Cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)

Intercultural Youth Scotland

Mae Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Mae pobl o dreftadaeth BAME yn fwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol neu wneud rolau ar gyfer y cyhoedd yn y GIG, gofal cymdeithasol, masnach a thrafnidiaeth, ac maen nhw wedi'u gor-gynrychioli yn yr economi gig â thâl isel.

Bu'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys (ICNARC) ddarganfod bod 34% o gleifion y coronafeirws sy'n ddifrifol wael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dod o gefndiroedd BAME - er eu bod yn cynrychioli ond 14% o boblogaeth y DU. A bu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddarganfod bod pobl o gefndiroedd Duon, Bangladeshaidd, Pacistanaidd, Indiaidd ac ethnigrwydd cymysg â risg sylweddol uwch o farwolaeth o Covid-19 na'r sawl o ethnigrwydd gwyn.

Mae Public Health England wedi cyhoeddi adolygiad ffurfiol ar sut mae ffactorau megis ethnigrwydd, rhyw a gordewdra yn effeithio ar ganlyniadau iechyd pobl o Covid-19.

Sut mae'r gymuned a'r sector gwirfoddol yn ymateb?

Mae'r sefydliadau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rydym wedi'u hariannu yn ymateb i'r argyfwng ac yn cefnogi ac yn eirioli dros eu cymunedau mewn amrediad o ffyrdd - o gofnodi effaith y pandemig i ddarparu cyflenwadau brys a chefnogi iechyd meddwl a lles pobl. Maen nhw hefyd yn edrych at y dyfodol - gan adnabod a rhannu ffyrdd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn yr hir dymor.

Bodloni anghenion brys

Ar draws y DU, mae elusennau a grwpiau cymunedol yn cael cyflenwadau brys o fwyd, presgripsiynau ac eitemau hanfodol i'r sawl mewn angen. Mae grwpiau BAME yn llenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth gyffredinol, gan adnabod anghenion penodol eu cymunedau. Mae mosgiau, temlau a grwpiau ffydd yn chwarae rôl flaenllaw, megis yng Nghaerdydd, lle mae Canolfan Ddiwylliant ac Addysg Al-Ikhlas yn darparu prydau Iftar poeth, am ddim yn ystod Ramadan.

Cael gwared â rhwystrau, cyfeirio a chysylltu

Mae deiliaid grantiau'n sicrhau bod cyngor hanfodol yn cyrraedd pawb sydd ei angen: gan gyfieithu adnoddau i wahanol ieithoedd neu eu trosi i wahanol fformatau, a gan gynnig argymhellion a addaswyd ar gyfer anghenion gwahanol gymunedau.

  • Gwybodaeth am hawliau. Mae Black Thrive, partneriaeth iechyd meddwl ym Mwrdeistref Lambeth yn Llundain, yn helpu pobl i ddeall eu hawliau trwy sesiynau galw heibio cymunedol, a gynhelir ar Zoom ar hyn o bryd, sydd wedi cynnwys trafodaethau am gladdu'r meirw. Maen nhw hefyd wedi rhannu gwybodaeth ar hawliau iechyd, gan gynnwys dymuniadau gofal a ffurflenni "Na cheisier dadebru".
  • Cyngor yn yr iaith gywir gyda negeseuon wedi'u teilwra. Mae deiliaid grantiau'n rhannu cyngor mewn amrediad o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd ei Ddeall. Maen nhw'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio at adnoddau, megis cyngor penodol ar gyfer menywod beichiog, grwpiau cymunedol a phobl trawsryweddol croendywyll. Mae eraill yn anfon taflenni mewn ieithoedd cymunedol, gan gydnabod na fod pawb yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
    Mae Meri Yaadain yn cefnogi pobl o gefndiroedd BAME sy'n byw gyda dementia. Maen nhw wedi creu taflenni gwybodaeth ac adnoddau gyda'r Gymdeithas Alzheimer a BME Health and Wellbeing, sy'n cynnig gwybodaeth benodol ar gyfer sefydliadau, gofalwyr a theuluoedd, gan gynnwys awgrymiadau a strategaethau i ymdopi gyda'r cyfyngiadau symud - yn Saesneg a Bangla.
  • Helpu cymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr i gadw'n ddiogel. Mae Friends, Families and Travellers yn rhannu cyngor ar y feirws, gan gynnwys sut i gadw'n ddiogel a hunanynysu ar safleoedd teithio, troi allan a glanweithdra.

Gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cadw diwylliant mewn cof

Mae pobl o rai cymunedau BAME yn wynebu nifer anghymesur o achosion cyflyrau iechyd meddwl a rhwystrau at driniaeth. Mae deiliaid grantiau'n darparu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn ynghyd â heriau ychwanegol ac yn hyrwyddo llesiant.

  • Cefnogi cleientiaid cyfredol ar-lein. Yn Birmingham, mae KikIt yn gweithio gyda'r sawl sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Yn ogystal â chefnogi cleientiaid dros y ffôn, mae wedi lansio platfform ar-lein, gan gynnwys weminarau ar gyfer pobl fregus sy'n gwella. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar adferiad ac ymprydio yn ystod Ramadan. Mae Sharing Voices Bradford, yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl ac mae mynd â'i sesiynau cwnsela ar-lein a hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant i therapyddion eraill ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn perthynas â phrofedigaeth, cefnogaeth galar a chwnsela.
  • Rhannu cyngor a gweithgareddau lles Yn Glasgow, mae Prosiect Iechyd a Lles Hwupenyu, ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV, yn rhannu gemau a heriau i helpu defnyddwyr eu gwasanaeth i gadw mewn cysylltiad. Yn Leeds, mae'r Shantona Women’s and Family Centre yn rhannu deunyddiau a grëwyd ar y cyd â defnyddwyr, gan gynnwys ymarferion Tai Chi hawdd a chyfres “Cooking with Zaynah” ar YouTube lle mae Zaynah a'i mam yn annog teuloedd eraill i goginio ryseitiau iachus, addasadwy ac i gael hwyl gyda'i gilydd.
  • Creu mannau ar gyfer cyd-gefnogaeth. Gan symud ar-lein, mae elusennau a grwpiau cymunedol yn cynnal sesiynau a grwpiau cymunedol galw heibio ar-lein lle gall pobl rannu straeon, pryderon ac awgrymiadau ar ymdopi â'r cyfyngiadau symud. Mae'r rhain yn cynnwys tudalennau preifat ar Facebook neu grwpiau penodol ar WhatsApp, er mwyn annog pobl i greu cysylltiadau trwy ddiddordebau a phryderon a rennir.

Cefnogaeth ymarferol er mwyn i bobl beidio â bod dan anfantais ariannol

Rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau symud wedi cael effaith ariannol anghymesur ar gymunedau BAME, a allai hefyd fod yn wynebu rhwystrau at gael cefnogaeth. Mae deiliaid grantiau'n darparu cymorth ymarferol gyda'r canlynol:

  • Cael mynediad at gefnogaeth y mae gan bobl yr hawl iddi. Yn Lisburn, Gogledd Iwerddon, mae gwasanaeth BAME hyb perthnasoedd cymunedol The Welcome House yn helpu cleientiaid gael mynediad at gefnogaeth llesiant ac yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill. Mae Race Equality First, eiriolwr cydraddoldeb yn Ne Cymru, yn cefnogi pobl hunangyflogedig megis gyrwyr tacsi a pherchnogion bwytai prydau parod i gael mynediad at gefnogaeth y llywodraeth. Mae nifer wedi colli enillion ac mae'n bosib eu bod yn cefnogi dwy i dair cenhedlaeth o'u teulu.
  • Cefnogaeth i gwblhau gwaith papur. Mae Migrant Workers Sefton Community yn cefnogi nifer gynyddol o gleientiaid o grwpiau BAME, gan gynnwys cymunedau Affricanaidd, Arabaidd, Indiaidd, a Tsieineaidd. Mae'r elusen wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth, yn arbennig i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Statws Preswylydd Sefydlog. Mae cleientiaid yn aml angen cefnogaeth gyda Saesneg yn ogystal â chyngor ar wneud cais.
  • Sicrhau bod pobl yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae Cymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd wedi dosbarthu taflenni yn Arabeg gyda gwybodaeth am Covid-19 a chyfeiriadau at wasanaethau gan gynnwys prydau ysgol am ddim, y mae gan rhai aelodau o'r gymuned hawl iddynt, ond o bosib nad ydynt yn gwybod sut i'w hawlio.

