Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Gardd ynni

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Rydym wedi derbyn nifer uchel o geisiadau, felly dim ond y ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf cryfaf sy’n gallu parhau i’r cam nesaf.

Gallwch nawr ymgeisio ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni. Mae’n ymwneud ag ysbrydoli mwy o bobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae’r cyllid hwn yn ceisio helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng natur a hinsawdd. Hoffem ariannu prosiectau sy’n defnyddio natur i annog rhagor o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Rydyn ni’n disgwyl i’r prosiectau ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig eraill, fel creu cymunedau cryf, gwydn ac iach, neu ddatblygu sgiliau a swyddi ‘gwyrdd’.

Mae diddordeb gennym mewn prosiectau sy’n gallu gwneud o leiaf un o’r canlynol:

  • dangos sut y bydd creu cysylltiad dyfnach â byd natur yn arwain at newid ymddygiad pobl a mwy o ofal dros yr amgylchedd
  • dangos sut y gallwn ni helpu cymunedau i leihau neu addasu i effeithiau newid hinsawdd trwy ddod â byd natur yn ôl i’r llefydd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Gallwch ddarllen ein blog i weld enghreifftiau o brosiectau yr ydym ni’n debygol o’u hariannu.

Hoffem i’r holl brosiectau yr ydym ni’n eu hariannu fod yn greadigol, yn cynnwys pawb ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd. Dylai prosiectau ddangos sut y gallent gyflawni newid mwy, a hynny’n fwy hirdymor, sy’n mynd y tu hwnt i’r cymunedau y maen nhw’n gweithio â nhw’n uniongyrchol.

Rydyn ni’n bwriadu ariannu rhwng 12 a 15 o brosiectau.

Byddwn ni’n derbyn ceisiadau gan naill ai:

  • partneriaethau lleol
  • partneriaethau DU gyfan sy’n cael eu cynnal mewn o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru).
Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, y sector cyhoeddus, gweithio mewn partneriaethau
Maint yr ariannu
Hyd at £1.5 miliwn dros 2 i 5 mlynedd, gyda’r rhan fwyaf o brosiectau rhwng £300,000 a £500,000. Grantiau datblygu o £50,000 i £150,000 dros 12 i 18 mis
Terfyn amser ymgeisio

Parhaus

Sut i ymgeisio

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

  1. Byddwn ni’n asesu eich cais – rydyn ni’n gwneud penderfyniadau ar sail dreigl ac rydyn ni’n disgwyl y bydd galw uchel am ein hariannu, felly dim ond y ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf cryfaf y byddwn ni’n gallu eu cymryd i’r cam nesaf. Ni fyddwn ni’n gallu rhoi adborth unigol i geisiadau aflwyddiannus yn ystod cam 1.
  2. Byddwn ni’n gwneud penderfyniadau cynnar – byddwn ni’n bwriadu dweud wrthych os ydych chi wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn deg wythnos. Yn y cyfamser, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth am eich prosiect.
  3. Os ydych chi’n cael eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth – gallwch ddod o hyd i ba wybodaeth y byddwn ni’n gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn. Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn trefnu ymweliad prosiect neu alwad â chi a’ch partneriaid i drafod eich prosiect.
  4. Byddwn ni’n gwneud penderfyniad terfynol – bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Byddwn ni’n bwriadu dweud ein penderfyniad terfynol wrthych o fewn tua phedwar mis o gael eich gwahodd i’r ail gam.
  5. Os yw eich cais yn llwyddiannus – byddwn ni’n cysylltu â chi gyda’r newyddion da! Dyma’r hyn sy’n digwydd pan rydych chi’n derbyn cyllid. Byddwn ni hefyd yn trafod sut allwn ni eich helpu i:
    • ddathlu a hyrwyddo eich cyllid
    • rhannu eich dysgu ag eraill gan gynnwys deiliaid grant eraill ac ymgeiswyr y dyfodol i gyfrannu at gydweithredu ehangach yn y meysydd hyn.
Pwy sy’n gallu ymgeisio a pheidio

Byddwn ni’n derbyn ceisiadau gan naill ai:

  • partneriaethau lleol
  • partneriaethau DU gyfan sy’n cael eu cynnal mewn o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru).

