Gwiriadau y byddwn yn eu gwneud ar eich gwybodaeth

Ein gwiriadau a pham y gallai fod gennym bryderon

Fel mudiad sy'n dosbarthu arian cyhoeddus, rydym yn cyflawni nifer o wiriadau ar yr wybodaeth a ddarparwch i ni. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac nad oes unrhyw risgiau sylweddol y gallwn eu hadnabod wrth ddyfarnu grantiau.

Rydym wedi cyhoeddi dau ganllaw i'ch helpu i ddeall ein gwiriadau'n well. Os byddwch yn darllen y rhain cyn i chi ymgeisio, neu os oes gennych grant gennym ni pan fydd eich manylion yn newid, rydym yn llai tebygol o adnabod unrhyw broblemau.

Canllaw i'n gwiriadau ar eich gwybodaeth

Mae'r Canllaw i'n gwiriadau ar eich gwybodaeth (PDF 344KB) yn esbonio'r meysydd allweddol y mae angen i chi sicrhau eu bod yn gywir, pam y gallai fod gennym bryderon am eich hanes blaenorol gyda ni a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl os ydym yn adnabod unrhyw broblemau yn y meysydd hyn.

Canllaw i ddadansoddi risg

Mae'r Canllaw i ddadansoddi risg (PDF 283KB) yn ymdrin â meysydd fel y gwiriadau adnabyddiaeth a gynhaliwn, y risg o dwyll a'r cyfyngiadau ar ein gallu i ddarparu adborth i chi ar y rhain.