Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd

Yr effaith

Mae'n gymharol gynnar o hyd, felly nid ydym wedi gweld yr effaith lawn eto. Nid yw rhai o'r sefydliadau a gymerodd ran wedi llwyddo i gwblhau'r holl waith eto ac mae'r cyfnod clo COVID-19 wedi arafu cynnydd rhai ohonynt.

Effeithlonrwydd ynni a dŵr

Gellir dadlau bod gwneud gwelliannau i adeiladau'n ateb cyflym. Gyda swm cymharol fach o arian, gellir gostwng y defnydd o ynni a dŵr, arbed arian y sefydliad a gwella awyrgylch ac ymddangosiad yr adeilad yn gyffredinol. Yn achos deuddeg o'r prosiectau adeilad a gefnogwyd gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru, amcangyfrifwyd mai'r arbedion blynyddol fyddai:

236,049 o gilowat oriau wedi'u harbed (sy'n gyfwerth â'r carbon a secwestrir trwy blannu 2,760 o eginblanhigion coed a dyfir am 10 mlynedd*)

Arbedwyd 56 tunnell o CO2

* Ffynhonnell

Rhai enghreifftiau:

  • Newidiodd Coleg Elidyr eu boeler gan arbed 44,389 kWh a 2.4 tCO2 bob blwyddyn.
  • Newidiodd Hwb Torfaen fwy na 40 o oleuadau i rai LED. Amcangyfrifir bod yr arbediad blynyddol yn £2,019 a 5.1 tunnell o CO2.
  • Mae Ymddiriedolaeth Bracken yn rhagweld gostyngiad 32% mewn costau ynni, sy'n cyfateb i arbediad o £1,063 bob blwyddyn.
  • Mae Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy yn rhagweld gostyngiad 68% mewn costau ynni, sef arbediad o tua £889 bob blwyddyn.
  • Newidiodd Halo Leisure y system cyfnewidfa wres ar ffurf platiau ac inswleiddio yn eu cyfleuster hamdden cymunedol. Mae hyn wedi gostwng cost y nwy a ddefnyddir oddeutu £1,200 y flwyddyn.
  • Gosododd Oasis Cardiff wrinalau dim dŵr sydd wedi arbed mwy na 16,000 litr o ddŵr ymhen ychydig o fisoedd.


Gwella gwybodaeth a newid ymddygiad

Roedd gan chwech o'r sefydliadau ddysgu neu newid ymddygiad fel amcan allweddol. I rai eraill, sgil-gynnyrch oedd hwn. Ymgymerodd Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru astudiaeth dichonolrwydd sydd wedi cynyddu eu gwybodaeth yn sylweddol.

“Mae'r ymchwil wedi rhoi cryn dipyn o fewnwelediad i ni i sut mae ymddygiadau yr ystyrir eu bod yn 'wyrdd' o fewn y sector garddio cymunedol yn gallu bwydo newid yn yr hinsawdd mewn gwirionedd, a bod angen dulliau newydd o edrych ar effeithiau cyfan pob gweithgaredd i symud tuag at ddull cynllunio a gweithredu dros wella newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae compostio, yr ystyrir ei fod yn ateb cynaliadwy, mewn gwirionedd yn cynhyrchu symiau sylweddol o CO2 a nwyon tŷ gwydr trwy gydol y broses gompostio. Rydym bellach wedi cyflwyno mesurau wrth ddylunio prosiectau fel bod y nwyon a gynhyrchir yn cael eu defnyddio'n effeithiol fel adnodd o fewn y system er mwyn i'r broblem fynd yn rhan o'r datrysiad. Nid yw dweud yn syml eich bod yn anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi'n ddigon bellach.

Er y bu'r ymchwil ar gyfer prosiect newydd, mae'r effaith eisoes wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweithio ar weithgareddau presennol, gan fod y bwrdd bellach wedi gofyn i ni edrych ar beth rydym ni'n ei wneud a gweld os oes angen unrhyw waith 'ôl-osod' i liniaru effaith andwyol yr hyn a wnawn, neu chwilio am ddulliau o wneud yr hyn a wnawn yn fwy effeithlon o safbwynt amgylcheddol.

Mae gan y cyfarwyddwyr, y maent oll yn wirfoddolwyr, ddealltwriaeth well o lawer bod gan ein holl weithgareddau effeithiau amgylcheddol, a bod ystyried y rhain ym mhob cam yn gwneud sefydliad gwell a phrosiectau gwell. Ystyrir bod arwain trwy enghraifft a medru esbonio beth rydym yn ei wneud a pham yn fwy effeithiol na hawlio credadwyaeth 'werdd' heb y sylwedd i'w chyfiawnhau."

Mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau awyr agored wedi dangos ei fod yn gyfrwng gwych ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth.


Menter Iaith Fflint a Wrecsam

“Bu disgyblion yr ysgol leol yn ymwneud â'r gwaith cynllunio ac maent eisiau helpu rheolwr y prosiect i ymgymryd â phlannu'r coed a gofalu amdanynt. Mae'r gymuned, gan gynnwys y plant ysgol lleol, hefyd wedi bod yn meddwl am ac ystyried y camau nesaf ar gyfer datblygu ail ran y berllan a'r math o ddigwyddiadau a fydd yn annog bywyd mwy cynaliadwy a llesol i'r amgylchedd, a diogelu a chynyddu'r fioamrywiaeth y maent eisiau ei gweld yn digwydd yno yn y dyfodol.”

Mewn achosion eraill, mae cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth wedi bod yn ddeilliant anfwriadol.

Newidiodd Hwb Torfaen fwy na 40 o oleuadau i rai LED:

“Gan fod y goleuadau gymaint yn fwy llachar, nid oes angen i ni ddefnyddio'r holl oleuadau trwy'r amser felly mae ymddygiad yn newid ac mae llai o oleuadau'n cael eu cynnau. Yn awr mae gennym bolisi amgylcheddol, mae gennym 2 berson ifanc sydd bellach yn "Eiriolwyr Hinsawdd" ac mae mynd yn garbon niwtral ar flaenau ein meddyliau, mae'r grant hwn wedi newid diwylliant ein sefydliad."


Bioamrywiaeth/creu cynefinoedd

Mae'r rhan fwyaf o'r datblygiadau gardd a pherllan yn eu camau cynnar ac rydym yn debygol o weld yr effaith lawn ar ôl nifer o flynyddoedd. Mae'n ofyniad eu bod yn defnyddio rhywogaethau brodorol.

Cyngor Tref Amlwch Town Council

Creu gardd tyfu cymunedol, safle cadwraeth bywyd gwyllt a hyb natur addysgol. Bydd hyn yn cynnwys gwelyau uchel, ardal berllan, ardal plannu ffrwythau meddal, gerddi perlysiau, parthau ailwylltio, cuddfan adar a gorsaf fwydo (wedi'i chydosod a'i chynnal a chadw gan y gymuned leol), llwybr natur , rhywogaethau gwrychoedd brodorol a phlannu rhywogaethau planhigion allweddol ychwanegol i gynyddu a chefnogi bioamrywiaeth.


Adeiladu hyder a chatalydd i syniadau eraill

Dywedodd y sefydliadau a gefnogwyd eu bod bellach yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth gymryd camau hinsawdd yn eu cymunedau. Mae tystiolaeth gref o gamau pellach y tu hwnt i'r gweithgareddau ychwanegol hefyd.

