Canllawiau i ddatblygu eich cynnig llawn ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Canllawiau i ddatblygu eich cynnig llawn ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd - Ynni a Hinsawdd

Wrth ddatblygu eich cynnig llawn, dylech gyfeirio at ein meini prawf a blaenoriaethau ar gyfer y gronfa hon.

Os ydych chi’n ymgeisio i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni, dylech gyfeirio at ein canllawiau i ddatblygu eich cynnig llawn ar gyfer Ein Dyfodol Ni.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i warchod yr amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau ar leihau eich effaith amgylcheddol.

Mae gan ein Hyb Hinsawdd hefyd wybodaeth am ein dull o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediad, straeon a chyllid.

Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich prosiect

Dylech hefyd ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddylunio a chynnal eich prosiect. Dylech gofio adlewyrchu hyn yn holl atebion eich cynnig llawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy wirio’r egwyddorion cydraddoldeb ar ein gwefan.

Sut i gyflwyno eich cynnig llawn

Dyma’r pum cam y dylech eu cymryd i gyflwyno eich cynnig llawn:

  • cam 1 – ymateb i’n cwestiynau
  • cam 2 – cwblhau cyllideb y prosiect gydag amcangyfrifon incwm
  • cam 3 – creu cynllun prosiect
  • cam 4 – casglu eich cyfrifon blynyddol diweddaraf
  • cam 5 – cwblhau ffurflen ar-lein lle byddwch chi’n ateb rhagor o gwestiynau am eich prosiect a’ch sefydliad. Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi uwchlwytho’r dogfennau yr ydych yn eu creu yng nghamau 1 i 4 yn ystod y cam hwn.

Cam 1 – ymateb i’n cwestiynau

Bydd angen i chi baratoi’r atebion i’r cwestiynau hyn mewn dogfen Word (neu debyg). Yna, dylech chi uwchlwytho’r ddogfen rydych chi’n ei chreu fel PDF pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Mae cyfyngiadau o ran nifer y geiriau ar gyfer pob cwestiwn. Ni allwn warantu y byddwn ni’n darllen testun sy’n mynd y tu hwnt i’r cyfyngiadau geiriau. Ni fyddwn ni’n derbyn atodiadau fel papurau ymchwil neu ddogfennau gwerthuso oni bai ein bod ni wedi gofyn amdanynt yn benodol.

Mae angen i chi ddweud wrthym:

1. Beth yw eich gweledigaeth a’r amcanion hirdymor ar gyfer eich prosiect?

Dylech ddweud wrthym am:

  • eich gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect
  • gweithgareddau’r prosiect a’i ganlyniadau disgwyliedig
  • y dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu i ddangos mai’r prosiect a’i ddull yw’r hyn sydd ei angen
  • sut fydd eich gweithgareddau’n gynaliadwy ar ôl i’r cyfnod ariannu ddod i ben.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.


2. Lle a sut fydd eich prosiect yn gweithio?

Dylech ddweud wrthym am:

  • lle fydd y prosiect yn digwydd – gan gynnwys a yw’n wledig, trefol neu’n arfordirol
  • pwy fydd ynghlwm – gan gynnwys faint o bobl ac a oes grwpiau penodol o bobl rydych chi am weithio gyda nhw
  • y materion penodol a wynebir gan y gymuned o ran newid hinsawdd a mynd i’r afael â’i hôl-troed carbon
  • sut mae eich prosiect yn ymateb i unrhyw amcanion y llywodraeth, cynlluniau neu flaenoriaethau lleol
  • unrhyw brosiectau gweithredu hinsawdd eraill sydd wedi cael eu cynnal yn eich ardal
  • unrhyw heriau y disgwylir i chi eu hwynebu a sut fyddwch chi’n eu goresgyn.

Gallwch ysgrifennu hyd at 800 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

3. Sut fyddwch chi'n gweithio gydag eraill i gyflawni eich prosiect?

Dylech ddweud wrthym:

  • sut byddwch chi'n ymgysylltu â chymunedau, sefydliadau neu grwpiau rydych chi'n gweithio gyda nhw (neu'r rhai rydych chi'n gobeithio gweithio gyda nhw) ac yn eu cefnogi.
  • Pwy allai fod ei angen arnoch i'ch helpu i gyflawni nodau eich prosiect?

