Ar-lein, Digidol a TG

Reaching Families

Doedd llawer o elusennau a grwpiau cymunedol yn barod ar gyfer y newidiadau digidol a TG a orfodwyd arnynt gan Covid-19. Yn 2019, nododd yr adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau nad oedd gan dros hanner (52%) strategaeth ddigidol, ac mai dim ond un o bob deg (10%) oedd wedi bod trwy broses trawsnewid digidol. Nododd nifer bach (3%) eu bod yn profi anhawster hyd yn oed wrth gyrchu offer digidol sylfaenol fel gwefan, e-bost neu gyfryngau cymdeithasol.

Cwblhawyd arolwg eleni wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod clo cyntaf, a nododd fod dau draean o ymatebwyr (66%) yn symud i ddarpariaeth o bell, gyda 61% yn cynnig amrywiaeth gynyddol o wasanaethau ar-lein. Serch hynny, mae'n hollbwysig i nodi mai dim ond 11% oedd yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer y newid hwn.

O ystyried yr heriau hyn, mae llawer o'n harian i Covid-19 – grantiau Loteri Genedlaethol, Y Gronfa Cefnogaeth Coronafeirws Gymunedol (CCSF), a'r Gronfa Elusennau Covid-19 - wedi cefnogi sefydliadau i fabwysiadu neu gynyddu eu defnydd o ddigidol i ail-lunio a pharhau â'u gwaith o bell, adeiladu sgiliau a hyder newydd, a gweithio i daclo'r gagendor ddigidol - ar gyfer eu staff eu hunain, ond yn amlach ar gyfer y cymunedau maent yn eu cefnogi.

Sut mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ymateb?

Mabwysiadu neu ddiweddaru technoleg i weithio o bell

Bu'n rhaid i lawer o ddeiliaid grant ddiweddaru a gwella'u TG ac isadeiledd er mwyn parhau i weithio. Roedd llawer yn dibynnu ar gyfrifiaduron hen neu wedi'u hadnewyddu; nid oedd pob un wedi symud i feddalwedd a storio yn y cwmwl, a bu'n rhaid i rai ddibynnu ar staff i ddefnyddio eu dyfeisiau, Wi-Fi neu ddata eu hunain i weithio o gartref hyd yn oed.

  • Mynediad o bell i systemau a ffeiliau. Prynodd Mellow Parenting wyth gliniadur newydd a oedd yn cyd-fynd â'u gweinydd, gan alluogi mynediad o bell i'w systemau. Golygodd uwchraddiadau meddalwedd y gallent greu adnoddau hyfforddiant ar-lein newydd a gosod opsiwn galwadau fideo diogel i ddarparu eu rhaglenni magu plant ar-lein.
  • Offer i wneud y gwaith yn dda. Talodd grant bach i Norfolk Hospice am bedwar iPad a ffôn symudol gyda phecynnau galwadau diderfyn, er mwyn i gleifion fu'n rhaid aros i mewn gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd nad oedd modd iddynt ymweld. Gwnaethant rymuso'r tîm therapi i sefydlu sesiynau cwnsela a chefnogi rhithwir ar gyfer cleifion dydd yr oeddent yn gwarchod eu hunain gartref. Roedd y rhain yn cynnwys cefnogaeth hanfodol fel ymarfer corff ysgafn, cymorth gyda diffyg anadl a thechnegau ymlacio.

Mynd â gwasanaethau ar-lein

Rydym eisoes wedi rhannu llawer o'r ffyrdd y mae elusennau wedi addasu eu gwasanaethau i gyflwyno celf a chrefft, coginio, cerddoriaeth, cefnogaeth ariannol a thaclo unigrwydd yn ddigidol. Rydym hefyd wedi gweld y defnydd o dechnoleg i:

