Profedigaeth a diwedd bywyd

Mae helpu pobl i fyw cystal â phosib yng nghyfnodau olaf bywyd, a sicrhau eu bod yn marw ag urddas yn bwysig ar bob adeg, ond yn ystod y pandemig mae'n fwy heriol nag arfer.

Mae pobl gyda Covid-19 yn gallu gwaethygu'n sydyn iawn ac mae cyfyngiadau ar ymweld â pherthnasoedd sâl neu ar fawr a mynychu angladdau yn cael effaith arwyddocaol ar iechyd meddwl a lles pobl. Mae hosbisau ac elusennau'n chwarae rôl bwysig yn helpu pobl i ymdopi â cholled a achosir gan Covid-19.

Sut mae'r gymuned a'r sector gwirfoddol yn ymateb?

Addasu gwasanaethau cyfredol i gefnogi profedigaeth

Mae grwpiau cefnogi'n darparu popeth o gyngor i deuluoedd a ffrindiau, i gefnogaeth a hyfforddiant ysbrydol a chrefyddol ar gyfer darparwyr gwasanaethau eraill. Ac ar adeg pan fod ymweliadau wedi'u cyfyngu i berthnasau agosaf a bod pobl yn methu â dweud ffarwel mewn person, mae cefnogi galar a cholled yn wasanaeth hanfodol.

  • Symud gwasanaethau ar-lein a dargyfeirio capasiti ychwanegol i gefnogaeth dros y ffôn. Mae Hospice UK yn rhannu dolenni i arweiniad ac adnoddau swyddogol i gefnogi pobl, yn ogystal â choladu ymatebion hosbisau eraill i Covid-19 ac yn rhannu'r wybodaeth yma ar-lein.

    Mae Wakefield Hospice yn cydweithio gyda hosbisau lleol eraill a phartneriaid y GIG i gynnig gofal i gleifion na fyddai'n bodloni eu meini prawf arferol. Bydd eu grant yn helpu staff i gefnogi cleifion dros y ffôn, ar Skype neu Zoom a hefyd i rannu gwybodaeth a sgiliau gyda mudiadau eraill er mwyn iddynt allu cefnogi pobl mewn profedigaeth.

  • Cefnogi pobl newydd ar draws y gymuned ehangach. Mae Ayrshire Cancer Support fel arfer yn helpu pobl yr effeithir arnynt gan ganser, gan gynnwys gwasanaeth cludiant am ddim i'r ysbyty am driniaeth. Mae ariannu wedi'u helpu i ehangu eu cefnogaeth i'r gymuned ehangach trwy wasanaeth gwirio llesiant newydd - galwadau ffôn rheolaidd i bobl sy'n hunanynysu. Maen nhw hefyd yn ymestyn eu gwasanaethau cwnsela i bobl leol sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd Covid-19.

  • Datblygu gwasanaethau newydd i gefnogi staff gofal iechyd. Mae Hospice UK yn gweithio gyda'r GIG, y Samariaid a Shout i staffio llinell gymorth cefnogaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer staff y GIG, wedi iddynt nodi y bod angen cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ychwanegol arnynt.

Cyngor a chefnogaeth ymarferol

Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau ar gyfer amrediad eang o gefnogaeth mewn profedigaeth.

  • Helpu trefnu angladdau a gwasanaethau coffa. Mae Gofal mewn Galar Cruse, sy'n gweithio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, wedi cynhyrchu cyngor ar angladdau a gwasanaethau coffa yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar sut i drefnu angladd, beth i wneud os ydych chi, neu rywun arall, yn methu mynychu'r gwasanaeth, a sut i gefnogi rhywun arall, hyd yn oed os nad oeddech chi'n adnabod y person a fu farw.
  • Cefnogi cysylltiadau a lles. Mae gwirfoddolwyr Age UK Nottingham & Nottinghamshire yn darparu cefnogaeth mewn profedigaeth a chefnogaeth emosiynol i bobl hŷn yr effeithir arnynt gan yr argyfwng trwy eu gwasanaeth llesiant. Mewn deufis, maen nhw wedi cefnogi 114 o bobl dros y ffôn, gan gynnwys cyfeirio at gefnogaeth mewn profedigaeth.
  • Creu ffyrdd i deuluoedd a ffrindiau gadw mewn cysylltiad. Mae St Rocco’s Hospice yn trefnu ymweliadau ffenestr, lle mae aelodau teuluoedd yn gallu gweld eu hanwyliaid trwy ffenestr yr ystafell wely. Mae galwadau Skype a ffôn ar gael ar gyfer yr holl gleifion ac mae'r tîm cyswllt â theuluoedd yn darparu cefnogaeth i sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio.
  • Cynllunio ar gyfer diwedd oes. Mae Compassion in Dying yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar sut i feddwl am ofal diwedd oes mewn achosion o afiechyd difrifol, gan gynnwys y coronafeirws. Maen nhw'n cynnig arweiniad ar wneud penderfyniadau gyda ffocws ar sut i wneud penderfyniad ymlaen llaw (weithiau gelwir hwn yn ewyllys byw). Mae hon yn ddogfen sy'n rhwymo mewn cyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n amlinellu dymuniadau unigolyn os ydynt eisiau gwrthod rhai mathau, neu bob math, o driniaeth.
  • Urddas a dewis. Yn yr Alban, mae Friends at the End yn cefnogi pobl i roi cynlluniau diwedd oes yn eu lle. Mae'r rhain yn darparu gwybodaeth bwysig i staff gofal iechyd a theuluoedd ac yn gallu gwneud marw yn haws i'r claf a'u hanwyliaid.
  • Helpu trefnu angladdau a gwasanaethau coffa. Mae Gofal mewn Galar Cruse, sy'n gweithio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, wedi cynhyrchu cyngor ar angladdau a gwasanaethau coffa yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar sut i drefnu angladd, beth i wneud os ydych chi, neu rywun arall, yn methu mynychu'r gwasanaeth, a sut i gefnogi rhywun arall, hyd yn oed os nad oeddech chi'n adnabod y person a fu farw.

Cefnogi plant a theuluoedd

Mae deiliaid grantiau'n cynnig amrediad o gefnogaeth i deuluoedd a phlant sydd wedi dioddef profedigaeth yn ystod y pandemig.

  • Rhaglenni wedi'u teilwra i ymateb i'r argyfwng. Yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, bu Holding Hearts adnabod bod plant mewn galar yn cael cysur o barhau gyda'u hamserlenni rheolaidd, a bod y cyfyngiadau symud wedi ychwanegu heriau ychwanegol. Mae eu rhaglen ar-lein chwe wythnos yn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plentyn i reoli a mynegi eu teimladau, gyda'r sicrwydd bod therapydd ar gael i'w tywys a'u cefnogi hefyd.
    Mae Cowal and Bute Play Therapy eisoes yn cynnig cefnogaeth therapi i deuluoedd mewn ardaloedd arunig a gwledig o Argyll, gan ddefnyddio Zoom. Mae'r grant yn eu caniatáu i gynnig sesiynau cefnogaeth teilwredig un i un pellach i'r sawl sy'n dioddef o straeon ac unigedd cymdeithasol o ganlyniad i'r feirws, gan gynnwys profedigaeth, galar a cholled.
  • Darparu adnoddau ymarferol i athrawon ac ysgolion. Mae NurtureUK yn cynnig cefnogaeth i 200 o ysgolion yn Llundain gyda disgyblion y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt. Bydd pob un ohonynt yn derbyn copi am ddim o The Bereavement Box sy'n cefnogi staff trwy lawlyfr defnyddiwr a 60 o ymarferion ymarferol ar gyfer gwahanol oedrannau.
  • Cynnig cysur a charedigrwydd. Mae Take Our Hand yn methu cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb felly byddant yn defnyddio grant bach i roi pecynnau gofal mewn profedigaeth i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed yn Norfolk. Bydd y pecynnau hyn yn cynnig cysur trwy roddion braf, a hefyd yn darparu gwybodaeth a gweithgareddau i helpu rheoli galar, ynghyd â negeseuon cadarnhaol gan eraill sydd mewn profedigaeth. Maen nhw'n gweithio gyda busnesau lleol i gael rhoddion, megis siocledi gan gyffeithiwr heb gynnyrch llaeth yn Norwich, yn ogystal â gofyn i gefnogwyr brynu eitemau gan gynnwys cyfnodolion, posau, pethau ymolchi a chanhwyllau o restr siopa ar-lein.

Cynyddu capasiti hosbisau i gefnogi mwy o bobl

Mae hosbisau'n cefnogi'r GIG trwy gymryd mwy o gleifion sydd angen gofal lliniarol. Mae Greenwich and Bexley Community Hospice yn gofalu a 300 o bobl ychwanegol yn y gymuned. Ar yr un pryd, mae adleoli, salwch a'r rheolau hunanynysu wedi arwain at brinder staff. Mae nifer o wirfoddolwyr rheolaidd wedi gorfod hunanynysu. Dyma sut mae deiliaid grantiau'n mynd i'r afael â'r galw cynyddol:

  • Bodloni anghenion newydd a'r sawl sy'n dod i'r amlwg. Mae Willen Hospice yn Milton Keynes, yn recriwtio Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol tan fis Medi 2020 i gynnig mwy o gapasiti i helpu i roi penderfyniad y llywodraeth y ganiatáu pobl i ymweld â'u perthnasau cyn iddynt farw ar waith. Byddant hefyd yn cefnogi'r gwasanaeth gwaith cymdeithasol cyfredol sy'n helpu gyda chefnogaeth ymarfer arall, gan gynnwys: cysylltiadau ag asiantaethau gofal a chartrefi nyrsio, ysgrifennu ewyllys, a mynediad at fudd-daliadau a chymhorthdal incwm.
  • Bod yn rhagweithiol o ran recriwtio mwy o staff a gwirfoddolwyr cymwys. Yn Nwyrain Llundain, mae St Joseph’s Hospice yn ceisio cynyddu ei staff trwy hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae nifer o wasanaethau sy'n darparu gofal uniongyrchol i bobl ar ddiwedd eu hoes yn dibynnu ar wirfoddolwyr, sy'n aml yn cwympo i mewn i'r categori mewn perygl eu hunain. Mae gan Wirral Hospice nifer fechan o rolau gwirfoddol hanfodol ym maes gofal cleifion ac maen nhw'n gofyn i bobl wirfoddoli os ydyn nhw'n gallu.
  • Trawsnewid mannau presennol i greu ardaloedd diogel. Bu Wirral Hospice drosi ei Chanolfan Llesiant yn ward chwe gwely dros dro ar gyfer cleifion Covid-19 sy'n arbennig o eiddil neu angen gofal lliniarol. Mae'r ardal ar wahân i brif uned cleifion yr hosbis.
  • Creu pwll o staff, arbenigedd ac adnoddau. Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, mae tair hosbis yn gweithio gyda'i gilydd trwy un hyb - Hospices of Birmingham and Solihull (HOBS). Mae ar gael 24 awr y diwrnod, saith niwrnod yr wythnos gyda 40 arbenigwr diwedd oes ar alwad. Ar y cyd, maen nhw'n darparu mynediad at gannoedd o staff arbenigol yr hosbisau ar draws y rhanbarth.

Sicrhau diogelwch a lles staff

Mae rhai gofalwyr wedi sôn am ddiffyg cyfarpar diogelu personol (PPE), cyfarpar profi a chyflenwadau glanhau. Bu St Joseph’s Hospice yn Hackney lansio apêl a derbyn PPE yn rhoddion o'r gymuned leol ac ysbytai'r GIG. Rhoddodd yr awdurdod lleol gardiau parcio i staff er mwyn iddynt allu osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae St Ann’s Hospice yn Cheadle wedi rhannu templed ar gyfer amddiffynnydd wyneb, sef rhywbeth y gall gefnogwyr gydag argraffwyr 3D eu gwneud a'u rhoddi.

Cefnogi marwolaeth dda

Mae marwolaeth dda yn bwysig i'r sawl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes a gall fod yn lliniarol ar gyfer teulu a ffrindiau mewn galar. Mae llawer o elfennau pwysig gyda marwolaeth dda, o reoli poen a symptomau i ofal tosturiol, a dewis ble i farw.

Annog cefnogaeth gymunedol

Mae Covid-19 wedi dangos ymdeimlad o ysbryd cymunedol a thosturi mewn nifer o bobl, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ac yn cefnogi eraill. Mae hyn yn ymestyn i gefnogi cymheiriaid a gofal diwedd bywyd.