Hoffem ariannu partneriaethau sy’n cynnwys cymysgedd o sefydliadau o wahanol sectorau. Gallwn ariannu partneriaethau newydd a phartneriaethau sydd eisoes wedi cael eu sefydlu. Yn ystod y cam hwn, rydym ni’n chwilio am y sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i siarad ar ran y bartneriaeth.

Mae’n rhaid i’r sefydliad hwn fod yn naill ai:

  • grŵp neu glwb cyfansoddiadol
  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • sefydliad corfforedig elusennol (SCIO/CIO)
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • cwmni nid-er-elw sy’n gyfyngedig trwy warant – mae’n rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig neu fod â chymal ‘clo asedau’ nid-er-elw yn eich erthyglau cymdeithasu
  • ysgol, coleg, prifysgol (cyhyd â bod eich prosiect yn elwa ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
  • corff statudol (gan gynnwys tref, plwyf a chyngor cymunedol)
  • cwmni budd cymunedol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, rhanddeiliaid neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig gan Gyfranddaliadau) – ni allwn ariannu’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol ond maen nhw’n gallu cefnogi eich prosiect
  • sefydliadau y tu allan i’r DU
  • un unigolyn neu sefydliad sy’n ymgeisio ar ran un arall
  • sefydliadau nad oes ganddynt o leiaf dau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn briod, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad, neu’n perthyn trwy waed.

Os ydych chi’n ysgol neu’n sefydliad sy’n gweithio mewn ysgol

Mae angen i’ch prosiect gryfhau’r gymuned y tu allan i’r ysgol hefyd, Dylai elwa a chynnwys mwy nag athrawon, disgyblion neu rieni disgyblion yn unig.

Ni fyddwn ni’n ariannu prosiectau ysgol sy’n:

  • gwella cyfleusterau neu gyfarpar ysgol nad ydynt ar gael i’r gymuned ehangach eu defnyddio
  • helpu gyda hyfforddiant staff
  • rhan o’r cwricwlwm ysgol
  • cynnwys gweithgareddau y dylai’r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect yn dysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
  • cael eu cynnal yn ystod amseroedd dysgu (gall cyn ysgol ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Ni allwn dderbyn sawl cais gan yr un grŵp neu sefydliad.

Os nad ydych chi’n sicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi:

Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu

Mae’r DU wedi colli llawer o’i hamgylchedd naturiol i weithgarwch dynol – mwy na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn y byd. Mae hyn yn wir yn benodol ar gyfer rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae adfer a gwella’r amgylchedd naturiol, a’n cysylltiad â byd natur, yn helpu datrys nifer o broblemau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd.

Felly rydyn ni’n chwilio am geisiadau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad eglur rhwng natur a hinsawdd.

Hoffem ariannu prosiectau sy’n defnyddio natur i annog rhagor o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Rydyn ni’n disgwyl i’r prosiectau hyn ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig eraill hefyd, fel creu cymunedau cryf, gwydn ac iach, a datblygu sgiliau a swyddi “gwyrdd”.

Beth fyddwn ni’n gofyn amdano yn eich cais

Byddwn ni’n gofyn i chi am eich syniad a sut mae’n addas ar gyfer y meysydd rydyn ni’n canolbwyntio arnynt. Hoffem wybod:

1. Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?

Dylech ddweud wrthym:

  • ynghylch eich prosiect
  • yr hyn rydych chi’n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut rydych chi’n gwybod bod angen eich prosiect
  • sut mae cymunedau wedi bod ynghlwm â datblygiad y syniad
  • pam mai dyma’r amser cywir ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant eich prosiect – er enghraifft, mae cefnogaeth gennych gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.

2. Sut fydd eich partneriaeth yn gweithio?

Dylech ddweud wrthym:

  • am eich sefydliad
  • pa brofiad neu ddysgu sydd wedi arwain atoch chi’n ymgeisio
  • am y sefydliadau a’r grwpiau rydych chi’n gweithio â nhw ar hyn o bryd (neu’r rhai yr ydych chi’n gobeithio gweithio â nhw)
  • pam bod eich partneriaeth arfaethedig yn y sefyllfa orau i gyflawni’r gwaith hwn
  • sut fydd y partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal y prosiect hwn
  • sut fyddwch chi’n rhannu dysgu ymysg eich partneriaid a grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.

3. Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i lwyddo a ffynnu?

Dylech ddweud wrthym:

  • sut fydd eich prosiect yn effeithio ar gymunedau’n gadarnhaol – yn y tymor byr a’r hirdymor
  • sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd
  • sut fyddwch chi’n mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi ar gyfer pobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli - er enghraifft, y rhai hynny sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol, pobl anabl, pobl LHDTQ+, pobl sy’n ceisio lloches neu ffoaduriaid.

Ein ffocws ar gyfer ariannu – natur a hinsawdd

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am geisiadau sy’n dangos o leiaf un o’r canlynol:

  • bydd creu cysylltiad dyfnach â natur yn arwain at newid ymddygiad pobl a mwy o ofal dros yr amgylchedd
  • trwy ddod â natur nôl i’r llefydd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio, gallwn ni helpu cymunedau i leihau neu addasu i effeithiau newid hinsawdd.

Hoffem glywed hefyd sut y gallai eich prosiect:

  • hyrwyddo iechyd a lles
  • cefnogi datblygiad sgiliau a swyddi gwyrdd
  • adeiladu cymunedau cryf

Mathau o brosiectau y gallem eu hariannu

Mae diddordeb gennym mewn ariannu amrywiaeth eang o wahanol brosiectau. Gallai’r rhain gynnwys prosiectau sy’n dod â chymunedau ynghyd i:

  • creu mannau naturiol newydd sy’n fwy hygyrch ac o ansawdd gwell, lle mae’r amgylchedd naturiol wedi cael ei ddisodli gan weithgarwch dynol – megis ardaloedd trefol
  • annog ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy gynyddu cyfleoedd dysgu awyr agored
  • defnyddio natur i fynd i’r afael â phroblemau hinsawdd cynyddol – fel y tymheredd yn codi neu’r perygl o lifogydd mewn mannau trefol
  • defnyddio straeon neu ddulliau creadigol i ymgysylltu cymunedau â’r her hinsawdd trwy natur
  • archwilio systemau cynhyrchu bwyd sy’n llai niweidiol i natur, yn fwy hunangynhaliol, neu sy’n lleihau’r pellter yr ydym ni’n cludo bwyd

Gallwch ddarllen ein blog i weld enghreifftiau o brosiectau yr ydym ni’n debygol o’u hariannu.

Dylai pob prosiect allu dangos:  

  • sut maen nhw’n ymateb yn eglur i flaenoriaethau cymunedol ac yn rhoi cymunedau’n – gyntaf darllen blog am ein hamcan i roi cymunedau’n gyntaf
  • sut maen nhw’n dod â rhanddeiliaid amrywiol ynghyd
  • cynlluniau eglur am sut fyddan nhw’n ymgysylltu’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt yn gweithredu yn erbyn newid hinsawdd yn barod. Mae diddordeb penodol gennym mewn clywed gan brosiectau sy’n bwriadu lleihau rhwystrau cyfranogi ar gyfer grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
  • sut fyddan nhw’n mesur ac yn profi eu heffaith amgylcheddol – er enghraifft, gallech chi fesur lleihad carbon
  • yr hyn fydd yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect
  • eu bod yn gallu dod ag arbenigedd i helpu datgloi cyfleoedd a rhwystrau y gallai cymunedau eu hwynebu wrth weithredu yn erbyn newid hinsawdd
  • eu bod yn gallu defnyddio pŵer adrodd straeon i rannu eu llwyddiannau ac ysbrydoli cymunedau i ddysgu am yr hinsawdd a gweithredu.

Mae diddordeb penodol gennym i glywed gan brosiectau sy’n fodlon cysylltu â mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill i gael ysbrydoliaeth, cyfnewid dysgu a chynyddu eu heffaith. Byddwn ni’n cynnig cyfleoedd datblygu a chyd-ddysgu strwythuredig i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu. Byddwn ni’n trafod y mathau o gefnogaeth yr ydym ni’n eu cynnig gyda phrosiectau sy’n cyrraedd cam 2 yr asesiad.

