Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ynni a Hinsawdd

Creating Enterprise

Nod y cyllid hwn yw ysbrydoli a chefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a hinsawdd. Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n dangos sut y gall cymunedau fynd i’r afael â newid hinsawdd wrth daclo heriau ynni drwy weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned.

Hoffem ariannu prosiectau sy’n:

  • annog cymunedau i ddefnyddio ynni mewn ffordd ecogyfeillgar
  • dod â chymunedau ynghyd fel y gallant archwilio ffyrdd o hybu effeithlonrwydd ynni
  • galluogi cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â chyfleoedd i gynhyrchu ynni glân, nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil.

Dylai pob prosiect ystyried sut y gall pawb yn y gymuned gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd. Rhaid iddynt hefyd roi sylw i unrhyw resymau pam y gallai rhai pobl gael eu hepgor.

Rydym yn chwilio am brosiectau a fydd yn dod ag ystod o fuddion i gymunedau, gan gynnwys:

  • gwella iechyd a lles
  • creu swyddi ‘gwyrdd’ lleol, megis swyddi sy’n darparu gwres carbon isel i gartrefi, hyrwyddwyr ynni cymunedol a chynghorwyr ynni
  • lleihau allyriadau carbon
  • cefnogi cymunedau i fod yn fwy gwydn.

Hoffem ariannu prosiectau sy'n anelu at newid hirdymor a phrosiectau sydd â'r potensial i gael effaith gadarnhaol y tu hwnt i'r cymunedau y maent yn gweithio'n uniongyrchol â nhw.

Mae £8.5 miliwnar gael i 8 i 12 o brosiectau sy’n dangos bod cymunedau’n gallu mynd i’r afael â newid hinsawdd a thaclo heriau ynni trwy weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned.

Gallwch ddarllen ein blog am enghreifftiau o brosiectau ynni rydym yn debygol o’u hariannu.

Gan bwy y byddwn yn derbyn ceisiadau

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan naill ai:

  • Partneriaethau lleol
  • Partneriaethau DU gyfan
  • sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sengl

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau cymunedol a gwirfoddol
Maint yr ariannu
Gall prosiectau ymgeisio am hyd at £1.5 miliwn dros 2 i 5 mlynedd, gyda’r rhan fwyaf o brosiectau’n derbyn £1 miliwn. Isafswm y grantiau yw £500,000. Rydym yn bwriadu ariannu tua 8 i 12 o brosiectau. Mae cyllid Rhwydwaith Dysgu Ynni hyd at £1.5 miliwn ar gael ar gyfer un bartneriaeth dros 3 i 5 mlynedd.
Cyfanswm ar gael
£10 miliwn gan gynnwys £1.5 miliwn ar gyfer Rhwydwaith Dysgu.
Terfyn amser ymgeisio

Rydym yn disgwyl i’n rhaglen ynni a hinsawdd ehangach aros ar agor tan o leiaf Rhagfyr 2023 ond bydd hyn yn dibynnu ar faint o bobl eraill sy’n cyflwyno cais am ein cyllid.

Rhwydwaith dysgu ynni: Bydd y rhwydwaith dysgu’n cau i geisiadau newydd ar Ddydd Gwener 28 Gorffennaf. Gallwch anfon ceisiadau prosiect pan fyddwch chi’n barod.

Sut i ymgeisio

Ymgeisio

Gallwch gyflwyno cais ar-lein

Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad a sut mae’n cyd-fynd â’r hyn rydym yn gobeithio ei ariannu.

Cyflwynwch gais ar-lein

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi gyflwyno cais ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych anghenion cyfathrebu neu os ydych yn ei chael hi’n anodd cwblhau’r ffurflen. Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech gyflwyno cais

Gallwch chi:

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno cais

1. Byddwn yn asesu eich cais – rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail dreigl ac yn disgwyl y bydd galw mawr am ein cyllid, felly byddwn ond yn gallu mynd â cheisiadau i’r cam nesaf sy’n bodloni ein meini prawf gryfaf. Ni fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol i geisiadau aflwyddiannus yn ystod cam 1.

2. Byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau cynnar – byddwn yn ceisio dweud wrthych os ydych wedi cyrraedd y cam nesaf ymhen 10 wythnos. Yn y cyfamser, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect.

3. Os cewch eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth – gallwch weld pa wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn ein canllawiau ar gyfer datblygu eich cynnig llawn. Efallai y byddwn hefyd yn trefnu ymweliad prosiect neu alwad ffôn gyda chi a'ch partneriaid i drafod eich prosiect.

Gallwch ddysgu rhagor am y gwiriadau a wnawn. Efallai y byddwn yn rhoi galwad ffôn i chi i siarad ychydig mwy am eich cais neu i ofyn am ragor o wybodaeth cyn i ni wneud penderfyniad.

4. Byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol – bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw ein penderfyniad terfynol o fewn tua phedwar mis o gael eich gwahodd i’r ail gam.

5. Os bydd eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Dyma beth sy'n digwydd pan ddyfernir cyllid i chi. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich helpu i:

  • ddathlu a hyrwyddo eich cyllid
  • rhannu eich dysgu ag eraill gan gynnwys deiliaid grant eraill ac ymgeiswyr y dyfodol i gyfrannu at gydweithrediadau ehangach yn y meysydd hyn.

Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano yn eich cais

Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad a sut mae'n cyd-fynd â'r meysydd rydym yn canolbwyntio arnynt. Rydyn ni eisiau gwybod:

1. Beth yw eich syniad prosiect arfaethedig?

Dylech ddweud wrthym:

  • am eich prosiect
  • beth rydych chi'n gobeithio ei newid – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut rydych chi'n gwybod bod ei angen
  • sut mae cymunedau wedi cymryd rhan yn natblygiad y syniad
  • pam mai dyma'r amser iawn ar gyfer eich prosiect
  • am y pethau a fydd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd eich prosiect yn llwyddiannus – er enghraifft, mae gennych gefnogaeth gan eich Awdurdod Lleol neu mae cefnogaeth gynyddol gan eich cymuned.
  • Syniad o sut y byddwch yn dyrannu'r arian i gyflawni eich prosiect

2. Sut fyddwch chi'n gweithio gydag eraill i gyflawni eich prosiect?

Dylech ddweud wrthym:

  • am eich sefydliad
  • pa brofiad neu ddysgu sydd wedi eich arwain at ymgeisio
  • am y cymunedau, sefydliadau neu grwpiau rydych chi’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd (neu’r rhai rydych chi’n gobeithio gweithio gyda nhw)
  • pam mai chi neu'ch partneriaeth (os oes gennych un) sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni'r gwaith hwn
  • os oes gennych chi bartneriaeth, beth fydd y partneriaid yn ei wneud yn eich prosiect? Os nad oes gennych bartneriaeth ewch i'r cwestiwn nesaf
  • sut y byddwch yn rhannu'r hyn a ddysgwch ymhlith eich partneriaid (os oes gennych bartneriaeth) a grwpiau, prosiectau a chymunedau eraill.

3. Sut mae eich prosiect yn helpu cymunedau i lwyddo a ffynnu?

Dylech ddweud wrthym:

  • sut bydd eich prosiect yn effeithio'n gadarnhaol ar gymunedau – yn y tymor byr a'r hirdymor
  • sut mae eich prosiect yn ysbrydoli pobl i weithredu ar yr hinsawdd
  • sut y byddwch yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer pobl a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol – er enghraifft, y rhai sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb, pobl anabl, pobl LHDTQ+, a phobl sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.

Cefndir y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Lansiwyd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd gennym yn 2019, fel rhaglen 10 mlynedd gwerth £100 miliwn. Ei nod yw dangos beth sy’n bosibl pan fydd pobl a chymunedau’n chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gydag arian y Loteri Genedlaethol, bydd cymunedau’n cydweithio i rannu dysgu a bod yn gyfranogwyr gweithredol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwydn.

