Ariannu

Greenhive

Sut mae ein cyllid Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd

Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Mae ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn ymrwymiad £100 miliwn dros 10 mlynedd i helpu lleihau ôl troed carbon cymunedau ac ysbrydoli gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Mae'r cyllid hwn yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Hyd yn hyn rydym wedi dyfarnu £78.6m i 550 o brosiectau i alluogi pobl ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd yn eu cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys dros 110 o brosiectau partneriaeth a phrosiectau a dyfarnwyd drwy'r rhaglen Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed.

Gallwch nawr ymgeisio ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni. Mae’n ymwneud ag ysbrydoli mwy o bobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ynni a Hinsawdd wedi cau i geisiadau newydd ers 1 Mawrth 2024.

Camau Cynaliadwy Cymru

Mae gan Gamau Cynaliadwy Cymru £16 miliwn o gyllid o’r Cynllun Cyfrifon Segur. Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cefnogi cymunedau a phobl ifanc leol i gyfrannu at ddyfodol llewyrchus, carbon isel i Gymru.

Mae gan y rhaglen ddwy rownd. Mae rownd un yn ceisio hybu ymrwymiad Cymru i ddyfodol cynaliadwy trwy gyflymu gweithredu a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae rownd un wedi cynnig tri chyfle i ymgeisio am gyllid:

  1. Dyfarnwyd grant £2,251,045 dros saith mlynedd i Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru ym mis Mehefin 2022. O 2023, byddan nhw’n darparu gwasanaeth mentora Cymru-gyfan i helpu o leiaf 345 o grwpiau cymunedol i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r rhai hynny nad ydynt fel arfer ynghlwm â gweithredu hinsawdd, gan gyrraedd amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru.
  2. Mae asesiadau wrthi’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ar gyfer grantiau hyd at £350,000. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth 2023. Mae’r grantiau i sefydliadau sydd â chynlluniau uchelgeisiol yn barod. Dysgwch ragor ar ein tudalen Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Gweithredu
  3. Y cyfle nesaf i ymgeisio am grantiau gyda’r cynllun hwn fydd i gymunedau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r gwasanaeth mentora. Bydd y cynllun sy’n cynnig grantiau hyd at £15,000 ar agor i geisiadau o gymunedau sydd wedi cael eu mentora, i roi eu cynlluniau ar waith. Bydd hwn yn agor yn ystod 2023.

Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed

Lansiwyd y rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed yn 2021 i ymgysylltu pobl a chymunedau â COP26 ac ysbrydoli gweithredu hinsawdd cadarnhaol. Dyfarnwyd dros £4.7 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol i dros 530 o brosiectau cymunedol ledled y DU i gefnogi cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r gronfa, a oedd yn cynnig grantiau hyd at £10,000, bellach wedi cau. Dyma’r prosiectau a dderbyniodd cyllid yn yr Alban, a dyma’r prosiectau a dderbyniodd cyllid ar draws gweddill y DU.

Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd

Cynhaliodd gyfarwyddiaeth Cymru'r rhaglen beilot Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd gyda’r nod o ysbrydoli gweithredu amgylcheddol ymysg amrywiaeth o grwpiau cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Gofynnodd y peilot i grwpiau ac elusennau a ariennir yng Nghymru i roi amser i ddatblygu cynlluniau i ymateb i newid hinsawdd a gwnaethom gynnig ychwanegiadau i’w cyllid cyfredol i wneud hynny. Gwnaeth rai grwpiau arbed llawer o ynni ac arian, gwellodd rai ohonynt eu hamgylchedd lleol tra bod eraill wedi nodi’r buddion ar gyfer eu hiechyd a lles. Rydym ni nawr yn archwilio’r dull hwn ymhellach gyda’r cynllun newydd Hwb i'r Hinsawdd yng Nghymru a rhaglen ychwanegiadau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n bosibl fod gan gyllidwyr eraill gyllid ar gyfer gweithredu hinsawdd. Dyma rai cyllidwyr eraill y gallech eu hystyried

Hoffem annog ac ysbrydoli pob deiliad grant i wneud eu rhan i leihau eu heffaith amgylcheddol, yn enwedig lleihau allyriadau carbon, prif achos newid hinsawdd.