Lawrlwytho ein logo fel bod pobl yn gwybod am eich grant gan y Loteri Genedlaethol

Manchester Cares

Rydym yn falch o gefnogi'r gwaith da a wnewch, gan ddefnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Diolch iddyn nhw, rydym yn rhoi mwy na £600 miliwn bob blwyddyn i elusennau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol.

Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n ymwneud â'ch prosiect yn deall ei fod wedi ei gefnogi gan chwaraewyr Y Loteri Genedlaethol - mae rhoi ein logo mewn lle amlwg yn helpu gwneud hyn. Gallwch roi'r logo ar wal, atodi fe i'ch gwefan neu ddarn o gyfarpar - unrhyw le y gall pobl ei weld. Gallwch lawrlwytho ein logos isod. Lawrlwythwch ein Harweiniad Brand (PDF, 1.4MB).

I sicrhau eich bod yn cael y logo cywir, dywedwch wrthym ble mae'ch prosiect wedi'i leoli:


Peidiwch ag anghofio bodloni ein gofynion isafswm maint ni waeth p'un a ydych yn defnyddio'r logo ar-lein neu mewn fformat printiedig. Argraffu: 44mm lled x 14mm uchder, Sgrîn: 125px lled x 40px uchder

Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Sut ydw i'n dewis y math cywir o logo i'w lawrlwytho? for projects in Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Fersiwn digidol (PNG) - gorau ar gyfer gwefannau, dogfennau Word, PowerPoint a chyfryngau cymdeithasol
Fersiwn argraffu (JPG/PNG) - gorau i'w ddefnyddio wrth argraffu posteri neu daflenni
Fersiwn fector (EPS) - gorau i'w ddefnyddio wrth weithio gyda dylunydd proffesiynol

Mae'n well gennym bod ein logo lliw llawn yn cael ei ddefnyddio. Os nad yw hyn yn bosib oherwydd cyferbyniad y cefndir, gellir defnyddio ein logos du a gwyn ar gyfer cefndiroedd golau a thywyll yn ôl ei drefn.

Os hoffech ragor o gymorth, bwrw golwg ar sut i ddefnyddio ein logo neu cysylltwch â'n tîm Brand yn brandio@cronfagymunedolylg.org.uk.

Cymru

Sut ydw i'n dewis y math cywir o logo i'w lawrlwytho? for projects in Cymru

Fersiwn digidol (PNG) - gorau ar gyfer gwefannau, dogfennau Word, PowerPoint a chyfryngau cymdeithasol
Fersiwn argraffu (JPG/PNG) - gorau i'w ddefnyddio wrth argraffu posteri neu daflenni
Fersiwn fector (EPS) - gorau i'w ddefnyddio wrth weithio gyda dylunydd proffesiynol

Mae'n well gennym bod ein logo lliw llawn yn cael ei ddefnyddio. Os nad yw hyn yn bosib oherwydd cyferbyniad y cefndir, gellir defnyddio ein logos du a gwyn ar gyfer cefndiroedd golau a thywyll yn ôl ei drefn.

Os hoffech ragor o gymorth, bwrw golwg ar sut i ddefnyddio ein logo neu cysylltwch â'n tîm Brand yn brandio@cronfagymunedolylg.org.uk.

Sut i ddefnyddio ein logo

Arweiniad brand – gwneud y peth iawn

Lawrlwythwch ein Harweiniad Brand (PDF, 1.4MB) i gael cymorth gyda defnyddio ein logo'n gywir. Os ydych yn ansicr o hyd, cysylltwch â'r tîm Brandio yn brandio@cronfagymunedolylg.org.uk.

Peidiwch ag anghofio

  • Cofiwch fodloni ein hisafswm gofynion maint.
  • Defnyddiwch y logo a ddarperir trwy sianelau swyddogol a pheidiwch â'i addasu neu ei ail-greu.

Offer wedi'i frandio am ddim

Hefyd, gallwn anfon eitemau am ddim fel placiau, balwnau a sieciau mawr atoch - gallwch weld yr amrediad llawn ac archebu yma.