  • Gadw pobl mewn cysylltiad. Gwelodd Mum Bub Hub fod mamau newydd a menywod sy'n disgwyl baban yn teimlo'n unig ac yn orbryderus yn ystod cyfnod o newid sylweddol. Gwnaethant ddechrau ar eu cyrsiau ar-lein am ddim, a ddarparwyd gan weithwyr proffesiynol. A hwythau'n mynychu o gartref, fe helpodd fenywod i gysylltu ag eraill sy'n wynebu'r un pryderon, gan adeiladu rhwydwaith i helpu ymaddasu ac ymdopi pan oedd pethau'n "mynd o chwith".
  • Teilwra gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleiafrifol. Helpodd Sahil Project pobl o'r gymuned de Asiaidd yn Coventry i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pharhau i fod yn actif. Roedd dosbarthiadau dawns, canu a dawnsio Bollywood a bhangra yn "gyfle gwych i gymysgu â'n hen ffrindiau neu rai newydd […] yng nghyfnod y pandemig sydd ohoni." Mae Emerging Communities Network (EMCONET) yn gweithio gyda phobl o ganolbarth a dwyrain Ewrop sy'n byw ac yn gweithio yn y DU. Maent yn defnyddio fforymau ar-lein fel Одноклассники (Odnoklassniki), sy'n boblogaidd gyda defnyddwyr o Rwsia a'r gweriniaethau Sofietaidd blaenorol, i drefnu cymorth ymarferol fel cludiadau bwyd, help wrth ymgeisio am Gredyd Cynhwysol a chyfeirio pobl ddigartref i lety brys.
  • Cynnal diddordebau a chyfeillgarwch. Mae Beacon Films CIC fel arfer yn rhedeg dosbarthiadau ffilm sy'n helpu pobl anabl ac awtistig i ennill sgiliau a hyder digidol. Golygodd gweithdai rhithwir ar y we y gallai aelodau barhau i gydweithio. I Rowan mae hyn yn "fy helpu i gael fy nghynnwys fel nad ydw i'n teimlo fy mod i'n cael fy ngadael allan. Beacon Films yw'r unig un o fy ngrwpiau cefnogi sydd wedi parhau i fynd trwy'r cyfnod clo."
  • Cynnal cysylltiadau â phobl leol eraill. Dysgodd prosiect fideo a sain cymunedol Malvern Parochial Church Council i drigolion sut i ffilmio neu recordio eu hunain gartref, yn adrodd storïau ac yn perfformio. Cafodd y darnau hyn, nad oeddent yn grefyddol, eu golygu a'u rhoi ar DVD a CD a'u dosbarthu'n lleol, gan helpu pobl i deimlo bod ganddynt gysylltiad â'u ffrindiau a chymdogion.

Estyn allan ymhellach a rheoli galw newydd

Gwelodd llawer o brosiectau alw cynyddol; yn rhannol o ganlyniad i alw cynyddol, ond hefyd oherwydd i bobl ddod yn fwy ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt neu y medrant wneud defnydd ohonynt.

  • Gwasanaethau a symbylir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI). Mae nifer o brosiectau'n datblygu deallusrwydd artiffisial (AI) fel botiaid sgwrsio i reoli galw, gan gynnwys y tu allan i oriau gweithio arferol. Bydd bot sgwrsio Dads Unlimited yn cael ei gyrchu trwy ap ffôn, a fydd yn ei wneud yn haws ddod o hyd i wybodaeth pan nad yw preifatrwydd i ffonio'n bosib. Gwelodd Action on Elder Abuse ddwywaith y galw, felly bydd rhan o'u grant yn cefnogi system negeseua gwib i alluogi mwy o gapasiti ar gyfer galwadau brys. Mae ADHD Foundation yn harneisio technoleg i ddarparu gwasanaeth Therapi Ymddygiad Gwybyddol trwy AI, a fydd ar gael 24/7.
  • Cynyddu capasiti. Mae'r grant i Sue Ryder yn dyblu'r ddarpariaeth cwnsela ar-lein trwy lwyfan ddigidol a adeiladwyd at y diben a chwnsleriaid ychwanegol, ynghyd â chapasiti cynyddol i gymedroli'r Gymuned Brofedigaeth Ar-lein lle mae miloedd o bobl yn cysylltu ac yn rhannu profiadau ag eraill sydd wedi colli rhywun agos iawn.
  • Sianelau cyflwyno newydd. Gwelodd Child Brain Injury Trust y gallai eu gwasanaeth cefnogi rhithwir gael ei gryfhau gan wasanaeth brysbennu a mwy o wybodaeth i deuluoedd ar adeg pan fydd arnynt ei hangen fwyaf. Bydd eu hap, CBIT at Hand, yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac atgyfeirio proffesiynol ar faterion megis cyfergyd ac arwyddion a symptomau o anaf i'r ymennydd, a bydd hefyd yn cofnodi ceisiadau am alwad gefnogaeth un i un.

Taclo'r gagendor digidol

Nid oes gan 1.9 miliwn o aelwydydd ar draws y DU fynediad i'r we ac nid oes gan tua chwarter o'r boblogaeth y sgiliau digidol y mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn hanfodol ar gyfer bywyd a gwaith. Mae Covid-19 wedi mwyafu anghydraddoldeb a fu'n bodoli eisoes, ac fe ddaeth yn glir yn fuan iawn bod pobl na allent fforddio dyfeisiau neu Wi-Fi yn debygol o golli allan ar wybodaeth, cefnogaeth a chyfleoedd.

  • Rhoddi a rhannu dyfeisiau a data. Mae DevicesDotNow yn darparu dyfeisiau a chefnogaeth i bobl nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd y maent yn wynebu risg uchel o ddal y coronafeirws. Mae partneriaid y prosiect yn rhoddi “cit neu arian parod” ac erbyn diwedd mis Gorffennaf 2020 sicrhawyd 11,437 o ddyfeisiau ac £1.4 miliwn. Rhoddir dyfeisiau a bwndeli data i bobl sy'n cael eu hadnabod gan bartneriaid cymunedol fel awdurdodau lleol, elusennau a llyfrgelloedd. Mae hyn wedi helpu dros 10,000 o bobl. Defnyddiodd bron traean (29%) ohonynt y rhyngrwyd am y tro cyntaf erioed. Dywedodd 89% fod y dyfais wedi cael effaith gadarnhaol, fel helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd, chwilio am waith neu ymuno â grwpiau cefnogi a gweithgareddau llesiant.
  • Rhoi benthyg dyfeisiau. Prynodd Cambs Youth Consultation Panel ddyfeisiau Chromebook, gliniaduron Windows 10 a dyfeisiau eraill i'w rhoi benthyg i bobl ifanc nad oes ganddynt eu rhai eu hunain. Erbyn canol Gorffennaf 2020 roeddent wedi dosbarthu 547 o ddyfeisiau, a chydweithio â Gwirfoddolwyr Gwasanaeth yr Heddlu i'w darparu i deuluoedd ac ysgolion yn Peterborough, Wisbech, Huntingdon, Ely a Chaergrawnt. Nid oedd gan 50% o'r derbynyddion unrhyw gyfrifiadur o gwbl ac roedd y gweddill yn rhannu un ddyfais, yn aml gyda thri neu fwy o frodyr/chwiorydd.
  • Adnewyddu cyfarpar. Mae North West Glasgow Voluntary Sector Network yn casglu ac yn adnewyddu hen gyfrifiaduron. Maent yn cael eu glanhau, mae'r ddisg yn cael ei dileu, mae'r system weithredu a'r meddalwedd yn cael eu hailosod ac maent yn cael prawf PAT. Mae pecynnau sy'n cynnwys PC, bysellfwrdd, monitor, llygoden, Wi-Fi rhagdalu a 'chanllaw sut mae' yn cael eu rhoddi i unigolion a theuluoedd. Mae cefnogaeth i sefydlu pethau a'u cael i redeg yn llyfn ar gael trwy linell gymorth. Mae aelod-sefydliadau, fel y rhai sy'n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches a theuluoedd bregus, yn sicrhau bod cyfarpar yn cyrraedd y rhai y mae arnynt ei angen fwyaf. Maent newydd roi eu canfed uned i ffwrdd.
  • Darparu'r dyfeisiau y mae pobl yn eu cael yn fwyaf hawdd eu defnyddio. Rhoddodd Age UK South Lakeland 25 o liniaduron i bobl hŷn unig yr oeddent wedi mynegi diddordeb mewn cael un. Roeddent wedi gweld yn flaenorol bod cyfranogwyr hŷn yn cael trafferth gyda llechi a bod yn well ganddynt liniadur gyda bysellfwrdd ffisegol.
  • Cyfarpar i helpu cadw mewn cysylltiad. Nododd Bwrdeistref Waltham Forest Llundain ofalwyr ifainc fel blaenoriaeth i dderbyn cefnogaeth oherwydd eu cyfleoedd cyfyngedig i gysylltu â chymheiriaid neu gadw i fyny â'u diddordebau. Cyflenwyd 50 o lechi a sefydlwyd gwasanaethau newydd, fel E-Pals, er mwyn i ofalwyr 6 i 11 oed gadw mewn cysylltiad â'u hoff aelod staff, a hefyd gofod diogel rhithwir er mwyn i'r rhai 12 i 18 oed gadw mewn cysylltiad â'i gilydd.

Adeiladu sgiliau digidol

Mae darparu dyfeisiau'n ddibwrpas os nad yw pobl eisiau mynd ar-lein yn y lle cyntaf, neu eu bod yn teimlo'n annifyr am ddefnyddio nhw, neu ansicr o'u buddion.