Yr hyn rydym wedi ei dysgu am gefnogi cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae Covid-19 wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau presennol ar draws ein cymdeithas. Mae deiliaid grantiau'n mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol hyn, yn ogystal â gofynion uniongyrchol yr argyfwng. Yn y ddau, mae yna angen brys i sicrhau bod pobl a chymunedau'n arwain, gan gydnabod mai nhw sy'n gwybod orau y pethau sydd eu hangen. Rydym wedi clywed am y gwersi allweddol a ganlyn i helpu sicrhau bod pob un ohonom yn dysgu o'r pandemig.

Gwerthfawrogi a chefnogi profiadau o lygad y ffynnon a gwahanol leisiau

Ar draws ein gwaith, rydym yn gweld bod pobl gyda phrofiadau o lygad y ffynnon, ymagweddau seiliedig ar gryfderau a chyd-gynhyrchu yn hanfodol er mwyn llwyddo. Mae mudiadau bach llawr gwlad a dan arweiniad BAME yn gallu cynnig llais a ymddiriedir ynddo, yn arbennig yn ystod argyfwng, ac mae'n bosib maen nhw sydd yn y sefyllfa orau i fodloni anghenion y gymuned. Maen nhw'n fwy tebygol o adnabod cymunedau lleiafrifol, ac o gael eu hymddiriedaeth, nag elusennau mwy neu gyffredinol heb unrhyw hanes o weithio gyda'r gymuned.

Roedd y dysgu o Ageing Better yn dangos, lle nad oedd mudiadau wedi cynnig cefnogaeth benodol i gymunedau BAME yn y gorffennol, neu le'r oedd cefnogaeth flaenorol wedi cael ei dynnu'n ôl, bod hyn yn gallu eithrio pobl a chreu rhwystrau. Un ymateb oedd gweithio gyda phobl o gymunedau lleiafrifol i gyd-ddylunio a theilwra cefnogaeth o'r cychwyn, yn hytrach na defnyddio model generig anaddas. Ymateb arall oedd i ddod o hyd i'r partneriaid cywir, mudiadau cymunedol neu froceriaid a ymddiriedir ynddynt, megis arweinwyr diwylliannol a chrefyddol, er mwyn helpu datblygu cysylltiad a hyder.

Bu ein peilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon weithio gyda phobl i ddefnyddio eu profiad personol i greu newid cadarnhaol ar gyfer, a gyda, cymunedau a phobl sydd â'r profiadau hynny yn gyffredin. Bu'r peilot ddarganfod bod profiadau o lygad y ffynnon a'r rhai a ddysgir yn werthfawr a bod yna berthynas rhwng y ddau fath. Ond, roedd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant, adeiladu tîm, iaith a rennir a bodloni anghenion pob unigolyn. Roedd ymddiriedaeth yn elfen bwysig ac roedd angen ymdrechu i adeiladu hi, trwy ymrwymiad at dryloywder a naws agored yn ogystal â bod yn glir am sut i reoli anghydfodau a chyfathrebu'n effeithiol er mwyn cefnogi newidiadau diwylliannol a mynd i'r afael â phŵer mewn modd dilys.

Mae hefyd yn bwysig nodi bod gan bob cymuned ei gwahanol leisiau a safbwyntiau ei hun, a bod dim un person yn gallu siarad dros bawb. Mae darganfod ffyrdd o glywed amrediad o leisiau ac o gydnabod sut mae oedran, rhywedd, rhyw, hil, anabledd, dosbarth, rhywioldeb a materion eraill yn effeithio yn wahanol ar bobl yn helpu sicrhau ymagwedd addas a chynhwysol.

Edrych y tu hwnt i'r pandemig

Mae gwaith mudiadau bach a llawr gwlad yn aml yn cael ei wneud o dan y radar. Bydd tynnu sylw at brofiadau a chyfraniadau elusennau a grwpiau cymunedol dan arweiniad BAME yn rhan bwysig o waith ailadeiladu ac adferiad dros y misoedd i ddod. Mae cofnodi a rhannu'r cyflawniadau hyn hefyd yn dangos ble a sut y bydd angen cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol.

