Lleihau eich ôl troed amgylcheddol

The Outdoor Partnership

Mae’r argyfwng hinsawdd yn fusnes i bawb, felly mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gweithredu i gefnogi cymunedau yn y DU sydd eisiau lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Yn yr Hydref, 2019, fe lansiom Gronfa Gweithredu Hinsawdd sy’n raglen £100 miliwn wedi’i osod dros 10 mlynedd a fydd yn cefnogi cymunedau yn y DU i weithredu’n lleol ar newid hinsawdd.

Ond rydym eisiau gwneud mwy i helpu, gan gefnogi prosiectau sydd eisoes yn bodoli ac ysbrydoli pobl i ddechrau mentrau newydd.

Angen ychydig o ysbrydoliaeth?

Rydym eisoes wedi cael ein hannog gan nifer o’r prosiectau rydym yn ei ariannu.

Er enghraifft, Our Bright Future – rhaglen £33m wedi’i ffurfio o 31 prosiect ledled y DU sy’n dod â’r sectorau amgylcheddol a’r ieuenctid ynghyd. Yn cael ei arwain gan The Wildlife Trust, mae pob prosiect yn helpu pobl 11-24 oed ennill sgiliau a phrofiadau hanfodol, a gwella eu lles. Gallent helpu darparu newid yn eu cymuned a’u hamgylchedd lleol.

Neu beth am y Dref Werdd, sy’n fenter cymdeithasol yn gweithio i fod o fudd i’r amgylchedd lleol a’r gymuned ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru. Yn 2019, cafodd £499,220 ei ddyfarnu i’r mudiad trwy Pawb a’i Le i sefydlu canolfan ym Mlaenau Ffestiniog a fydd yn darparu mynediad cyfleus i’r gymuned i’r gwasanaethau a fydd yn eu galluogi i oresgyn problemau megis iechyd a lles, tlodi a sgiliau cyflogaeth.

Mae’r ardaloedd ffocws yn cynnwys helpu’r gymuned i ddod o hyd i ffyrdd o arbed ynni ac arian yn y cartref, amddiffyn yr amgylchedd a lleihau gwastraff bwyd.

- Wedi eich ysbrydoli? Ymgeisiwch am grant heddiwWedi eich ysbrydoli? Ymgeisiwch am grant heddiw

Sut gall eich grŵp chi leihau ei effaith amgylcheddol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o’r gred bod gennym oll gyfrifoldeb i amddiffyn yr amgylchedd i genedlaethau y dyfodol – mae hyn yn cynnwys y cymunedau a’r prosiectau rydym yn ei gefnogi. Rydym eisiau ysbrydoli grwpiau cymunedol i wneud eu rhan i leihau allyriadau carbon, prif ysgogydd newid hinsawdd.

Trwy ‘Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd Cymru’, rydym yn treialu dull i lywio ein harfer yn y dyfodol fel rhan o’n dull DU eang i gefnogi cymunedau. Mae hyn i geisio cael y cydbwysedd cywir rhwng ysbrydoli cymunedau i weithredu a bod angen mesurau penodol i reoli eu heffaith amgylcheddol.

Pa gamau all cymunedau eu cymryd i leihau eu heffaith amgylcheddol?

Rydym yn cydnabod bod nifer o grwpiau yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a bod yr amser hwnnw yn werthfawr – rydym felly wedi creu awgrymiadau i’ch helpu chi ddechrau bydd nid yn unig yn helpu’r amgylchedd drwy leihau allyriadau carbon, ond hefyd yn lleihau eich cost egni ac yn arbed arian i’ch sefydliad.

Dechrau arni: Awgrymiadau i leihau eich effaith amgylcheddol

  1. Lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi trwy gynyddu ailgylchu. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o ganllawiau ac adnoddau am ddim i helpu mynd i’r afael â Sero Net, effeithlonrwydd ynni a gwastraff lleihau carbon.

  2. Arbed ynniarbed ynni yn y lle cyntaf a newid i gyflenwr ynni gwyrdd. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnig canllawiau ar Ynni yn y cartref. Gallwch hefyd ddarganfod sut i newid i gyflenwr ynni gwyrdd a chystadleuol trwy’r busnes cymdeithasol Big Clean Switch.

  3. Lleihau effaith amgylcheddol digwyddiadau – Mae ystyried yr amgylchedd wrth gynllunio digwyddiadau’n ffordd syml ac effeithiol i arbed adnoddau, amser ac arian. Mae gan The Eden Project awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud hyn yma The Eden Project.

Cefnogaeth ychwanegol: Lle i fynd am fwy o gyngor

Rydym yn cydnabod nad yw un maint yn ffitio pawb, a bod grwpiau angen cefnogaeth amrywiol. Dyma awgrymiadau ar le i fynd am gefnogaeth ac arweiniad amgylcheddol pellach:

Yng Nghymru

Cymorth am ddim i gymunedau sydd eisiau gweithredu

Egin

Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig cymorth mentora am ddim i helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru sydd am weithredu ar effeithiau newid hinsawdd, i lunio cynllun gweithredu. Mae'r sefydliad hefyd yn darparu hyfforddiant a chymuned ar-lein lle gallwch chi ddysgu rhagor a rhannu gwybodaeth a phrofiadau. https://egin.org.uk/dysgu-mwy/am-egin/?lang=cy. Pan fydd grwpiau wedi datblygu eu cynlluniau gweithredu gydag Egin, mae croeso iddynt ymgeisio am Grant Camau Cynaliadwy Cymru - Egin gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/sustainable-steps-wales-egin-grants

Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn bwriadu helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael gyrfaoedd gwyrdd. Drwy yrfaoedd gwyrdd, mae'r Gronfa yn golygu gyrfaoedd sy'n lleihau allyriadau carbon, yn adfer byd natur ac yn ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol.