  • Help wrth fynd ati. Gyda phobl sydd ag ychydig iawn o brofiad, neu ddim o gwbl, mae'n gwestiwn o wybod ble i ddechrau. Creodd Cyngor Eglwys Malvern fideos yn dangos iddynt sut i gael mynediad at ffrydiau byw a galwadau fideo, ac fe'u rhannwyd ar DVD, rhywbeth yr oedd pobl eisoes yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â nhw.
  • Cynnig cefnogaeth sut a phryd y mae ei hangen.Gwelodd Ageing Better nad yw rhai pobl o reidrwydd eisiau neu angen cyrsiau llythrennedd digidol ond bod yn well ganddynt ddysgu sy'n eu helpu i fanteisio i'r eithaf ar eu ffôn clyfar neu lechen. Yn aml, mae'n well gan bobl bytiau bach o gefnogaeth yn ôl yr angen, yn hytrach na chyrsiau generig. Mae Digikick CIC Yn Birmingham yn cynnig slot cefnogaeth dwy awr bob dydd i unrhyw sy'n cael trafferth gyda'u technoleg. Mae eu tîm yn gyfarwydd â brandiau poblogaidd, ac yn brofiadol wrth roi cefnogaeth fesul ffôn.
  • Teilwra dysgu i ddiddordebau pobl. Mae Centre for Armenian Information and Advice yn rhedeg prosiect cynhwysiad digidol ar gyfer y gymuned o 20,000 o bobl o dras Armenaidd sy'n byw yn Llundain. Maent wedi gweld bod ganddynt anghenion amrywiol, a bod sbarduno diddordeb a chymhelliant yn allweddol i ennyn diddordeb pobl. Gall dangos iddynt sut mae offer fel Skype a Messenger helpu nhw i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau tramor, neu helpu nhw i gaffael sgiliau ymarferol fel siopa neu fancio ar-lein er mwyn meithrin chwilfrydedd a chymhelliad. Mae cefnogaeth i ymweld yn rhithwir ag orielau a digwyddiadau ar-lein sy'n gysylltiedig â gwyliau a diwylliant Armenia hefyd yn rhan o hynny.
  • Adeiladu ar sgiliau sydd eisoes yn bodoli. Mae C&T wedi gweithio gydag 20 o sefydliadau cymunedol yng Nghaerwrangon i ddatblygu sgiliau digidol trigolion. Gan adeiladu ar yr wybodaeth sydd gan bobl eisoes, mae'r prosiect yn rhedeg cyfres o gyfarfodydd rhithwir yn neuadd y dref i drafod heriau lleol a sut i fynd i'r afael â nhw. Mae gweithdai dilynol yn cynnwys cefnogaeth ymarferol gydag ymchwil, sgiliau llythrennedd, cyfathrebu creadigol, golygu fideos ac ysgrifennu blogiau. Mae hyn yn cyfarparu trigolion i greu eu fideos eu hunain, sy'n berthnasol i'r materion a nodwyd, ac maent yn cael eu lletya ar wefan sydd hefyd wedi cael ei hadeiladu gan gyfranogwyr.
  • Cynnal y gefnogaeth ac annog chwilfrydedd. Mae gweithdai wythnosol FreeTech project yn Ne Swydd Efrog yn ymateb i gwestiynau pobl ac yn defnyddio technegau chwareus hefyd i'w helpu dysgu sgiliau newydd. Ac maent yn estyn pobl ymhellach - er enghraifft trwy sesiynau sy'n edrych ar broblemau gyda Thechnoleg Fawr a Data Mawr a'r dewisiadau posib eraill, neu drwy weithio gyda meddalwedd ffynhonnell agored am ddim (FOSS). Dywedodd un aelod, "Dysgais fwy yn y ddwy sesiwn honno nag y gwnes i ar gwrs y talais wyth deg punt i fynd arno!"

Yr hyn rydym wedi'i ddysgu am ar-lein, digidol a TG

1. Mae bod yn barod yn ddigidol yn ymwneud â'ch dull cyfan o weithio

Pan lansiodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y Gronfa Ddigidol, gwelsom fod 'digidol' yn golygu llawer o bethau gwahanol i elusennau; maent oll yn bwysig ac mae ganddynt i gyd le ar eu taith ddigidol. Er hynny, yn ystod y cyfnod clo fe welsom fod llawer o elusennau yn dal i fyny, a bod y rhai yr oeddent eisoes wedi gwneud rhywfaint o gynnydd digidol, neu greu capasiti i feddwl a chynllunio, mewn sefyllfa gryfach i ymateb.

Ystyrir weithiau mai'r strategaeth ddigidol yw'r peth allweddol sydd ar goll, ond yn aml mae'n cael ei defnyddio hefyd fel term cyffredinol ar gyfer 'mae angen i ni fod yn fwy digidol ond dydyn ni ddim yn gwybod ble i ddechrau.' Mae ymarferwyr digidol profiadol yn dweud ei fod yn ymwneud yn wirioneddol â newid sefydliadol llawer ehangach. Rydym yn cefnogi'r syniad mai “Trawsnewid digidol yw'r weithred o newid yn radicalaidd y ffordd y mae eich sefydliad yn gweithio, er mwyn iddo oroesi a ffynnu yn oes y rhyngrwyd.”

Esboniodd Open Food Network, y mae ei lwyfan feddalwedd yn helpu ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i werthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid, “Mae cofleidio digidol wedi'n helpu i fod ar flaen y gad yn y sefyllfa hon.” Cyn y cyfnod clo roedd eu partneriaid tramor yn annog nhw i weithredu. Gwnaethant ddefnyddio penwythnos 14-15 Mawrth i gynllunio gweminarau i gydlynu ac ymgysylltu â'u cymunedau, gan alw ar wybodaeth eu rhwydwaith mewn gwledydd lle roedd Covid-19 eisoes wedi gwaethygu.

Dywedodd Relate wrthym sut roedd adeiladu diwylliant galluogi a hyder staff i weithio'n ddigidol wedi helpu nhw i ymaddasu a symud o gwnsela personol i gwnsela o bell. Ysgogodd hyn newid diwylliant, yn amrywio "o gryn dipyn o sgeptigaeth am y peth 'digidol' 'ma i gyflwyno trwy'r cyfryngau newydd."

Mae blog Parkinson's UK, Transformation at Parkinson’s UK yn rhannu rhai o'r ffyrdd y maent wedi ailddylunio eu sefydliad. "Rydym wedi gwneud i newid parhaus ddigwydd trwy newid ffyrdd o weithio, bwrw golwg pendant ar ein diwylliant, ailfodelu ein hisadeiledd ac ailfeddwl sut rydyn ni'n defnyddio data." Mae'r math hwn o baratoi wedi creu amgylchedd lle galluogir defnyddio apiau ffôn a digidol i gyrraedd pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson trwy ennill calon ac enaid staff, yr oeddent wedi cael trafferth yn flaenorol i gredu y gallen nhw roi cefnogaeth o safon y ffordd yma.

Gallwch ddarllen mwy am sut rhai o ddeiliaid grant ein Cronfa Ddigidol wedi ymateb yn ein blog, Arweinyddiaeth gan ddeiliaid grant y Gronfa Ddigidol mewn newid digynsail.

2. Mae llawer o gefnogaeth ar gael am ddim a chan gymheiriaid

Nododd yr adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau fod tua hanner o elusennau'n wynebu rhwystrau dynol fel hyder (47%) a diffyg sgiliau digidol craidd (48%) wrth gofleidio digidol. Gall cysylltu pobl a'u cyfeirio at ffynonellau cefnogaeth a chyngor cyfeillgar wneud gwir wahaniaeth. Ac rydym yn dysgu y gall ychydig bach o gyngor fod yn gamp fawr.

  • Mae Catalyst yn cynnig dulliau cysylltu â chymheiriaid a dysgu ohonynt. Mae eu cyfres o ‘Ryseitiau Gwasanaeth’ yn dangos sut mae elusennau wedi gosod neu sefydlu offeryn neu wasanaeth digidol. Maent yn rhoi manylion penodol y meddalwedd a'r offer a ddefnyddiwyd, a 'dull' fesul cam sy'n esbonio sut i'w roi ar waith. Mae person cyswllt a enwir ar gyfer pob rysáit yn golygu y gall pobl gysylltu gydag unrhyw gwestiynau eraill.
  • Mae Digital Candle yn cysylltu elusennau ag arbenigwyr am awr o gyngor am ddim ar her neu brosiect penodol. Erbyn mis Gorffennaf 2020, roedd 219 o elusennau wedi derbyn cymorth gan 237 o arbenigwyr, gan gynnwys ceisiadau niferus am gyngor ar sut i sefydlu digwyddiadau a chynadleddau rhithwir; ffyrdd o fynd â rhaglenni hyfforddi a dysgu ar-lein; gweithredu Google AdWords, a chwestiynau llu am ddiogelwch a diogelu ar-lein. Anogir elusennau sydd wedi addasu eu gwasanaethau eu hunain i gofrestru fel arbenigwyr, gan feithrin diwylliant o garedigrwydd, hyder a chyfnewid gwybodaeth yn agored.

    Maent wedi dysgu:
    • bod hyd yn oed y bobl sydd â phrofiad digidol sylfaenol yn cael eu gwerthfawrogi fel cymheiriaid arbenigol;
    • bod elusennau'n dod o hyd i werth mewn bron unrhyw gyngor gan rywun y tu allan i'w sefydliad;
    • ei fod yn bwysig cyfathrebu mai cynnig am ddim go iawn yw hwn yn hytrach na chynsail i werthu cynnyrch neu wasanaeth;
    • bod pobl eisiau gwybod yn glir pwy sy'n rhedeg y cynllun; a
    • bod arbenigwyr yn cynnig y cyngor gorau posib pan fydd elusennau'n anfon gwybodaeth am eu her ymlaen llaw a bod ganddynt amser i baratoi ar gyfer yr alwad.
  • Rydym hefyd wedi clywed gan ddeiliaid grant nad yw llawer o elusennau'n gwybod eu bod yn gymwys i gael meddalwedd am ddim neu am ddisgownt, fel yr hyn a gynigir gan Microsoft a Google. Mae Charity Digital Exchange yn cysylltu elusennau â chynhyrchion a gwasanaethau a roddir gan ddarparwyr technoleg blaenllaw, yn ogystal â meddalwedd am ddim a ffynhonnell agored. Ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision y llwybr hwn. Fel y mae adroddiad Glimmer (gweler isod) yn nodi, "Mae dibyniaeth ar ddatrysiadau cwmwl corfforaethol am ddim neu rad iawn yn creu nifer o risgiau, gan gynnwys cludadwyedd data ac allanoli preifatrwydd, a bod y risg honno'n codi yn achos sefydliadau a symbylir gan eu cenhadaeth sy'n rhedeg eu gweithrediadau technegol ar gyllideb fach iawn."