  • Mae Black Thrive wedi gweithio gyda mudiadau eraill i gasglu tystiolaeth ar gyfer adolygiad Llywodraeth y DU o effaith Covid-19 ar gymunedau BAME. Mae wedi creu arolwg ar-lein, a lansio rhif WhatsApp newydd i'w gwneud yn haws i bobl rannu eu straeon a dangos sut mae'r pandemig yn "effeithio arnom yn wahanol".

Mae deiliaid grantiau hefyd yn gweithio i adeiladu gwydnwch a herio anghydraddoldebau a'u stopio rhag cael eu hymgorffori ar ôl yr argyfwng, yn arbennig yn eu gwaith gyda phobl ifanc.

  • Gan fod ysgolion ar gau, bydd graddau a marciau a roddwyd gan athrawon ar gyfer asesiadau'n cael eu defnyddio ar gyfer disgyblion a fyddai'n sefyll arholiadau yr haf hwn. Gallai hyn ddod â risg o ragfarn ymwybodol neu anymwybodol tuag at fyfyrwyr Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae deiliaid grantiau'n codi ymwybyddiaeth ac yn cefnogi disgyblion a allai gael eu heffeithio gan hyn, gan gryfhau llwybrau at fywyd ar ôl ysgol. Mae gwaith Intercultural Youth Scotland gyda phobl ifanc yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un a gweithdai ar gyfer y sawl sy'n gadael ysgol; mentora gyda modelau rôl BAME; a rhaglen interniaeth ddigidol ym maes dylunio, amlgyfrwng a thechnoleg.
  • Mae Babbasa, sy'n cefnogi pobl ifanc llai breintiedig ym Mryste, yn gweithio i adeiladu eu hymdeimlad o ddiben, i reoli lles meddyliol ac i rannu sgiliau newydd i'w helpu i ffynnu a llwyddo y tu hwnt i'r pandemig. Yn ei ŵyl rhannu sgiliau digidol newydd, mae pobl ifanc yn cysylltu ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
  • Mae You make it, sy'n gweithio i rymuso menywod ifanc, di-waith ac sydd wedi'u tangyflogi yn Hackney, Llundain, wedi lansio rhaglen 12-wythnos newydd ar gyfer menywod 18-30 mlwydd oed sy'n cynnig gweithdai ar-lein, sgyrsiau gwadd, mentora wythnosol, mynediad at hyfforddiant a therapi unwaith y pythefnos.

Helpwch ni i lunio ymateb ariannu teg i'r argyfwng

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac mae hwn ar flaen ein meddyliau wrth i ni wneud penderfyniadau anodd ar y ffordd orau o dargedu adnoddau. Rydym eisiau i'n hariannu i ymateb i Covid-19 fod yn hygyrch i bobl o bob cymuned, gan gynnwys y sawl sy'n gweithio i gefnogi grwpiau sy'n cael profiad o heriau ac anawsterau anghyfartal oherwydd yr argyfwng. Rydym hefyd eisiau sicrhau y defnyddir ein hariannu i leihau anghydraddoldeb a, lle bo'n bosib, i gyfrannu at fyd mwy cyfiawn yn dilyn y feirws.

Rydym yn ymwybodol y bydd angen datrysiadau radical, ac rydym eisiau dysgu oddi wrth, a gyda, ein cymunedau a'n deiliaid grantiau i ddeall sut gallwn chwarae ein rhan.

Rydym yn gofyn am adborth gan fudd-ddeiliaid gydag arbenigrwydd mewn lleihau anghydraddoldebau i'n cadw ar y trywydd iawn ac i'n helpu i ddysgu a gwella'n barhaus.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r pethau rydym yn gweld ac yn clywed gan ein deiliaid grantiau’n rheolaidd, felly mae'n bosib y bydd yna bethau rydym wedi eu colli, heb sylwi arnynt eto, neu, o bosib, wedi'u camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu heriau er mwyn i ni allu gwella datblygu'n barhaus, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gofynnir i chi anfon unrhyw adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn at knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21 Mai 2020.