The New Infrastructure Programme

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau.

Cryfhau ac adnewyddu seilwaith i fod yn addas ar gyfer y dyfodol
Byddwn yn rhoi pecyn ariannu i rhwng 8 a 10 sefydliad seilwaith, ynghyd â hyfforddiant ac arbenigedd ar y safle a ddarperir gan Lab Dylunio dros 12 mis. Mae hyn er mwyn iddynt allu darganfod sut i ailgynllunio eu gwasanaethau a sut y gall eu sefydliad fod yn fwy gwydn.

Mae sefydliadau seilwaith yn cefnogi grwpiau anffurfiol, gweithredu cymdeithasol lleol, cymunedau arbenigol, a sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol ledled y DU. Er y gallent weithio'n uniongyrchol gyda chymunedau hefyd, nid dyna'u hunig bwrpas. Rydym yn bwriadu ariannu dau fath gwahanol o sefydliadau seilwaith – rhai sydd wedi eu sefydlu eisoes a rhai sy’n datblygu.

Ar gyfer sefydliadau seilwaith sydd wedi eu sefydlu eisoes, bydd y Lab Dylunio yn cefnogi ailgynllunio ac adnewyddu sefydliadol. Ar gyfer sefydliadau seilwaith sy'n datblygu, bydd yn helpu i gryfhau ymdrechion ac yn meithrin capasiti ychwanegol.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau seilwaith sy'n cefnogi sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol ledled y DU.
Maint yr ariannu
Hyd at £50,000
Cyfanswm ar gael
£400,000 (o gwmpas 8 i 10 o grantiau)
Terfyn amser ymgeisio

1 Rhagfyr 2020

Sut i ymgeisio

Mae’r rhaglen Seilwaith Newydd bellach ar gau

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglen Seilwaith Newydd. Os gwnaethoch gyflwyno cais, efallai y byddwn yn cysylltu â ni i ofyn mwy o gwestiynau. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi a fyddwn yn ariannu eich prosiect erbyn diwedd mis Chwefror 2021.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser
Cysylltwch â ni ar cronfaddigidol@cronfagymunedolylg.org.uk.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio?

  1. Rydych chi'n anfon eich cais atom – byddwn yn asesu eich cais. Rydym yn disgwyl llawer iawn o alw am y grant hwn, felly bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch pa brosiectau i'w datblygu.
  2. Byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau cynnar am y ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf orau am bwy all wneud cais.
  3. Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am ffurflen fer gyda mwy o fanylion am eich sefydliad a chyllideb fanylach. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yn y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chwblhau rhai gwiriadau diogelwch. (Dysgwch fwy am y gwiriadau a wnawn.) Byddwn hefyd yn trefnu sgwrs gyda chi. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid dyfarnu grant.
  4. Byddwn yn gwneud penderfyniad – bydd panel o'n staff a'n harweinwyr yn gwneud penderfyniad. Byddwn yn ceisio dweud wrthych beth yw ein penderfyniad erbyn diwedd mis Chwefror 2021.
  5. Os bydd eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Ar ôl i chi gael grant gennym ni, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.

Sut bydd y rhaglen yn gweithio?

Bydd gan bob sefydliad a ddewisir grant o hyd at £50,000 ar gael i dalu am eu costau. Gallai hyn dalu costau ychwanegol dros y flwyddyn wrth iddynt wneud newidiadau i'r ffordd y maent yn gweithio, a/neu i dalu costau'r amser a dreulir yn gweithio gyda'r Lab Dylunio. Bydd gan y Lab Dylunio dîm pwrpasol, sy'n gweithio'n llawn amser ar draws yr holl sefydliadau seilwaith, gan gynnig hyfforddiant ac arbenigedd yn ystod y rhaglen.

Beth fydd y Lab Dylunio yn ei gynnig?
Bydd y Lab Dylunio yn cynnig hyfforddiant ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • nodi beth i roi'r gorau i'w wneud
  • sgiliau a galluoedd newydd
  • gwell defnydd o offer a data digidol
  • canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • dylunio cynnwys a sianeli gwahanol ar gyfer dosbarthu cynnwys
  • dulliau ar gyfer profi, arbrofi ac ailadrodd
  • cymorth i ddod yn fwy ymatebol ac yn gallu addasu'n barhaus
  • defnyddio data yn fwy effeithiol
  • segmentu defnyddwyr yn well
  • archwiliadau gwasanaeth
  • adeiladu partneriaethau.

Faint o arian sydd ar gael?
Byddwn yn dyfarnu hyd at £50,000 i bob un o'r sefydliadau seilwaith. Disgwyliwn ariannu tua 8 i 10 sefydliad.

Pwy all ymgeisio

Gallwch wneud cais os yw eich sefydliad seilwaith yn gwneud o leiaf un o'r rhain:

  • cefnogi sefydliadau, rhwydweithiau, grwpiau a/neu gymunedau yn y sector gwirfoddol a chymunedol 
  • datblygu gwaith a gallu sefydliadau a grwpiau yn y trydydd sector a’r sector gymunedol
  • yn dod â’r sector a'r cymunedau rydych yn eu gwasanaethu ynghyd ac yn eirioli ar ei rhan
  • cysylltu sefydliadau lleol ag asedau a chyfoeth.

Yn benodol, rydym am ariannu dau fath gwahanol o sefydliad seilwaith: 

  • Sefydliadau seilwaith sydd wedi ei sefydlu eisoes
  • Sefydliadau seilwaith sy’n datblygu.

Sefydliadau seilwaith sefydledig
Rydym yn diffinio sefydliadau seilwaith sefydledig fel 'seilwaith lleol, sy'n cynnwys elusennau lleol a rhanbarthol gyda'r prif gylch gwaith o gefnogi'r sector'.

Rhaid i sefydliad seilwaith sefydledig allu bodloni'r meini prawf hyn:

  • dangos eu bod yn dal i chwarae rhan hanfodol o ran cynnig seilwaith
  • dangos y byddan nhw'n ail-greu ac yn ail-gyflawni'r hyn maen nhw'n ei wneud mewn ffordd sy'n defnyddio dulliau digidol
  • dangos parodrwydd i wneud newidiadau i dimau o ymddiriedolwyr a staff er mwyn gwneud newid yn bosibl
  • dangos ymrwymiad ar draws y sefydliad i newid digidol a dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau
  • bod yn onest ac yn fanwl am gryfderau a gwendidau sgiliau digidol o fewn y sefydliad sy'n gwneud cais
  • dangos haelioni ac ewyllys da yn y ffordd y maent yn bwriadu rhannu eu dysgu, eu technoleg neu eu cyfleoedd gyda sefydliadau eraill yn y sector
  • dangos bod eu rhwydweithiau a/neu eu haelodaeth yn weithredol ac yn gynrychioliadol
  • mae ganddynt dîm craidd bychan a all arddangos y bydd effaith barhaol mewn gwerth ac effaith drwy fuddsoddi ynddynt i newid • dangos sut y bydd hyd at £50,000 yn rhyddhau amser staff i gymryd rhan yn swyddogaeth meithrin gallu'r Lab Dylunio ac y bydd y gwaith yn arwain at newid cynaliadwy yn y ffordd y maent yn gweithio.

Sefydliadau seilwaith sy’n datblygu
Rydym yn diffinio sefydliad seilwaith sy'n datblygu fel un mwy newydd o ran pa mor hir y mae wedi bodoli neu o ran ei strwythur (gallai fod yn fwy rhwydweithiol neu hunan-drefnus er enghraifft), neu ei gynigion.'

Rhaid i sefydliad seilwaith sy'n datblygu allu bodloni'r meini prawf hyn:

  • bod yn onest ac yn fanwl am gryfderau a gwendidau eu sgiliau a'r capasiti ychwanegol sydd ei angen arnynt
  • bod yn glir ac yn fanwl ynghylch sut y gall capasiti a chyllid ychwanegol fod o fudd iddynt
  • dangos haelioni yn y ffordd y maent yn bwriadu rhannu eu dysg, eu technoleg neu eu cyfleoedd gyda sefydliadau seilwaith newydd eraill sy'n datblygu
  • dangos bod eu rhwydweithiau a/neu eu haelodaeth yn weithredol ac yn gynrychioliadol
  • dangos sut y bydd hyd at £50,000 yn sefydlogi eu sefydliad er mwyn cymryd rhan yn y cynnig Lab Dylunio ac y bydd y gwaith yn arwain at newid cynaliadwy yn y ffordd y maent yn gweithio.

Mae eich sefydliad angen bod yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol 
  • elusen gofrestredig 
  • grŵp neu glwb cyfansoddedig 
  • cwmni di-elw neu gwmni budd cymunedol.

Gallwch wneud cais am y grant hwn, hyd yn oed os yw eich sefydliad eisoes wedi gwneud cais i ni a/neu wedi cael grant ar gyfer rownd un y Gronfa Ddigidol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion 
  • unig fasnachwyr 
  • cwmnïau sydd â'r nod o gynhyrchu elw yn bennaf ar gyfer dosbarthiad preifat 
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU 
  • ceisiadau a wneir gan un sefydliad ar ran  un arall
  • ysgolion 
  • cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned) 
  • sefydliadau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaethau yn unig - dim ond sefydliadau seilwaith yr ydym yn eu ariannu, ond efallai y byddant yn gwneud rhywfaint o waith rheng flaen hefyd.

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.

Os ydych chi'n aflwyddiannus

Byddwn yn gweithio gyda'r Lab Dylunio i rannu dysgu ar ein gwefan dros y flwyddyn nesaf a bydd modd i chi gymryd mantais o hyn.

Y prosiectau rydym yn eu ariannu

Mae'r grant hwn am flwyddyn.

Beth yw'r rhaglen?

Er mwyn i sefydliadau llawr gwlad, dan arweiniad y gymuned a sefydliadau rheng flaen fod yn addasol ac yn wydn, credwn fod angen system gymorth amrywiol ac effeithiol (sefydliadau seilwaith). Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod pandemig COVID-19.

Rydym am ariannu sefydliadau seilwaith sydd wedi ei sefydlu eisoes, sy’n barod i newid ac sy'n dal i chwarae rhan bwysig yn yr ecosystem. Rydym hefyd am ariannu sefydliadau seilwaith sy'n datblygu sy'n dangos yr hyn y mae arnom angen mwy ohono yn y dyfodol.

Drwy'r rhaglen, bydd sefydliadau seilwaith sydd wedi ei sefydlu eisoes yn gallu ailgynllunio eu hunain i fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i'r amgylchedd sy'n newid. Byddan nhw'n esblygu i fod yn addas ar gyfer y dyfodol, adnewyddu eu perthnasedd a gallu cefnogi cymunedau'n well.

Bydd sefydliadau seilwaith newydd a rhai sy'n datblygu yn dod yn gryfach ac yn fwy gwydn, gyda darlun cliriach o sut i'w cynnal eu hunain.

Bydd y rhaglen hefyd yn ysgogi sgwrs y mae gwir angen amdani am y ffyrdd y gall sefydliad seilwaith ailddyfeisio ei hun ar gyfer yr oes ddigidol, a'r math o adnoddau a chymorth sydd eu hangen arni.

Beth rydym yn ei olygu drwy ‘digidol’?
Mae'r term 'digidol' yn ei ystyr ehangach yn ymwneud cymaint â diwylliant ac arfer digidol ag y mae'n ymwneud â thechnolegau digidol a chaledwedd. Mae'n ymwneud â ffyrdd o weithio (gweithio'n agored ac ar y cyd) a'i alluoedd (seilio penderfyniadau dylunio ar dystiolaeth a phrofion gyda defnyddwyr).

Beth gallwn ei ariannu
Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r cyngor a'r rhyddid i bob sefydliad seilwaith archwilio'r ffyrdd y gall ailddyfeisio ei hun ar gyfer yr oes ddigidol.

Pa fathau o brosiectau y byddwn yn eu blaenoriaethu
Byddwn yn ariannu prosiectau sy'n bodloni ein blaenoriaethau ariannu, yn ogystal â sicrhau bod gennym gymysgedd o sefydliadau seilwaith sydd wedi eu sefydlu a rhai sy’n datblygu o bob rhan o'r DU.

Darparu eich prosiect yn Gymraeg

Os byddwch yn derbyn arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei weithredu yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Ar beth gallwch wario’r arian

Gallai'r grant dalu am rai costau a ysgwyddwyd dros y flwyddyn wrth i chi wneud newidiadau i'r ffordd yr ydych yn gweithio neu dalu costau gweithio gyda'r Lab Dylunio i wneud defnydd llawn o'u harbenigedd. Gellid ei ddefnyddio i gyflwyno gorchudd dros dro neu ymestyn swyddi sy'n bodoli eisoes.

Gallwn ariannu ystod eang o eitemau am flwyddyn. Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.

Gallwn ariannu pethau megis:

  • costau staff
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau/costau rhedeg
  • treuliau gwirfoddolwyr.

Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn siarad â chi i gytuno ar beth fydd y cyllid yn ei gwmpasu.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau statudol
  • benthyciadau, gwaddol neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei hawlio’n ôl
  • alcohol
  • prynu neu adnewyddu adeiladau, a elwir hefyd yn gyllid cyfalaf. Os oes arnoch angen cyllid cyfalaf, cynigiwn hynny ar rai rhaglenni ariannu eraill. Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych am sgwrsio am hyn.

Os ydych yn barod i ddechrau eich cais

Ymgeisio ar-lein