Isadeiledd cymunedol

Mae'r pandemig Covid-19 wedi dod â phobl a sefydliadau ynghyd mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Rydym wedi gweld grwpiau cefnogaeth gymunedol newydd, tonnau o wirfoddolwyr newydd, cydweithio rhwng y sector preifat ac elusennau a'r sector cyhoeddus gan gydlynu a chysylltu gweithredu lleol.

Gyda'r holl weithgarwch newydd yma, mae cydlynu a chydweithio'n hanfodol i osgoi gorgyffwrdd, dyblygu a'r risg y bydd pobl yn cwympo trwy'r bylchau. Diben y dudalen hon yw cydgrynhoi'r hyn y mae deiliaid grant a'r sector ehangach yn ei wneud i gydlynu ymatebion i'r argyfwng, a dadansoddi'r hyn y gallai hyn ei olygu ar gyfer y dyfodol.

Sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ymateb?

Cefnogi'r SGCh ar lefel genedlaethol

Ar draws y Deyrnas Unedig mae cyrff mantell cenedlaethol y trydydd sector Y Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cenedlaethol (NCVO), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon (NICVA), Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol Yr Alban (SCVO), a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i gyd wedi darparu gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol ar eu gwefannau.

Maent yn cefnogi aelodau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ymchwilio i'w pryderon ariannol ac anghenion o ran cefnogaeth; ac annog elusennau i gofrestru ar byrth cenedlaethol, fel ei fod yn haws i bobl ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt. Rhoddodd WCVA gymorth i 30 o sefydliadau gwirfoddol i ddod o hyd i gyfarpar diogelu personol (PPE) trwy gadwynau cyflenwi Llywodraeth Cymru.

Cydlynu ymatebion lleol

Mae defnyddio isadeiledd a rhwydweithiau lleol sydd eisoes yn bodoli i adnabod a chefnogi'r rhai sydd mewn angen mwyaf yn fwy effeithiol na sefydlu mecanweithiau newydd sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae'r cyrff isadeiledd lleol fel y Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol (CGG) yn chwarae rôl bwysig wrth gydlynu cefnogaeth yn ystod yr argyfwng. Mae llawer ohonynt wedi arwain ar recriwtio a rheoli'r niferoedd enfawr o wirfoddolwyr newydd. Maent hefyd yn helpu sefydliadau newydd gyda chyngor, arbenigedd a chefnogaeth ymarferol.

  • Defnyddio gwybodaeth leol i gydlynu a chyfeirio cymorth i ble y mae ei angen. Yn Nwyrain Llundain mae William Morris Big Local wedi helpu hyfforddi a chefnogi aelodau newydd grwpiau cymorth cydfuddiannol a chydlynu gweithgareddau er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn y lleoedd sydd angen eu cymorth fwyaf.
    Mae ​​​​​​​One Walsall yn cydweithio â phartneriaid i greu rhwydwaith cefnogi ym mhob un o bedwar lleoliad y dref. Mae eu gwefan yn rhoi manylion yr hyn sydd ar gael, gan gyfeirio trigolion at gefnogaeth berthnasol.
    Mae Newark and Sherwood CVS wedi creu gwybodaeth a chefnogaeth ar-lein hefyd, gan gynnwys arweiniad arfer da ar recriwtio gwirfoddolwyr newydd. Maent wedi coladu gwybodaeth am grwpiau a gwasanaethau lleol hefyd, gan gynnwys cyfeiriadur o siopau sy'n cludo nwyddau i'r cartref, ac maent wedi cefnogi grwpiau newydd, fel Cynghorau Plwyf, i sefydlu gwasanaethau.
  • Cefnogi grwpiau newydd trwy hyfforddiant a rhannu galluedd. Mae Voluntary Action Leeds (VAL) wedi dod ynghyd â'r grŵp newydd Your Scholes ac yn gweithredu gwiriadau DBS ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr ar eu rhan.

Annog a grymuso ymatebion a arweinir gan gymunedau

Cydweithio ar draws sectorau

Rydym yn gweld enghreifftiau niferus o sefydliadau sy'n dod ynghyd ar draws sectorau, ac mewn partneriaethau newydd, i ddarparu ymateb cydlynol i'r argyfwng.

