Canllawiau i’ch helpu i ddatblygu eich cynnig llawn i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Canllawiau i’ch helpu i ddatblygu eich cynnig llawn i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Wrth ddatblygu eich cynnig llawn, dylech gyfeirio at ein meini prawf a blaenoriaethau ar gyfer y gronfa hon.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau am leihau eich effaith amgylcheddol.

Mae gan ein Hyb Hinsawdd wybodaeth am ein dull i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich prosiect

Dylech hefyd ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddylunio a chynnal eich prosiect. Dylech gofio adlewyrchu hyn yn holl atebion eich cynnig llawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy wirio’r egwyddorion cydraddoldeb ar ein gwefan.

Sut i gyflwyno eich cynnig llawn

Mae pum cam y dylech eu cymryd i gyflwyno eich cynnig llawn gan gynnwys:

  • cam 1 – ymateb i’n cwestiynau
  • cam 2 – cwblhau cyllideb y prosiect gydag amcangyfrifon incwm
  • cam 3 – creu cynllun prosiect
  • cam 4 – casglu eich cyfrifon blynyddol diweddaraf
  • cam 5 – cwblhau ffurflen ar-lein lle byddwch chi’n ateb rhagor o gwestiynau am eich prosiect a’ch sefydliad. Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi uwchlwytho’r dogfennau yr ydych yn eu creu yng nghamau 1 i 4 yn ystod y cam hwn.

Cam 1 – ymateb i’n cwestiynau

Bydd angen i chi baratoi’r atebion i’r cwestiynau hyn mewn dogfen Word (neu debyg). Yna, dylech chi uwchlwytho’r ddogfen rydych chi’n ei chreu fel PDF pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Mae cyfyngiadau o ran nifer y geiriau ar gyfer pob cwestiwn. Ni allwn warantu y byddwn ni’n darllen testun sy’n mynd y tu hwnt i’r cyfyngiadau geiriau. Ni fyddwn ni’n derbyn atodiadau fel papurau ymchwil neu ddogfennau gwerthuso oni bai ein bod ni wedi gofyn amdanynt yn benodol.

1. Beth yw eich gweledigaeth ac amcanion hirdymor ar gyfer eich prosiect?

Dylech ddweud wrthym am:

  • eich gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect
  • gweithgareddau’r prosiect a’i ganlyniadau disgwyliedig
  • y dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu i ddangos y prosiect a’i ddull yw’r hyn sydd ei angen
  • sut fydd eich gweithgareddau’n gynaliadwy ar ôl i’r cyfnod ariannu ddod i ben.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

2. Lle a sut fydd eich prosiect yn gweithio?

Dylech ddweud wrthym am:

  • lle fydd y prosiect yn digwydd – gan gynnwys a yw’n wledig, trefol neu’n arfordirol
  • pwy fydd ynghlwm – gan gynnwys faint o bobl ac a oes grwpiau penodol o bobl rydych chi am weithio gyda nhw
  • y materion penodol a wynebir gan y gymuned o ran newid hinsawdd a mynd i’r afael â’i hôl-troed carbon
  • sut mae eich prosiect yn ymateb i unrhyw amcanion y llywodraeth, cynlluniau neu flaenoriaethau lleol
  • unrhyw brosiectau gweithredu hinsawdd eraill sydd wedi cael eu cynnal yn eich ardal
  • unrhyw heriau y disgwylir i chi eu hwynebu a sut fyddwch chi’n eu goresgyn.

Gallwch ysgrifennu hyd at 800 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

3. Dywedwch wrthym sut fyddwch chi’n gweithio mewn partneriaeth

Dywedwch wrthym am eich partneriaeth, gan gynnwys:

  • pwy fydd ynghlwm â’ch partneriaeth – ar gyfer pob sefydliad partner, dylech gynnwys:
  • statws cyfreithiol eu sefydliad - gallwch [ddod o hyd i ba fathau o sefydliadau sy’n gymwys i ymgeisio ar ein gwefan]
  • enw prif gyswllt – gan gynnwys eu rôl, manylion eu rôl yn y bartneriaeth.
  • sut fydd y bartneriaeth yn cael ei llywodraethu – er enghraifft, gyda chytundeb partneriaeth
  • sut mae’r bartneriaeth wedi dod at ei gilydd
  • am beth fydd pob partner yn gyfrifol am wneud.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

4. Sut fydd y prosiect yn rhoi cymunedau’n gyntaf?

Dysgwch yr hyn rydym yn golygu trwy roi cymunedau’n gyntaf.

Dylech ddweud wrthym:

  • sut mae’r gymuned ynghlwm â dyluniad, datblygiad a darpariaeth y prosiect
  • i bwy rydych chi wedi siarad â nhw wrth ddatblygu’r prosiect hwn
  • sut mae’r prosiect yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’ch cymuned neu’r gymuned rydych chi’n gweithio ynddi.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

5. Sut fyddwch chi’n mesur ac yn gwerthuso’r prosiect?

Dylech ddweud wrthym:

  • sut fyddwch chi’n mesur ac yn adrodd am y gwahaniaeth a wnewch
  • beth yw’r newidiadau yr ydych chi’n disgwyl eu gweld.

Er enghraifft, gallech chi fesur:

  • newid ymddygiad neu agwedd
  • cyfranogiad ac ymgysylltiad
  • lleihad carbon.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

6. Sut fyddwch chi’n dysgu ac yn rhannu’r hyn yr ydych chi’n ei ddysgu?

Rydym ni’n disgwyl i chi gael cynllun ymgysylltu fel y gallwch chi ddweud wrth eraill am yr hyn rydych chi’n ei wneud a’i ddysgu.

Byddwn ni’n cefnogi’r gwaith hwn trwy drefnu gweithdai ac amser i gyfarfod â phrosiectau Cronfa Gweithredu Hinsawdd eraill a’n partneriaid dysgu. Yn dibynnu ar fath a maint eich prosiect, dylech ddynodi o leiaf 1 i 2 diwrnod y mis ar gyfer ymgysylltu. Mae’n bwysig cynnwys hyn yn eich cynlluniau a’ch cyllideb.

Dylech ddweud wrthym:

  • sut fyddwch chi’n sefydlu proses reolaidd o ddysgu am y prosiect a’r bartneriaeth
  • sut fyddwch chi’n sicrhau bod y dysgu hwn yn cael ei rannu’n amserol ac mor eang â phosibl
  • am eich dulliau, cynulleidfaoedd a’ch dull
  • sut fyddwch chi’n cynyddu cyfranogiad yn y broses ddysgu
  • pa brofiad sydd gan y sefydliadau yn eich partneriaeth o gynhyrchu a rhannu dysgu
  • pa gefnogaeth fyddai ei hangen arnoch gennym ni i’ch helpu i ddysgu a rhannu’r hyn a ddysgwch– er enghraifft o ran arweinyddiaeth, technoleg neu werthuso.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

7. Sut fyddwch chi’n cyrraedd mwy o bobl?

Lle bo’n bosibl, hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu ymgysylltu â phobl y tu hwnt i’r rhai hynny sydd eisoes yn gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Hoffem wybod hefyd sut fyddwch chi’n ceisio cynnwys pobl a chymunedau sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd, wrth ddatblygu a darparu’r prosiect. Gwyddom y bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl a chymunedau.

Dylech ddweud wrthym:

  • beth yw eich cynlluniau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chynnwys rhagor o bobl yn eich cymuned yn y prosiect
  • os byddwch chi’n mesur pwy sydd ynghlwm â’ch gwaith a pheidio
  • am ba brofiad sydd gennych chi a’ch partneriaid wrth wneud newidiadau i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad
  • sut fyddwch chi’n sicrhau bod buddion eich prosiect yn mynd y tu hwnt i gymuned eich hun – gan gynnwys pa brofiad sydd gennych chi neu eich partneriaid o wneud hyn.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

Cam 2 – cwblhewch gyllideb y prosiect gydag amcangyfrifon incwm

Rydym wedi anfon templed o’r gyllideb atoch dros e-bost. Mae angen i chi gwblhau hwn, ei gadw a’i anfon fel PDF, a’i uwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Dylai eich cyllideb gynnwys:

  • cyllideb prosiect lawn, realistig wedi’i rhannu fesul blwyddyn:
  • faint fydd yn cael ei roi i unrhyw bartneriaid
  • cyllid arall sydd gennych neu yr ydych chi’n chwilio amdano
  • manylion rolau swydd a ariennir trwy’r prosiect, gan gynnwys:
  • nifer y rolau a’u hyd
  • a oeddent yn eu rôl yn barod neu a fyddant yn cael eu recriwtio
  • pa bartner fydd yn eu recriwtio (os yw’n briodol).
  • manylion unrhyw wasanaethau a fydd yn cael eu caffael a’u gwerth, unrhyw weithgareddau neu wasanaethau na fyddant yn cael eu darparu gan bartner a enwir
  • amser a chost ar gyfer partneriaid prosiect i adlewyrchu a dysgu drwy gydol y prosiect.

Cam 3 – creu cynllun prosiect

Mae angen i chi gwblhau cynllun prosiect, ei gadw fel PDF a’i uwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Gallwch chi uwchlwytho’r cynllun ym mha bynnag fformat sy’n addas i chi. Ni ddylai cynlluniau ysgrifenedig fod yn hirach na 1,000 o eiriau.

Hoffem ddeall yr hyn a fydd yn cael ei ddarparu a phryd, gan gynnwys:

  • amserlen o brif weithgareddau’r prosiect
  • cerrig filltir, canlyniadau ac allbynnau’r prosiect
  • pa bartneriaid fydd yn gwneud beth, a phryd.

Cam 4 – casglu eich cyfrifon blynyddol diweddaraf

Mae’n rhaid i chi gael eich cyfrifon blynyddol diweddaraf, eu cadw fel PDF a’u huwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Cam 5 – cwblhau ffurflen ar-lein ac uwchlwytho eich dogfennau

Byddwn ni’n anfon dolen atoch i ffurflen ar-lein dros e-bost. Nid oes angen i chi ei chwblhau i gyd mewn un tro. Gallwch ei chadw a dychwelyd ati pe bai angen.

