Rheoli grantiau o dan £20,000

Unwaith rydym yn dyfarnu grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i chi, dyma beth allwch ei ddisgwyl gennym – a rhai pethau bydd angen i chi ei wneud hefyd.

Byddwn yn anfon yr arian i’ch cyfrif banc

Dylech weld yr arian yng nghyfrif eich sefydliad o fewn yr wythnosau nesaf. Pan fydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif, gallwch ddechrau ei wario ar y gweithgareddau dywedoch chi wrthym yn eich cais.

Os nad yw’r arian yn cyrraedd eich cyfrif, neu os nad ydych eisiau’r arian rhagor - Cysylltwch â ni.

Dathlu eich grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol gyda’ch cymuned

Dylech rannu’r newyddion da gyda’ch cymuned a’ch cynrychiolwyr etholedig lleol (Fel eich AS/ASA/AC/Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol):

Rydym yn annog i chi barhau i ddweud wrth bawb am y gwahaniaeth mae eich prosiect yn ei wneud drwy gydol bywyd eich grant.

Cofnodion mae angen i chi eu cadw

Cadwch gofnodion o’r hyn rydych yn gwario gydag arian y grant – a chadwch olwg ar sut mae’n cyd-fynd â’ch cais. Rydym eisiau sicrhau bod yr arian yn cael ei wario y ffordd y dywedoch y byddai.

Gall cadw cyfriflenni banc fod yn gofnod da o’r hyn rydych wedi ei wario.

Gallwn ofyn i weld copïau o dderbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc cysylltiol â’ch grant am o leiaf saith blynedd. Neu ar unrhyw bryd yn ystod eich prosiect.

Sut i dynnu arian

Unrhyw bryd rydych eisiau tynnu arian eich grant fel arian parod, rhaid iddo gael ei gytuno gan ddau berson sy’n rhedeg y prosiect. Gallwch hefyd dynnu £100 ar y tro yn unig. Cofiwch i gadw derbynebau am bopeth rydych yn ei brynu ag arian parod.

Beth i’w wneud os yw eich prosiect yn newid

Os ydych yn gwneud man newidiadau i’ch gweithgareddau neu’r hyn rydych yn gwario’r arian arno, mae hynny’n iawn – cyn belled eich bod yn dal i ddefnyddio’r arian i gynnal y prosiect y dywedoch wrthym y byddech yn eich cais.

Os bydd gennych ychydig o arian y grant ar ôl neu os nad oedd y gweithgareddau wedi costio cymaint ag y roeddech yn ei feddwl, peidiwch â phoeni. Os nad yw’n fwy na £1,000, gallwch ddefnyddio gweddill yr arian i barhau eich prosiect am hirach – neu redeg gweithgareddau tebyg.

Rydych angen cysylltu â ni dim ond os:

  • yw prif neu uwch gyswllt eich prosiect yn newid
  • mae angen mwy o amser arnoch i orffen eich prosiect
  • ydych wedi gorffen y prosiect a gyda dros £1,000 o arian y grant yn weddill
  • oes pobl gwbl wahanol am elwa o’ch prosiect nag oeddech yn ei feddwl yn y lle cyntaf
  • ydych eisiau gwneud newidiadau i’ch prosiect a gwario’r arian ar bethau gwahanol
  • Nad ydych yn gallu cynnal y prosiect.

Yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn - cysylltwch â'ch swyddog ariannu (os oes gennych un) neu cysylltwch â ni.

Sut i ddysgu o’ch prosiect

Gobeithio gwella eich gwasanaethau a gweithgareddau? Gofynnwch i chi eich hun, eraill yn eich sefydliad ac eich cymuned am y profiad o’r prosiect. Efallai gall hyn hefyd eich helpu i ymgeisio am fwy o arian grant yn y dyfodol.

Gallwch ofyn:

  • Beth rydym wedi’i ddysgu?
  • Faint o bobl a gymerodd ran yn y prosiect?
  • Beth ddywedodd pobl am y prosiectau neu weithgareddau?
  • Beth aeth yn dda?
  • Beth all fod wedi mynd yn well?
  • Beth fyddech yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Pa wahaniaeth wnaeth eich prosiect ei wneud i’ch cymuned?