Sut i ymgeisio
Rydym yn agored i bob cais am brosiectau cymunedol sy'n bodloni ein meini prawf. Mae hyn yn cynnwys ymatebion cymorth i bandemig COVID-19.
Gall arian y Loteri Genedlaethol eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Rydym yn cynnig grantiau o £300 i £10,000 i gefnogi'r hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau.
Drwy ein rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, rydym yn awyddus i gefnogi prosiectau sy'n ymateb i bandemig COVID-19 drwy:
- Gefnogi sefydliadau i addasu neu arallgyfeirio i ymateb i heriau newydd ac yn y dyfodol
- Cefnogi cymunedau y mae COVID-19 yn effeithio'n andwyol arnynt
- Cefnogi cymunedau a sefydliadau i ddod yn fwy gwydn i'w helpu i ymateb yn well i argyfyngau yn y dyfodol.
Er ein bod yn cefnogi ymatebion i'r pandemig, nid oes rhaid i'ch prosiect fod yn gysylltiedig â COVID-19 i'w ariannu.
Os ydych yn gwneud cais am rywbeth nad yw'n gysylltiedig â Covid-19, yna mae'n rhaid i'ch prosiect fodloni o leiaf un o'n blaenoriaethau ariannu arferol, sef:
- Dod â phobl at ei gilydd ac adeiladu perthynas gref mewn ac ar draws cymunedau
- Gwella lleoedd a mannau sy'n bwysig i gymunedau
- Helpu mwy o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy eu cefnogi ar y cam cynharaf
Ymgeisio ar-lein Parhau cais ar-lein
Mae’n cymryd oddeutu 12 wythnos i gael penderfyniad gennym
Rydym angen yr amser yma i asesu eich cais. Os ydym yn penderfynu eich ariannu, byddwn wedyn yn eich talu bythefnos yn ddiweddarach.
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gefnogaeth cyfathrebu sy’n gwneud cwblhau ffurflen gais yn anodd neu’n amhosibl i chi. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd amgen i chi ddweud wrthym am eich syniad.
Pa wybodaeth rydych ei angen i ymgeisio
Rydym yn gofyn am y manylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o’ch sefydliad. Mae’r ddau gyswllt angen cyfeiriadau e-bost gwahanol.
Dylai un person fod yn rhywun gallwn siarad â nhw os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect. Dylai’r llall fod yn uwch aelod o’ch sefydliad. Mae’r ddau angen byw yn y Deyrnas Unedig.
Ni all y ddau berson yma fod yn:
- Perthyn drwy waed
- Briod i’w gilydd
- Mewn perthynas hir-dymor â’i gilydd
- Byw â’i gilydd yn yr un cyfeiriad.
Rydym yn gofyn i chi am enw cyfreithiol, cyfeiriad a math eich sefydliad.
Sicrhewch fod y rhain yn gyfredol a’n cyd-fynd ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau hunaniaeth byddwn yn ofyn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd y darn ymgeisio).
Rydym yn gofyn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad
Rydym eisiau gwybod y dyddiad rydych yn gorffen eich cyfrifon bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych.
Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol gan eich bod yn sefydliad newydd (iau na 15 mis oed), mae hynny’n iawn. Gallwn dal edrych ar eich cais.
Rydym yn gofyn am gyfriflen banc o’r tri mis diwethaf
Dylai ddangos:
- Enw cyfreithiol eich sefydliad
- Cyfeiriad yr anfonir y datganiadau ato
- Enw eich banc
- Rhif y cyfrif a’r cod didoli
- Dyddiad cyhoeddi’r datganiad
Dyma lun defnyddiol o’r math o gyfriflen banc rydym yn chwilio amdano.
Rydym yn gofyn i chi am wybodaeth am y math o brosiect yr hoffech ei wneud
A sut bydd eich prosiect yn helpu ac yn cynnwys eich cymuned.
Rydym hefyd yn gofyn i chi ddarllen a chytuno i’n telerau ac amodau
Gallwch gymryd golwg ar ein telerau ac amodau.
Os nad ydych yn siŵr am y math o bethau rydym yn ei ofyn pan fyddwch yn ymgeisio
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio?
- Rydych yn anfon eich cais – Byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad mewn oddeutu 12 wythnos. Yn ystod y 12 wythnos hyn rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch ddarganfod mwy am y gwiriadau rydym yn ei wneud. Efallai byddwn yn eich ffonio o fewn y 12 wythnos i drafod ychydig mwy am eich syniad, neu i ofyn am fwy o wybodaeth.
- Os yw eich cais yn llwyddiannus – Byddwn yn anfon e-bost gyda’r newyddion da! A byddwn yn rhoi’r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod.
- Gallwch ddechrau gwario’r arian ar eich prosiect – Dylech wario’r arian fel y dywedoch y byddech (Oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gynharach). Efallai byddwn yn gwirio’r prosiect o bryd i’w gilydd i weld sut mae popeth yn mynd. Darganfyddwch mwy am reoli eich arian.
- Rhannu eich stori – Gallwch ddweud wrth eich cymuned leol, rhannu eich newyddion da ar gyfryngau cymdeithasol neu gysylltu â phapurau newydd lleol. Mae gwybodaeth am sut i hysbysebu eich grant. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad i’r wasg a’n rhannu eich stori.
Eisoes wedi derbyn grant gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol? Dewch o hyd i'r logo yma.