Camau Cynaliadwy Cymru: Gyrfaoedd Gwyrdd - Canllawiau cerbyd

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer sefydliadau sy'n bwriadu prynu cerbyd fel rhan o'u cais i Cymru Gynaliadwy - Gyrfaoedd Gwyrdd.

Bydd Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd yn ariannu cerbydau hollol drydanol yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys cerbydau hybrid.

Os ydych chi’n gwneud cais am arian i brynu cerbyd, bydd angen i chi roi gwybodaeth ychwanegol ynghyd â’r ffurflen gais.

Beth sydd angen i chi ei anfon atom

  1. Arfarniad opsiynau
  2. Manyleb y cerbyd
  3. Cyllideb ar gyfer y cerbyd dros gyfnod oes y grant

  4. 3 dyfynbris ar gyfer y pryniant

Arfarniad opsiynau

Pan fyddwch chi’n ystyried prynu cerbyd, meddyliwch am yr opsiwn gorau ar gyfer eich prosiect a’r blaned. Gall allyriadau cerbyd gyfrannu at newid hinsawdd a phroblemau iechyd cyhoeddus.

Dywedwch wrthym am y gwahanol opsiynau yr ydych wedi’u hystyried a pham yr ydych wedi dewis eich hoff opsiwn. Gelwir hyn yn arfarniad opsiynau.

Yn ogystal â phroblemau amgylcheddol, dylai eich arfarniad opsiynau ystyried manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau teithio ar gyfer y prosiect a’ch sefydliad. Gallai hyn gynnwys opsiynau fel:

  • cerdded, beiciau neu sgwteri i’w prynu neu logi
  • tocynnau bws, trên neu dram
  • rhannu cerbydau, clybiau ceir a thrafnidiaeth gymunedol
  • prydlesu neu logi cerbyd trydan
  • prynu cerbyd trydan.

Os oes angen cerbyd arnoch ar adegau penodol yn unig, gall fod yn rhatach i gael cyllideb fisol neu flynyddol i logi neu brydlesu cerbyd yn ôl yr angen

Gall fod opsiynau trafnidiaeth gymunedol eraill yn yr ardal neu grwpiau lleol eraill y gallech ddefnyddio eu cerbydau. Gallwch ddysgu rhagor am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru gan y Community Transport Association.

Ystyriaethau cerbyd

Dewis cerbyd

Bydd Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd yn ariannu cerbydau hollol drydanol yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys cerbydau hybrid.

Mae cerbydau’n dod mewn pob lliw a llun. Meddyliwch am eich anghenion ac anghenion unrhyw deithwyr, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau.

Gellir defnyddio ein grant i brynu cerbyd newydd neu ail-law. Ȕ Ar gyfer cerbyd ail-law, byddem yn disgwyl iddo fod mewn cyflwr da iawn, gyda hanes gwasanaethu priodol, warantî ac MOT.

What we’ll need to know

Bydd angen i chi ddarparu manyleb i ni am fath penodol o gerbyd.

Bydd angen i chi ddangos i ni fod y cerbyd yn werth da ar gyfer arian cyhoeddus.

Bydd angen 3 dyfynbris arnom ar gyfer y cerbyd. Dylai’r rhain fod o ddelwyr neu fasnachwyr sefydledig ac ar ddogfen â phenawdau llythyr.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth o gofrestriad eich cerbyd, yswiriant, MOT a warantî.

Defnyddio eich cerbyd

Ni ellir defnyddio’r cerbyd er budd preifat ac ni ddylai gael perchnogaeth breifat.

Bydd disgwyl i chi gadw’r cerbyd yn ddiogel ac mewn cyflwr da.

Dylai eich cyllideb ystyried costau rhedeg parhaus. Gallai’r rhain gynnwys gwasanaethu ac MOT, treth, hyfforddiant gyrwyr, yswiriant, storio neu gadw mewn garej a sut y byddwch chi’n gwefru eich cerbyd.

Er ein bod ni’n ariannu costau rhedeg, ni allwn ariannu costau cynnal wrth gefn. Felly, ni ellir cynnwys costau torri i lawr neu drwsio posibl yn y gyllideb.

Bydd disgwyl i chi wybod pa drwydded fydd ei hangen arnoch ar gyfer eich cerbyd a chadw’n gyfredol o ran gofynion cyfreithiol a thechnegol.

Ni allwch chi werthu na rhoi’r cerbyd i rywun arall yn ystod cyfnod oes y prosiect heb ein caniatâd ysgrifenedig.

Polisi teithio carbon isel

Rydym yn disgwyl i chi ddatblygu polisi carbon isel eich hun i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall hyn gynnwys datblygu cynllun teithio gwyrdd (neu weithredol). Mae sefydliadau defnyddiol ar gael sy’n gallu cynnig cyngor am hyn, fel The Energy Saving Trust neu Sustrans.

Sut i gysylltu â ni

  • E-bost: camaucynaliadwycymru@cronfagymunedolylg.org.uk
  • Ffôn: 0300 123 0735