  • Cydweithio â'r sector cyhoeddus. ​​​​​​​Yn Stoke-on-Trent, mae VAST yn cefnogi'r SGCh lleol ac wedi creu partneriaeth â'r awdurdod lleol ac elusennau eraill ar wefan i gydlynu gwirfoddolwyr newydd, sydd wedi camu i'r adwy yn eu cannoedd.
    Mae Community Action Derby yn cydweithio'n agos â Chyngor y Ddinas, y darparwyr GIG a thai lleol yn ogystal ag eraill, gan gynnwys y grŵp cymorth Covid-19 cydfuddiannol. Maent yn cydlynu ymateb y gwirfoddolwyr lleol ac wedi sefydlu llinell gymorth.
  • Busnesau sydd o fudd i'r gymuned. Gall cydweithio â busnesau lleol fod yn ffordd o harneisio adnoddau ac isadeiledd i gefnogi'r economi a chymuned leol. Yng Nghaerdydd, mae Eglwys Glenwood yn darparu clybiau cymdeithasol a gweithgareddau. Yn ystod yr argyfwng, maent wedi ymuno â siop goffi annibynnol leol, Little Man, i ddarparu prydau ar gyfer gweithwyr allweddol ac aelodau bregus o'u cymuned. Maent yn cydweithio â staff ysgol uwchradd leol hefyd i gefnogi banc bwyd Caerdydd, y buasai'n rhaid iddo gyfyngu ar ei oriau agor fel arall oherwydd gostyngiad yn y nifer arferol o wirfoddolwyr o ganlyniad i hunanynysu.
    Yng Nghaeredin, mae People Know How wedi cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid preifat a phartneriaid eraill i ddarparu cyfrifiaduron a chysylltiadau rhyngrwyd i bobl y mae arnynt eu hangen. Rhoddodd Prifysgol Caeredin a Change Recruitment Group gyfanswm o 91 o gyfrifiaduron a gludwyd i People Know How gan Venture Scotland. Darparodd Edinburgh Palette, lleoliad lleol, ofod i'w hatgyweirio nhw. Erbyn 28 Ebrill, rhoddwyd cyfrifiaduron i 32 o bobl, gyda 28 pellach ar y gweill.
  • Arianwyr sy'n cronni adnoddau. Mae arianwyr yn awyddus i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio hefyd – mae gan dri chwarter ddiddordeb mewn cronni adnoddau, neu ddod â'u prosesau ynghyd.
    Yng Ngogledd Iwerddon, rydym wedi cydweithio â Belfast Charitable Society, Halifax Foundation for Northern Ireland, Ulster Community Investment Trust Ltd a Phrifysgol Ulster i ddarparu gliniaduron i bobl ifanc y mae arnynt eu hangen fel y gallant astudio gartref.
    Mae Alliance of London Funders wedi dod â 250 o arianwyr ynghyd, gan ddangos eu hymrwymiad i hyblygrwydd a chynnal ymrwymiadau ariannol presennol. ​​​​​​​

Coladu data a thystiolaeth

Gall gwybodaeth a data cywir helpu sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd ei angen.

  • Mae New Philanthropy Capital (NPC) wedi creu set ddata o ddangosyddion sy'n dangos y lleoedd yr effeithir arnynt fwyaf gan Covid-19 ar hyn o bryd, a'r rhai sydd â ffactorau isorweddol a all olygu eu bod yn wynebu mwy o risg. Mae'n cynnwys data ar ddwysedd elusennau, sy'n datgelu bylchau mewn galluedd lleol, hefyd. Maent yn gwahodd eraill i estyn y set ddata hon, gan gynnwys archwilio data am alw gan elusennau.
  • Mae'r Groes Goch yn datblygu mynegai bregusrwydd Covid-19, i gyfeirio darparu cefnogaeth er mwyn iddi gyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen.
  • Mae Black Thrive, partneriaeth ar draws sectorau sy'n gweithio i ostwng y diffyg cydraddoldeb ac anghyfiawnder y mae pobl dduon yn eu profi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn cydweithio â sefydliadau eraill yn ne Llundain i ateb galw'r Llywodraeth am dystiolaeth o sut mae Covid-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl groenliw.

