw ac yn rhannu'r elw hwn yn breifat – gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, sefydliadau heb y cloeon asedau cywir, neu sefydliadau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr neu gyfranddalwyr.
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • unrhyw un sy'n gwneud cais ar ran sefydliad arall (ond mae'n iawn gwneud cais am arian ar gyfer sefydliad arall os byddant mewn partneriaeth ffurfiol â chi)
  • sefydliadau sy'n gwneud cais i fwy nag un o'n cronfeydd ar gyfer yr un prosiect dros yr un cyfnod. Mae hyn oherwydd na allwch gael arian dyblyg ar gyfer rhywbeth rydym eisoes yn eich ariannu i'w wneud. Mae'n iawn gwneud cais i raglen arall os ydych eisoes wedi cael penderfyniad aflwyddiannus serch hynny.

Os ydych chi'n ysgol neu'n sefydliad sy'n gweithio gydag ysgol

Dylai eich prosiect gynnwys a bod o fudd i'r gymuned y tu allan i'r ysgol

Nid athrawon, disgyblion, a rhieni disgyblion yn unig.

Nid ydym fel arfer yn ariannu gweithgareddau mewn ysgolion sy'n:

  • gwella cyfleusterau neu offer ysgol
  • helpu gyda hyfforddiant staff
  • yn rhan o gwricwlwm yr ysgol
  • y dylai'r ysgol fod yn ei wneud eisoes (fel dysgu darllen yn ystod oriau ysgol)
  • digwydd yn ystod amseroedd dysgu (gallai egwyliau cinio, neu cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Os nad ydych chi'n siŵr a allwch chi wneud cais

Os nad ydych chi'n bwriadu gweithio mewn partneriaeth, dylech chi wirio ein rhaglenni ariannu eraill.

Gallwch chi hefyd:

Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu

Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu

Byddwn yn ariannu prosiectau partneriaeth sy'n ysbrydoli mwy o bobl i weithredu ar yr hinsawdd.

Wrth weithredu ar yr hinsawdd, rydym yn golygu sut y gall pobl leihau effaith gweithgareddau dynol ar yr hinsawdd. Neu hyd yn oed gael effaith gadarnhaol. A hefyd sut y gallwn baratoi ar gyfer effeithiau anochel newid hinsawdd ac addasu ar eu cyfer.  

Dylai prosiectau wneud hyn drwy naill ai:

  • ddylanwadu ar gymunedau ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu lefel y DU. Fel cysylltu ymgyrchoedd neu brosiectau mwy a fydd yn ysbrydoli pobl i weithredu ar faterion hinsawdd. Neu helpu cymunedau i ddylanwadu ar y bobl sy'n llunio polisïau sy'n effeithio arnyn nhw.
  • cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â bywydau beunyddiol a diddordebau cymunedau lleol. Defnyddio gweithgareddau bob dydd pobl i'w hysbrydoli i wneud pethau'n wahanol a gweithio tuag at effaith barhaol.

Rydym eisiau i brosiectau ddangos bod gweithredu ar yr hinsawdd yn gweithio orau pan fydd cymunedau'n cael dweud eu dweud. Ac i helpu cymunedau i rannu eu neges. Gallai hyn fod gyda grwpiau cymunedol eraill neu ar lefel uwch gydag awdurdodau lleol neu lunwyr polisi.

Er enghraifft, gallai eich prosiect:

  • gynnwys pobl nad ydynt wedi cael dweud eu dweud. Er enghraifft oherwydd eu bod yn newydd i weithredu ar yr hinsawdd. Neu oherwydd eu bod yn dod o gymunedau sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.
  • gweithio gyda grŵp a ddaeth ynghyd o amgylch diddordeb neu weithgaredd arall. A'u helpu i ddefnyddio eu diddordeb neu weithgaredd presennol fel ffordd o gymryd camau i weithredu ar yr hinsawdd.
  • rhoi cynnig ar ffyrdd o ymgysylltu â gwahanol grwpiau o bobl o ran gweithredu ar yr hinsawdd i weld pa un sy'n gweithio orau
  • lledaenu dull lleol cyffrous o weithredu ar yr hinsawdd drwy ei rannu’n genedlaethol
  • dod â chymunedau ynghyd i gymryd camau ar y cyd neu ddylanwadu ar newid ehangach.

Gallwch ddarllen ein blog am enghreifftiau o brosiectau rydym yn debygol o'u hariannu.

Mae angen i bob prosiect hefyd ddangos sut y byddant yn:

  • cael mwy o bobl i gymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd
  • cynnwys cymunedau ym mhob cam o'r prosiect, gan gynnwys:
    • ymateb i'w blaenoriaethau
    • trin pobl yn deg
    • sicrhau bod pobl sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu yn cael cefnogaeth i ddweud eu dweud.
  • helpu cymunedau i fanteisio ar gyfleoedd a lleihau'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth weithredu ar yr hinsawdd.
  • defnyddio dull sy'n gweithio, yn seiliedig ar dystiolaeth o brosiectau neu fentrau eraill
  • dod â sefydliadau o wahanol sectorau ynghyd. Dylai hyn gynnwys cynrychiolaeth o'r cymunedau y mae eich prosiect yn ceisio eu cefnogi, yn ogystal ag ymgysylltu, adrodd straeon, dysgu ac effaith, a phartneriaid sydd ag arbenigedd hinsawdd.
  • gwneud newid hirdymor sy'n parhau ar ôl i'r prosiect ddod i ben
  • mesur a dangos eu heffaith, a chael partneriaid arbenigol i helpu i wneud hyn
  • rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu, i helpu eraill.

Y prosiectau nad ydym yn debygol o'u hariannu

Mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:

  • cael eu cynnal a'u cyflwyno gan un sefydliad
  • yn ymgysylltu â phobl ond ni fydd yn eu helpu i weithredu
  • nad oes ganddynt gynrychiolaeth o'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw. Rydym am ariannu prosiectau lle mae gweithgareddau'n cael eu gwneud gydag aelodau'r gymuned, nid iddyn nhw
  • na allant ddangos sut mae eu prosiect yn bwysig i'r gymuned
  • cynnwys gweithgareddau gwleidyddol sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw gamau wedi'u targedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • hyrwyddo agenda un sefydliad neu grŵp
  • cynnwys gweithgareddau y dylai llywodraeth leol neu genedlaethol eu hariannu
  • ar gyfer gwaith adeiladu neu adnewyddu
  • na allant ddangos sut y gellid ehangu neu efelychu eu prosiect mewn man arall.

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylech chi wneud cais

Os nad yw eich prosiect yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn gobeithio ei ariannu, dylech wirio ein rhaglenni ariannu eraill.

Gallwch chi hefyd:

Yr hyn y gallwch chi wario'r arian arno

Yr hyn y gallwch chi wario'r arian arno

Faint o arian y gallwch chi ofyn amdano

Yr isafswm y gallwch chi ofyn amdano yw £500,000. Rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brosiectau fod rhwng £1 ac £1.5 miliwn dros o leiaf 3 i 5 mlynedd. Byddwn hefyd yn ystyried prosiectau mwy neu brosiectau tymor hwy. Os ydych chi am wneud cais am fwy o arian dros gyfnod hirach o amser, dylech roi mwy o fanylion i ni ar eich ffurflen gais. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen mwy o wybodaeth arnom pan fyddwn yn adolygu eich cais.

Gallwch wario eich arian ar:

  • gostau staff
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau prosiect cyffredinol
  • gweithgareddau ymgysylltu
  • dysgu a gwerthuso, gan gynnwys rhannu'r rhain ag eraill
  • cyfathrebu ac ymgyrchoedd
  • cyfleustodau neu gostau rhedeg
  • costau datblygu a rheoli sefydliadol
  • costau i'ch helpu i ymgysylltu â chymunedau, neu sefydliadau partner llai, a'u cefnogi
  • offer
  • cyflwyno eich prosiect mewn ieithoedd eraill, fel y Gymraeg.

Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu

Ond dim ond os:

  • yw'r gweithgaredd yn amhleidiol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn ymwneud â pholisi, arfer neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol.
  • bwriedir i'r gweithgaredd helpu achos eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu i gymdeithas.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mae gweithgareddau gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud yn bennaf ag ymgyrchu.

Yr hyn na allwch wario'r arian arno

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau sy'n gwneud elw er budd preifat
  • gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys deunydd crefyddol)
  • gweithgareddau sy'n disodli ariannu gan y llywodraeth (er enghraifft, dim ond gweithgareddau ysgol sy'n digwydd y tu allan i oriau addysgu arferol y gallwn eu hariannu)
  • gweithgareddau sy'n fuddiol i unigolion, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • prosiectau lle mae gweithgareddau gwleidyddol yn brif bwrpas, neu sy'n cefnogi neu'n gwrthwynebu plaid wleidyddol benodol
  • gweithgareddau lobïo
  • pethau rydych chi wedi gwario arian arnyn nhw yn y gorffennol ac yn bwriadu eu hawlio nawr (costau ôl-weithredol)
  • ad-daliadau benthyciad
  • ychwanegu at gronfeydd wrth gefn y sefydliad
  • teithio dramor neu brosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
  • cynhyrchu trydan, fel o baneli solar.

Mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu costau adeiladu neu adnewyddu

Weithiau gelwir y rhain yn gostau cyfalaf. Ond gallwn ariannu rhai costau offer os oes eu hangen arnoch.

Mae'n annhebygol y byddwn yn ariannu prosiectau a fydd yn defnyddio'r arian i roi grantiau

Rydym yn galw hyn yn rhoi grantiau ymlaen. Mae rhoi grantiau ymlaen yn golygu defnyddio ein harian i roi grantiau i sefydliadau eraill wedyn.

Os ydych chi'n ystyried gwneud hyn, esboniwch hyn yn glir yn eich cais.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau ar:

Mae ein Hwb Gweithredu Hinsawdd hefyd gyda gwybodaeth am ein dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.

Cyflawni eich prosiect yng Nghymru 

Os byddwch chi'n gweithio yng Nghymru, rhaid i chi gyflwyno'ch prosiect yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gallwch ddarllen ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.  

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed

Rhaid i chi a'ch holl bartneriaid gael polisïau ar waith sy'n egluro sut y byddant yn cael eu cadw'n ddiogel. Efallai y byddwn yn gofyn am weld y polisïau hyn os penderfynwn roi arian i chi.

Dysgwch fwy am yr hyn sydd angen i chi a'ch partneriaid ei wneud yn ein disgwyliadau diogelu ar gyfer sefydliadau a ariannwn.

Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau'r DU

Daw ein grantiau o gronfeydd cyhoeddus. Os ydym yn eich ariannu, bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â'r Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau Rhyngwladol y DU a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o arweiniad arnoch.