3. Gall digidol helpu i wneud gwasanaethau'n fwy cynhwysol

Mae digidol a thechnoleg wedi agor i fyny ffyrdd newydd o gefnogi, cysylltu a chynnwys pobl sydd ag anableddau, cyflyrau iechyd neu iechyd meddwl tymor hir. Efallai eu bod wedi cael eu dieithrio gan wasanaethau wyneb yn wyneb nad oeddent wedi cael eu haddasu ar eu cyfer, ac i rai pobl, rydym wedi clywed bod yr ymgyrch i amrywiaethu sianelau cyflwyno wedi helpu gwella ac ehangu mynediad i gefnogaeth.

  • Lliniaru gorbryder. Mae Bodster Equine Assisted Learning yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol i ddatblygu sgiliau newydd a gwella'u hunan-barch, deallusrwydd emosiynol a dealltwriaeth o'u hymddygiad eu hunain. Cyn y cyfnod clo, gweithiodd cyfranogwyr gyda merlod ar dasgau ymarferol fel dod o hyd i'w ffordd trwy gwrs rhwystrau neu drwsio. Defnyddiodd y symudiad i sesiynau "rhithwir" unigol Facetime, WhatsApp a Skype er mwyn i bobl barhau i weld natur a merlod, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r syniad syml hwn, mewn amgylchedd sy'n rhydd rhag pwysau, wedi helpu cyrraedd pobl y byddai eu gorbryder fel arfer yn eu hatal rhag cymryd rhan , "Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i fy iechyd meddwl, maent yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fy niwrnod, maent yn gwneud i mi deimlo'n llawer mwy llonydd ac esmwyth fel y gallaf ymgymryd ag unrhyw heriau y mae'n rhaid i mi eu hwynebu yn well."
  • Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg addasol.Yn North Shields, mae deaf awareness NE yn defnyddio sesiynau ar-lein i ddysgu sillafu â'r bysau ac iaith arwyddion sylfaenol. Mae darparu gweithgareddau cymdeithasol cynhwysol fel canu ag arwyddion hefyd wedi helpu nhw i gaffael sgiliau technegol newydd, gan gynnwys gwella'r meddalwedd adnabod llais y maent yn ei ddefnyddio. Yn bwysig, mae'r gwaith wedi'i wneud yn haws i bobl gael gafael ar wybodaeth iechyd cyhoeddus gywir a pherthnasol.
  • Addasiadau ymarferol. Mae Vision Support yn gweithio ar draws Swydd Gaer, Halton a Gogledd Cymru. Achososs y cyfnod clo a chadw pellter cymdeithasol heriau penodol ar gyfer eu cleientiaid, gan olygu bod mwy o bobl yn aros gartref gyda'r risg o fynd yn ynysig. Prynodd eu Prosiect Technoleg Gynorthwyol 32 o lechi ac uchelseinyddion clyfar ar gyfer y bobl hynny a oedd eisiau nhw, yr oeddent yn gwybod sut y gallent eu defnyddio. Dywedodd un buddiolwr, "Dw i wedi defnyddio Amazon Echo yn y Ganolfan Cyn-filwyr Dall pan gafodd ei ddangos i mi sut mae'n gweithio. […] Dwi wir yn credu y byddai'n fudd mawr gan y byddai modd i mi siarad ag Alexa i ofyn am orsafoedd radio a newyddion gwahanol yn hytrach na ffwdanu gyda'r radio. Rwyf hefyd yn actif iawn ac yn wirfoddolwr i'r Cyn-filwyr Dall a byddai defnyddio'r Alexa i gofnodi apwyntiadau/digwyddiadau'n ddefnyddiol iawn."
  • Cynyddu mynediad i gyngor meddygol. Mae Steps Charity worldwide yn cefnogi pobl ledled y bydd sydd â chyflyrau'r goes, clun neu draed. Mae'r cyfnod clo'n golygu y cafodd diagnosis, triniaeth a llawdriniaeth lawer o bobl eu gohirio neu eu canslo. Roedd cael mynediad i apwyntiadau meddyg teulu arferol yn anoddach hefyd, gan arwain at bryderon ynghylch datblygiad plant, cerdded a chyflawni symudedd arferol. Mae eu gweminarau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn golygu y gall rhieni dderbyn cyngor am gyflwr eu plant. Ac mae fideos byr o weithiwr iechyd proffesiynol yn dangos ymarferion penodol i helpu cynnal symudedd plant.

4. Nid ateb i bob problem mo digidol

Er gwaetha'r llwyddiannau niferus wrth gyflwyno gwasanaethau'n ddigidol mae rhai, fel deiliaid grant o'n rhaglen Heneiddio'n Well, yn ein hatgoffa er y gwelir digidol yn gynyddol fel angen sylfaenol hanfodol, y gellir ystyried cyflwyno ar-lein orau fel ffordd o gyrraedd nod. I rai pobl, “nid yw mynediad i'r rhyngrwyd wedi bod yn gydran angenrheidiol o fywyd cynhyrchiol.”

Dywed rhai deiliaid grant ei fod yn heriol i sefydlu'r un dyfnder o berthynas gyda'u buddiolwyr o bell. Nid yw bod ar sgrîn neu ffôn yr un peth â bod yn yr un ystafell, a gall fod angen sgiliau newydd i adeiladu'r ymddiriedaeth sy'n helpu pobl i agor i fyny.

Mae'n bwysig nodi hefyd nad oedd cael eu cyfyngu i'w cartrefi'n ddiogel ar gyfer llawer o bobl, felly roedd angen i unrhyw ddefnydd o dechnoleg fedru cael ei addasu i'r cyd-destun hwnnw.

Profodd pobl ifanc, sydd o bosib yn fabwysiadwyr technoleg cynnar brwd, ddiffyg dewis am pryd i ymgysylltu'n ddigidol a phryd i gwrdd wyneb yn wyneb. Mae hyn wedi cyfrannu at lawer o adroddiadau anecdotaidd am flinder sgrîn/Zoom.

Mae'r daflen wybodaeth hon gan Help Through Crisis yn cywain amrywiaeth bellach o awgrymiadau ar greu cydberthynas ar-lein ac mae ein darn ar linellau cymorth yn cynnig rhai awgrymiadau i unrhyw un sydd am barhau â rhai elfennau o gyflwyno o bell ochr yn ochr â'u gwaith wyneb yn wyneb, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

5. Dylai digidol helpu ail-ddychmygu, gwella a dylanwadu ar gyflwyniad gwasanaethau.

Fel a welwyd, mae llawer o elusennau yn y camau cynharaf o feddwl am ddigidol a'i ddefnyddio o hyd. Ond mae cyflymder y newid yn 2020 wedi bod yn drawiadol ac yn cynnig yr addewid o brosiectau yn y dyfodol sy'n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ac y rhoddwyd cynnig arno eleni. Rydym yn awyddus hefyd i weld y SGCh yn meddwl am sut mae technoleg yn newid cymdeithas ac yn chwarae rôl ehangach wrth siapio'r dyfodol.

  • Dyfodol moesegol. Roedd Glimmers yn ymchwiliad amser real i'r berthynas rhwng cymdeithas sifil a thechnoleg yn ystod yr argyfwng. Mae eu hadroddiad yn dadlau dros gyfnod ailsefydlu dros dro, gan fod "gallu pobl i ddarparu adnoddau a bod yn ddyfeisgar wedi plygu technolegau i wneud y tasgau sydd eu hangen  -  yn aml trwy oriau hir, dyfalbarhad a grym ewyllys. Ac er yr ymddengys o bosib bod rheoli argyfyngau i'w weld yn cyflymu datblygiad, mae'n gwneud hynny trwy dreulio adnoddau a chreu bregusrwydd." Mae'r adroddiad a'r pecyn cymorth sy'n cyd-fynd ag ef yn ceisio helpu grwpiau i fyfyrio ar eu profiadau diweddar a chynllunio at ddyfodol ansicr, ac yn galw ar gymdeithas sifil i fod yn fwy dylanwadol; gan anelu yn y pen draw i dechnoleg fynd yn ofod mwy moesegol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n cael ei harwain gan y genhadaeth.
  • Dyluniad digidol hyblyg ac ymatebol. Mae GoodGym yn gymuned o redwyr sy'n cyfuno cadw'n heini a gwirfoddoli. Oherwydd bod ganddynt ddigidol wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud, a bod ganddynt dîm mewnol, roeddent yn gallu ymaddasu'n gyflym a chynyddu eu graddfa i fod yn fwy ymatebol a medru paru rhedwyr unigol â cheisiadau newydd am gymorth.
  • Ailddylunio mynediad i wasanaethau. Mae Living Well yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl i drigolion Birmingham a Solihull. Bydd porth diogel newydd yn helpu meddygon teulu i gyfeirio cleifion atynt yn uniongyrchol, gan gefnogi mwy o'r 500+ o bobl a gysylltodd â Grwpiau Comisiynu Clinigol (GCC) bob dydd gyda phryderon a gorbryder am Covid-19.
  • Gwasanaeth cwsmeriaid gwell. Yng Ngorllewin Swydd Dumbarton, mae grant Vale of Leven Credit Union yn talu am y dechnoleg i alluogi aelodau i dynnu cynilion o'u cyfrif heb adael eu cartrefi. Yn awr gallant ofyn am yr arian trwy'r rhyngrwyd, neges destun neu dros y ffôn er mwyn iddo gael ei dalu'n uniongyrchol i'w cyfrif banc. Mae hyn yn rhyddhau staff a gwirfoddolwyr i gludo arian â llaw yn ddiogel i bobl nad oes ganddynt gyfrif banc. Bydd Colchester Credit Union hefyd yn cynnig bancio ar-lein i aelodau a brofodd anawsterau pan gaeodd pwyntiau casglu yn ystod y cyfnod clo.
  • Defnyddio technoleg mewn ffyrdd llawn dychymyg ac annisgwyl. Mae Fforwm Dros 50 Caerffili yn ffilmio fideos 360- a 180-gradd o fannau lleol ar gyfer ei brosiect Inside-Outside. Bydd modd i bobl na allant fynd allan fwynhau'r "lleoliadau go iawn hyn y mae preswylwyr cartrefi preswyl yn gyfarwydd â nhw" trwy setiau pen realiti rhithwir. Maent wedi cwblhau'r ffilmio cychwynnol ac wedi'i profi mewn cartref gofal lleol.
  • Defnyddio gwybodaeth ddigidol newydd i gefnogi pobl eraill. Trawsnewidiodd Children’s Law Centre (CLC) yng Ngogledd Iwerddon eu gwefan, gan greu Hyb Cyfraith Plant a'r bot sgwrsio REE Rights Responder. Pan ddechreuodd y llywodraeth ddatblygu Tracio ac Olrhain ar gyfer Covid-19, awgrymodd CLC ap ar gyfer y rhai dan 18 oed, a bu iddynt rannu eu dysgu am GDPR, hygyrchedd, cydsyniad gwybodus ac amddiffyn plant. Mae'r ap StopCOVID NI bellach ar gael i unrhyw un 11 oed ac yn hŷn a dyma'r ap tracio cysylltiadau cyntaf sydd wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio gan y rhai dan 18 oed.
  • Taclo twyllwybodaeth ac ail-ddychmygu'r byd. Mae My Life My Say yn gwneud gwleidyddiaeth yn ddifyr ac yn gynhwysol ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ac ar y cyrion. Mae eu llwyfan ar-lein yn lle i daclo twyllwybodaeth ac i drafod amrywiaeth o bynciau cyfoes. Mae sesiynau ‘Quarantine Question Time’ ar-lein yn cyflwyno panel o arbenigwyr sy'n trafod themâu pynciol fel sut y gall pobl ail-ddychmygu'r byd ar ôl Covid; etholiadau UDA; cyllid i brosiectau ieuenctid a chefnogi iechyd meddwl pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae amrywiaeth drawiadol o lefarwyr byd-eang wedi helpu denu hyd at fil o gyfranogwyr i'r sesiynau, sy'n cael eu cyd-ddylunio, eu cynllunio a'u cyflwyno gan eu harweinwyr ifainc 16 i 25 oed.

Dysgu o'r Gronfa Ddigidol

Gall technoleg wneud llawer mwy na chefnogi pobl yn ystod argyfwng, ond fel yr ydym wedi'i weld mae llawer o rwystrau y mae angen i'r SGCh fynd i'r afael â nhw.

Mae ein Cronfa Ddigidol wedi cefnogi sefydliadau sefydledig i ddefnyddio digidol i gymryd cam mawr ymlaen, yn ogystal â helpu sefydliadau mwy newydd yr oeddent eisoes wedi lansio gan addo gwasanaethau digidol i gyflawni graddfa neu effaith. O'r ton ariannu cyntaf, mae deiliaid grant wedi bod yn rhannu cyfoeth o ddysgu am eu gwaith - o ddylunio dulliau mwy wyneb yn wyneb o gydweithio â phobl ifanc o bell, i sut i hurio datblygwr am y tro cyntaf. Gallwch chi ddarllen llawer mwy yn: https://medium.com/digitalfund

Rydym yn gwneud synnwyr o'r hyn rydym yn ei weld ac yn ei glywed gan ein deiliaid grant ar garlam, felly fe fydd pethau yr ydym wedi'u colli, heb sylwi arnynt eto neu efallai, eu camddehongli.

Rydym yn croesawu sylwadau neu her, fel y gallwn barhau i wella a datblygu, a gwneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.

Gyrrwch adborth ac awgrymiadau ar y cynnwys hwn i knowledge@tnlcommunityfund.org.uk

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26 Tachwedd 2020.