Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd - Crynodeb o’r Cais

Yr hyn y byddwn ni’n gofyn amdano yn eich ffurflen mynegi diddordeb

Dyma’r holl gwestiynau y gofynnwn yn y ffurflen gais ar gyfer Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd. Mae’r canllawiau’n rhoi mwy o fanylion i chi am yr hyn fydd angen i chi ei ddweud wrthym yn eich atebion.

Eich prosiect

CwestiwnCanllawiau
Beth yw enw eich prosiect?Dylai enw'r prosiect fod yn syml ac i'r pwynt.
Dywedwch wrthym yr holl leoliadau y bydd y prosiect yn cael ei gynnalYng ngeiriau eich hun, disgrifiwch yr holl leoliadau lle y byddwch chi’n cynnal eich prosiect. Er enghraifft, ‘Bangor’, ‘Ceredigion’ neu ‘Cardiff’.
Beth yw cod post ble bydd eich prosiect yn digwydd?Os bydd eich prosiect yn digwydd ar draws gwahanol leoliadau, defnyddiwch god post yr adeilad neu gyfeiriad lle bydd y rhan fwyaf o'r prosiect yn digwydd. Rhaid i chi ddarparu'r cod post llawn.

Os nad ydych yn gwybod y cod post, gallwch ddefnyddio'r Royal Mail Postcode Finder i geisio dod o hyd iddo.
Dywedwch wrthym faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer grant datblygu?Gallwch wneud cais o £300 hyd at £25,000 i ddatblygu eich syniad, cyn i chi ymgeisio ar gyfer y cam nesaf.
Dywedwch wrthym pryd yr hoffech gael yr arian os dyfernir grant datblygu i chi.Rhaid i chi wario'r arian erbyn 14 Ionawr 2025.

Peidiwch â phoeni, gall hwn fod yn amcangyfrif.
Beth hoffech chi ei wneud?Hoffem wybod:

Beth yw eich syniad prosiect?

Dylech gynnwys sut mae eich prosiect yn bodloni’r canlyniadau rydym yn anelu atynt. Dylech ddilyn y fformat ar gyfer ysgrifennu canlyniadau a dangosyddion a ddisgrifir yn ein canllawiau.

Mae'r canlyniadau ar gyfer y prosiect hwn fel a ganlyn:

  • helpu pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i gael gyrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol a chyflogedig a chyflogaeth mwy hirdymor.
  • cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
  • sicrhau bod cyflogwyr yn gallu cefnogi pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
  • cynllunio i rannu eich dysgu a'ch cyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gasglu rhywfaint o ddata mewn ffordd gyson. Byddwn yn rhoi canllawiau i'ch helpu i wneud hyn.

Dylech hefyd ddweud wrthym:

  • amcangyfrif o gyfanswm costau eich prosiect ac am ba mor hir y mae angen yr arian arnoch
  • eich prif weithgareddau a nodweddion allweddol eich gwasanaeth
  • gwybodaeth am sut y bydd eich prosiect yn bodloni Safonau Galwedigaeth Genedlaethol Cyflogaeth â Chymorth (NOS). Er enghraifft, sut y byddwch yn sicrhau y bydd gan bob person ifanc fynediad at hyfforddwr swydd neu fentor.

Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1500 o eiriau ar gyfer yr adran hon.

Sut mae eich syniad yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill?Hoffem wybod:
  • sut mae'r prosiect hwn yn ategu gwasanaethau cyfredol a'r dyfodol ac yn llenwi bwlch
  • sut y bydd eich prosiect yn cefnogi cynlluniau neu strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • sut y byddwch yn cysylltu â gwasanaethau eraill a fydd yn eich helpu i gyflawni'r prosiect.

Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1000 o eiriau ar gyfer yr adran hon.

Sut mae eich prosiect yn cynnwys pobl ifanc o’ch cynulleidfa darged, cyflogwyr, hyfforddwyr a rhanddeiliaid eraill?Dywedwch wrthym am y canlynol:
  • pwy sydd wedi cymryd rhan yn nyluniad y prosiect hyd yn hyn – dylech gynnwys faint o bobl ifanc rydych wedi ymgysylltu â nhw a sut wnaethoch chi hyn. Dylech hefyd gynnwys manylion sefydliadau yr ydych wedi ymgysylltu â nhw.
  • eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gynnwys eraill yn nyluniad a darpariaeth eich prosiect.

Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1000 o eiriau ar gyfer yr adran hon.

Dywedwch wrthym am eich partneriaeth a pham dyma’r un iawn i reoli'r prosiect hwnDywedwch wrthym am:
  • bob sefydliad yn eich partneriaeth a'u profiad perthnasol ar gyfer y prosiect hwn
  • sefydliadau eraill rydych chi wedi gwneud cysylltiadau â nhw a fydd yn helpu eich prosiect. Er enghraifft, sefydliadau a allai gyfeirio pobl ifanc at eich prosiect.

Os bydd un neu’n fwy o bartneriaid yn rhannu'r grant datblygu, mae’n rhaid i chi ddarparu cytundeb partneriaeth drafft.

Gallwch ysgrifennu rhwng 50 a 1,000 o eiriau yn yr adran hon.

Eich sefydliad

CwestiwnCanllawiau
Beth yw enw cyfreithiol llawn eich mudiad?Mae’n rhaid i hwn fod fel y mae ar eich dogfen lywodraethu. Gall eich dogfen lywodraethu fod wedi’i enwi’n un o sawl peth, yn dibynnu ar y math o sefydliad rydych yn ymgeisio ar ei ran. Gallai fod wedi’i enwi’n gyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu rywbeth arall yn hollol.

Gallech ddod o hyd iddo ar wefan gofrestru – er enghraifft Tŷ'r Cwmnïau neu Gofrestr Elusennau.
Ydy eich mudiad yn defnyddio enw gwahanol yn eich gwaith bob dydd?
  • Ydy
  • Nac ydy
Dyma sut allech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod gan eich enw cyfreithiol yn unig (mae’r enw cyfreithiol ar eich dogfen lywodraethu neu wefan gofrestru).
Beth yw'r enw y mae eich mudiad yn ei ddefnyddio yn ei gwaith o ddydd i ddydd?Dyma sut y gallech gael eich adnabod os nad ydych yn cael eich adnabod fel yn unig.
What is the main or registered address of your organisation?Enter the postcode and search for the address, or enter it manually
Pryd sefydlwyd eich mudiad?Dyma'r dyddiad y cychwynnodd statws cyfreithiol cyfredol eich mudiad. Dylai hwn fod ar eich dogfen lywodraethu. Os nad ydych yn gwybod yr union ddyddiad, gall fod yn ddyddiad bras.
Pa fath o sefydliad ydych chi?

Os ydych chi’n elusen ac yn gwmni—dewiswch ‘Cwmni nid-er-elw’ isod.

  • Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol anghofrestredig
  • Cwmni dielw
  • Elusen gofrestredig (anghorfforedig)
  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO neu SCIO)
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC)
  • Grŵp ffydd
Beth yw dyddiad diwedd eich blwyddyn ariannol?Er enghraifft, 31 03
Beth yw cyfanswm eich incwm am y flwyddyn?Defnyddiwch rifau cyfan yn unig, fel 12000.

Rôl yr uwch gyswllt

CwestiwnCanllawiau
Rôl yr uwch gyswlltRhowch fanylion eich uwch gyswllt. Byddan nhw’n gyfreithiol gyfrifol am y cyllid. Ni allant fod yn briod, mewn partneriaeth sifil, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda, neu’n perthyn i’r prif gyswllt neu drwy bartner hirdymor.
Beth yw rôl yr uwch gyswllt?
  • Cadeirydd
  • Is - gadeirydd
  • Ysgrifennydd
  • Trysorydd
  • Cyfarwyddwr Cwmni
  • Ysgrifennydd y Cwmni
  • Ymddiriedolwr
  • Prif Swyddog Gweithredol
  • Cyfarwyddwr Cwmni
  • Ysgrifennydd Cwmni
  • Pennaeth Ysgol
  • Canghellor
  • Is-ganghellor
  • Clerc y Plwyf
  • Dirprwy Glerc
  • Aelod Etholedig
  • Cadeirydd
  • Cadeirydd
  • Prif Swyddog Gweithredol
  • Cyfarwyddwr
  • Prif Weithredwr
  • Cyfarwyddwr
  • Cadeirydd
  • Is - gadeirydd
  • Ysgrifennydd
  • Trysorydd
  • Arweinydd Grefyddol (ee. rabbi, imam, ficer)
  • Cyfarwyddwr Cwmni
  • Ysgrifennydd Cwmni
  • Trustee
  • Cyfarwyddwr Cwmni
  • Ysgrifennydd Cwmni
Enw cyntaf (yn llawn)

Cyfenw
Ni all hwn fod yn enw byr, yn flaenlythrennau nac yn llysenw.
Beth yw dyddiad geni yr uwch gyswllt?Rydym angen eu dyddiad geni i wneud gwiriad hunaniaeth. Os yw'n cael ei nodi'n anghywir, fe allai oedi eich cais.

Er enghraifft, 30 03 1980

Uwch gyswllt: Cyfeiriad cartref

Ydyn nhw wedi byw yn eu cyfeiriad cartref am y tair blynedd diwethaf?
Os na, bydd hefyd angen cyfeiriad blaenorol arnom

Cyfeiriad e-bost yr uwch gyswlltByddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â yr uwch gyswllt am y prosiect.
Rhif ffôn yr uwch gyswlltByddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â yr uwch gyswllt am y prosiect.
Uwch gyswllt: Dywedwch wrthym am unrhyw anghenion cyfathrebu penodol sydd gan y cyswllt hwn, gan gynnwys pa iaith y dylem ei defnyddio i gysylltu â nhw.

Er enghraifft, os dylem gysylltu â nhw’n Saesneg neu’n Gymraeg.

Prif Gyswllt

CwestiwnCanllawiau
Prif GyswlltRhowch fanylion ar gyfer eich prif gyswllt. Dyma'r person cyntaf y byddwn yn cysylltu ag ef os bydd angen i ni drafod eich prosiect.
Enw cyntaf (yn llawn)


Cyfenw
Ni all hwn fod yn enw byr, yn flaenlythrennau nac yn llysenw.
Beth yw dyddiad geni y prif gyswllt?Rydym angen eu dyddiad geni i wneud gwiriad hunaniaeth. Os yw'n cael ei nodi'n anghywir, fe allai oedi eich cais.

Er enghraifft, 30 03 1980

Prif gyswllt: Cyfeiriad cartref

Ydyn nhw wedi byw yn eu cyfeiriad cartref am y tair blynedd diwethaf?
Os na, bydd hefyd angen cyfeiriad blaenorol arnom

Cyfeiriad e-bost y prif gyswlltByddwn yn defnyddio hwn os oes angen i ni gysylltu â y prif gyswllt am y prosiect.
Rhif ffôn y prif gyswllt

Prif gyswllt: Dywedwch wrthym am unrhyw anghenion cyfathrebu penodol sydd gan y cyswllt hwn, gan gynnwys pa iaith y dylem ei defnyddio i gysylltu â nhw.

Er enghraifft, os dylem gysylltu â nhw’n Saesneg neu’n Gymraeg.

Section 5 - Dogfennau cefnogol

CwestiwnCanllawiau
Uwchlwythwch gytundeb(au) partneriaeth drafft os bydd unrhyw un o'ch partneriaid yn rhannu'r grant datblygu (Dewisol)Rhaid i'r ffeil fod yn PDF, PNG neu JPEG a llai na 20MB.
Uwchlwythwch gopi o'ch cyfrifon ariannol diweddarafRhaid i'r ffeil fod yn PDF, PNG neu JPEG a llai na 20MB.

Datganiad

CwestiwnCanllawiau
A yw'ch prosiect ar agor i bawb neu a yw wedi'i anelu at grŵp penodol o bobl?
  • Mae fy mhrosiect wedi'i anelu at grŵp penodol o bobl
  • Mae fy mhrosiect ar agor i bawb
Os yw o leiaf 75% o'r bobl yr ydych yn eu cefnogi yn rhannu nodweddion, yna mae eich prosiect ar gyfer grŵp penodol.

Mae'n bosibl y bydd eich grŵp penodol yn rhannu un neu fwy o nodweddion. Er enghraifft, os yw 80% o'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw yn ffoaduriaid benywaidd, mae hyn yn golygu eich bod yn cefnogi grŵp penodol o bobl. Yn yr enghraifft hon, maent yn rhannu dwy nodwedd — menywod a ffoaduriaid.

Gwyddom mai amcangyfrif yn unig yw hwn. Byddai'n rhy anodd gweithio allan yn union, yn enwedig os yw hwn yn brosiect newydd.
Ar gyfer pwy mae eich prosiect?
  • Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb
  • Cymunedau ffydd
  • Pobl sy’n mudo
  • Pobl anabl
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd)
  • Pobl iau (o dan 25 oed)
  • Menywod a merched
  • Pobl LHDTQ+
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd
  • Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes
Os oedd 75% neu fwy o'r bobl a oedd yn cael eu cefnogi gan eich prosiect neu yn elwa ohono yn dod o un grŵp penodol, dywedwch wrthym pwy ydyn nhw.

Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw.
A yw'r rhan fwyaf o'ch tîm arwain yn hunan-uniaethu eu bod yn perthyn i grŵp penodol o bobl?
  • Cymunedau sy'n profi annhegwch ethnig neu hiliol, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb
  • Cymunedau ffydd
  • Pobl sy’n mudo
  • Pobl anabl
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd)
  • Pobl iau (o dan 25 oed)
  • Menywod a merched
  • Pobl LHDTQ+
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd
  • Grwpiau penodol nad ydynt wedi'u cynnwys eisoes
  • Na
  • Mae'n well gennyf beidio â dweud

Dywedwch wrthym i ba grŵp penodol y maent yn perthyn os yw o leiaf:

  • 75% o'ch bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli yn rhannu un nodwedd neu fwy
  • a bod 50% neu fwy o staff uwch yn rhannu un nodwedd neu fwy.

Os dewiswch opsiwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud mwy wrthym am y grŵp hwnnw.