Ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Micro Rainbow

Bu i'r pandemig orfodi elusennau sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid addasu eu cyflwyniad er mwyn osgoi creu risgiau o'r feirws. Ond nid yw cefnogi pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd yn effeithiol wedi newid i raddau helaeth. Mae'n cymryd cymysgedd o gyngor ymarferol ar sut i ymdrin â gwasanaethau a systemau; cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol; cefnogaeth i fanteisio i'r eithaf ar fywyd newydd yn y DU a chyfleoedd i adeiladu cysylltiadau a chyfeillgarwch. Mae gofodau i wella trawma, straen a gorbryder yn bwysig hefyd.

Yn y trosolwg hwn, rydym yn disgrifio sut mae elusennau wedi cynnal dulliau sy'n uniaethu ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, er gwaetha'r cyfyngiadau ac ansicrwydd a achosir gan Covid-19. Mae'r grwpiau sydd wedi'u crybwyll yma wedi cael eu hariannu trwy'r Gronfa Cefnogaeth Coronafeirws Gymunedol (CCSF), a'r Gronfa Elusennau Covid-19.

Sut mae ein deiliaid grant yn ymateb?

Addasu i'r cyd-destun cyfreithiol newidiol

Mae llawer o rannau o'r broses loches wedi parhau er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, ond mae rhai wedi cael eu hatal neu eu haddasu. Mae'r  Cyngor Ffoaduriaid wedi cofnodi'r newidiadau hyn, sy'n cynnwys oedi i daflu allan o lety lloches a chynnal cyfweliadau trwy fideo-gynadledda. Mae elusennau wedi addasu eu cyngor a'u cefnogaeth yn unol â'r newidiadau hyn.

  • Cyngor a chefnogaeth gyfreithiol barhaus.  Ar unrhyw adeg, mae cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol annibynnol o safon yn hanfodol i helpu pobl i ymdrin â'r system loches, derbyn  cefnogaeth statudol ac osgoi  amddifadrwydd. Mae elusennau wedi parhau i wneud hyn trwy gydol y pandemig trwy eu hymgynghorwyr cyfreithiol achrededig, gan helpu pobl i ddeall y camau y mae angen iddynt eu cymryd ar gyfer eu hawliad lloches.

    Rhoddodd Lewisham Refugee and Migrant Network gefnogaeth i ffoaduriaid ennill achrediad Lefel 1 gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) er mwyn iddynt helpu mwy o bobl. Maent yn gwybod bod pobl, pan fyddant yn derbyn cyngor yn gynnar, yn llai tebygol o wynebu achosion hir. Mae rhai eraill yn cyflogi gweithwyr achos OISC Lefel 2 sydd wedi'u hawdurdodi i drin ceisiadau mwy cymhleth. Sicrhaodd St Augustine’s Centre yn Calderdale arian i gyflogi gweithiwr achos rhan-amser i gefnogi eu 600 o gleientiaid.
  • Cymorth i gyrchu cefnogaeth frys.  Mae'r mwyafrif o bobl sy'n mynd trwy'r broses loches yn derbyn cefnogaeth gan y Swyddfa Gartref ar gyfer treuliau tai a chynhaliaeth sylfaenol. Mae'n bosib bod pobl na fu eu cais cychwynnol am loches yn llwyddiannus yn gymwys i dderbyn cefnogaeth Adran 4 , sy'n gronfa wladol ar gyfer ceiswyr lloches amddifad. ​​​​​​​Oherwydd y cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol a goblygiadau iechyd Covid-19, mae mwy o bobl wedi mynd yn gymwys i dderbyn yr arian brys yma. Mae elusennau fel Govan Community Project yn Glasgow wedi ehangu eu tîm gwaith achos i ymdopi â galw cynyddol gan bobl y mae angen cymorth arnynt gyda'u ceisiadau.
  • Cyngor cyfreithiol fel rhan o becyn cynhwysfawr o gefnogaeth.  Mae statws mewnfudo rhywun yn effeithio ar eu hawliau a hawliadau cyfreithiol, o'r hawl i weithio i gael mynediad i ofal iechyd. Felly mae'r mwyafrif o elusennau'n darparu cyngor cyfreithiol a gwaith achos ochr yn ochr â phecyn cefnogaeth ehangach. Symudodd Haringey Migrant Support Centre eu gwasanaethau mewnfudo, lles a thai personol i ffôn ac e-bost ac maent wedi gweld cynnydd "dramatig" yn y galw. Maent wedi helpu pobl i ddod o hyd i lety diogel a chael mynediad i'r gefnogaeth wladol y mae ganddynt hawl iddi.

Helpu rhoi pobl ar y trywydd iawn ​​​​​​​

Mae canolfannau galw heibio, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyngor yn ffynonellau cefnogaeth a gwybodaeth hanfodol. Maent yn helpu pobl i ymdrin â systemau anghyfarwydd mewn iaith newydd, ac i ddeall eu hawliau a chyfrifoldebau. Er i Covid-19 orfodi llawer i gau eu drysau dros dro, bu iddynt barhau â'u gwaith: cysylltu â phobl yn eu hwythnosau cyntaf ar ôl cyrraedd ac yna helpu nhw i sefydlu eu hunain.

  • Helpu pobl i symud ymlaen o lety'r Swyddfa Gartref. Pan roddir statws ffoadur i rywun, mae ganddynt 28 niwrnod i ddod o hyd i'w llety eu hunain; mae'n amser hollbwysig i elusennau ddarparu arweiniad a chefnogaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig nawr, gan fod ôl-groniad o bobl y rhoddwyd statws ffoadur iddynt nad oedd modd iddynt symud ymlaen o lety dros dro o ganlyniad i'r cyfnod clo. Yng Nghymru, roedd dros 100 o bobl yn y sefyllfa hon yn ystod deufis cyntaf yr argyfwng. Sicrhaodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru arian brys i alluogi tîm o ymgynghorwyr cyfreithiol i gefnogi ffoaduriaid yr oeddent newydd dderbyn eu statws trwy'r cyfnod "symud ymlaen", gyda chyngor ar dai a chymorth ymarferol arall, fel agor cyfrifon banc a dod o hyd i leoedd mewn ysgolion.
  • Helpu pobl a gyrhaeddodd yn ystod y pandemig. Mae  Harbour, elusen leol yn Swindon, wedi cydweithio'n agos â'r darparwr tai lleol i gysylltu â phobl a gyrhaeddodd y ddinas yn ystod yr argyfwng, gan helpu nhw i ddod o hyd i'w ffordd trwy wasanaethau fel cofrestru gyda meddyg teulu.

​​​​​​​Cefnogaeth argyfwng

Bu i rai pobl gyrraedd y pwynt argyfwng. Roedd ceiswyr lloches y gwrthodwyd eu ceisiadau na allent ddychwelyd i'w gwledydd gwreiddiol ac eraill yr oeddent yn brwydro i fforddio pethau yn gorfod dibynnu ar elusennau am barseli bwyd a hanfodion. Ehangodd rhai deiliaid grant yr oeddent eisoes yn darparu'r gwasanaethau hyn eu gwasanaethau i ddelio ag  amddifadedd cynyddol a sydyn.

  • Darparu pecynnau bwyd brys.  Dosbarthodd tîm o dros 40 o wirfoddolwyr yn Micah Liverpool Foodbank tua 300 o barseli bwyd yr wythnos, o'i gymharu â chyfartaledd o 220 yn flaenorol. Rhoddodd All Nations Ministries yng Ngogledd Iwerddon fwyd a thalebau siopa wythnosol i helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc i brynu hanfodion fel fformiwla a chewynnau.
  • Nwyddau a gwasanaethauhanfodol. Mae Congolese Development Project yn Abertawe'n cefnogi pobl oedrannus sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Maent yn helpu gyda siopa, gyrru pobl i apwyntiadau iechyd, a lledaenu ymwybyddiaeth o sgamiau Covid-19.
  • Defnyddio perthnasoedd presennol i adnabod a chefnogi pobl. Mae rhai deiliaid grant yn darparu cefnogaeth frys am y tro cyntaf. Cysylltodd Bikes For Refugees in Scotland, sy'n atgyweirio ac yn dosbarthu beiciau, â phobl y maent wedi'u cyflenwi'n flaenorol i wirio arnynt a darparu bwyd a hanfodion lle bo angen.

Therapi, llesiant ac iechyd meddyliol

Mae elusennau'n pryderu bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn arbennig o agored i effeithiau iechyd meddwl posib y pandemig. Gall profiadau fel trawma a'r daith i'r DU sydd yn aml yn anodd eu gwneud yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael na'r boblogaeth gyffredinol. Ac i rai, mae ynysu a chadw pellter cymdeithasol wedi dod ag atgofion o drawma blaenorol yn ôl.

  • Cyflwyno therapi tra'n cadw pellter cymdeithasol yn yr awyr agored. Mae Family Refugee Support Project yn Lerpwl wedi ailagor eu gofod gardd therapi lle mae cwnsleriaid cymwysedig yn gweithio gyda garddwriaethydd a dehonglydd i gefnogi cleientiaid. ​​​​​​​
  • Deall y berthynas rhwng y pandemig a thrawma blaenorol. Mae tîm clinigol Helen Bamber Foundation yn gweithio gyda goroeswyr i ddeall effaith eu trawma a rheoli a lleihau'r symptomau. Mae'r tîm yn cefnogi pobl dros y ffôn a thrwy gynnwys fideo erbyn hyn, gan helpu nhw i reoli teimladau trallodus. ​​​​​​​
  • Cefnogaeth famolaeth arbenigol. Mae gan ffoaduriaid benywaidd risg uwch o farwolaeth amenedigol a mamol. Mae'r rhaglen cefnogaeth gan gymheiriaid a redir gan City of Sanctuary yn Leeds yn dod â menywod a darparwyr gwasanaeth mamolaeth ynghyd. Maent wedi cymryd 15 o wirfoddolwyr newydd ymlaen i ddarparu cefnogaeth dros y ffôn i dros 30 o fenywod.
  • Therapïau cyflenwol er mwyn i bobl reoli eu llesiant eu hunain. Mae Tools for Inner Peace, grŵp o athrawon ioga, seicotherapyddion a gweithwyr cymdeithasol, yn defnyddio ioga i wella llesiant ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Maent wedi ehangu eu cynnig, gan symud dosbarthiadau ar-lein.

Ymdrin ag unigrwydd, taclo unigedd

I bron dau draean o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Llundain, unigrwydd oedd eu her fwyaf hyd yn oed cyn y pandemig. Pan gaeodd prosiectau cymunedol, canolfannau galw heibio a dosbarthiadau iaith, dilëwyd cyfle i gysylltu. Rydym mewn cam newydd ac ansicr o hyd, ac mae rhai lleoedd yn gweithio allan sut i ailagor eu drysau, yn ogystal â chynnal elfennau o ddarpariaeth o bell a sefydlwyd yn ystod y cyfnod clo.

  • Parhau â grwpiau cymdeithasol ar-lein. Mae  Micro Rainbow, elusen sy'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryw a Rhyngrywiol (LGBTQI) yn rhedeg gwasanaethau cymdeithasol a lles ar-lein; o weithdai ymwybyddiaeth ofalgar i ddosbarthiadau darlunio, yn ogystal â sesiynau cyngor mwy ffurfiol.
  • Cadw'n iach trwy gysylltiadau ag eraill. Mae Northern Ireland Refugees and Asylum Seekers Women’s Association, sydd wedi'i hadwaen fel Bomoko NI, yn rhedeg gwersi Saesneg ac arddangosiadau coginio ar-lein. Mae Manchester Refugee Support Network wedi cyflwyno cynllun bydis ‘Check in and Chat’ i gynnal cysylltiadau â phobl ac ymarfer eu Saesneg.
  • Gwasanaethau ymgyfeillio clyfar.  Newidiodd HostNation o ymgyfeillio wyneb yn wyneb i gysylltiadau 'clyfar' sy'n gweld cyflwyniadau ac adeiladu cysylltiadau cychwynnol trwy alwadau fideo wythnosol. Mae'r rhain yn cael eu dilyn gan gwrdd i fyny yn yr awyr agored tra'n cadw pellter cymdeithasol pan fydd y ddau barti'n teimlo'n barod amdano. Dangosodd arolwg fod cysylltiadau newydd wedi gwella llesiant a hunanhyder pobl (85%) a gwneud iddynt deimlo'n llai unig (82%).

"Gallwch ymlacio ac anghofio am eich trawma […] Mae'n rhywun mwy gobeithiol, a dwi wedi dysgu bod gobaith yma […] Dyna pam dwi dal yn fyw.” ymgyfeillai Hostnation.

Cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifainc

Mae dysgu o bell wedi bod yn arbennig o anodd i ffoaduriaid ifainc, y maent efallai wedi colli ysgol yn eu gwledydd cartref neu yn ystod eu taith i'r DU. Hefyd, mae aros gartref wedi golygu colli allan ar gymdeithasu gyda chymheiriaid, cefnogaeth wyneb yn wyneb gan athrawon, a chefnogaeth gan y gwasanaethau sy'n helpu gydag addasu i fywyd yn y DU.

  • Cefnogaeth gyda gwaith ysgol. Darparodd Nurture sesiynau mathemateg a lles ar-lein am ddim ar gyfer myfyrwyr lefel uwchradd yn Yr Alban yn ystod y cyfnod clo. Roedd plant a'u rhieni eisiau i sesiynau barhau, felly rhedodd Nurture yr un cwrs dros yr haf, gyda sesiynau Saesneg, cynllun bydis a gofod ar-lein i gymdeithasu.
  • Gwella llythrennedd digidol. Sylwodd Kent Refugee Action Network, sy'n gweithio gyda phobl ifanc 14-24 oed yng ngofal yr awdurdod lleol, fod eu buddiolwyr yn cael trafferth gyda'r newid i wasanaethau rhithwir. Bu iddynt hyfforddi staff ac aelodau eu fforwm ieuenctid i gefnogi pobl ifanc i wella'u llythrennedd digidol. Hefyd, hyfforddwyd pobl ifanc sydd wedi bod yn y DU am gyfnod hwy fel mentoriaid cymheiriaid i gefnogi newydd-ddyfodiaid.

Barod i gwrdd â'r galw - nawr ac yn y dyfodol

Mae llawer o elusennau yn y sector hwn yn rhai bach; Mae gan wyth o bob deg (79%) ohonynt incwm sy'n llai na £100,000 y flwyddyn. Fel llawer o rai eraill, maent wedi colli incwm wrth i gostau godi a galw am eu gwasanaethau gynyddu. Mae'r rhan fwyaf yn dibynnu ar wirfoddolwyr ymroddedig - awgryma'r  ymchwil y ceir cymhareb gyfartalog o dri gwirfoddolwr i un aelod staff. Ond mae Covid-19 yn golygu y bu'n rhaid i rai gwirfoddolwyr gamu'n ôl o'u rolau, a thra bod rhai eraill wedi cynnig eu help, mae gan lawer brofiad cyfyngedig neu lai o amser i'w gynnig.

  • Darparu sefydlogrwydd ariannol, fel y gall elusennau flaenoriaethu cyflwyno gwasanaethau. Wrth i'r llysoedd gau, daeth incwm Wiltshire Law Centre gan Gymorth Cyfreithiol i ben, gan beri risg o ansolfedd iddynt. Galluogodd grant CCCG iddynt barhau i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim.​​ Derbyniodd ​​​​ArtsEkta, sy'n rhedeg digwyddiadau a gweithdai diwylliannol a chymunedol yn Belfast grant Cronfa Elusennau Covid-19 i'w helpu ymchwilio i ddulliau newydd o gynhyrchu incwm a pharhau i gyflwyno eu gwasanaethau'n ddigidol, fel virtual Belfast Mela. 
  • Manteisio i'r eithaf ar amser gwirfoddolwyr. Cyn Covid-19, dibynnodd  Manchester Refugee Support Network ar wirfoddolwyr achlysurol i redeg eu cronfa fach o fwyd a nwyddau sylfaenol. Roedd y cynnydd yn y galw yn anodd ei reoli felly maent wedi derbyn grant i recriwtio cydlynydd gwirfoddolwyr i reoli rhoddion a neilltuo cyfrifoldebau gwirfoddolwyr.

“Mae'r hyn a oedd ar un adeg yn ddarpariaeth fach [o fwyd a nwyddau sylfaenol] wedi tyfu erbyn hyn i fod yn weithrediad graddfa fawr sydd angen ymateb cydlynol i fedru cyflwyno'n effeithiol.” ​​​​​​​Manchester Refugee Support Network

Beth ydym ni wedi'i ddysgu?

1. Mae cydweithio rhwng gwasanaethau'n arbed amser ac yn lleihau dyblygu

Mae llawer o sefydliadau gwahanol yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar adegau gwahanol o'u bywydau, felly mae cydweithio'n helpu arbed amser, a lleihau dryswch a dyblygu. Cyn Covid-19, roedd gan City of Sanctuary yn Sheffield un ganolfan galw heibio lle gallai pobl dderbyn cymorth gan sefydliadau gwahanol. Erbyn hyn maent wedi datblygu Virtual Sanctuary a thrawsnewid eu canolfan i linell ffôn. Mae'n golygu y gall pobl sy'n ceisio cymorth am y tro cyntaf gael eu brysbennu a derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt heb gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau'n ddi-ben-draw. I gyfeirio'r gefnogaeth gydlynol hon, mae 11 o sefydliadau'n cyfrannu at gronfa ddata a rennir o atgyfeiriadau ac yn rheoli cronfa o wirfoddolwyr a rennir. Maent yn dod â sefydliadau gwahanol at ei gilydd bob pythefnos i rannu gwaith a gwybodaeth, adnabod anghenion ac ymateb iddynt hefyd.

Mae rhwydweithiau lleol wedi mapio newidiadau mewn anghenion a gwasanaethau, data ac atgyfeiriadau a rennir, a defnyddio hyn i gyfeirio eu gwasanaethau. Mae Refugee Action wedi sefydlu hyb data Covid-19, i gywain a rhannu data ar draws y sector ar effaith y pandemig. Maent wedi cynnal rhith-gyfarfodydd rheolaidd i drafod y canfyddiadau, gan alluogi elusennau a darparwyr i weithio ar y cyd.

Mae'r pandemig wedi dod â sefydliadau yn y sectorau ffoaduriaid a digartrefedd at ei gilydd. Mae Haringey Migrant Support Centre wedi cydweithio ag Arweinydd Strategol y Fwrdeistref ar Oedolion Agored i Niwed i ddod o hyd i lety a bwyd ar gyfer pobl nad oedd modd, am amrywiaeth o resymau, iddynt gyrchu cefnogaeth gan y cyngor yn flaenorol. Mae'r ddau barti yn awr yn trafod prosiect ffurfiol ar y cyd i egluro neu sicrhau statws mewnfudo ar gyfer y bobl hyn, gan ddangos y gwahaniaeth y gall partneriaethau ar draws sectorau ei wneud.

2. Adeiladu ymddiriedaeth a dealltwriaeth i daclo hiliaeth a throseddau casineb

Mae hiliaeth a throseddau casineb tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi bod yn bresennol trwy gydol y pandemig. Ym mis Gorffennaf 2020, pan gynhaliodd Cyngor Ffoaduriaid Yr Alban arolwg o 280 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dywedodd 48 (17%) iddynt brofi hiliaeth neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod eu hamser yn y DU.

Mae Waltham Forest Race Equality Council yn cefnogi pobl o'r gymuned Asiaidd dwyreiniol a fu'n wynebu achosion o hiliaeth yn gysylltiedig â datblygiad y coronafeirws yn Tsieina. Maent yn annog pobl i adrodd cam-drin ac yn darparu gwybodaeth am y broses. Maent yn gwirio llesiant pobl yn rheolaidd hefyd, ac yn cysylltu nhw â grwpiau lleol i adeiladu cysylltiadau a pherthyn gyda'u cymuned.

Mae elusennau'n gwneud gwaith ataliol i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fywydau a phrofiadau pobl eraill. Mae Belfast Friendship Club yn rhedeg gweithdai “Small Worlds” lle mae trigolion yn cwrdd â gwirfoddolwyr o wledydd gwahanol sy'n adrodd eu storïau ac yn ateb cwestiynau am eu bywydau. Mae pobl yn aml yn gweld bod ganddynt fwy mewn cyffredin nag yr oeddent yn disgwyl, ac yn goresgyn unrhyw ofid neu ddrwgdybiaethau posib yr oedd ganddynt. Dywedodd un sefydliad, “Mae rhai yn dod gydag agweddau cryf iawn am fewnfudwyr a cheiswyr lloches ac yna pan glywsant stori deimladwy am ddynolryw […] mae'n mynd yn groes i bopeth y maent wedi'i weld yn y cyfryngau. Mae'n bwerus iawn."

Yn aml mae'r gwaith hwn yn dechrau gyda phobl ifanc. Mae elusennau'n dysgu iddynt beth mae'n ei olygu i geisio lloches gan ddefnyddio gweithgareddau fel gweithdai drama a gwasanaethau ysgol. Yn 2019, cydweithiodd Bradford City of Sanctuary gyda 23 o ysgolion gan gyrraedd 7,000 o blant a phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant i staff ar y ffeithiau am loches a mewnfudo, a gweithdai gyda phlant am wersylloedd ffoaduriaid. Maent yn dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a chydnerthedd ffoaduriaid trwy arddangosfeydd a digwyddiadau celf hefyd.

3. Byddwch yn feddylgar a chynigiwch gefnogaeth i wneud gwasanaethau digidol yn hygyrch

Er mwyn i gyflwyniad digidol fod yn effeithiol, mae angen yr offer a dyfeisiau iawn ar bobl yn ogystal â'r gefnogaeth i wybod sut i'w defnyddio.  Mae Shropshire Supports Refugees wedi gweld ei fod yn anodd darparu cyngor dros y ffôn -  mae wedi cymryd amser llawer hwy, ac mae wedi bod yn anodd i gynnwys dehonglwyr, neu gael syniad o deimladau pobl heb weld eu hwynebau. Ar yr un pryd, mae plant wedi colli allan ar yr ysgol a heb weithwyr cymdeithasol penodedig, ni fu modd i rai teuluoedd gael gliniadur. I helpu, prynodd yr elusen 20 o liniaduron i'w rhoi benthyg i deuluoedd Syriaidd, gan alluogi'r plant i wneud eu gwaith cartref ac i'w rhieni gael cyngor pwrpasol.

“Rydym mor gyfarwydd â gweithio wyneb yn wyneb, mae gweld wyneb rhywun ar fideo yn help go iawn wrth gael ymdeimlad o sut y maent mewn gwirionedd a pha mor dda y maent yn ymdopi. Mae'n llawer haws wrth wneud gwaith achos cymhleth hefyd a phan fydd aelodau'n cwrdd â chyfreithwyr, mae angen iddynt weld eich wyneb.” Bristol Refugee Rights

Ni all llawer o elusennau helpu eu cleientiaid i gyd, felly maent wedi datblygu systemau dosbarthu, sy'n rhoi blaenoriaeth pan fydd angen ar ei fwyaf ac yn cymryd pethau fel incwm a phlant i ystyriaeth. Mae eraill yn rhoi benthyg cyfarpar, yn hytrach na'i roi i ffwrdd. Mae Displaced People in Action yng Nghaerdydd wedi creu cynllun rhoi benthyg TG ar gyfer llechi a ffonau clyfar er mwyn i ffoaduriaid yng Nghymru fedru cysylltu â ffrindiau, teulu a gwasanaethau cefnogi hanfodol.

Pan fydd gan bobl ddyfeisiau a chyfarpar, mae costau parhaus i'w talu o hyd. Gwelodd  Harbour fod eu dysgwyr yn gwneud dosbarthiadau Saesneg ar eu ffonau ac yn aml yn rhedeg allan o ddata. Felly bu iddynt ddosbarthu llwybryddion Wi-Fi a llechi. Mae  Out & Proud African LGBTI yn darparu data ffôn, i gynnal cysylltiadau pobl a sicrhau eu bod yn ymwybodol o wybodaeth hanfodol. 

Ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o oblygiadau dosbarthu cyfarpar. Gellir ystyried bod cefnogaeth ariannol neu mewn da barhaus yn incwm, gan effeithio ar gymhwystra i dderbyn cefnogaeth loches. Mae  Leeds Asylum Seekers Support Network wedi darparu llythyron i egluro pan roddir dyfeisiau fel rhodd unigol, neu pan delir am gredyd neu ddata ffôn er mwyn i bobl gyrchu cefnogaeth,  i sicrhau na effeithir ar eu cymhwystra.

Mae elusennau wedi dechrau defnyddio dulliau heblaw arian parod, fel cardiau rhagdalu, fel ffordd o wneud taliadau o bell pan fydd staff yn gweithio o gartref. Mae'r cardiau hefyd yn cyfyngu ar faint y mae angen i bobl deithio i gael taliadau arian parod, ac yn rhoi mwy o annibyniaeth. Ond cyn dewis un, dylai elusennau asesu manteision ac anfanteision cardiau gwahanol, gan gymryd faint o wybodaeth ac adnabyddiaeth y mae eu hangen gan y derbynnydd, ble y gellir eu gwario, ac unrhyw gostau i'r sefydliad i ystyriaeth. ​​​​​​​

4. Ymdrin â sut mae Covid-19 wedi effeithio ar lesiant

Mae gwersi Saesneg yn hanfodol i helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar fywyd yn y DU. Mae elusennau wedi symud dosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar-lein am y tro, ond mae llawer eisiau cynnig model cymysg yn y dyfodol. Mae  Harbour wedi addasu eu dosbarthiadau Saesneg i ymdrin â heriau dysgu ar-lein. Maent wedi newid llawer o'u sesiynau grŵp i ddosbarthiadau un i un ac erbyn hyn yn rhannu deunyddiau dysgu ymlaen llaw, gan fod pobl yn aml yn mynychu ar eu ffonau, sy'n golygu nad yw'n bosib rhannu sgriniau. Bu'n rhaid iddynt fod yn hyblyg am amseriadau ac amlder y sesiynau, gan alluogi dysgwyr i bennu dyddiadau ac amserau sy'n addas i'w hamgylchiadau.

Mae methu â medru gweithio neu gyfrannu'n aml yn gwneud i bobl deimlo'n isel. Gall gwirfoddoli roi ymdeimlad o ddiben, mae'n ychwanegu strwythur at fywyd rhywun ac yn syml yn helpu pobl i deimlo'n ddefnyddiol. Mae Manchester Refugee Support Network yn hyfforddi pobl yn y sgiliau sydd eu hangen i wirfoddoli, ac wedyn yn cefnogi nhw i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Ers Covid-19, maent wedi creu modiwlau ar-lein a recriwtio cyfranogwyr newydd ar-lein.

Mae dod â phobl ynghyd i greu cyfeillgarwch a chael hwyl yn helpu pobl i deimlo eu bod yn rhan o gymuned ac yn cael eu cefnogi. Cyn y cyfnod clo, croesawodd Oasis Cardiff 150-250 o bobl bob dydd, gan gynnig dosbarthiadau Saesneg, gweithdai cyflogaeth, grwpiau mamau a phlant bach, a digwyddiadau. Pan ddechreuodd cyfyngiadau'r cyfnod clo lacio, gwnaethant ddychwelyd i greu cysylltiadau rhwng newydd-ddyfodiaid a'r gymuned letya, a chyflwynwyd clwb swper mewn cartrefi. Mae gwirfoddolwyr yn paratoi seigiau traddodiadol o'u gwledydd cartref, a brynir gan drigolion lleol sy'n rhoi adborth ar-lein. Mae  African and Caribbean Support Organisation Northern Ireland yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches a phobl hŷn o Gymunedau Duon, Affricanaidd a Charibïaidd yn Belfast. Maent yn rhedeg deg sesiwn ddeufisol ar-lein lle byddant yn rhannu strategaethau a chyngor ymdopi i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol cyfranogwyr.

Rydym yn gwneud synnwyr o'r hyn rydym yn ei weld ac yn ei glywed gan ein deiliaid grant ar garlam, felly fe fydd pethau yr ydym wedi'u colli, heb sylwi arnynt eto neu efallai, eu camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu her, fel y gallwn barhau i wella a datblygu, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gyrrwch adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn i knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26 Hydref 2020.