Pawb a'i Le
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £20,001 i £700,000
- Penderfyniad mewn: 40 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Ar ddydd Mercher 9 Medi 2026, fe wnaethom gynyddu’r swm uchaf ar gyfer ein grantiau canolig a mawr i £150,000 a £700,000. Dysgwch ragor am y newidiadau, gan gynnwys beth yw eich opsiynau os gwanethoch wneud cais cyn y dyddiad hwn.
Rydym ni am ariannu prosiectau sy'n gweithio'n agos gyda phobl a chymunedau yng Nghymru. Dylai eich prosiect fod yn hygyrch ac ymateb i’r materion sydd bwysicaf i'ch cymuned.
Drwy gymuned rydym ni’n golygu pobl sy'n rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad - neu bobl sy'n byw yn yr un lle.
Yn eich ffurflen gais, mae’n rhaid i chi ddangos sut y bydd eich prosiect yn:
cynnwys eich cymuned wrth ddatblygu, dylunio a chyflawni’r prosiect
adeiladu ar sgiliau, profiadau a chryfderau eich cymuned
deall beth sydd eisoes yn digwydd yn lleol, a sut y bydd eich gwaith yn llenwi bwlch
ystyried ei effaith amgylcheddol, er enghraifft, rhannu cludiant trwy ddefnyddio bws mini yn hytrach na phawb yn teithio ar wahân mewn car
Nodau cymunedol
Mae’n rhaid i’ch prosiect hefyd fodloni o leiaf un o’n nodau. I helpu cymunedau i:
ddod ynghyd
helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach
bod yn amgylcheddol gynaliadwy
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen nodau.
Dewis y grant cywir i’ch prosiect chi
Gallwch ymgeisio am grant canolig neu grant mawr, yn dibynnu ar faint o arian sydd ei angen arnoch.
Grantiau canolig
Gallwch ymgeisio am rhwng £20,001 a £150,000 i ariannu prosiect sy’n rhedeg am hyd at 5 mlynedd.
Gallwch ddefnyddio’r arian hwn i:
helpu eich sefydliad i addasu i newid neu heriau
prynu tir, adeiladau, cerbydau neu dalu am waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf). Wrth ymgeisio am grant cyfalaf, dylai eich prosiect ddilyn Cynllun Gwaith RIBA a bod ar gam 4 neu’n uwch.
Gallwch hefyd ymgeisio am hyd at £50,000 tuag at gynllunio prosiect cyfalaf. Gall yr arian hwn eich helpu i gael eich prosiect i gam 4 o Gynllun Gwaith RIBA.
Mae grantiau canolig yn defnyddio proses ymgeisio un cam ac fel arfer mae’n cymryd tua 15 wythnos i gael penderfyniad.
Grantiau mawr
Gallwch ymgeisio am rhwng £150,001 a £700,000 i ariannu prosiect sy’n rhedeg am hyd at 5 mlynedd.
Gallwch ddefnyddio’r arian hwn i:
helpu eich sefydliad i addasu i newid neu heriau
prynu tir, adeiladau, cerbydau neu dalu am waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf).
Mae grantiau mawr yn defnyddio proses ymgeisio 2 gam ac fel arfer mae’n cymryd tua 40 wythnos i gael penderfyniad.