Hyb Hinsawdd

Repowering London

Mae Newid yn yr Hinsawdd yn fusnes i bawb, a dyna pam yr ydym yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu yn yr hinsawdd.

Mae ein Strategaeth Amgylcheddol, yn ein Cynllun Corfforaethol, yn ein hymrwymo i ddarparu arian penodol i gefnogi gweithredu yn yr hinsawdd, i helpu'r gymuned ehangach a'r sector gwirfoddol i leihau ei effaith amgylcheddol, a lleihau ein heffaith carbon ein hunain.

Ers 2016, rydym wedi dyfarnu £397 miliwn drwy fwy na 6,000 o grantiau sy'n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a'r amgylchedd naturiol.

Dysgwch sut i wneud cais am grant i gefnogi gweithredu yn yr hinsawdd, darllen mewnwelediadau a dysgeidiaethau a chael y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf.