Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn rhedeg am tua 5 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan. Rydym yn croesawu amrywiaeth o geisiadau a all amrywio o ran nifer y bobl ifanc i’w cefnogi, yr ardal ddaearyddol a’r swm y gofynnir amdano.
I gael cyllid rhaid i'ch prosiect:
- helpu pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol i gael gyrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol a chyflogedig, a chyflogaeth mwy hirdymor.
- cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
- sicrhau bod cyflogwyr mewn sefyllfa dda i gefnogi pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol
- cynllunio i rannu eich dysgu a'ch cyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion. Efallai y byddwn yn gofyn i rywfaint o ddata gael ei gasglu mewn ffordd gyson. Byddwn yn darparu canllawiau i'ch helpu i wneud hyn.
Rydym ni'n galw'r rhain yn 'ganlyniadau' ariannu, neu'r newidiadau yr ydym ni eisiau i'r prosiectau a ariennir gennym eu gwneud.
Hoffem ariannu prosiectau sy'n cefnogi grwpiau penodol o bobl ifanc
Mae’n rhaid i'ch prosiect:
- weithio gyda phobl ifanc anabl neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol neu’r ddau ohonynt. Dylent fod ynghlwm â helpu gyda dyluniad, darpariaeth a gwerthusiad y prosiect.
- ymrwymo i gydraddoldeb rhywedd, gyda hanner y bobl yr ydych yn eu cefnogi yn nodi eu bod yn fenywod
- canolbwyntio ar fuddio pobl sy’n byw yng Nghymru
- gweithio ar draws rhanbarth – er enghraifft, dwy ardal awdurdod lleol neu ragor
- bod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Gall helpu pobl sy’n iau nag 16 oed fod yn rhan o'ch prosiect ond ni ddylai hyn fod yn ffocws iddo.
Beth rydym yn ei olygu trwy anabl
Trwy anabl, rydym yn golygu person sydd â chyflwr iechyd corfforol, niwroddatblygiadol, gwybyddol neu feddyliol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar agweddau o’u bywyd bob dydd neu eu symudedd.
Beth rydym yn ei olygu trwy gymunedau ethnig leiafrifol
Rydym yn cynnwys Sipsiwn, Roma, teithwyr, pobl â statws ffoadur a phobl sy'n ceisio lloches. Gallwch ddysgu rhagor am bobl sy’n ceisio lloches a’u caniatâd i weithio a gwirfoddoli ar wefan GOV.UK.
Dylai eich prosiect gynnwys pobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur
Mae hyn yn golygu cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau niferus i gyflogaeth, fel:
- iechyd meddwl neu gorfforol isel
- hunan-barch a hyder isel
- cyrhaeddiad addysgol isel
- camddefnyddio sylweddau
- digartrefedd
- cofnodion troseddol
- profiad o drawma yn ystod plentyndod
- y rhai sydd wedi cael profiad o ofal awdurdod lleol.
Nid yw’r cyllid hwn ar gyfer cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (a elwir yn Saesneg weithiau yn NEETs) yn unig. Ond rydym yn disgwyl i ymgeiswyr adnabod a gweithio gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Mae’n iawn os yw pobl ifanc wedi cael cymorth gan wasanaethau eraill yn flaenorol.
Rydym yn deall y bydd darparu cymorth ychwanegol yn gofyn am fwy o adnoddau ac yn golygu gweithio gyda llai o bobl ifanc.
Hoffem ariannu prosiectau sy'n ategu gwasanaethau a gweithgareddau presennol ac yn y dyfodol
Gwyddom fod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill yn bodoli ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Mae’n rhaid i'ch prosiect ddangos dealltwriaeth gref o sut yr ydych yn ategu'r hyn sydd eisoes ar gael ac yn llenwi bwlch.
Fel rhan o hyn, rydym yn disgwyl y byddwch yn meithrin perthnasoedd i hwyluso atgyfeiriadau i wasanaethau eraill a ganddynt. Mae enghreifftiau o wasanaethau eraill yn cynnwys cyngor gyrfaoedd, gwasanaethau lleoliadau gwaith eraill, darparwyr addysg, gwasanaethau cymorth eraill i bobl ifanc a chanolfannau gwaith.
Rydym ni’n disgwyl ariannu tri neu bedwar prosiect i gyd
Byddwn yn ceisio cefnogi pobl ifanc mewn cymunedau trefol a gwledig. Gall cymunedau gwledig a threfol fod yn wahanol o ran eu dull. Er enghraifft, efallai y bydd gan gymunedau gwledig fwy o heriau o ran argaeledd swyddi a theithio.
Rhaid i bob prosiect gael ei redeg gan bartneriaeth o sefydliadau
Byddwn ond yn ariannu prosiectau lle mae partneriaeth o sefydliadau yn cydweithio i gynllunio a chyflawni prosiect. Gyda’i gilydd, bydd gan eich partneriaeth yr arbenigedd a’r profiad cywir i baratoi a chefnogi pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i ddatblygu hyder a sgiliau emosiynol, cael profiad gwaith a lleoliadau gwaith.
Gall sefydliadau perthnasol gynnwys sefydliadau:
- a arweinir gan ddefnyddwyr neu sy’n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc anabl neu bobl ifanc o gymunedau du, Asiaidd, ethnig leiafrifol
- sy’n arbenigwyr mewn lleoliadau gwaith cyflogaeth
- sy’n arbenigwyr mewn datblygu sgiliau a hyfforddiant. Gallai hyn gynnwys cymwysterau ffurfiol a chymorth i ddatblygu eu hyder a'u lles emosiynol
- sy’n gyflogwyr gwyrdd
- sydd â chysylltiadau da â'r gymuned, gwasanaethau a chyflogwyr eraill
- sy’n gweithio yn yr economi werdd ac yn meddu ar wybodaeth arbenigol
- sy’n gallu gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso eich prosiect
- sydd â phrofiad o farchnata, cyfathrebu, llunio polisïau a dylanwadu
- sy’n darparu gwasanaethau arbenigol a fyddai’n ategu neu’n cefnogi eich prosiect fel gwasanaethau iechyd meddwl, tai a phrawf.
Pethau y mae'n rhaid i chi eu dangos i gael cyllid
Bydd rhaid i chi ddangos y canlynol i ni:
- bod gan eich sefydliad a'ch partneriaid gysylltiadau da a bod y cymunedau yr ydych am weithio gyda nhw yn ymddiried ynddynt
- eich bod yn gallu dangos eich bod wedi gweithio gyda phobl ifanc, cyflogwyr, addysgwyr a gwasanaethau eraill i ddatblygu eich syniadau. Mae'n rhaid eich bod hefyd wedi meddwl am sut y gallwch gefnogi pobl ifanc, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis i gael swydd werdd.
Mae pobl ifanc o'r grwpiau yr ydych yn bwriadu eu targedu wedi helpu i ddylunio'ch prosiect
Byddan nhw hefyd yn ymwneud â'i gyflwyno a'i werthuso.
Mae'r gefnogaeth i bobl ifanc o ansawdd uchel, yn bwrpasol a byddwch yn gweithio ar gyflymder y person ifanc
Rhaid i chi helpu pobl ifanc i ddatblygu eu hyder a rhaid i chi amddiffyn eu lles emosiynol. Fel hyn, byddwch yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y profiad a'r canlyniad gorau posibl. Byddwch yn darparu cymorth cyn cyflogaeth, yn ystod ac ar ôl cyflogaeth. Byddwch hefyd yn bwriadu gweithio gydag eraill sydd eisoes yn cefnogi'r person ifanc. Er enghraifft, eu rhieni, gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol. Byddwch yn mynd i’r afael â rhwystrau unigryw i gyfranogiad i’r rheiny sy’n hunan-nodi fel menywod.
Dyma fideo YouTube gan Engage to Change sydd ag enghraifft o arwain pobl ifanc.
Byddwch yn bodloni safonau cyflogaeth cenedlaethol
Bydd prosiectau'n bodloni Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyflogaeth Gyda Chefnogaeth (NOS). Byddwch yn sicrhau y bydd gan bob person ifanc fynediad at hyfforddwr swydd neu fentor i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n darparu cefnogaeth fod wedi’u hyfforddi, neu’n fodlon cwblhau hyfforddiant, mewn Technegau Cyflogaeth â Chymorth o fewn chwe mis o gyflogaeth. Bydd hefyd angen iddynt weithio tuag at Dystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Cyflogaeth â Chymorth.
Bydd eich prosiect yn paratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith
Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau a phrofiad gwaith di-dâl. Gall pob person ifanc wneud lleoliad gwaith cyflogedig am hyd at 12 mis os mai dyna sy'n gweithio iddyn nhw.
Bydd profiad gwaith a lleoliadau gwaith yn addas ar gyfer dyheadau'r person ifanc, a gallant roi cynnig ar fwy nag un lleoliad. Bydd y prosiect yn annog cyflogwyr i barhau i gyflogi’r person ifanc ar ôl i’r lleoliad ddod i ben, lle bynnag y bo modd. Rhaid i'ch prosiect fonitro taith y person ifanc am o leiaf 6 mis ar ôl y lleoliad.
Rydych yn deall sefyllfa bresennol a dyfodol yr economi yn eich rhanbarth
Er enghraifft, bydd angen i chi ddangos eich bod yn gwybod am ddatblygiadau presennol a dyfodol o ran sgiliau a chyflogaeth yn yr economi werdd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i feithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr a byddwch yn eu helpu i ddeall anghenion y person ifanc yn well a sut i addasu i'w cefnogi.
Bydd eich prosiect yn meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sgiliau'r dyfodol a phosibiliadau swyddi gwyrdd
Bydd ganddo gynllun ymgysylltu rhagweithiol i helpu mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfaoedd gwyrdd. Disgwyliwn hefyd y byddwch yn cynnig achrediad ar gyfer cyrsiau y mae pobl ifanc yn eu gwneud, er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn cydnabod ac yn deall y sgiliau.
Bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg
Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â’r Tîm Iaith Gymraeg drwy anfon e-bost at cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
Dylech sicrhau bod eich cyllideb arfaethedig yn cynnwys costau ar gyfer cyflwyno eich prosiect yn ddwyieithog, megis costau cyfieithu. Efallai y bydd angen i chi ystyried ffyrdd eraill hefyd i gyrraedd eich cynulleidfa darged.
Bydd gan eich prosiect bolisi gweithredol ar waith i gadw pobl yn ddiogel
Gan y bydd eich prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc, bydd angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel, gan gynnwys asesiadau risg, hyfforddiant ac unrhyw beth arall sydd ei angen. Mae gan wefan NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant.
Os ydych yn cael cyllid bydd angen i chi ddilyn ein polisi ar ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.
Byddwch yn cyfyngu’r effaith ar yr amgylchedd
Hoffem ariannu prosiectau a fydd yn sicrhau bod eu prosiect yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n lleihau allyriadau carbon a’r effaith ar fyd natur. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer lleihau eich ôl-troed carbon.
Byddwch yn bodloni rheolau Rheoli Cymorthdaliadau
Mae ein grantiau yn dod o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau Rhyngwladol y DU (Saesneg). Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o gyngor arnoch.
Enghreifftiau o brosiectau yr ydym wedi'u hariannu o'r blaen
Yn ogystal â ffynonellau eraill, mae Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd wedi dysgu o raglenni eraill yr ydym wedi’u hariannu o’r blaen, gan gynnwys: