Ymateb i COVID-19

Shantona

Dysg a mewnwelediad ynghylch COVID-19 / Coronafeirws

Dyma ni yn dwyn ynghyd yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu gan ein deiliaid grant am eu hymateb i bandemig Covid-19.

Rydyn ni'n gwneud synnwyr o'r hyn rydyn ni'n ei weld a'i glywed ar gyflymder, felly bydd yna bethau rydyn ni wedi'u colli neu heb eu gweld eto. Rhannwch gyda ni yr hyn rydych chi'n ei wneud fel y gall hyn helpu i gyfoethogi ein dysg.

Rydym yn croesawu sylwadau neu heriau, fel y gallwn wella a datblygu'n barhaus, a gwneud i'r gwaith hwn fod yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Anfonwch adborth ac awgrymiadau at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk