Arian a chyllid

Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd effaith lawn y pandemig ar yr economi ac ar gyllid unigol, ond rydym yn gwybod bod llawer o bobl wedi colli eu swyddi, a bod llawer mwy yr oeddent eisoes yn wynebu anawsterau megis dyled yn dioddef caledi pellach.

Yma rydym yn rhannu sut mae elusennau sy'n darparu cefnogaeth gyda chyllid, dyledion a budd-daliadau'n ymateb i Covid-19 a beth maent yn ei ddysgu; a hwythau'n delio â galw nas gwelwyd o'r blaen a symud i ffyrdd newydd o weithio.

Sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ymateb?

Mae'r galw am gyngor cyffredinol a chefnogaeth benodol i helpu unigolion gyda dyledion a budd-daliadau'n cynyddu. Dywedodd Igniting Lives North East CIC yn Tyne and Wear wrthym, "rydym wedi derbyn ton o ymholiadau gan bobl sy'n pryderu am eu trefniadau ariannol."

Darparu cefnogaeth uniongyrchol ac arian grant i bobl sydd mewn argyfwng

  • Ar draws Gororau'r Alban, mae grŵp o elusennau gorsaf radio lleol y mai eu henw yw Cash for Kids yn gwneud grantiau micro o £34 y plentyn i deuluoedd sy'n profi anhawster.
  • Mae Radio Clyde Cash for Kids yn darparu talebau bwyd ar gyfer teuluoedd sydd mewn argyfwng ar draws Glasgow. Maent yn addasu eu porth Cenhadaeth Nadolig ar-lein i alluogi athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a grwpiau cymunedol i ymgeisio ar ran y teuluoedd y maent yn eu cefnogi.
  • Yng Ngogledd Iwerddon mae'r grŵp On Street Community Youth yn anfon pecynnau adnoddau at deuluoedd yn Derry/Londonderry sy'n cynnwys eitemau bwyd hanfodol ac adnoddau addysgol, yn ogystal â helpu teuluoedd gyda chostau trydan a gwresogi

Cynyddu galluedd i ymateb i lefelau uchel o alw am gyngor a chefnogaeth

  • Rydym wedi ariannu Sahara Advice Centre yn Preston i ehangu o fod yn wasanaeth diwrnodau gwaith i saith niwrnod yr wythnos trwy helpu nhw i dalu am 150 awr ychwanegol o amser gweithwyr cefnogi a chostau ffôn ychwanegol.
  • Mae Manage Money Wales wedi derbyn arian ar gyfer staff ychwanegol i gefnogi eu cleientiaid wrth flaenoriaethu a rheoli dyled, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr holl incwm y mae ganddynt hawl iddo, a chan ostwng eu gwariant a chynyddu ymwybyddiaeth o dwyll.
  • Mae Migrant Workers Community Sefton yn ymateb i'r ymchwydd mawr mewn pobl sy'n ceisio cymorth a chyngor gyda dyledion, budd-daliadau lles a statws preswylio. Maent yn recriwtio staff a gwirfoddolwyr ychwanegol i baratoi cynllunio dyled ac ymgeisio am fudd-daliadau gan fod eu cleientiaid yn aml heb fedru'r Saesneg a gyda lefelau hyder a llythrennedd isel.

Darparu cefnogaeth ddwys barhaus

Yn Yr Alban mae’r Llinell Rhieni, sy'n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, gan gynnwys cyngor ariannol, i rieni a gofalwyr, wedi gweld cynnydd 180% mewn ymholiadau i'w gwefan a chynnydd 150% mewn galwadau i'w llinell gymorth gan deuluoedd. Mae eu hymgynghorwyr yn darparu cefnogaeth un i un dros y ffôn sy'n ymdrin â chyllid, lles a rheoli dyledion. Maent yn helpu teuluoedd i greu cynllun gweithredu wedi'i deilwra i ymdopi ag incwm gostyngol neu ddiweithdra, gan anelu at sefydlogrwydd ariannol.