  • Rhwydweithiau i rannu sgiliau, hyfforddiant a chefnogaeth mewn profedigaeth. Mae Greenwich and Bexley Community Hospice yn gweithio gydag eraill i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth ddigidol i grwpiau cymunedol a chyd-gymorth ar ofal diwedd bywyd a phrofedigaeth.
  • Dangos ein bod yn poeni. Mae St Andrew’s Hospice yn gofyn i bobl grosio, gwau neu wnïo parau o 'galonnau'r hosbis' - un i'w hanfon at y claf adref ac un i'w hongian ar goeden calonnau'r hosbis yn eu derbynfa, i'w atgoffa bob dydd.
  • Creu cymuned o gyfoedion. Ym Manceinion Fwyaf, mae tri theulu a gollodd anwyliaid i'r feirws wedi cychwyn grŵp WhatsApp. Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae'r gymuned fechan hon, Crown Together, wedi tyfu i 17 o bobl sy'n cefnogi ei gilydd gyda'u teimladau o golled a dicter. Mae grant bach yn ei helpu i ddysgu a chynnig cefnogaeth i eraill, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a'r sawl ar incwm isel.

Ymagweddau newydd at godi arian

Mae hosbisau'n dibynnu'n fawr ar ddigwyddiadau codi arian sy'n methu â pharhau ar eu ffurf arferol. Mae siopau elusen hefyd wedi gorfod cau. Mae amcangyfrifon o'r colledion hyd yn hyn ar gyfer hosbisau unigol yn amrywio o un i ddwy filiwn o bunnoedd. Bydd ymrwymiad y llywodraeth i ddarparu £200 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hosbisau'n lleddfu ychydig o'r pwysau hwn, ond mae hosbisau'n cymryd camau pellach i lenwi'r bylchau.

  • Apeliadau brys a digwyddiadau ar-lein. Mae Hosbis Dewi Sant, yng Ngwent a De Powys, wedi gorfod cau 38 siop elusen a gohirio nifer o ddigwyddiadau, felly maen nhw wedi troi at gyllido torfol ar-lein. Bu rheolwr clwb pêl-droed Leicester City, Brendan Rodgers, lansio apêl Northern Ireland Hospice gyda chyfres o ddigwyddiadau digidol gan gynnwys gemau, ymarfer corff, crefftau a heriau seiliedig ar fwyd.
  • Heriau addas yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Mae Greenwich & Bexley Community Hospice yn cynnal marathon byr dros y we, gan ofyn i bobl redeg, loncian neu gerdded 2.62 milltir o amgylch eu cartrefi. Ym Manceinion, mae digwyddiadau codi arian ar gyfer St Ann’s Hospice wedi cynnwys ffrydio cyngherddau cerddoriaeth yn fyw a chyfres o nosweithiau bingo dros y we. Mae eraill yn galw ar bobl sy'n gweithio o adref i "roddi eu costau cymudo", gan roddi'r arian maen nhw'n ei arbed ar drafnidiaeth neu adloniant; fel y dyn a roddodd yr arian nad oedd yn ei wario yn y dafarn i'r Wirral Hospice

Yr hyn rydym wedi ei dysgu am brofedigaeth a gofal lliniarol

Arferion da wrth gefnogi profedigaeth

Mae'n debygol y bydd angen mwy o gefnogaeth mewn profedigaeth yn y tymor hwy, yn enwedig gan fod y cymorth mae pobl yn gallu ei gael nawr yn gyfyngedig. Mae profedigaeth yn ffactor risg ar gyfer materion llesiant eraill megis unigrwydd, felly mae angen ymagweddau ataliol arnom sy'n cefnogi pobl cyn i hyn ddigwydd. Dyma'r hyn rydym yn ei wybod am arfer da:

  • Dylai cefnogaeth mewn profedigaeth ganolbwyntio ar y person. Mae pawb yn teimlo galar mewn modd unigryw, felly ni ellir dilyn yr un ymagwedd ar gyfer pob person.
  • Mae angen bod y gefnogaeth ar gael ar bob adeg, gan fod teimladau'n gallu newid yn sydyn iawn ac mae'n bosib y bydd pobl angen cefnogaeth ar unrhyw adeg. Mae Gofal mewn Galar Cruse wedi gweld gostyngiad yn y galw, gyda phobl yn rhoi galar naill ochr wrth iddynt ganolbwyntio ar gadw'n ddiogel. Ond, mae'r galwadau maen nhw'n eu derbyn yn fwy cymhleth. Maen nhw'n newid eu hymagwedd ac yn cynnig ymyriadau mwy cryno, gan flaenoriaethu triniaeth yn ôl angen a brys.
  • Mae help i lywio gwasanaethau a gwybod beth i'w wneud ar ôl marwolaeth anwylyd yn bwysig. Mae angen i'r cyngor fod yn glir, yn addas yn ddiwylliannol ac ar gael mewn gwahanol ieithoedd a fformatau. Mae hyn yn bwysig oherwydd y gyfran anghymesur o farwolaethau ymhlith pobl o gefndiroedd Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).
  • Mae angen cymorth ar bobl a chymunedau i adeiladu gwydnwch. Mae hyn yn golygu darganfod ffyrdd o gysylltu er bod rhaid cadw pellter cymdeithasol ac adnabod sut y gall pobl ofalu am eu hiechyd a lles eu hunain. Mae rhai awgrymiadau syml yn ystod y cyfyngiadau symud hefyd yn gallu helpu pobl sydd mewn galar: cael trefn ddyddiol, cadw mewn cysylltiad ag eraill, gorffwys ac ymarfer corff.
  • Mae'n bwysig gadael i berson mewn galar siarad am eu teimladau ac am y person a fu farw. Mae'n bwysig dangos bod hi'n iawn gofyn am gymorth neu i gyfaddef eich bod yn cael trafferth ymdopi.

