Adennill costau llawn

Costau cyffredinol ac adennill costau llawn

Gallwch ymgeisio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am rai o'ch costau cyffredinol yn ogystal â chostau uniongyrchol eich prosiect. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i gyfrifo eich costau cyffredinol er mwyn i chi ymgeisio am yr holl ariannu y mae ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect.

Beth yw adennill costau llawn?

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ymgeisio am ariannu ar gyfer costau prosiect uniongyrchol ac am gyfran gymesur o gostau cyffredinol eich mudiad.

Beth yw costau prosiect uniongyrchol a chyffredinol?

Mae prosiect yn ddarn penodol ac unigryw o waith rydych am i ni ei ariannu.

Costau prosiect uniongyrchol yw'r costau sy'n ymwneud yn eglur ac yn amlwg â phrosiect. Gall y rhain gynnwys cyflogau gweithwyr prosiect, treuliau gwirfoddolwyr a gliniadur penodedig ar gyfer y prosiect.

Costau cyffredinol yw costau sy'n cefnogi'r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich mudiad yn eu darparu. Gall y rhain gynnwys canran o gyflogau staff craidd megis gweinyddwyr, costau rhent a chyfleustodau neu ffioedd cyfreithiol ac archwilio eich mudiad.

Sut ydw i'n cymhwyso adennill costau llawn?

Os yw'r prosiect rydych yn ceisio ariannu ar ei gyfer yn waith craidd a'r unig brosiect rydych yn ei redeg, nid oes angen i chi gyfrifo eich costau cyffredinol ar wahân - gofynnwch am holl gostau eich prosiect fel costau prosiect uniongyrchol.

Enghraifft

Mae mudiad bach yn rhedeg clwb cinio unwaith yr wythnos. Nid yw'n gwneud unrhyw waith arall nac yn cynnal unrhyw brosiectau eraill. Mae cinio, hurio lleoliad ac unrhyw dreuliau gwirfoddolwyr yn gostau uniongyrchol. Nid oes unrhyw gostau cyffredinol.

Os ydych yn rheoli nifer o brosiectau neu weithgareddau ar yr un pryd, mae angen i chi gyfrifo sut i rannu costau cyffredinol eich mudiad rhwng yr holl brosiectau.

Enghraifft

Mae mudiad yn rhedeg tri phrosiect o un adeilad: clwb cinio i bobl oedrannus, sesiynau hyfforddi i rieni sengl a dosbarthiadau dawns i aelodau'r gymuned. Hoffai'r mudiad dderbyn ariannu ar gyfer y prosiect hyfforddi ac mae wedi cyfrifo bod costau uniongyrchol y prosiect yn cynnwys cyflog yr hyfforddwr, llyfrau, deunyddiau swyddfa, gliniadur a thaflunydd. Mae'r costau rhent a chyfleustodau'n gostau cyffredinol ac mae'n rhaid eu rhannu'n gyfartal rhwng tri phrosiect y mudiad.

Sut ydw i'n rhannu costau cyffredinol pob prosiect?

Bydd yr arweiniad a nodiadau arweiniad a ganlyn yn egluro sut i gyfrifo costau llawn eich prosiect, gan gynnwys costau cyffredinol y prosiect.

Defnyddiwch daenlen costau cyffredinol y prosiect i gyfrifo costau uniongyrchol a chyffredinol eich prosiect ac i amcangyfrif faint o ariannu rydych am i ni ei gyfrannu i'ch prosiect.