Sustainable Steps Wales Green Careers - Tracking your project’s progress

Rhaid i'ch prosiect fesur cynnydd wrth fynd ymlaen

Rydym yn bwriadu ariannu prosiectau a fydd yn rhannu dysgu a chyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion. Hoffem i chi archwilio a bod yn chwilfrydig.

Er mwyn gwerthuso eich prosiect yn dda, mae’n rhaid i chi gael cefnogaeth gan rywun sydd â phrofiad. Gall hyn fod gan eich tîm gwerthuso eich hun neu efallai y byddwch yn dewis recriwtio gwerthuswr. Gall eich gwerthuswr fod yn bartner ar gyfer eich prosiect neu gael ei recriwtio fel ymgynghorydd.

Efallai y byddwn yn gofyn i rywfaint o ddata gael ei gasglu mewn ffordd gyson. Os felly, byddwn yn darparu canllawiau ym mis Gorffennaf 2024 i gefnogi'r rhai a wahoddir i gam dau.

Os dyfernir grant i chi yn ystod cam dau, byddwch yn gweithio gyda'n gwerthuswr rhaglenni ac yn rhannu eich cynnydd bob tri mis. Mae hyn yn debygol o gynnwys astudiaethau achos yn ogystal â data.

Byddwn yn gofyn i chi sefydlu hyd at bedwar 'canlyniad' ar gyfer eich prosiect

Mae canlyniadau yn golygu disgrifiadau byr o'r newidiadau yr ydych yn ceisio eu gwneud. Dylent ddweud wrthym pa wahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud.

Dylent helpu i gyflawni ein canlyniadau ein hunain, sef:
  • helpu pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol i gael gyrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol a chyflogedig, a chyflogaeth mwy hirdymor.
  • cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
  • sicrhau bod cyflogwyr mewn sefyllfa dda i gefnogi pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol
  • cynllunio i rannu eich dysgu a'ch cyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion. Efallai y byddwn yn gofyn i rywfaint o ddata gael ei gasglu mewn ffordd gyson. Byddwn yn darparu canllawiau i'ch helpu i wneud hyn.

Dylech ddefnyddio dangosyddion i fesur eich canlyniadau

Unwaith y byddwch wedi dewis eich canlyniadau, mae angen i chi osod o leiaf un 'dangosydd' ar gyfer pob canlyniad. Mae dangosydd yn rhywbeth y gallwch ei fesur i wybod bod eich canlyniad yn digwydd. Maent yn eich helpu i fesur eich cynnydd tuag at wneud y newid hwnnw. Y dangosydd yw'r ateb i'r cwestiwn: 'os oes newid yn digwydd, sut fyddwn ni'n gwybod?'

Sut i osod eich dangosyddion

Gall dangosyddion canlyniadau fesur niferoedd, megis nifer y bobl ifanc sydd wedi cwblhau lleoliad gwaith. Gallent hefyd fesur teimladau pobl, fel hyder pobl ifanc yn cynyddu.

Ar gyfer pob dangosydd, dylech egluro:

  • Faint fydd yn newid – er enghraifft 'mae 500 o bobl ifanc yn deall gyrfaoedd gwyrdd'
  • Pryd y bydd yn digwydd – er enghraifft 'erbyn diwedd y prosiect'
  • Sut y byddwch yn cael y wybodaeth hon – er enghraifft 'Ffurflenni adborth gan bobl ifanc a fynychodd sesiynau ymwybyddiaeth'.

Enghreifftiau o ganlyniadau a dangosyddion

Gallech osod eich canlyniadau a dangosyddion fel hyn:

Canlyniad:
Mae gan fwy o gyflogwyr y sgiliau i gefnogi pobl ifanc anabl

Dangosydd:
Bydd 90 o gyflogwyr wedi cael cymorth ac wedi ennill sgiliau newydd ac yn teimlo bod ganddynt y sgiliau i gefnogi person ifanc anabl.

Amseriadau a lefelau dangosyddion:

  • Erbyn diwedd blwyddyn 1: 10 o gyflogwyr
  • Erbyn diwedd blwyddyn 2: 20 o gyflogwyr
  • Erbyn diwedd blwyddyn 3: 30 o gyflogwyr
  • Erbyn diwedd blwyddyn 4: 60 o gyflogwyr
  • Erbyn diwedd y prosiect: 90 o gyflogwyr.

Enghraifft o sut allwch chi gael y wybodaeth hon Gallech chi:

Gallech chi:

  • ddefnyddio data o gofnodion cyrsiau hyfforddiant y mae cyflogwyr wedi’u mynychu a chymorth un-wrth-un a dderbyniwyd gan hyfforddwyr swyddi
  • gwneud arolwg o’r cyflogwyr cyn iddyn nhw dderbyn cymorth ac ar ôl iddyn nhw dderbyn cymorth
  • cyfweld â sampl o gyflogwyr fel astudiaethau achos i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’n debygol y bydd gennych sawl dangosydd ar gyfer un neu’n fwy o’ch canlyniadau, er enghraifft:

Canlyniad:
Mae mwy o bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol wedi cael eu cefnogi i gael gyrfaoedd gwyrdd

Dangosyddion:

  • pobl ifanc wedi cael cyngor
  • pobl ifanc yn teimlo'n fwy hyderus
  • mae gan bobl ifanc fwy o sgiliau
  • pobl ifanc wedi cwblhau profiad gwaith
  • pobl ifanc wedi cwblhau lleoliad gwaith 6 mis o hyd neu’n hirach
  • pobl ifanc wedi cael swydd werdd
  • mae pobl ifanc yn dal i weithio mewn swydd werdd chwe mis ar ôl gadael y prosiect.

Enghraifft o sut allech chi gael y wybodaeth hon

Gallech chi:

  • ddefnyddio data o gofnodion pob person sy’n cofrestru gyda’r gwasanaeth
  • defnyddio arolygon gan bobl ifanc cyn iddyn nhw dderbyn cefnogaeth ac ar ôl iddyn nhw dderbyn cefnogaeth
  • cynnal grwpiau ffocws a sesiynau un-wrth-un gyda phobl ifanc i gael rhagor o wybodaeth am eu profiadau
  • ceisio adborth gan bobl ifanc ar ôl iddyn nhw adael y gwasanaeth.

Efallai y bydd angen i chi newid yr hyn rydych chi’n ei fesur a sut

Gall prosiectau gael canlyniadau annisgwyl, dymunol neu annymunol. Efallai y bydd angen i chi addasu rhai dangosyddion wrth fynd ymlaen. Dylech hefyd gasglu straeon neu ddysgu am y newidiadau a welwch yn eich prosiect, neu'r newidiadau yr oeddech yn disgwyl eu gweld ond na ddigwyddodd. Bydd casglu'r wybodaeth hon yn eich helpu chi a ni i ddysgu, a bydd yn eich helpu i wella'ch prosiect wrth i chi fynd yn eich blaen.

Cysylltwch â ni

I gael cymorth neu gyngor gallwch: