Rheoli grantiau dros £20,001

Headway

Unwaith rydych wedi derbyn dros £20,001 o arian grant gennym, dyma beth allwch ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn dweud wrthych yr hyn bydd angen i chi ei wneud.

Anfonwch eich cyfriflen banc i ni

Beth rydym angen

Gofynnwn am un datganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf. Er mwyn i ni allu gwirio'r cyfrif rydych am i ni dalu'r grant iddo.

Ni fyddwn yn gallu asesu eich cais os nad oes gennych gyfrif banc a datganiad banc sy'n bodloni ein gofynion isod a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl i chi sefydlu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni

Rydym angen:

  1. Cyfrif banc sy'n bodloni ein hanghenion yn ein Canllawiau Rheolaethau Ariannol a Llywodraethu Ariannol 
  2. Datganiad banc sy’n bodloni ein hanghenion.

Ein hanghenion Cyfrif Banc

Mae angen i ni weld copi o'ch datganiad banc diweddar cyn gynted â phosibl. Mae hyn oherwydd pan fyddwn yn barod i ddechrau gwneud taliadau, rydym yn eu hanfon i'r cyfrif cywir. Dyma'r hyn rydym yn chwilio amdano ar eich datganiad.

Dathlu eich arian Loteri Genedlaethol gyda’ch cymuned

Dylech rannu’r newyddion da gyda’ch cymuned a’ch cynrychiolwyr etholedig lleol (megis eich AS/ASA/AC/ACD):

Rydym yn eich annog i barhau i ddweud wrth bawb am y gwahaniaeth mae eich prosiect yn ei wneud trwy gydol bywyd eich grant.

Y penderfyniadau bydd angen i chi nawr ei wneud am eich prosiect

Mae angen i chi benderfynu pryd yr hoffech ddechrau ar eich prosiect. Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi siarad â’ch Swyddog Ariannu amdano.

Rhaid iddo fod o fewn chwe mis o’r dyddiad fe wnaethom gynnig y grant. Bydd y dyddiad hwn ar y llythyr cynnig anfonom i chi. Os nad ydych yn cofio’r dyddiad, siaradwch â ni.

Sut i recriwtio staff ar gyfer y prosiect

Wrth gyflogi staff gyda’r arian fe ddyfarnom i chi, sicrhewch:

  • eich bod wedi hysbysebu’n agored am bob rôl
  • eich bod wedi defnyddio ein logo ym mhob hysbysiad swydd
  • gall pobl ofyn am geisiadau mewn mwy nag un ffordd – megis drwy ffôn ac e-bost
  • bod gan bobl o leiaf bythefnos i ymgeisio ar ôl i’r hysbysiad swydd gael ei hysbysebu
  • nad oes unrhyw camwahaniaethu’n digwydd yn erbyn unrhyw un sy’n ymgeisio
  • os ydych yn elusen gofrestredig – bod yr hysbyseb swydd yn cynnwys eich rhif elusen gofrestredig.

Bydd eich Swyddog Ariannu’n trefnu sgwrs â chi

Dyma lle byddwch yn cael sgwrs am eich cynlluniau, ac i ddarganfod sut y byddwch yn cydweithio.

Cyn y sgwrs gychwynnol am ariannu, efallai yr hoffech ddweud wrthynt:

  • unrhyw arian cyfatebol sydd gennych (ac os ydych yn sicr gyda’r arian cyfatebol wedi’i sortio, neu eich bod dal yn aros am benderfyniad)
  • os ydych yn cynllunio cyflogi pobl ar gyfer eich prosiect
  • A oes angen arweiniad talu arnoch i gyflogi pobl.

Bydd eich Swyddog Ariannu’n cadw mewn cysylltiad â chi drwyddi draw

Byddent yn eich diweddaru ar yr hyn sy’n digwydd, sut i ddechrau arni, a’n eich cefnogi gyda’ch grant o’r dechrau i’r diwedd.

Nid oes angen i chi ddisgwyl i’ch Swyddog Ariannu gysylltu â chi
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch Swyddog Ariannu. Maent yna i’ch cefnogi, o’r sgwrs gyntaf hyd at ddiwedd cyfnod eich grant.

Byddwn yn gwneud taliadau i’ch cyfrif banc

Byddwch yn derbyn y rhan fwyaf o’ch arian drwy daliadau rheolaidd – fel y cytunwyd â’ch Swyddog Ariannu. Ond os oes angen arian arnoch i ddechrau’r prosiect, dywedwch wrth eich Swyddog Ariannu iddynt drefnu taliad cynharach.

Ar gyfer costau cyfalaf (megis cerbydau, tir neu adeiladau), bydd angen i chi hawlio’r arian yn ôl gennym pan fyddwch ei angen.