Ym mis Ionawr 2024, bydd ceisiadau yn agor ar gyfer partneriaethau a all helpu pobl ifanc i gael swyddi gwyrdd drwy wneud pethau fel:

  • datblygu eu hyder
  • dysgu sgiliau newydd iddynt – gallai hyn gynnwys sgiliau cymdeithasol a thechnegol
  • profiad gwaith a lleoliadau gwaith sy'n arwain at gyfleoedd hirdymor.

Bydd y grantiau'n cael eu dyfarnu i gefnogi pobl ifanc anabl neu bobl ifanc o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Nid yw’r rhaglen ar agor eto ond os oes gennych unrhyw gwestiynau amdani, cysylltwch â camaucynaliadwycymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Grantiau ar gyfer Byd Natur

https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/111006

https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/cadwraeth/natur/

Newidiadau rydym wedi’i wneud

Mae gennym ran bwysig i chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dros y ddegawd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio i leihau ein ôl-troed amgylcheddol ein hunain yn y ffyrdd canlynol:

Gwastraff ac ailgylchu

Rydym yn ymrwymedig i leihau nifer y gwastraff rydym yn ei ddargyfeirio i safleoedd tirlenwi, a gwella ein cyfraddau ailgylchu.

Mae’n ofynnol i staff leihau gwastraff yn rhagweithiol ac ailgylchu mwy, er enghraifft gwahanu gwastraff i wastraff ailgylchadwy a gwastraff na ellir ei ailgylchu, prynu cynhyrchion sydd ag ychydig iawn o effaith amgylcheddol e.e. papur wedi’i ailgylchu a lleihau defnydd o ddeunydd pacio plastig i’r bwyd rydym yn ei archebu i ddigwyddiadau.

Roedd 76% o’n gwastraff wedi’i ailgylchu yn 2018

Argraffu

Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o adnoddau corfforol megis papur ac inc, drwy leihau ein hargraffu o fewn ein swyddfeydd.

Rydym wedi cyflwyno argraffwyr amlswyddogaethol sy’n argraffu ar ddwy ochr y dudalen yn ddiofyn. Mae staff yn defnyddio codau PIN unigryw i ryddhau'r argraffu, ac mae'r rhain yn cael eu tracio gyda staff yn cael eu hannog i argraffu llai.

Rydym wedi cyflwyno technoleg newydd, gan gynnwys surface pros a chyfleusterau fideo-gynadledda sydd yn dileu’r angen i argraffu ar gyfer cyfarfodydd hyd yn oed yn fwy.

28% o ostyngiad mewn argraffu ers 2017, gan arwain at 766, 150 o dudalennau wedi’i argraffu wedi ei arbed

Milltiroedd Busnes

Mae bod yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi yn golygu bod ein staff angen teithio i gyfarfod grwpiau, ac rydym yn cydnabod bod trafnidiaeth car yn cael effaith ar yr amgylchedd drwy ryddhad o allyriadau carbon.

Rydym yn annog staff i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus fel eu hopsiwn cyntaf o hyd. Os nad yw hynny ar gael, rydym yn annog rhannu ceir ac rydym yn cynnig teithiau hedfan o fewn Lloegr a Chymru fel eithriad yn unig.

Fideo-gynadledda

Mae defnyddio fideo-gynadledda yn ein swyddfeydd a drwy ein tabledi surface pros yn golygu y gallwn dorri lawr ar siwrnai car diangen i gyfarfodydd.

Ennillwyr Gwyrdd

Mae gennym rwydwaith o ‘Enillwyr Gwyrdd’ ledled ein swyddfeydd, sy’n trefnu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae’r bobl ymrwymedig hyn hefyd yn cefnogi ailgylchu a rheoli gwastraff o fewn swyddfeydd.

36 o Enillwyr Gwyrdd ledled ein swyddfeydd

Buddiannau Gwrthbwyso Carbon

Rydym yn gwybod ein bod yn cynhyrchu allyriadau Co2 drwy'r adeiladau rydym yn ei feddiannu a theithio ar gyfer busnes, a dyna pam yn 2018, fe benderfynom wrthbwyso’n wirfoddol ein ôl-troed carbon blynyddol o 1,150 tunnell drwy ein rhaglen Ôl-troed Carbon. Mae hyn yn golygu ein bod yn garbon niwtral.

Drwy ein rhaglen Ôl-troed Carbon, rydym yn cefnogi plannu coed mewn mannau ledled y DU sy’n darparu cynefinoedd bywyd gwyllt, cefnogi bioamrywiaeth a gwella tirwedd naturiol y DU, wrth wrthbwyso allyriadau CO2. <

>

Rydym yn cydnabod nad yw gwrthbwyso yn ‘ateb cyflym’, a dyna pam rydym hefyd yn ymrwymedig i leihau ein hallyriadau carbon hyd yn oed yn fwy.