Os ydych yn ymgeisio fel partneriaeth (ychydig o grwpiau yn gweithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin, lle maent i gyd yn derbyn rhywfaint o arian y grant ac yn gyfrifol am gyflawni rhannau o’r prosiect)

Dylech ddweud wrthym:

pwy fydd ynghlwm â’ch partneriaeth – ar gyfer pob sefydliad, dylech gynnwys:

  • statws cyfreithiol eu sefydliad - gallwch [ddod o hyd i ba fathau o sefydliadau sy’n gymwys i ymgeisio ar ein gwefan]
  • enw prif gyswllt – gan gynnwys eu rôl, manylion eu rôl yn y bartneriaeth.
  • sut fydd y bartneriaeth yn cael ei llywodraethu (os oes gennych bartneriaeth) – er enghraifft, gyda chytundeb partneriaeth
  • sut mae’r bartneriaeth wedi dod at ei gilydd
  • am beth fydd pob partner yn gyfrifol am wneud.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

4. Sut fydd y prosiect yn rhoi cymunedau’n gyntaf?

Dysgwch yr hyn rydym yn golygu trwy roi cymunedau’n gyntaf.

Dylech ddweud wrthym:

  • sut mae’r gymuned ynghlwm â dyluniad, datblygiad a darpariaeth y prosiect
  • i bwy rydych chi wedi siarad â nhw wrth ddatblygu’r prosiect hwn
  • sut mae’r prosiect yn ymateb i’r hyn mae’r gymuned ei angen ac yn cefnogi’r hyn sy’n bwysig iddynt.

Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

5. Sut fyddwch chi’n mesur ac yn gwerthuso’r prosiect?

Dylech ddweud wrthym:

  • sut fyddwch chi’n mesur ac yn adrodd am y gwahaniaeth a wnewch. Cyn i chi ymateb, darllenwch yr adran “yr hyn i’w ddisgwyl gennym ni” isod i ddeall ein dull dysgu a chasglu tystiolaeth.
  • beth yw’r newidiadau yr ydych chi’n disgwyl eu gweld.

Er enghraifft, gallech chi fesur:

  • newid ymddygiad neu agwedd
  • cyfranogiad ac ymgysylltiad
  • lleihad carbon.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

6. Sut fyddwch chi’n dysgu ac yn rhannu’r hyn yr ydych chi’n ei ddysgu?

Rydym ni’n disgwyl i chi gael cynllun ymgysylltu fel y gallwch chi ddweud wrth eraill am yr hyn rydych chi’n ei wneud a’i ddysgu. Cyn i chi ymateb, darllenwch yr adran “yr hyn i’w ddisgwyl gennym ni” isod i ddeall ein dull dysgu a chasglu tystiolaeth.

Dylech ddweud wrthym:

  • sut fyddwch chi’n sefydlu proses reolaidd o ddysgu am y prosiect a’r bartneriaeth, os yn berthnasol.
  • sut fyddwch chi’n sicrhau bod y dysgu hwn yn cael ei rannu’n amserol ac mor eang â phosibl
  • am eich dulliau, cynulleidfaoedd a’ch dull
  • sut fyddwch chi’n cynyddu cyfranogiad yn y broses ddysgu
  • pa brofiad sydd gan y sefydliadau yn eich partneriaeth (os oes un gennych – os na, ewch i’r cwestiwn nesaf) o gynhyrchu a rhannu dysgu
  • pa gefnogaeth fyddai ei hangen arnoch gennym ni i’ch helpu i ddysgu a rhannu’r hyn a ddysgwch– er enghraifft o ran arweinyddiaeth, technoleg neu werthuso.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

7. Sut fyddwch chi’n cyrraedd mwy o bobl?

Lle bo’n bosibl, hoffem i’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu ymgysylltu â phobl y tu hwnt i’r rhai hynny sydd eisoes yn gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Hoffem wybod hefyd sut fyddwch chi’n ceisio cynnwys pobl a chymunedau sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd, wrth ddatblygu a darparu’r prosiect. Gwyddom y bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl a chymunedau.

