Gall mudiadau ymgeisio i Brosiectau'r Bobl ar-lein, wedyn mae cyfle gan y prosiectau sydd ar y rhestr fer i fod yn rhan o ddarllediad teledu a phleidlais gyhoeddus.
Gwahoddir ymgeiswyr i ddweud wrthym beth maent wedi'i gyflawni gyda'u grantiau diweddar a sut y byddent yn defnyddio grant gwerth hyd at £50,000 i ddatblygu eu gwaith o adeiladu cymunedau cryfach. Rydym yn chwilio am brosiectau ysbrydoliaethus sy'n dod â phobl ynghyd ac yn gwneud eu cymuned yn lle cryfach a hapusach.
Bydd pob prosiect ar y rhestr fer yn cydweithio ag ITV, STV neu UTV i greu ffilm fer a fydd yn ymddangos ar y teledu, gan annog pobl i gefnogi eu prosiect a bachu pleidleisiau fel rhan o'u hymgyrch.
Ym mis Ebrill 2019, bydd y prosiectau ar y rhestr fer yn ymddangos ar y teledu, wedi'i ddilyn gan bleidlais gyhoeddus ym mhob rhanbarth. Bydd y prosiectau gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau'n sicrhau grant gan y Loteri Genedlaethol.