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu am gefnogi pobl gyda chyllid, dyledion a budd-daliadau

Darparu'r gefnogaeth iawn, ar yr amser iawn

Rydym yn gwybod bod y rhai sy'n llai cefnog yn wynebu costau uwch; mae gan bobl lai o ddewis am sut maent yn talu eu biliau ac yn benthyg arian, ac maent yn aml yn troi at gredyd cost uchel trwy anghenraid.

Trwy'r rhaglen Improving Financial Confidence (IFC) rydym wedi dysgu bod angen cymorth ar bobl i fod yn ymwybodol o'u hopsiynau i ymdrin â dyled, y system budd-daliadau a sut i ddefnyddio'r system honno. Mae dyled drafferthus yn mynd yn gylch sy'n peri i bobl deimlo'n ddiwerth, gyda rhai'n teimlo eu bod wedi colli rheolaeth ar eu bywydau. Gall grwpiau cefnogi ychwanegu gwerth trwy sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u holl opsiynau.

  • Cyflwyno dulliau cefnogi newydd. Mae The Just Finance Foundation wedi cynnal gweminarau i hysbysu pobl yn gyflym am ba opsiynau sydd ganddynt o ran budd-daliadau a ble y gallant gael cymorth pellach, yn ychwanegol at eu hyb cymorth coronafeirws eu hunain.
  • Recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd. Mae Cumbernauld Poverty Action yn defnyddio eu harian i hyfforddi a chyflwyno pedwar ymgynghorydd gwirfoddol newydd a rhoi mwy o oriau i staff presennol. Maent yn rhagweld galw pellach am gefnogaeth a chynrychiolaeth gan bobl sy'n newydd i'r system fudd-daliadau, gan y bydd nifer o'r rhai sydd ar ffyrlo'n cael eu diswyddo ac mae'n debygol y bydd ôl-groniad o hawliadau budd-dal.

Darparu cefnogaeth ddwys wedi'i targedu

Nid yw mynd â chefnogaeth ddwys ar-lein yn syml. Dywed deiliaid grant wrthym am y pwysau y mae hyn yn ei roi ar staff a gwirfoddolwyr. Nid yw cyflwyno o bell yr un peth â bod mewn ystafell gyda chleient, ac mae angen i staff addasu eu ffordd o weithio. Gall technoleg beri trafferth hefyd. Gwelodd Canolfan Gyngor Cheetham Hill ym Manceinion nad oes gan lawer o'u staff, sydd yn aml â phrofiad o broblemau ariannol o lygad y ffynnon, fynediad i'r dechnoleg ofynnol. Felly, mae angen cofio cefnogaeth fugeiliol a thechnegol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr wrth ymateb i'r argyfwng hwn.

Dim ond hyd at bwynt y mae atgyfeirio i wasanaethau'n gweithio, ac mae angen cefnogaeth un i un ar lawer o bobl i ymdrin â'u hanawsterau ariannol. Pan fydd pobl mewn argyfwng, nid yw'n anarferol iddynt anwybyddu biliau a gadael i broblemau ariannol gronni. Mae’r fath broblemau’n aml yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael. Gwelodd prosiectau IFC eu bod yn treulio mwy o amser yn gweithio gyda chyfranogwyr ar sail un i un na'r hyn a ragwelwyd gan fod angen mwy o gefnogaeth ddwys arnynt i symud ymlaen gyda'u trefniadau cyllid personol.

Mewn gwaith blaenorol ar allgau ariannol rydym wedi gweld y gall sgyrsiau wyneb yn wyneb fod yn hollbwysig wrth roi cymhelliad a hyder i gleientiaid ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol. Dwedodd The Sherriff Centre, gwasanaeth cyngor ar ddyled sy'n cefnogi pobl ym Mwrdeistrefi Camden, Brent a Westminster yn Llundain, wrthym bod cleientiaid yn mynd yn rhwystredig gydag atgyfeirio ar-lein a'u bod yn gofyn am gyfarfodydd wyneb yn wyneb, rhywbeth y mae'r sefydliad yn bwriadu eu cynyddu pan godir y cyfyngiadau.

Fodd bynnag, mae deiliaid grant yn profi ac yn addasu sut maent yn mynd ati i ddarparu modelau cefnogaeth ddwys o bell trwy:

  • Gynnig sesiynau ar-lein fel rhan o gefnogaeth ehangach. Mae Melissa UK yn gweithio gyda'r gymuned Iddewig Uniongred yng Ngogledd Llundain ac yn treialu sesiynau anogaeth ariannol un i un byrrach trwy Zoom. Mae hyn yn disodli eu chwe sesiwn wyneb yn wyneb arferol a bydd yn "sicrhau bod ganddynt gynllun ar waith i ddelio â'r hyn a fydd yn ddi-os yn argyfwng sy'n para am fisoedd."
    Cyflwynir yr anogaeth ochr yn ochr â chefnogaeth arall gan gynnwys atgyfeirio dros y ffôn ac ar gyfryngau cymdeithasol, gweminarau ar agweddau gwahanol ar reoli cyllid a chanllawiau fideo gyda golwg ar y dyfodol sy'n ysgogi pobl i fod yn rhagweithiol.

  • Targedu cleientiaid blaenorol a allai fod yn wynebu risg. Mae Manage Money Wales yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf, ardal sydd eisoes â lefel uchel o dlodi, gan ddarparu cefnogaeth gydag arian a budd-daliadau. Wrth gysylltu â chleientiaid blaenorol, gwelsant fod y rhai sy'n profi'r effaith fwyaf negyddol oherwydd yr argyfwng wedi'u heffeithio'n ariannol. Erbyn hyn maent yn cyflwyno cefnogaeth wedi'i theilwra sydd wedi'i chyfeirio gan yr hyn o beth.

Darparu cymorth ariannol o fewn cynnig cefnogaeth ehangach

Mae cyllid a dyled yn bwnc anodd i'w drafod. Disgrifiodd un ymgeisydd sut mae problemau ariannol yn achosi straen a gorbryder a bod pobl "yn teimlo cywilydd wrth gyfaddef i deulu neu ffrindiau beth yw eu sefyllfa, [ar ôl iddynt] ymchwilio i bob un posibilrwydd o ddianc rhag dyled trwy eu hymdrechion eu hunain." Mae'n bwysig darparu amgylchedd diogel, lle gall pobl drafod arian heb gael eu barnu.

Yn aml bydd pobl sy'n profi argyfyngau ariannol yn ymdrin ag ystod o broblemau. Ac oherwydd bod pobl yn aml yn gohirio delio â'u trefniadau ariannol, mae cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r cymorth yn bwysig. Gall cynnig cefnogaeth gydag arian a budd-daliadau fel rhan o gynnig ehangach gael effaith 'normaleiddio', gan ei wneud yn haws i ofyn am gymorth. Gall hyn helpu grwpiau i gyrraedd mwy o bobl.

Dyma sut mae tri grŵp yn hybu cefnogaeth gyda chyllid o fewn cynnig ehangach:

  • Daeth Home Start yn Corby â 45 o wirfoddolwyr ynghyd i roi 60 o becynnau gofal at ei gilydd ar gyfer teuluoedd dros y Pasg. Roedd pob un yn cynnwys wyau Pasg, Frisbees a phêl-droed, ynghyd â manylion gwasanaethau lleol all helpu gyda dyledion.
  • Mae Vineyard Compassion yng Ngogledd Iwerddon yn integreiddio eu canolfan ddyled gyda banc bwyd, archfarchnad gymdeithasol a chwnsela, i ddarparu hyb i'r rhai sydd wedi cyrraedd y pwynt argyfwng.
  • Mae'r Llinell Rhieni'n darparu cymorth gyda chyllid ochr yn ochr â chyngor emosiynol ac ymarferol. Mae'r dull siop un alwad hwn yn isafu'r straen y gallai teuluoedd ei ddioddef trwy "gnocio drysau lluosog i gael y gefnogaeth frys y mae arnynt ei hangen." Mae ymdrin ag arian ochr yn ochr ag anghenion emosiynol ac anghenion eraill yn golygu helpu gwella llesiant a sgiliau rheoli arian.

Dileu rhwystrau a chyfarparu pobl gyda sgiliau angenrheidiol

Dwedodd un prosiect Help Through Crisis wrthym nad oes gan 250 o'u 350 o gleientiaid fynediad i'r we. Gall hyn greu heriau gwirioneddol, er enghraifft wrth hawlio budd-daliadau sydd bellach yn cael ei wneud ar-lein.

  • Gwella mynediad a sgiliau digidol. Mae Igniting Lives North East CIC wedi sefydlu prosiect newydd wrth ymateb i Covid-19 o'r enw Keeping Hebburn Connected. Maent yn rhedeg cyrsiau sgiliau digidol ac yn darparu cefnogaeth wrth ddefnyddio'r we, ochr yn ochr â chyngor ar ymdrin â dyledion a rheoli cyllid yr aelwyd.
    Mae Group Recovery Aftercare Community Enterprise (GRACE) yn Yr Alban yn cefnogi pobl sy'n profi problemau cymhleth megis camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, diweithdra a dyled. Nid oes gan y mwyafrif o'u cleientiaid fynediad i dechnoleg, felly maent yn darparu ffonau, gliniaduron a llechi yn ogystal â hyfforddiant ar sut i'w defnyddio.
  • Goresgyn rhwystrau iaith. Mae pobl heb Saesneg neu gydag ychydig iawn o ddealltwriaeth ohoni'n wynebu rhwystrau ychwanegol i gyrchu cefnogaeth. Mae Race Equality First yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn targedu gweithwyr o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) mewn swyddi sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng, megis gyrwyr tacsi a pherchnogion bwytai, gyda chyngor ac arweiniad mewn ieithoedd cymunedol.
    Mae Canolfan Gyngor Cheetham Hill ym Manceinion eisoes yn darparu cyngor mewn 10 iaith ond maent wedi trefnu gwasanaethau cyfieithu i ateb y galw ychwanegol.
    Mae Migrant Workers Community Sefton yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o wyth gwlad, gan olygu y gall eu llinell gymorth ymateb i'r rhan fwyaf o gleientiaid yn eu hiaith gyntaf.
  • Ymdrin ag arian parod. I rai pobl hŷn, neu'r rhai nad oes ganddynt gyfrif banc (neu drefniad cyfatebol), mae'r cyfyngiadau'n golygu trafferth wrth gael gafael ar arian parod. Mae Ambition for Ageing ym Manceinion wedi coladu gwybodaeth am amrywiaeth o ddewisiadau heblaw arian parod ar gyfer pobl hŷn sy'n profi unigedd. Mae rhai eraill yn hybu trafodion heb arian parod neu'n diheintio darnau a phapurau arian.

Camau nesaf

Next steps: working differently

Wrth edrych y tu hwnt i'r argyfwng, mae'n bwysig hybu ymwybyddiaeth ariannol a darparu'r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i reoli eu harian. Nododd Manage Money Wales fod y "gallu i fod yn gydnerth yn ariannol" yn un o dri angen pennaf cleientiaid mewn arolwg diweddar ar gyfryngau cymdeithasol.

Wrth i ni symud trwy'r sefyllfa hon, bydd yr amrywiaeth o fesurau cefnogi a gyfyngir gan amser yn dod i ben, a bydd sefyllfaoedd pobl yn newid. Bydd angen i elusennau weithio mewn ffyrdd gwahanol i gyrraedd y rhai sydd mewn angen mwyaf yn effeithiol. Felly sut gallan nhw fod yn rhagweithiol y tu hwnt i reoli argyfyngau?

Siarad am gyllid adref

Gallai fod angen cymorth ar bobl i ddod i ben â'u sefyllfa newydd a gall balchder fod yn rhwystr i ofyn am gymorth. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n ceisio cymorth am y tro cyntaf. Gall trafod materion ariannol adeiladu ymwybyddiaeth a sgiliau. Mae dysgu o waith yng Nghymru ar ymwybyddiaeth ariannol ymysg teuluoedd - Siarad, Dysgu, Gwneud - wedi amlygu pwysigrwydd siarad am gyllid gyda phlant o oedran cynnar. Yn ogystal â'u paratoi nhw'n well ar gyfer y dyfodol, mae hefyd yn gwella galluedd ariannol y rhieni.

Fframio cefnogaeth fel rhywbeth positif

Gall defnyddio iaith hygyrch a phositif helpu fframio cefnogaeth ariannol mewn ffordd sy'n denu pobl. Gwelodd y prosiect IFC yn Hull fod “dysgu, addysgu a chyllidebu yn digalonni pobl. Erbyn hyn rydym yn marchnata trwy ymagwedd seiliedig ar hawliau ac yn hybu 'arbed arian'. Mae'r rhain yn fwy positif na 'helpu chi i gyllidebu neu ddod i ben', sydd â goblygiadau negyddol."

Nododd Ignite, partneriaeth yn Coventry sy'n gweithio i wella gwasanaethau plant a thai fod tôn a chymhlethdod yr iaith a ddefnyddir wrth gyfathrebu â'u cleientiaid yn gwneud gwir wahaniaeth i'r ffordd y maent yn ymwneud â'r gwasanaeth. Roedd trefnu cyfarfod gyda thenantiaid i drafod unrhyw broblemau'n fwy effeithiol na gyrru llythyr ffurfiol neu fygythiol.

Rhoi rheolaeth i bobl i ailadeiladu eu bywydau

Mae West Yorkshire Fulfilling Lives (Wy-Fi), yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed. Maent wedi gweld bod rhoi sgiliau ariannol i bobl i reoli eu bywydau'n gwneud gwahaniaeth mawr wrth iddynt ymadfer. Yn ei dro, gall pobl sydd â phrofiad o anawsterau ariannol helpu eraill; rydym yn gwybod pa mor bwerus y gall profiad o lygad y ffynnon fod wrth gyrraedd a chefnogi pobl sy'n agored i niwed.

Cafodd Money Savvy Southwark lwyddiant wrth hyfforddi 70 o aelodau'r gymuned, llawer ohonynt â phrofiad o lygad y ffynnon, fel mentoriaid cymheiriaid a llysgenhadon i hybu ymwybyddiaeth ac atgyfeirio pobl i gymorth. “Yn y pen draw, maent wedi'n helpu cyrraedd pobl na fyddent wedi ymwneud â'r prosiect fel arall." meddai un aelod staff.

Gweithio ar draws sectorau gwahanol

Gall gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid helpu cyrraedd a chefnogi ystod ehangach o bobl. Bu i rai prosiectau IFC a redir gan gymdeithasau tai hyfforddi gweithwyr rheng flaen i adnabod ac atgyfeirio pobl sy'n agored i niwed. Hyfforddodd Money Savvy Southwark 1,245 o staff rheng flaen, gan beri iddynt deimlo y gallant gefnogi pobl mewn angen yn well. Dwedodd un ohonynt, Rwy'n teimlo y bydd modd i mi gyfleu'r wybodaeth hon i bobl yn y gymuned a fydd yn elwa'n fawr ohoni[…] Fe fydd yn dda i fy rôl gan fy mod yn gweithio gyda thrigolion, felly byddaf yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth iddynt.”

Mae Macmillan yn cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser, gan gynnwys helpu gyda'r effaith o ran arian a lles. Maent wedi ymchwilio i'r cymorth y mae ei angen ar bobl wrth ymdopi ag incwm gostyngol oherwydd salwch ac wedi galw ar y sectorau bancio a chyllid i gynyddu ymwybyddiaeth eu staff o sut i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser trwy weithredu polisïau mewn ffordd hyblyg. Bydd y dysgu hwn yn berthnasol a bydd modd ei addasu wrth i ni ddod trwy'r argyfwng Covid-19.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r hyn rydym yn ei weld ac yn ei glywed gan ein budd-ddeiliaid ar garlam, felly fe fydd pethau yr ydym wedi'u colli, heb sylwi arnynt eto neu efallai, eu camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu her, fel y gallwn barhau i wella a datblygu, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gyrrwch adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn i knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 12 Mai 2020.