Peidiwch ag anghofio am wirfoddolwyr, staff a gofalwyr

Mae angen gofal ar ofalwyr hefyd. Mae'r effaith arnynt yn enfawr ac maen nhw'n aml yn teimlo'n anweledig a heb gefnogaeth. Golyga hyn, ar y cyd â phryderon dros haint, diffyg PPE a llwyth gwaith uwch oherwydd achosion mwy cymhleth, bod rhaid i brosiectau ystyried a mynd i'r afael â llesiant. Bydd staff a gwirfoddolwyr newydd angen hyfforddiant i ddarparu cefnogaeth ar brofedigaeth. Mae Gofal mewn Galar Cruse yn sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant ar raglen sylfaen cyn cychwyn.

Helpu pobl i ddod o hyd i ddulliau newydd o gofio eu hanwyliaid

Mae pobl yn gallu ysgrifennu neu gofnodi negeseuon i'w darllen allan neu eu chwarae mewn angladd neu wasanaeth goffa. Ar gyfer plant ifanc, mae Daisy’s Dream yn awgrymu tynnu llun fel modd o ddweud ffarwel a rhoi negeseuon neu luniau yn yr arch.

Mae eraill yn pennu amser ar gyfer eu gwasanaeth goffa eu hunain - o bosib ar ddiwrnod yr angladd, neu ar amser a ddewisir ar y cyd â'r teulu a ffrindiau. Mae edrych ar luniau, chwarae hoff gerddoriaeth y person, ysgrifennu negeseuon, cynnau canhwyllau neu ddilyn arferion diwylliannol neu grefyddol personol oll yn gallu bod yn ffyrdd o gofio a galaru.

Mae tudalen goffa ar-lein yn gallu bod yn ffordd dda o rannu negeseuon, lluniau ac atgofion.

Gall drefnu digwyddiad yn y dyfodol hefyd fod yn gynorthwyol, gan benderfynu ar amser a lleoliad lle gall pawb ddod ynghyd yn ddiogel. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddigwyddiad coffa, megis plannu coeden.

Meddwl y tu hwnt i'r presennol i ystyried yr effaith hir dymor

Yn ogystal â'r materion brys, mae gofalwyr diwedd oes yn wynebu nifer o gwestiynau am eu dyfodol hir dymor. A fyddant yn gallu codi arian yn yr un modd? A fyddant yn gallu ymateb i'r anghenion tymor canolig a hir dymor a ddaw yn sgil Covid-19? A fydd y partneriaethau sydd wedi cael eu sefydlu'n parhau?

Ystyried sut fydd gwasanaethau'n edrych yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae goblygiadau Covid-19 eto i'w gweld, ond nid ydym yn gwybod y gwir effaith ar brofedigaeth, a'r sawl sy'n gweithio'n agos â phobl ar ddiwedd eu hoes, yn yr hir dymor. Mae angen i ni gychwyn paratoi ar gyfer hyn nawr, yn ogystal ag ymateb i'r argyfwng cyfredol.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r pethau rydym yn gweld ac yn clywed gan ein deiliaid grantiau'n rheolaidd, felly mae'n bosib y bydd yna bethau rydym wedi eu colli, heb sylwi arnynt eto, neu, o bosib, wedi'u camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu heriau er mwyn i ni allu gwella datblygu'n barhaus, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gofynnir i chi anfon unrhyw adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1 Mehefin 2020.