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu am gydweithio a chydlynu'n lleol

Cydweithio dros nodau a rennir

Mae Covid-19 wedi cael effaith ddinistriol ar gymunedau ar draws y Deyrnas Unedig. Ar yr un pryd, mae wedi rhoi hwb i lawer o bobl a sefydliadau weithio ar y cyd, a hynny am y tro cyntaf yn aml. Rydym wedi gweld sefydliadau'n rhoi eu cenhadaeth yn gyntaf a llacio eu gafael ar yr awenau. Rydym yn galw hyn yn ‘arweinyddiaeth hael’ ac wedi gweld cynnydd yn nifer y sefydliadau sy'n gweithio fel hyn.

  • Mae Firs and Bromford Neighbours Together yn sefydliad cymunedol Big Local yn Birmingham. Maent wedi cydweithio â thri sefydliad arall i greu rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws yr ystâd ac wedi gweld cynnydd yn nifer y gwirfoddolwyr yn eu hardal ers sefydlu eu llinell gymorth.
  • Mae Croeso i'n Coedwig wedi cydweithio'n agos â phartneriaid gwasanaeth ieuenctid cymunedol yn y Rhondda, gan gynnwys cynghorwyr lleol a Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol yr Heddlu (PCSO). Mae gan y grŵp dri o unigolion a enwir y gellir cysylltu â nhw os bydd angen cefnogaeth frys ar aelod o'r gymuned.
    Maent wedi cydweithio â busnesau lleol sydd â bwyd dros ben i'w ddosbarthu trwy'r banc bwyd lleol, ac wedi annog sefydliadau eraill i ddefnyddio eu hadeilad fel y bo angen. Maent yn cydweithio ag eraill i adnabod pobl nad oes ganddynt ffonau ac yn prynu ffonau i'w rhoi benthyg, y gallant gael eu dychwelyd a'u defnyddio gan y bartneriaeth wedyn ar ôl y pandemig.
  • Mae tri hosbis yn Birmingham a Solihull (St Mary’s Hospice, John Taylor Hospice a Marie Curie West Midlands) wedi ffurfio partneriaeth a chreu llinell gymorth newydd. Mae Hospices of Birmingham and Solihull (HOBS) wedi'i staffio gan dîm o nyrsys arbenigol sy'n darparu cyngor arbenigol i bobl leol a'u teuluoedd. Gallant drefnu cyngor, cefnogaeth gymunedol neu dderbyn i un o'r tri hosbis.
  • Yn Llundain, mae'r elusennau ailddosbarthu bwyd FareShare, City Harvest a Felix Project wedi ffurfio London Food Alliance i ddarparu ymateb â thargedau penodol, gyda phob elusen yn arwain mewn bwrdeistref Llundain ddynodedig.

Adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda

Mae bod yn ymwybodol o arbenigedd ac adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau'n helpu osgoi dyblygu a gorgyffwrdd. Mae grwpiau, sefydliadau a rhwydweithiau SGCh sydd eisoes yn bodoli yn gwybod llawer am eu cymunedau, ac mae sefydliadau llawr gwlad bach yn llawer mwy tebygol o wybod a chael eu hymddiried gan gymunedau lleiafrifol nag elusennau mawr neu gyffredinol.

Mae angen i ni fod yn agored i ddulliau gweithio newydd, gan gydnabod bod angen ymagweddau a datrysiadau newydd yn yr oes ddigynsail sydd ohoni. Mae hyn yn debygol o fod yn arbennig o bwysig i alluoedd a chysylltiadau digidol.

Rydym yn annog deiliaid grant i barhau i gyd-gynhyrchu gweithgareddau a gwasanaethau gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi. Mae Big Local yn cynnal sesiynau galw heibio ar-lein sy'n galluogi trigolion lleol i ddod ynghyd i siarad am y sefyllfa bresennol a darganfod beth mae pobl eraill yn ei wneud wrth ymateb iddi.

