Disgwyliadau diogelu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y sefydliadau rydym yn eu hariannu

Cadw pobl yn ddiogel rhag niwed – yn ein sefydliad ein hunain ac yn y sefydliadau rydym yn eu hariannu.

Yr hyn rydym yn ei olygu trwy ddiogelu

Drwy ddiogelu rydym yn golygu cymryd camau yn eich sefydliad i atal niwed ac ymateb i ddigwyddiadau.

Drwy ddigwyddiadau, rydym yn golygu unrhyw bryd y bydd rhywun yn codi mater neu bryder diogelu gyda chi. Mae hyn yn cynnwys materion, honiadau a risgiau wedi'u cadarnhau. Weithiau fe'u gelwir yn bryderon, datgeliadau neu gwynion.

I ddysgu mwy am y geiriau a ddefnyddiwn yma, gweler ein diffiniadau o dermau a ddefnyddir ar y dudalen hon.

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan y sefydliadau rydym yn eu hariannu

Os byddwn yn rhoi grant i chi, rydym yn disgwyl y byddwch yn:

Mae'r disgwyliadau hyn yn berthnasol i'r holl sefydliadau rydym yn rhoi grantiau iddynt, yn ogystal â phartneriaid sy'n gwneud unrhyw ran o'r gweithgareddau rydym yn eu hariannu. Byddwn yn ystyried y disgwyliadau hyn pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i'w ariannu. Efallai y byddwn yn eu defnyddio pan fyddwn yn gofyn am ddiweddariadau ar eich grant. Maent hefyd wedi'u hysgrifennu yn y telerau ac amodau ar gyfer ein holl grantiau.

Hyrwyddo diwylliant o ddiogelu

  • Ystyriwch ddiogelu fel blaenoriaeth yn eich sefydliad. Mae hyn yn golygu bod gennych ddiwylliant agored a diogel o ran diogelu. Dylech gael cyfrifoldebau clir dros ddiogelu ar wahanol lefelau o'r sefydliad, gan gynnwys goruchwylio gan uwch arweinwyr ac ymddiriedolwyr.
  • Cofnodwch eich risgiau diogelu. Gwnewch yn siŵr bod eich sefydliad yn deall, yn cofnodi ac yn rheoli risgiau diogelu yn rhagweithiol.
  • Cael eich polisi eich hun wedi'i deilwra ar gyfer diogelu a chod ymddygiad. Dylai hyn fod yn briodol, yn gymesur ac yn berthnasol i weithgareddau eich sefydliad. Rhaid i chi adolygu'r polisi hwn yn ôl yr angen (o leiaf unwaith y flwyddyn). Dylai'r holl staff, gwirfoddolwyr, buddiolwyr ac ymddiriedolwyr ei ddeall a'i ddilyn.
  • Sicrhewch fod eich polisi a'ch arferion ar gael yn gyhoeddus. Hyrwyddwch y rhain i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â'ch sefydliad. Rhowch sicrwydd iddyn nhw o ran sut y byddwch chi'n cadw pobl yn ddiogel a beth i'w wneud os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan unrhyw bartneriaid rydych chi'n gweithio gyda nhw eu polisïau a'u harferion diogelu priodol eu hunain. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'n disgwyliadau diogelu.

Cadw pobl yn ddiogel

  • Defnyddiwch brosesau recriwtio diogel ac eglur gan gynnwys

    • penderfynu a oes angen gwiriad cofnod troseddol, yn seiliedig ar y rôl a'r gwaith y byddant yn ei wneud.
      Mae gwiriadau cofnodion troseddol yn cynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yng Nghymru a Lloegr, Diogelu Grwpiau sy’n Agored i Niwed (PVG) yn yr Alban, neu AccessNI yng Ngogledd Iwerddon.
    • Gwiriwch geirdaon.
      Pan fyddwch yn gwirio'r geirdaon, dylech ofyn a ydynt yn gwybod am unrhyw resymau pam na ddylai'r ymgeisydd weithio gyda phobl sy’n agored i niwed.
  • Darparwch hyfforddiant ac arweiniad diogelu priodol a rheolaidd i staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr. Dylai hyn gynnwys sut i reoli risgiau diogelu ac adrodd am bryderon.

Ymateb i ddigwyddiadau diogelu

  • Dylech gael gweithdrefn ddiweddaredig wedi'i theilwra ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau diogelu y mae pawb yn gwybod amdani ac yn teimlo'n hyderus yn ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â'ch sefydliad.
  • Ystyriwch bob digwyddiad diogelu o ddifrif ac ymatebwch yn brydlon, gan ddilyn eich polisi. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i'r awdurdodau neu'r rheoleiddwyr perthnasol.
  • Dywedwch wrthym am unrhyw ddigwyddiadau diogelu difrifol o fewn 10 diwrnod gwaith. Dilynwch ein canllawiau ar beth y dylech roi gwybod i ni amdano a phryd.

Sut y byddwn yn gwirio eich bod yn bodloni ein disgwyliadau

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ddiogelu pan fyddwch yn ymgeisio ac ar ôl i chi gael eich ariannu

Gan gynnwys sut rydych chi'n bodloni ein disgwyliadau diogelu.

Os oes gennych grant, ac rydym yn pryderu nad ydych yn bodloni ein disgwyliadau

Efallai y byddwn yn cwrdd â chi i ddeall beth sydd wedi digwydd a thrafod y camau nesaf. Mae'n bwysig iawn eich bod yn cydweithio â ni.

Os oes gennym bryderon difrifol efallai y bydd yn rhaid i ni atal eich cyllid wrth i ni gael rhagor o wybodaeth. Mae atal cyllid yn rhywbeth nad ydym yn ei wneud yn aml. Byddem bob amser yn trafod hyn gyda chi ac yn ystyried yr effaith ar eich sefydliad a'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.

Beth y dylech chi roi gwybod i ni amdano a phryd (os oes gennych chi grant)

Cyn cysylltu â ni, gweithredwch i sicrhau diogelwch pawb sydd ynghlwm

Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw bartneriaid rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Yna adroddwch am ddigwyddiadau diogelu difrifol i ni o fewn 10 diwrnod gwaith

Neu’n gynt os allwch chi. Dylech ddweud wrth bwy bynnag yw eich cyswllt arferol yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddem fel arfer yn disgwyl i chi wneud hyn unwaith y byddwch yn penderfynu y gallai fod angen i chi ymchwilio i'r digwyddiad, neu ei gyfeirio at yr awdurdodau neu'r rheoleiddiwr.

Beth rydym yn ei olygu trwy ddigwyddiadau diogelu difrifol

Rydym yn golygu unrhyw ddigwyddiad diogelu nad yw'n arferol i'ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau wedi'u cadarnhau neu eu cyhuddo.

Yn dibynnu ar y math o sefydliad, efallai y byddwch yn profi digwyddiadau diogelu yn rheolaidd. Rydym yn deall hyn ac yn disgwyl i chi roi gwybod am ddigwyddiadau difrifol yn unig.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni os oes digwyddiad:

  • nad yw'n arferol i chi, neu
  • a allai gael ei adrodd amdano i awdurdod (fel yr heddlu), neu
  • a allai arwain at sylw yn y cyfryngau.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym pan fyddwch chi'n adrodd am ddigwyddiad

Mae angen i ni wybod beth sydd wedi digwydd a pha gamau sydd wedi cael eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel. Yn ein rôl fel ariannwr, byddem ond yn disgwyl i chi rannu:

  • trosolwg o'r digwyddiad, heb unrhyw fanylion adnabod pobl
  • crynodeb o'r camau a gymerwyd ac unrhyw beth rydych yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol, gan gynnwys a adroddwyd am y digwyddiad i'r awdurdodau neu'r rheoleiddiwr
  • unrhyw ddysgu neu argymhellion a wnaed i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Efallai y byddwn yn gofyn am ddiweddariadau ar ymchwiliadau parhaus

Rydym yn gwybod y gall digwyddiadau diogelu fod yn gymhleth a chymryd amser i'w datrys. Os nad yw'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ar gael ar unwaith, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni nes bod y digwyddiad wedi'i ddatrys.

Dysgwch sut y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhannu

Drwy wirio ein hysbysiad preifatrwydd a diogelu data.

Enghreifftiau o pryd i adrodd am ddigwyddiadau

Ble i gael arweiniad ar bolisïau a gweithdrefnau diogelu

Diffiniadau o dermau diogelu a ddefnyddir ar y dudalen hon

Drwy ddiogelu rydym yn golygu cymryd camau yn eich sefydliad i atal niwed, ac ymateb i ddigwyddiadau a phryderon.

Gall niwed gynnwys:

  • niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol
  • triniaeth esgeulus
  • camdrin
  • radicaleiddio neu gamfanteisio
  • camdrin seiber
  • bwlio neu aflonyddu
  • pobl sy'n camddefnyddio rôl o ymddiriedaeth.

Gall niwed ddigwydd yn bersonol neu ar-lein, gan unrhyw un.

Mae plant yn golygu pobl o dan 18 oed.

Mae oedolion ifanc yn golygu pobl rhwng 18 a 24 oed.

Oedolion sy’n wynebu risg yw unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn sydd:

  • ag anghenion gofal a chymorth
  • yn profi, neu mewn perygl o, gamdrin neu esgeulustod ac,
  • oherwydd yr anghenion gofal a chymorth hynny, ni allant amddiffyn eu hunain rhag naill ai y risg o gamdrin neu esgeuluso, neu'r profiad ohono.

Gall oedolyn sydd mewn perygl o gael ei gamdrin:

  • gael salwch sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl neu gorfforol
  • gael anabledd dysgu
  • fod yn eiddil
  • ddioddef o broblemau cyffuriau neu alcohol.

Mae eich cyswllt yn golygu'r person yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yr ydych fel arfer yn siarad â nhw am eich grant. Fel arfer maent yn swyddog ariannu neu'n rheolwr ariannu.