Dyfarniadau o Bortffolio’r DU

Manchester Cares

Mae Portffolio'r DU yn archwilio dulliau newydd ac arloesol, ac yn datblygu ac yn profi ffyrdd newydd o adeiladu cymdeithas sifil gryfach. Mae ein grantiau yn cefnogi prosiectau a syniadau o effaith ac arwyddocâd ledled y DU sy'n canolbwyntio ar newid trawsnewidiol.

Rydym yn arbrofi gyda sut i wneud pethau'n wahanol ac yn rhannu dysgu a mewnwelediadau i wella ein harferion gwneud grantiau yn barhaus gyda'r Gronfa, y sector ehangach a thu hwnt.

Grantiau cyfredol:

Rydym yn parhau i wrando ar anghenion cymunedau ledled y DU a datblygu cyfleoedd ariannu eraill sy'n archwilio dulliau newydd ac yn profi syniadau newydd. Edrychwch ar ein ffrwd Twitter am ddiweddariadau. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar UKPortfolioTeam@tnlcommunityfund.org.uk.

Ardal
Ledled y DU
Maint yr ariannu
Dros £50,000 (Y Gronfa Jiwbilî Platinwm - £30,000 a £50,000)
Terfyn amser ymgeisio

Parhaus, ar wahân i Tyfu Syniadau Gwych sydd â dyddiad cau o 5yh ar 23 Tachwedd a Y Gronfa Jiwbilî Platinwm 15 Rhagfyr 2021 am 5yh.

Grantiau cyfredol

Mae Portffolio'r DU yn cynnig amrywiaeth o raglenni ariannu.

Cronfa Gweithredu Hinsawdd – grantiau newydd

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd.

Hoffem gynnwys mwy o bobl mewn gweithredu hinsawdd. A hoffem ysbrydoli newid mentrus a chyffrous.

Dysgwr rhagor ac ymgeisiwch i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni.

Cronfa'r Deyrnas Unedig

Mae'r gronfa hon ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno gwneud mwy i helpu cymunedau i ddod at ei gilydd a helpu i'n gwneud yn gymdeithas fwy cysylltiedig.

Y gronfa hon yw un o’n hymrwymiadau arwyddocaol cyntaf fel rhan o'n strategaeth newydd, 'Cymuned yw’r man cychwyn.’

Dysgwch ragor ac ymgeisiwch i Gronfa’r Deyrnas Unedig.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Deiliaid grant presennol Portffolio’r DU

Edrychwch ar ein ffrwd Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ariannu newydd.

Grantiau’r gorffennol

Mae'r rhaglenni ariannu hyn ar gau i geisiadau

Dyma rai o'r rhaglenni ariannu diweddaraf:

Mewn Undod Mae Nerth: Roedd y gronfa hon yn cefnogi prosiectau i feithrin cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau, a gwella'r seilwaith a'r amodau sydd eu hangen i gryfhau'r cysylltiadau hyn.

Y Gronfa Jiwbilî Platinwm: Mae'r Jiwbilî Platinwm yn dathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi Y Frenhines ac i nodi'r achlysur hwn, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu 70 o brosiectau ledled y DU ariannu prosiectau sy'n creu mwy o etifeddiaeth.

Tyfu Syniadau Gwych: Roedd y cyllid hwn yn cefnogi syniadau a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi newid trawsnewidiol a hirdymor sy'n mynd y tu hwnt i sefydliadau unigol ac yn hytrach yn canolbwyntio ar feithrin ecolegau ac ecosystemau. Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau. Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu rhaglen ariannu Tyfu Syniadau Gwych a'r ceisiadau a gawsom a gall hyn olygu bod ein cynnig am gyllid yn newid.

Partneriaethau byd-eang: Nod y rhaglen hon oedd cysylltu grwpiau cymdeithas sifil yn y DU â'u cyfoedion yn Ewrop ac America i rannu syniadau, dysgu a chydweithio. Roedd gennym ddiddordeb arbennig ym meysydd newid yn yr hinsawdd, digidol, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), gwneud grantiau cyfranogol, ac arfogi cymdeithas sifil (gan gynnwys cyllidwyr) i ddeall, addasu ac ymateb i'r dyfodol. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.

Y Gronfa Jiwbilî Platinwm: yn dathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi Y Frenhines ac i nodi'r achlysur hwn, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu 70 o brosiectau ledled y DU. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.

Caru’n Cynefin: Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i dyfu cymunedau ffyniannus, gwydn a chynaliadwy ledled y DU. Cronfa £1.5 miliwn yw Caru’n Cynefin sy'n ceisio ysbrydoli a helpu pobl i gymryd mwy o ran yn eu cymuned leol fel lle cadarnhaol, cartrefol i fod a chwrdd â phobl eraill. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd. Bydd y cymunedau hyn yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'r rhaglen ar gau i geisiadau ar hyn o bryd.

Nod Cronfa Datblygu’r Dyfodol yw rhoi'r sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gymdeithas sifil i ragweld, dychmygu a llunio'r dyfodol. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.

Nod y Gronfa Seilwaith Digidol yw rhoi'r seilwaith a'r gallu digidol sydd eu hangen ar sefydliadau cymdeithas sifil i fod yn ymatebol ac yn ymaddasol. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau – Mwy o wybodaeth. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.

Mae Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon 2020 yn cefnogi sefydliadau sy'n cael eu sefydlu neu eu rhedeg gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fater cymdeithasol. Mae'r rhaglen ariannu hon yn sicrhau bod arweinyddiaeth profiad o lygad y ffynnon yn chwarae rhan allweddol wrth lunio sut mae cymunedau'n symud tuag at adferiad ac adnewyddu ar ôl effaith COVID-19. Mae'r rhaglen bellach ar gau i geisiadau.