Polisi preifatrwydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd yn fawr. Nid ydym ond yn casglu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i wneud i'r wefan weithio'n well i chi, rhoi cyfle i ni gysylltu â chi os ydych wedi gofyn am hyn, gadael i ni roi gwybodaeth gywir i chi am ein hariannu os byddwch yn gofyn amdani a rhoi syniad i ni o sut mae pobl yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni barhau i'w gwella.

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'n gwefan ni'n unig. Gallwch weld polisi preifatrwydd ar wahân ar sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data os byddwch yn ymgeisio am grant gennym ni.

Yr wybodaeth a gasglwn

Rydym yn casglu'r wybodaeth a ganlyn gan bobl sy'n ymweld â'r wefan:

  • Y cwestiynau, yr ymholiadau a'r adborth y mae pobl yn eu gadael, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost os anfonwch e-bost atom
  • Cyfeiriadau IP ymwelwyr, a manylion pa borwr maent yn ei ddefnyddio
  • Gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r wefan, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau.

Os byddwch yn anfon adborth atom, bydd cofnod o'ch neges yn cael ei gadw'n unol â'n polisi archifo a chadw. Defnyddiwch ffeiliau data bach o'r enw 'cwcis', sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Mae'r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn. Maent yn ein helpu i wella eich profiad o'r wefan. Gallwch gael gwybod am beth rydym yn eu defnyddio, a sut i reoli'r defnydd ohonynt ar ein tudalen cwcis

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Defnyddir unrhyw wybodaeth a gasglwn i:

  • wella cynnwys a dyluniad y wefan
  • cysylltu ag ymwelwyr (gyda'u caniatâd) i ymateb i adborth

Ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth gyda mudiadau eraill nac yn ei gwerthu at ddibenion marchnata, ymchwil farchnata neu fasnachol, ac nid ydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio ein cwcis i gywain gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan gan ddefnyddio offer dadansoddi.

Dolenni i wefannau eraill

Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i ac o wefannau mudiadau eraill. Mae'r polisi preifatrwydd hwn (yr un rydych yn ei ddarllen nawr) yn berthnasol i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn unig.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch i wefan arall o'r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os ydych eisiau gwybod beth mae'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o wefan arall

Pan fyddwch yn dod atom o wefan arall, mae'n bosib y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi o'r wefan arall. Dylech ddarllen polisïau preifatrwydd y gwefannau rydych yn ymweld â nhw sy'n cysylltu chi â ni os ydych eisiau gwybod am hyn.

Cwcis