Mae HeadStart Kent yn parhau â'i grwpiau cyd-gynhyrchu ac ennyn diddordeb pobl ifanc, gan ddefnyddio offer rhithwir i gynnal cysylltiad cyfranogwyr â'r rhaglen. Cymerodd dipyn o amser i sicrhau llenwi a dychwelyd y ffurflenni cydsyniad newydd, ond bydd hyn yn sicrhau bod y grŵp yn parhau i weithio'n rhithwir a wyneb wrth wyneb pan ddaw y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol i ben.

Edrych tuag at y dyfodol

Rydym yn credu mai'r bobl yw'r rhai sy'n deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau'n well na neb, felly rydym yn croesawu'r ymfyddino llawr gwlad enfawr. Gall fod modd i sefydliadau SGCh ddysgu o'r grwpiau goruwch-leol hyn am ymgysylltu â phobl yn gyflym ac yn uniongyrchol. Efallai y byddant yn mynd yn bartneriaid yn y dyfodol, gan helpu ehangu ymgyrhaeddiad elusennau sydd eisoes yn bodoli.

Er y gall grwpiau llawr gwlad fod yn gyflym ac yn hyblyg, mae'n bosib nad oes ganddynt yr wybodaeth na'r isadeiledd i sicrhau diogelwch eu gwirfoddolwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi. Bydd angen cefnogaeth ar ymatebion a arweinir gan gymunedau i lwyddo yn y tymor canolig i hir, gan gynnwys cyngor, gwybodaeth a mynediad i hyfforddiant a gwybodaeth arbenigol.

Mae llawer o CGG wedi ysgwyddo cyfrifoldeb dros gydlynu ac adeiladu galluedd yn lleol, ond rydym yn gwybod nad oes gan bob ardal yr isadeiledd hwn, ac y gall amrywio o ran cwmpas a graddfa. Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o grwpiau isadeiledd lleol yn profi anawsterau oherwydd gostyngiad mewn incwm.

Mae partneriaethau a rhwydweithiau lleol cadarn yn gryfder allweddol wrth gefnogi cymunedau trwy'r argyfwng hwn. Lle bu perthnasoedd a chysylltiadau'n bodoli eisoes, mae wedi bod yn haws cydlynu cefnogaeth wrth ymateb i'r argyfwng.

Yn Yardley, Birmingham, mae rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli o fudd-ddeiliaid SGCh a gwasanaethau statudol yn cynnal cysylltiadau i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen mwyaf yn derbyn cefnogaeth, a'u bod yn cefnogi gweithgareddau ei gilydd mewn ffordd ddiogel pan fydd hynny'n bosib. Mae HeadStart partnerships wedi gweld y gallant adeiladu ar y perthnasoedd o ymddiriedaeth yr oeddent eisoes wedi'u sefydlu'n lleol, i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Os gall sefydliadau a grwpiau barhau i gydnabod ac adeiladu ar gryfderau ei gilydd, cynnal deialog, dysgu gan ei gilydd a chysylltu â'i gilydd gorau y gallant, gallai'r cyfnod hwn fynd yn gyfle i greu etifeddiaeth barhaus o gydlynu gwaith er budd cymunedau.

Yr hyn y bydd angen i ni ei ystyried nesaf yw sut y gall y pethau positif sydd wedi dod allan or argyfwng hwn - ymdeimlad cynyddol o ysbryd cymunedol, ac awydd i gydweithio dros fuddion a rennir - barhau yn y dyfodol, a hynny yn yr ymateb tymor canolig i'r argyfwng a'r ymagwedd tymor hir at y sefyllfa wedyn.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r hyn rydym yn ei weld ac yn ei glywed gan ein budd-ddeiliaid ar garlam, felly fe fydd pethau yr ydym wedi'u colli, heb sylwi arnynt eto neu efallai, eu camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu her, fel y gallwn barhau i wella a datblygu, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gyrrwch adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn i knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 04 Mai 2020.