Canolfan Deuluoedd Borth

“I helpu gydag effeithlonrwydd ynni ac arbedion cost rydym yn cael gosodiad gwydr dwbl ar y ffenestri yn y brif neuadd. Rydym yn cynllunio cwpl o gaffis yn null atgyweirio yn 2020 fel a amlinellir yn y cynllun hwn, ac rydym yn gwneud newidiadau bach o fewn y sefydliad. Er enghraifft, yn ogystal â newid eisoes i ddefnyddio sebon go iawn yn hytrach na chynwysyddion pwmp plastig, rydym bellach yn ailgylchu pecynnau creision trwy TerraCycle hefyd. Wrth baratoi at y Nadolig, gydag un o'n rhieni rydym wedi gwneud ein craceri Nadolig ein hunain gan ailddefnyddio neu ddefnyddio deunyddiau ecogyfeillgar - ac roedd un rhiant wedi archebu het cracer Nadolig ffabrig gyda felcro ar y cefn 'un maint sy'n addas i bawb', mae modd ei olchi yn y peiriant ac mae'n rhywbeth a fydd yn para."

Gwrandewch ar ein podlediad Mewnwelediad Sector Cyhoeddus gydag Adfywio Cymru a Valleys Family Church i gael gwybod mwy am eu profiad o gymryd rhan yn y cynllun peilot. Cliciwch yma i wrando.

Beth ddysgom ni?

Dim ond ychydig o berswâd y mae angen ei ddwyn ar gymunedau i gymryd rhan.

O'r 30 o sefydliadau y cysylltom â hwy, dim ond dau ohonynt a ddwedodd nad oeddent mewn sefyllfa i gymryd rhan oherwydd capasiti, neu oherwydd na fyddai modd iddynt gwblhau'r gwaith o fewn graddfa amser y peilot.


Mae cyngor yn bwysig

O safbwynt ariannwr, fe alluogodd i ni gyfyngu ar faint yr wybodaeth yr oedd ei angen arnom gan ddeiliaid grant ac i wneud penderfyniadau cyflym gan i ni gael ein sicrhau bod deiliaid grant wedi derbyn cyngor gwrthrychol priodol.

O safbwynt deiliaid grant dywedodd 88% fod y cyngor yn bwysig a dywedodd 53% ei bod yn bwysig iawn. Dywedodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam wrthym:

“Roedd y cyngor gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru'n rhagorol, roeddem yn gallu bod yn hyderus ein bod yn mynd i'r afael â'r meysydd pwysicaf a bod y dyfynbrisiau yr oeddem yn eu derbyn yn rhesymol a chan gwmnïau sydd ag enw da. Wrth gael dyfynbrisiau roeddem yn gallu mynd yn ôl i'r cwmnïau a gofyn am eglurhad ar feysydd penodol oherwydd y mewnwelediadau a gawsom gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru.”

Rydym yn ddiolchgar i Adfywio Cymru am ddod o hyd i, a chreu'r cysylltiad rhyngom ni a'n mentor, Iwan Edwards o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae Iwan Edwards wedi bod yn gymorth mawr i ni wrth ddylunio'r berllan ac mae'n wych ei fod yn parhau i gymryd rhan yn y datblygiadau gan ei fod bellach yn Rheolwr y Prosiect ac yn arwain ar ddatblygu'r berllan.”


Mae ariannu'n bwysig

Dywedodd yr holl sefydliadau wrthym iddynt deimlo bod yr ariannu'n bwysig gyda'r mwyafrif helaeth (96%) yn nodi ei fod yn bwysig iawn. Mae'n glir bod sefydliadau'n teimlo na allant ariannu neu flaenoriaethu gweithgareddau fel y rhain.

“Ein llinell amser ar gyfer rhai o'r gwelliannau hyn oedd blynyddoedd, nid misoedd. Fe gyflymodd y broses."

“Nid oedd unrhyw gyllideb i gyflwyno'r paneli PV, ond roeddent yn ein cynlluniau ar y dechrau.”

Oedd £10,000 yn ddigon?

Roedd y rhaniad yn gyfartal rhwng y rhai a ddywedodd ei fod 'tua'r swm iawn' a'r rhai yr oeddent 'angen mwy’.

“Dyma grant ychwanegol nad oedd yn ymwneud ag unrhyw dendro cystadleuol, roedd yn ddigon mawr i gael effaith arwyddocaol ac rwy'n ystyried ei fod yn rhodd amserol yr ydym yn ddiolchgar iawn amdani. O dan yr amgylchiadau hynny roedd tua'r swm iawn i ni.”

“Roeddem yn gallu gwneud llawer gyda'r arian, ond nawr ein bod yn fwy "ymwybodol" mae gennym lawer o gynlluniau o ran sut y gallwn wneud hyd yn oed yn fwy o newidiadau, mae hyn diolch i'r adroddiad a baratowyd gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru, mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.”

Profiad cadarnhaol iawn i'r rhai a gymerodd ran – Cyd-drafodwyd yn frwd p'un a ddylid cynnal digwyddiad lansio a fyddai'n mynnu i bobl deithio o bob cwr o Gymru. Bwrw 'mlaen ag ef oedd y penderfyniad iawn gan iddi roi ffocws i'r peilot, cyfle i bobl godi cwestiynau a siarad â ni a'r partneriaid. Rhoddodd amser i'r deiliaid grant rwydweithio hefyd, a oedd o werth iddynt.


Ffactorau dylanwadol

Cyfyngodd graddfeydd amser ac arian ar yr hyn y penderfynodd cyfranogwyr ei wneud.

Dywedodd Fferm Gymunedol Abertawe wrthym “Rwy'n meddwl bod y raddfa amser fer wedi ychwanegu pwysau, teimlodd ychydig fel y ffilm Brewster’s Millions. Rydym yn sefydliad bach iawn â llwythi gwaith beichus yn barod ar yr adeg honno o ganlyniad i ymrwymiadau codi arian a chyflwyno, a newid mewn staffio a olygodd fod hyn yn amser arbennig o brysur. Er bod hyn yn gyfle gwych - roedd teimlad o frys a olygodd fod angen rhoi pethau eraill o'r neilltu a gweithio oriau ychwanegol."

Nid yw'r sefydliadau i gyd wedi cwblhau eu gweithgareddau. Y cyfnod gweithredu'r syniadau oedd Rhagfyr i Chwefror, y sylweddolom y byddai'n anodd i rai gweithgareddau fel gerddi cymunedol. Rhesymau eraill:

  • Mae stormydd a thywydd gwael wedi achosi oedi i gynnydd
  • Oedi wrth dderbyn nwyddau, yn enwedig cyfarpar arbenigol
  • Derbyn caniatâd
  • Cael yr adnoddau i ymrwymo'r amser i'r dasg

Beth nesaf?

Aethom ati gyda'r bwriad o brofi p'un a allem wneud cyfraniad effeithiol at ostwng effaith allyriadau amgylcheddol/carbon trwy gydweithio â deiliaid grant. Er ei fod yn ddyddiau cynnar o hyd, mae tystiolaeth glir y gallwn wneud gwahaniaeth hyd yn oed gyda symiau bach o arian. Mae parodrwydd gan grwpiau cymunedol ac elusennau i wneud hyn. O ganlyniad i'r cyfuniad o gyngor ac ariannu roedd modd cyflawni'r peilot ac fe ddangosodd ei effaith.

Rydym wedi defnyddio'r dysgu hwn i ddatblygu cam nesaf y peilot – Hwb i’r Hinsawdd. Ym mis Hydref byddwn yn gwahodd carfan arall o grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn Hwb i’r Hinsawdd. O'i gymharu â'r ychwanegiadau, bydd mwy o ffocws ar grwpiau sy'n datblygu cynlluniau gweithredu uchelgeisiol a anelir at gamau tymor hir sefydliadol ar newid yn yr hinsawdd gan ein partneriaid Cymunedau Cynaliadwy Cymru ac Adfywio Cymru. Byddwn hefyd yn cynyddu swm yr arian ychwanegol sydd ar gael ac yn darparu mwy o amser i ddatblygu a gweithredu gweithgareddau. Bydd Hwb i’r Hinsawdd yn galluogi ni i barhau i ddysgu a thyfu fel ariannwr er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi a galluogi dyfodol i'r trydydd sector sy'n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar leihau eich effaith amgylcheddol yma.