Sut i hawlio’n ôl costau cyfalaf
Anfonwch:

  • e-bost yn dweud wrthym am y costau (ar gyfer cerbydau, byddwch hefyd angen dweud lle cawsoch eich pris. Fel rheol, rydym angen dau brisiad, oni bai eich bod yn prynu offer arbenigol. A chopi o ddogfennau cofrestredig y cerbyd, unwaith y byddwch yn eu cael.)
  • Yr anfonebau gwreiddiol (neu dystiolaeth debyg ar eich taliad).

Ar gyfer costau tir neu adeiladu, cofiwch hefyd i anfon tystysgrifau dros dro i ni gan eich pensaer – os oes gennych rai.

Cadwch olwg ar gyllid eich prosiect

Mae hynny’n golygu eich holl incwm a gwariant – gan gynnwys anfonebau a chyfriflenni banc. Gallwn ofyn am y wybodaeth hon ar unrhyw amser yn ystod eich prosiect.

Dywedwch wrthym sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen – a’r hyn rydych yn ei ddysgu

Os oes gennych dros £20,001 o arian Loteri Genedlaethol gennym i brosiect sy’n para dwy flynedd neu fwy, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen bob blwyddyn – gan gynnwys yr hyn rydych yn ei ddysgu.

Bydd dyddiad dechrau eich prosiect yn dod yn farciwr i bryd y byddwch yn anfon eich diweddariadau datblygiad blynyddol. Ac mae mwy o wybodaeth ar yr hyn rydym yn chwilio amdano o’ch diweddariadau yma.

Bydd dysgu wrth i chi fynd hefyd yn helpu eich prosiect a’ch cymuned. Mae gennym wybodaeth ar sut i gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi – yn ogystal ag offer a fydd yn eich helpu i gasglu a defnyddio tystiolaeth a dysg.

Dywedwch wrthym am unrhyw dystiolaeth rydych wedi ei gynhyrchu o’ch prosiect

Beth rydym yn ei olygu drwy dystiolaeth?
Tystiolaeth yw gwybodaeth sydd wedi'i chasglu a'i dadansoddi yn unol â chynllun. Mae tystiolaeth dda yn seiliedig ar wybodaeth nad yw'n rhagfarnllyd, ac mae'n cynrychioli'r ystod o bobl neu bynciau rydych chi am ddarganfod amdanyn nhw.

Dylai eich tystiolaeth fod yn briodol ac yn gymesur. Mae hyn yn golygu faint o gynhyrchu tystiolaeth rydych chi am ei wneud, sy'n debygol o ddibynnu nid yn unig ar yr hyn rydych chi am ei ddefnyddio, ond hefyd faint o arian sydd gennych chi.

Bydd cynhyrchu tystiolaeth yn helpu llywio eich dysgu ac unrhyw benderfyniadau am newidiadau.

Sut bydd tystiolaeth yn fy helpu?
Gall tystiolaeth eich helpu i ddeall eich cymuned neu'ch gwaith yn well. Gall eich helpu i ateb cwestiynau a allai fod gennych, neu brofi unrhyw ragdybiaethau y gallech fod wedi'u gwneud.

Cymrwch olwg ar ein egwyddorion tystiolaeth a chanllaw cam wrth gam ar sut i gynhyrchu tystiolaeth.

Beth i’w wneud os yw eich prosiect yn newid

Nid ydym yn disgwyl i bopeth fynd yn ôl y cynllun trwy’r amser. Gall newidiadau fod yn dda iawn i’ch prosiect – gan fod modd dysgu pethau newydd a olygir bod rhaid i chi newid y ffordd rydych yn gweithio.

Rhai newidiadau mwy rydym angen gwybod amdanynt unwaith rydych yn eu darganfod:

  • Os rydych yn gwneud rhywbeth sydd yn erbyn eich telerau ac amodau (er enghraifft, bod eich mudiad yn cyfuno â mudiad arall).
  • Os oes angen i chi newid eich cyllid i dalu staff – efallai bod costau ychwanegol, megis tâl mamolaeth, tâl tadolaeth, absenoldeb mabwysiad neu salwch. Efallai bod gan eich mudiad bolisïau cyflogaeth sy’n cynnig mwy na’r nifer statudol yn unig. Felly, os oes angen arian ychwanegol arnoch i dalu staff, gadewch i ni wybod.
  • Os ydych eisiau newid eich uwch gyswllt neu brif gyswllt.
  • Os ydych eisiau newid eich cyfrif banc.
  • Os ydych eisiau newid eich mudiad, dywedwch wrthym ni yn gyntaf – er enghraifft:
  • rydych eisiau newid math eich mudiad (efallai eich bod yn elusen ac yn bwriadu newid i ddod yn gwmni corfforedig)
  • rydych eisiau newid eich dogfen lywodraethol
  • rydych eisiau newid enw eich mudiad.

Yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn - cysylltwch â'ch swyddog ariannu (os oes gennych un) neu cysylltwch â ni.

Rheoli cymorthdaliadau

Rheoli cymorthdaliadau

Mae'r grantiau a ddyfarnwyd o 1 Ionawr 2021 yn amodol ar reoli cymhorthdaliadau.