Hoffem gefnogi cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli

Mae diddordeb penodol gennym mewn prosiectau sy’n cael eu harwain, neu sy’n cefnogi, pobl a chymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol, pobl anabl, pobl LHDTQ+, pobl sy’n ceisio lloches neu ffoaduriaid. Hoffem weld rhagor o bobl yn y cymunedau hyn yn cael eu cynrychioli yn ein hariannu.

Rydym yn awyddus i glywed am brosiectau sy’n:

  • angerddol dros gyfiawnder hinsawdd
  • mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol
  • cael eu harwain gan bobl a chymunedau sy’n cael eu heffeithio’n fwy niweidiol gan newid hinsawdd – er enghraifft, cymunedau sy’n byw mewn ardaloedd mewn perygl o lifogydd.

Y prosiectau rydym ni’n annhebygol o’u hariannu

Rydym ni’n annhebygol o ariannu:

  • prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r byd naturiol yn unig – mae angen i brosiectau gynnwys pobl a chymunedau
  • ceisiadau na allant ddangos sut y mae’r gymuned wedi cyfrannu at ddyluniad a datblygiad y prosiect
  • ceisiadau gan sefydliadau unigol
  • ceisiadau sy’n hyrwyddo agenda sefydliad neu grŵp unigol
  • ceisiadau am weithgareddau statudol
  • ceisiadau sydd ond yn chwilio am gyllid cyfalaf
  • sefydliadau sy’n ymgeisio am lawer mwy o gyllid nag y mae ganddynt brofiad o’i reoli, neu sy’n cynyddu eu trosiant blynyddol yn arwyddocaol
  • prosiectau amgylcheddol neu natur ehangach nad ydynt yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar newid hinsawdd.

Cefndir y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Lansiwyd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd gennym yn 2019, fel rhaglen £100 miliwn 10 mlynedd. Ei bwriad yw dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd pobl a chymunedau’n arwain wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gyda chyllid y Loteri Genedlaethol, bydd cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i rannu dysgu a bod yn gyfranogwyr gweithredol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwydn.

Rydym eisoes wedi dyfarnu £36.7 miliwn mewn grantiau i 48 o bartneriaethau a arweinir gan y gymuned ledled y DU. Gallwch ddysgu rhagor am yr hyn yr ydym wedi’i wneud yn barod yn ein blog am y rownd ariannu gyntaf. A’n blog o’r ail rownd ariannu.

Os nad ydych chi’n sicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi:

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Gallwn ariannu prosiectau sydd wedi’u datblygu’n hollol, neu brosiectau sydd wrthi’n cael eu datblygu

Gall prosiectau ymgeisio am hyd at £1.5 miliwn am gyfnod o 2 i 5 mlynedd. Rydym ni’n disgwyl i’r rhan fwyaf o’r cyllid fynd i brosiectau sy’n gofyn am £300,000 i £500,000.

Os yw eich syniad prosiect yn dal i gael ei ddatblygu, gallwn gynnig grant o £50,000 hyd at £150,000 am gyfnod o 12 i 18 mis. Gallwch ymgeisio am ragor o gyllid yn nes ymlaen, ond ni allwn warantu y byddwn ni’n dyfarnu rhagor o arian.

Gallwch chi wario eich arian ar:

  • gostau staff
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau cyffredinol y prosiect
  • gweithgareddau ymgysylltu
  • dysgu a gwerthuso
  • cyfleustodau neu gostau cynnal
  • datblygiad sefydliadol a chostau rheoli
  • rhai costau cyfalaf – gallai hyn fod i brynu offer neu brynu, lesio, adnewyddu neu ddatblygu tir ac adeiladau, neu waith adeiladu arall.