Gallwch ddarllen rhagor am yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes yn ein blog am y rownd gyntaf o gyllid, ac mae ein blog o'r ail rownd o gyllid yn canolbwyntio ar Wastraff a Defnydd.

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng natur a hinsawdd. Darllenwch ragor a chyflwynwch gais natur a hinsawdd

Os nad ydych yn siŵr a ddylech gyflwyno cais

Gallwch chi:

  • ffonio ni ar 03454 10 20 30 – llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm
  • cysylltu â ni trwy e-bostio wales@tnlcommunityfund.org.uk
  • gwirio a yw cronfa wahanol yn fwy addas ar gyfer eich prosiect – er enghraifft, os nad yw eich prosiect yn canolbwyntio ar newid hinsawdd, dylech ddarllen y wybodaeth hon am fathau eraill o gyllid.
Pwy sy’n gallu ymgeisio a pheidio

Pwy sy’n gallu ymgeisio a pheidio

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan naill ai:

  • partneriaethau sy’n seiliedig ar lefydd
  • Partneriaethau DU gyfan
  • sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sengl

Rhaid i’r sefydliad hwn fod naill ai’n:

  • grŵp neu glwb â chyfansoddiad
  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • Sefydliad Elusennol Corfforedig (SCIO/CIO)
  • cwmni buddiant cymunedol (CIC)
  • cwmni dielw cyfyngedig trwy warant - rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig neu fod â chymal 'clo asedau' dielw yn eich erthyglau cymdeithasu
  • ysgol, coleg, prifysgol (cyn belled â bod eich prosiect o fudd ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
  • corff statudol (gan gynnwys cyngor tref, plwyf a chymuned)
  • cymdeithas budd cymunedol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig trwy Gyfranddaliadau) - ni allwn ariannu'r sefydliadau hyn yn uniongyrchol ond gallant gefnogi eich prosiect
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • un unigolyn neu sefydliad yn gwneud cais ar ran un arall
  • sefydliadau nad oes ganddynt o leiaf ddau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn briod, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad, neu'n perthyn trwy waed.

Os ydych chi'n ysgol neu'n sefydliad sy'n gweithio mewn ysgol

Mae angen i'ch prosiect gryfhau'r gymuned y tu allan i'r ysgol hefyd. Dylai fod o fudd a chynnwys mwy nag athrawon, disgyblion neu rieni disgyblion yn unig.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau ysgol sy’n:

  • gwella cyfleusterau ysgol neu offer nad ydynt ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio
  • helpu gyda hyfforddiant staff
  • rhan o gwricwlwm yr ysgol
  • cynnwys gweithgareddau y dylai'r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect addysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
  • digwydd yn ystod amserau addysgu (gall cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Ni allwn dderbyn ceisiadau niferus gan yr un grŵp neu sefydliad.

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Gallwch chi:

Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu

Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu

Gall cymryd camau lleol tuag at ddefnydd ynni arwain at lawer o fanteision personol a chymunedol. Gall defnyddio llai o ynni leihau allyriadau carbon, lleihau biliau ynni ac arwain at ansawdd aer gwell. Mae cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda yn gynhesach ac yn fwy cyfforddus. Gall prosiectau ynni hefyd greu swyddi “gwyrdd” newydd ac adfywio cymunedau lleol a gallant yn eu tro alluogi ac ysbrydoli cymunedau i weithredu ar y cyd.

Rydym yn chwilio am brosiectau lle caiff cymunedau eu hysbrydoli i weithredu ar ynni a’r argyfwng hinsawdd.

Dysgwch ragor am yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu ar ein blog.

Ein ffocws ar ynni a hinsawdd

Mae gennym ddiddordeb mewn prosiectau a all wneud o leiaf un o'r canlynol:

  • annog pobl a chymunedau i ddefnyddio ynni mewn ffordd ecogyfeillgar
  • dod â chymunedau ynghyd fel y gallant archwilio ffyrdd o hybu effeithlonrwydd ynni
  • galluogi cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â chyfleoedd i gynhyrchu ynni glân, nad ydynt yn defnyddio tanwyddau ffosil.

Cefnogi grwpiau bregus

Mae newid hinsawdd a’r argyfwng ynni yn cael mwy o effaith ar grwpiau a allai ei chael yn anoddach ymgysylltu â gweithredu hinsawdd. Dylech ystyried sut y gall pawb ar draws y gymuned gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd a rhoi sylw i unrhyw resymau pam y gallai rhai pobl gael eu hepgor.

Byddwn yn blaenoriaethu prosiectau sy'n ceisio cefnogi ac ymgysylltu â grwpiau agored i niwed sy'n wynebu heriau niferus. Mae hyn yn cynnwys cartrefi incwm isel a phobl â chyflyrau iechyd.

Mae gennym ddiddordeb mewn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys prosiectau sy’n ymgysylltu â chymunedau i:

  • Addysgu, ysbrydoli, a dechrau gweithredu ynni a arweinir gan y gymuned sy'n arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys prosiectau arddangos y gall pobl ymweld â nhw yn eu cymuned. Meithrin sgiliau, offer ac adnoddau i alluogi gweithredu lleol, megis:
  • hyfforddi hyrwyddwyr ynni cymunedol
  • archwilio datrysiadau cost-effeithiol hawdd eu defnyddio megis atalyddion drafft neu ddefnyddio bylbiau LED.
  • Rhannu sgiliau gyda phobl yn y gymuned fel y gallant gymryd rhan mewn prosiectau lle gallant gynhyrchu eu hynni eu hunain trwy ynni adnewyddadwy. Ni fyddwn yn ariannu paneli solar, tyrbinau gwynt na chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy eraill. Fodd bynnag, gallwn ariannu grwpiau i ymgysylltu â chymunedau a’u helpu i feithrin eu dealltwriaeth am brosiectau ynni cymunedol.
  • Defnyddio data i annog camau gweithredu a newid ymddygiad cadarnhaol.

Dylai pob prosiect allu dangos:

beth hoffent ei newid a rhoi tystiolaeth gref o'r potensial i gyflawni eu nod

  • sut y cyflawnir buddion cymdeithasol ac economaidd eraill, megis:
    • creu cymunedau cryf, gwydn ac iach
    • datblygu swyddi gwyrdd
    • cyfleoedd adfywio i gymunedau
  • sut y byddant yn rhoi cymunedau’n gyntaf – darllenwch y blog hwn am y ffordd rydym yn rhoi cymunedau yn gyntaf
  • sut y byddant yn dod ag amrywiaeth o bobl a grwpiau ynghyd ar draws gwahanol sectorau megis cymunedau, awdurdodau lleol, y sector preifat, y byd academaidd, polisi ac arferion
  • sut y byddant yn ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys y rhai nad ydynt eisoes yn gweithredu ar yr hinsawdd
  • sut y byddant yn mesur ac yn profi eu heffaith amgylcheddol a chymdeithasol
  • beth fydd yn digwydd pan ddaw'r prosiect i ben
  • sut y byddant yn defnyddio straeon neu astudiaethau achos i rannu eu gwaith ac ysbrydoli cymunedau i ddysgu am yr argyfwng hinsawdd a gweithredu.

Prosiectau sy'n gweithio ar y cyd ag eraill

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n barod i gysylltu â mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill i gael ysbrydoliaeth, rhannu dysgu a chynyddu eu heffaith.

Rydym am ariannu prosiectau sy’n llywio ac yn hyrwyddo gwahanol bethau megis:

  • ôl-osod
  • cynhyrchu ynni
  • cyngor

Rydym yn disgwyl ariannu prosiectau mewn cymysgedd o wahanol leoliadau ar draws y DU. Rydym yn annog ceisiadau gan bartneriaethau sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol eang ac yn hyrwyddo cydweithredu traws gwlad.

Disgwylir i brosiectau a ariennir ddangos eu bod yn awyddus i gysylltu ag eraill i rannu dysgu a chynyddu effaith ac etifeddiaeth eu gwaith.

Beth arall rydym yn ei ddisgwyl gan ymgeiswyr

Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr allu dangos dealltwriaeth gref o brosiectau ynni a arweinir gan y gymuned a bod ganddynt gysylltiadau cryf â phrosiectau a chymunedau perthnasol.

Byddwn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig ar gyfer datblygu a chyd-ddysgu i’r prosiectau rydym yn eu hariannu.

Byddwn yn siarad â’r prosiectau sy’n symud ymlaen i gam 2 yr asesiad am y math o gymorth y gallwn ei gynnig.

Yn nes ymlaen, byddwn yn rhyddhau rhagor o fanylion am y cyllid i ddatblygu cyfleoedd dysgu a rennir ledled y DU. Mae hyn i gefnogi grwpiau sy'n cyflawni (neu sydd â diddordeb mewn cyflawni) prosiectau ynni cymunedol.

Y prosiectau rydym yn annhebygol o’u hariannu

Rydym yn annhebygol o ariannu:

  • prosiectau sy'n canolbwyntio ar uwchraddio strwythurol domestig sydd o fudd i aelwydydd unigol.
  • prynu neu osod paneli solar, tyrbinau gwynt a ffynonellau neu gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy eraill. Ni all y gronfa hon dalu am gostau cyfalaf gweithgarwch cynhyrchu ynni
  • Cyngor i unigolion sy'n canolbwyntio'n llwyr ar yr argyfwng costau byw. Ar draws rhaglenni eraill, rydym yn disgwyl ymrwymo dros £75 miliwn i gefnogi cymunedau gyda chostau byw yn ystod y flwyddyn nesaf. Os mai prif nod eich prosiect yw lleihau costau ynni aelwydydd unigol neu ddarparu cymorth dyled, mae cyllidwyr eraill sy’n fwy addas i’ch cefnogi.
  • prosiectau nad ydynt yn gallu dangos ffocws cryf ar weithredu hinsawdd
  • prosiectau ynni ehangach sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth
  • gweithgareddau gwleidyddol sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw weithredu sydd wedi'i dargedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • ceisiadau na allant ddangos sut mae eu prosiect yn bwysig i'r gymuned
  • ceisiadau sy'n hyrwyddo agenda un sefydliad neu grŵp
  • ceisiadau ar gyfer gweithgareddau statudol
  • ceisiadau sydd ond yn chwilio am gyllid cyfalaf gan gynnwys ceisiadau sydd ond yn gofyn am gyllid ar gyfer newidiadau strwythurol i adeilad cymunedol neu breifat nad yw'n rhan o brosiect newid ymddygiad ehangach
  • ceisiadau sy'n ceisio cyflawni gweithgareddau economaidd sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar gystadleuaeth. Darllenwch ein polisi ar reoli cymorthdaliadau
  • sefydliadau sy'n gwneud cais am lawer mwy o gyllid nag y mae ganddynt brofiad o'i reoli, neu sy'n cynyddu eu trosiant blynyddol yn sylweddol.
Yr hyn y gallwch chi wario arian arno

Yr hyn y gallwch chi wario arian arno

Byddwn yn ariannu hyd at £1.5 miliwn dros 2 i 5 mlynedd, gyda'r rhan fwyaf o brosiectau dros £500,000. Isafswm y grant yw £500,000. Ein nod yw ariannu tua 8-12 o brosiectau.

Gallwch wario eich cyllid ar:

  • costau staff
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau prosiect cyffredinol
  • gweithgareddau ymgysylltu
  • dysgu a gwerthuso
  • cyfleustodau neu gostau rhedeg
  • costau datblygu a rheoli sefydliadol
  • rhai costau cyfalaf - gallai hyn fod ar gyfer prynu offer neu brynu, prydlesu, adnewyddu neu ddatblygu tir ac adeiladau, neu waith adeiladu arall.