Yn y ffurflen, byddwn ni’n gofyn am wybodaeth gennych gan gynnwys:

  • manylion eich sefydliad
  • manylion eich prosiect
  • manylion y prif gyswllt a’r uwch gyswllt – gan gynnwys dyddiadau geni a chyfeiriadau cartref
  • dogfennau ategol gan gynnwys:
    - eich ymatebion i’n cwestiynau – a restrir yng ‘Ngham 1’
    - cynllun prosiect – disgrifir yng ‘Ngham 2’
    - cyllideb gydag amcangyfrifon incwm – disgrifir yng ‘Ngham 3’
    - cyfrifon blynyddol diweddaraf – disgrifir yng ‘Ngham 4’
    - dogfen lywodraethu (os nad ydych chi’n elusen neu’n gorff statudol).

Pethau eraill rydym ni’n eu hystyried wrth asesu eich cais

Os ydych chi’n ymgeisio am grant datblygu

Rydym ni’n cynnig grantiau datblygu llai ar gyfer ymgeiswyr sydd angen amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu’n ehangach neu brofi eu dulliau.

Gallwch ymgeisio am grant datblygu rhwng £50,000 a £150,000. Gall grantiau datblygu ariannu prosiectau am 12 i 18 mis.

Nid yw cael grant datblygu’n gwarantu y byddwch chi’n cael cyllid mwy hirdymor wedi hynny.

Efallai na fydd digon o gyllid gennym i gynnig grantiau llawn i bob prosiect sy’n cael grant datblygu. Os ydych chi’n cael grant datblygu, dylech chwilio am gyllid arall mwy hirdymor gan ffynonellau eraill heblaw am y Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Yr hyn i’w wneud am gytundebau partneriaeth

Nid oes angen i chi anfon cytundeb partneriaeth atom gyda’r cais hwn, ond bydd angen i ni weld hwn os byddwn ni’n rhoi grant i chi.

Bydd pob partneriaeth yn wahanol yn dibynnu ar y partneriaid a sut maen nhw’n cytuno i weithio gyda’i gilydd. Dylai pob partneriaeth allu dangos sgiliau cyfunol, profiad, capasiti ac ymrwymiad i gynnal y prosiect.

Dylai fod hefyd ganddynt:

  • cytundeb am sut y dylid gwneud penderfyniadau allweddol a’u cyfathrebu
  • rolau a chyfrifoldebau eglur a gytunwyd arnynt gan bob partner.

Rydym ni’n derbyn dau strwythur ar gyfer partneriaethau gan gynnwys:

  1. sefydliad partner arweiniol – sy’n dechrau cytundebau partneriaeth gyda thrydydd partïon, sy’n dod yn is-grantïon
  2. grŵp o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd.


Bydd angen cytundebau ysgrifenedig cyfreithiol rwymol arnom

Os ydym ni’n ariannu partner arweiniol, mae angen cytundebau ysgrifenedig cyfreithiol rwymol arnom i fod ar waith rhwng y partneriaid. Mae’n rhaid i’r rhain nodi’r rolau a chyfrifoldebau a sicrhau bod ein telerau ac amodau’n cael eu hymlynu atynt gan yr holl bartneriaid. Nid ydym ni’n creu nac yn adolygu cytundebau ar gyfer trydydd partïon.

Os ydym ni’n ariannu grŵp o sefydliadau, rydym ni’n disgwyl i bob deiliad grant fod yn ddarostyngedig i’n telerau ac amodau. Byddem ni hefyd yn disgwyl memorandwm dealltwriaeth rhwng y partneriaid sy’n nodi disgwyliadau am rolau, cyfrifoldebau a threfniadau llywodraethu, gan gynnwys rôl Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dywedwch wrthym am unrhyw drefniant partneriaeth sydd eisoes gennych yn eich cais

Os yw strwythur partneriaeth eisoes ar waith, dylech ddweud wrthym yn eich cais. Hoffem wybod am y trefniadau sydd eisoes ar waith (yn gyfreithiol orfodadwy neu fel arall). Efallai bydd angen gwelliannau i’r trefniadau cyfredol arnom neu berthnasoedd cyfreithiol newydd.

Templed cytundeb partneriaeth

Gallwn roi templed cytundeb partneriaeth i chi, neu gallwch chi greu un eich hun. Gallai’r templed fod yn ddefnyddiol os oes gennych chi un partner arweiniol — y partner sy’n cael yr holl gyllid ac yn trosglwyddo rhywfaint ohono i bartneriaid eraill.

Canllaw yn unig yw ein templed ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi. Dylech geisio cyngor cyfreithiol eich hun cyn llofnodi unrhyw gytundeb os ydych chi’n ansicr. Os hoffech chi dderbyn y templed hwn, dylech ofyn i’ch Swyddog Portffolio.