Dylech ddweud wrthym:

  • beth yw eich cynlluniau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chynnwys rhagor o bobl yn eich cymuned yn y prosiect
  • os byddwch chi’n mesur pwy sydd ynghlwm â’ch gwaith a pheidio
  • am ba brofiad sydd gennych chi a’ch partneriaid (os oes partneriaid gennych) wrth wneud newidiadau i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad
  • sut fyddwch chi’n sicrhau bod buddion eich prosiect yn mynd y tu hwnt i gymuned eich hun – gan gynnwys pa brofiad sydd gennych chi neu eich partneriaid o wneud hyn.

Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os byddwch chi’n defnyddio llai o eiriau.

Cam 2 – cwblhau cyllideb y prosiect gydag amcangyfrifon incwm

Rydym wedi anfon templed o’r gyllideb atoch dros e-bost. Mae angen i chi gwblhau hwn, ei gadw fel PDF a’i uwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Dylai eich cyllideb gynnwys:

  • cyllideb prosiect lawn, realistig wedi’i rhannu fesul blwyddyn, gan gynnwys:
  • faint fydd yn cael ei roi i unrhyw bartneriaid (os oes un gennych – os na, ewch i’r cwestiwn nesaf)
  • cyllid arall sydd gennych neu yr ydych chi’n chwilio amdano (gan gynnwys unrhyw benderfyniadau rydych chi’n aros amdanynt)
  • manylion rolau swydd a ariennir trwy’r prosiect, gan gynnwys:
  • nifer y rolau a’u hyd
  • a oeddent yn eu rôl yn barod neu a fyddant yn cael eu recriwtio
  • pa bartner fydd yn eu recriwtio (os yn berthnasol)
  • manylion unrhyw wasanaethau a fydd yn cael eu caffael a’u gwerth. Yn fras, unrhyw weithgareddau neu wasanaethau na fyddant yn cael eu darparu gan bartner a enwir (os yn berthnasol)
  • amser a chost ar gyfer partneriaid prosiect (os oes partneriaeth gennych) i adlewyrchu a dysgu drwy gydol y prosiect.

Wrth ddylunio a datblygu eich cyllideb, rhaid i chi ystyried yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i chwarae rhan weithredol yn y gweithgareddau lefel rhaglen a amlinellir yn yr adran “yr hyn i'w ddisgwyl gennym ni”.

Yn dibynnu ar fath a maint eich prosiect, dylech neilltuo o leiaf un neu ddau ddiwrnod y mis ar gyfer ymgysylltu. Mae’n bwysig cynnwys hyn yn eich cynlluniau a’ch cyllidebau.

Cam 3 – creu cynllun prosiect

Mae angen i chi gwblhau cynllun prosiect, ei gadw fel PDF a’i uwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Gallwch chi uwchlwytho’r cynllun ym mha bynnag fformat sy’n addas i chi. Ni ddylai cynlluniau ysgrifenedig fod yn hirach na 1,000 o eiriau.

Hoffem ddeall yr hyn a fydd yn cael ei ddarparu a phryd, gan gynnwys:

  • amserlen o brif weithgareddau’r prosiect
  • cerrig filltir, canlyniadau ac allbynnau’r prosiect
  • pa bartneriaid fydd yn gwneud beth, a phryd, os yn berthnasol

Cam 4 – casglu eich cyfrifon blynyddol

Mae’n rhaid i chi gael eich cyfrifon blynyddol diweddaraf, eu cadw fel PDF a’u huwchlwytho pan fyddwch chi’n cyrraedd ‘Cam 5’.

Cam 5 – cwblhau ffurflen ar-lein ac uwchlwytho eich dogfennau

Byddwn ni’n anfon dolen atoch i ffurflen ar-lein dros e-bost. Nid oes angen i chi ei chwblhau i gyd mewn un tro. Gallwch ei chadw a dychwelyd ati pe bai angen.

Yn y ffurflen, byddwn ni’n gofyn am wybodaeth gennych gan gynnwys:

  • manylion eich sefydliad
  • manylion eich prosiect
  • manylion y prif gyswllt a’r uwch gyswllt – gan gynnwys dyddiadau geni a chyfeiriadau cartref
  • dogfennau ategol gan gynnwys:
    - eich ymatebion i’n cwestiynau – a restrir yng ‘Ngham 1’
    - cynllun prosiect – disgrifir yng ‘Ngham 2’
    - cyllideb gydag amcangyfrifon incwm – disgrifir yng ‘Ngham 3’
    - cyfrifon blynyddol diweddaraf – disgrifir yng ‘Ngham 4’
    - dogfen lywodraethu (os nad ydych chi’n elusen neu’n gorff statudol).

Yr hyn i'w ddisgwyl gennym ni

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn ymrwymiad 10 mlynedd o £100m i ysbrydoli a chefnogi cymunedau i weithredu ar yr hinsawdd. Fe’i sefydlwyd fel rhaglen addasol, wedi’i ymrwymo i gynhyrchu a rhannu dysgu a thystiolaeth mewn amser real. Ein blaenoriaeth ddysgu allweddol yw adeiladu achos cryf dros rôl newid hinsawdd a arweinir gan y gymuned ac ysbrydoli gweithredu a arweinir gan y gymuned ledled y DU a thu hwnt.

1. Dysgu Gyda'n Gilydd

Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu a chyd-ddysgu i’r holl brosiectau a ariannwn drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu a chyd-ddysgu i’r holl brosiectau a ariannwn drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn ymuno â grŵp o brosiectau cymunedol, lleol a DU gyfan. Mae'r prosiectau hyn yn rhannu uchelgais, ymrwymiad a phenderfynoldeb i ysbrydoli cymunedau i weithredu ar yr hinsawdd ac ymddwyn yn ecogyfeillgar, gan eu helpu i lunio dyfodol cynaliadwy a gwella bywydau pobl.

Gyda chefnogaeth partneriaid dysgu rydym yn trefnu digwyddiadau chwarterol (ar-lein), boreau coffi a sesiynau rhwydweithio i greu cysylltiadau a rhannu arfer da. Fel rhan o’r grŵp, bydd disgwyl i chi gymryd rhan a chyfrannu at y digwyddiadau hyn. Neilltuwch adnoddau ar gyfer hyn (e.e. amser, cyllideb, a disgwyliadau rolau).

2. Casglu Tystiolaeth

Rydym wedi ymrwymo i rannu tystiolaeth a dysgu a gynhyrchir gan y rhaglen gyda deiliaid grantiau ar draws y Gronfa, cymunedau, llunwyr polisi a’r sector ehangach gan gynnwys cyllidwyr eraill.

O ystyried yr amrywiaeth eang o brosiectau rydym yn eu hariannu, nid ydym wedi defnyddio dull rhagnodol o gasglu a gwerthuso tystiolaeth. Ond, rydym yn disgwyl i bob prosiect a ariennir gael cynlluniau cynhwysfawr ar waith i fesur ac adrodd ar y gwahaniaeth y maent yn ei wneud.

  • Unwaith y flwyddyn, byddwn yn gofyn am rywfaint o wybodaeth gyson gan bob prosiect am eich nodau a gweithgareddau (dangosyddion monitro allweddol). Bydd y rhain yn feintiol ac yn ansoddol a byddant yn rhoi cipolwg ar weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned ar draws y rhaglen.
  • Ddwywaith y flwyddyn, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym sut mae eich prosiect yn mynd - gan gynnwys yr hyn yr ydych yn ei ddysgu a'r gwahaniaeth y mae eich gweithredu a arweinir gan y gymuned yn ei wneud.
  • Drwy gydol eich prosiect, byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwil wedi’i thargedu ar bynciau, cwestiynau neu themâu blaenoriaeth. Er enghraifft, ymchwil a rhannu dysgu ar bynciau penodol fel trafnidiaeth, ymgysylltu ag awdurdodau lleol, arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

3. Ysbrydoli Eraill

Byddwn yn darparu cyfleoedd hyfforddi, offer ac adnoddau i'ch cefnogi i lunio'ch stori newid a'ch galluogi i estyn allan i gynulleidfaoedd amrywiol ac ysbrydoli eraill i weithredu.

Fel rhan o grŵp o brosiectau, byddwch yn gweithio gydag arbenigwyr Cyfathrebu i gefnogi’r astudiaethau achos a’r stori am y rôl y gall cymunedau ei chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Wrth ddylunio a datblygu eich cyllideb mae’n rhaid i chi ystyried yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen i chwarae rhan weithredol yn y gweithgareddau lefel rhaglen a amlinellir uchod i wneud yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cynnig hwn i’r eithaf.

Yn dibynnu ar fath a maint eich prosiect, dylech neilltuo o leiaf un neu ddau ddiwrnod y mis ar gyfer ymgysylltu. Mae’n bwysig cynnwys hyn yn eich cynlluniau a’ch cyllidebau.

Pethau eraill rydym yn eu hystyried pan fyddwn yn asesu eich cais

Os ydych yn gwneud cais am grant datblygu hinsawdd a natur yn unig

Rydym yn cynnig grantiau datblygu llai i ymgeiswyr sydd angen amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu’n ehangach neu brofi eu dulliau.

Gallwch wneud cais am grant datblygu rhwng £50,000 a £150,000. Gall grantiau datblygu ariannu prosiectau am 12 i 18 mis.

Nid yw cael grant datblygu yn gwarantu y byddwch yn cael cyllid mwy hirdymor wedyn.

Efallai na fydd gennym ddigon o gyllid i gynnig grantiau llawn i bob prosiect sy’n cael grant datblygu. Os ydych yn cael grant datblygu, dylech chwilio am gyllid mwy hirdymor arall o ffynonellau heblaw'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Beth i'w wneud am gytundebau partneriaeth

Os yw eich prosiect yn cynnwys partneriaeth, nid oes angen i chi anfon cytundeb partneriaeth atom gyda'r cais hwn. Ond bydd angen i ni weld hyn os byddwn yn rhoi grant i chi.

Bydd pob partneriaeth yn wahanol yn dibynnu ar y partneriaid a sut maent yn cytuno i gydweithio. Dylai pob partneriaeth allu dangos sgiliau, profiad, gallu ac ymrwymiad ar y cyd i gyflawni'r prosiect.

Dylent hefyd gael:

  • cytundeb ar sut y dylid gwneud penderfyniadau allweddol a'u cyfathrebu
  • rolau a chyfrifoldebau wedi'u nodi'n glir ac y cytunwyd arnynt ar gyfer pob partner.

Rydym yn derbyn dau strwythur cyfreithiol ar gyfer partneriaethau gan gynnwys:

  1. sefydliad partner arweiniol – sy'n ymrwymo i gytundebau partneriaeth â thrydydd partïon, sy'n dod yn is-ddeiliaid grant
  2. grŵp o sefydliadau sy'n cydweithio.

Bydd angen cytundebau ysgrifenedig rhwymol-gyfreithiol arnom

Os byddwn yn ariannu partner arweiniol, mae angen i ni gael cytundebau ysgrifenedig rhwymol-gyfreithiol rhwng y partneriaid. Rhaid i'r rhain nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau a sicrhau bod pob partner yn cadw at ein telerau ac amodau. Nid ydym yn creu nac yn adolygu cytundebau ar gyfer trydydd partïon.

Os byddwn yn ariannu grŵp o sefydliadau, rydym yn disgwyl i bob deiliad grant fod yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau. Byddem hefyd yn disgwyl memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y partneriaid sy'n nodi disgwyliadau ynghylch rolau, cyfrifoldebau a threfniadau llywodraethu, gan gynnwys rôl Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dywedwch wrthym am unrhyw drefniant partneriaeth sydd eisoes gennych yn eich cais
Os yw strwythur partneriaeth eisoes ar waith, dylech ddweud wrthym yn eich cais. Hoffem wybod am y trefniadau sydd eisoes ar waith (yn gyfreithiol orfodadwy neu fel arall). Efallai bydd angen gwelliannau i’r trefniadau cyfredol arnom neu berthnasoedd cyfreithiol newydd.

Templed cytundeb partneriaeth

Gallwn roi templed cytundeb partneriaeth i chi, neu gallwch chi greu un eich hun. Gallai’r templed fod yn ddefnyddiol os oes gennych chi un partner arweiniol — y partner sy’n cael yr holl gyllid ac yn trosglwyddo rhywfaint ohono i bartneriaid eraill.

Canllaw yn unig yw ein templed ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi. Dylech geisio cyngor cyfreithiol eich hun cyn llofnodi unrhyw gytundeb os ydych chi’n ansicr. Os hoffech chi dderbyn y templed hwn, dylech ofyn i’ch Swyddog Portffolio.