Er y gallwn ariannu elfennau cyfalaf eich prosiect, dylech allu darparu tystiolaeth o berchnogaeth neu brydles gyda mynediad gwarantedig i'r tir am o leiaf 5 mlynedd. Rhaid i chi fodloni ein telerau ac amodau penodol os ydych yn prynu, adnewyddu neu’n datblygu tir neu adeiladau gyda'n cyllid. Efallai y bydd angen help arnoch gan weithiwr cyfreithiol proffesiynol i sicrhau eich bod yn bodloni ein gofynion. Os yw eich prosiect yn cynnwys arian cyfalaf, dywedwch wrthym amdano yn eich ffurflen gais gyntaf a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i roi rhagor o wybodaeth os bydd eich prosiect yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

Rydym yn disgwyl ariannu costau refeniw yn bennaf

Mae ein ffocws ar gynyddu cyfranogiad gyda gweithredu hinsawdd a chefnogi newid ymddygiad yn golygu ein bod yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o'n cyllid yn mynd tuag at gostau refeniw. Byddwn yn ystyried ariannu costau cyfalaf os gall y prosiect ddangos:

  • sut y gallai hwyluso newid ffordd o fyw ac ymddygiad
  • sut y bydd yn ehangu cyfranogiad
  • sut y bydd yn ariannol gynaliadwy (er enghraifft, lle gallai ein harian ddatgloi mwy o fuddsoddiad ariannol o ffynonellau eraill).

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau gwleidyddol sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw weithredu sydd wedi’i dargedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • alcohol
  • eitemau a fydd o fudd i unigolyn neu deulu yn unig, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • cynhyrchu trydan, megis o baneli solar, tyrbinau gwynt, boeleri biomas, gweithfeydd treulio anaerobig neu wres a phŵer cyfun (CHP)
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad oes cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei adennill
  • gweithgareddau statudol
  • costau sydd eisoes wedi codi
  • gweithgareddau sy'n gwella cyrhaeddiad addysgol - addysg bersonol, gymdeithasol, iechyd ac economaidd (ABGI); gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), Saesneg
  • teithiau tramor neu brosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i warchod yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau ar leihau eich effaith amgylcheddol.

Mae gan ein Hyb Hinsawdd hefyd wybodaeth am ein dull o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediad, straeon a chyllid.

Cyflawni eich prosiect yng Nghymru

Os mai un o’r gwledydd y byddwch yn gweithio ynddi yw Cymru, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau’n ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg). Mae hyn yn rhan o'n hamodau grant. Gallwch ddarllen ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel. Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld y polisi hwn os byddwn yn penderfynu rhoi cyllid i chi. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein polisi diogelu ar gyfer deiliaid grant.

Ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau’r DU

Daw ein grantiau o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau ​​Rhyngwladol y DU a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o arweiniad arnoch.

Rhaid i'n cyllid fod yn ychwanegol ac yn wahanol i arian cyhoeddus

Mae hyn yn golygu na allwn amnewid neu ddisodli arian cyhoeddus. Ni allwn ariannu unrhyw beth sy’n gyfrifoldeb statudol, neu gyfreithiol, y llywodraeth neu’r sector cyhoeddus, megis addysg uniongyrchol a gofal iechyd. Fodd bynnag, gallwn o bosibl ariannu gwaith sy’n ategu neu’n ychwanegu gwerth at gyllid cyhoeddus.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais

Gallwch chi:

  • ffonio ni ar 03454 10 20 30 – llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm
  • cysylltu â ni trwy e-bostio wales@tnlcommunityfund.org.uk
  • gwirio a yw cronfa wahanol yn fwy addas ar gyfer eich prosiect – er enghraifft, os nad yw eich prosiect yn canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, dylech ddarllen y wybodaeth hon am fathau eraill o gyllid