Er ein bod ni’n gallu ariannu elfennau cyfalaf o’ch gwaith, dylech allu rhoi tystiolaeth o berchnogaeth neu les gyda mynediad gwarantedig i’r tir am o leiaf 5 mlynedd. Mae’n rhaid i chi fodloni ein telerau ac amodau penodol os ydych chi'n prynu, adnewyddu neu'n datblygu tir neu adeiladau gyda'n cyllid. Efallai bydd angen cymorth arnoch gan weithiwr cyfreithiol proffesiynol i sicrhau eich bod chi’n bodloni ein gofynion. Os yw eich prosiect yn cynnwys cyllid cyfalaf, dywedwch wrthym amdano yn eich ffurflen gais cam cynnar a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i roi rhagor o wybodaeth petai eich prosiect yn cyrraedd y cam nesaf.

Rydyn ni’n disgwyl ariannu costau refeniw yn bennaf

Mae ein ffocws ar gynyddu cyfranogiad â gweithredu hinsawdd a chefnogi newid ymddygiad yn golygu yr ydym ni’n disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’n cyllid yn mynd tuag at gostau refeniw. Byddwn ni’n ystyried ariannu costau cyfalaf os yw’r bartneriaeth yn gallu dangos:

  • sut y gallai hwyluso newid ymddygiad a ffordd o fyw
  • sut y bydd hi’n ehangu cyfranogiad
  • sut y bydd hi’n gynaliadwy’n ariannol (er enghraifft, lle gallai ein hariannu ddatgloi rhagor o fuddsoddiad ariannol gan ffynonellau eraill).

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau gwleidyddol sy’n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw weithredu sydd wedi’i dargedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • alcohol
  • eitemau a fydd ond yn buddio unigolyn neu deulu, yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • cynhyrchu trydan
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ni ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect yn buddio’r gymuned ehangach ac nad oes cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei adhawlio
  • gweithgareddau statudol
  • costau sydd eisoes wedi codi 
  • gweithgareddau sy’n gwella cyrhaeddiad addysgol - addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (ABGI), gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), Saesneg
  • teithio dramor neu brosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i’r DU.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau am leihau eich effaith amgylcheddol.

Mae gan ein Hyb Hinsawdd wybodaeth am ein dull i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.

Cynnal eich prosiect yng Nghymru

Os yw un o’r gwledydd yr ydych chi’n gweithio ynddynt yn cynnwys Cymru, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau’n ddwyieithog (yn Gymraeg ac yn Saesneg). Mae hyn yn rhan o’n hamod grantiau. Gallwch ddarllen ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwe

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy’n egluro sut fyddan nhw’n ddiogel. Efallai byddwn ni’n gofyn i weld y polisi hwn os ydym ni’n penderfynu rhoi cyllid i chi. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein polisi diogelu ar gyfer deiliaid grant.

Ymrwymiadau'r DU ar reoli cymorthdaliadau

Mae ein grantiau’n dod o arian cyhoeddus a bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gofyn i gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rhyngwladol y DU ar Reoli Cymorthdaliadau a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o ganllawiau arnoch.

Mae’n rhaid i’n cyllid fod yn ychwanegol ac ar wahân i gyllid cyhoeddus

Mae hyn yn golygu na allwn ni amnewid neu ddisodli cyllid cyhoeddus. Ni allwn ni ariannu unrhyw beth sy’n gyfrifoldeb statudol neu gyfreithiol ar y llywodraeth neu’r sector cyhoeddus, megis addysg uniongyrchol a gofal iechyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallem ni ariannu gwaith sy’n ategu neu’n ychwanegu gwerth at arian cyhoeddus.

Os oes gan eich prosiect gyllid cysylltiol

Dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl. Mae grantiau cysylltiol yn golygu defnyddio ein cyllid i roi grantiau i sefydliadau eraill.

Bydd angen i ni ddeall sut rydych chi’n bwriadu cynnal y rhan hwn o’r prosiect oherwydd mae cyfyngiadau i’r hyn y gallwn ni ei gefnogi a pheidio. Bydd angen manylion arnom o’ch cynlluniau fel rhan o’n hasesiad, ac yna byddwn ni’n rhoi gwybodaeth a chanllawiau pellach i chi.

Os nad ydych chi’n sicr a ddylech chi ymgeisio

Gallwch chi: