Bydd ceisiadau llwyddiannus yn egluro sut y byddant yn darparu’r tair blaenoriaeth:
1. Cefnogi rhagor o bobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd:
trwy alluogi cymunedau yng Nghymru nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â newid hinsawdd i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli eraill.
Rydym am ariannu prosiectau sy’n gynhwysol ac yn ymgysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Bydd ceisiadau cryf yn cefnogi grwpiau o bobl sy’n byw yn yr un lle neu sydd â rhywbeth yn gyffredin, fel oedran, crefydd, anabledd, incwm neu rywedd.
Rydym am gefnogi cymunedau trefol a gwledig yng Nghymru. Rydym yn arbennig am gefnogi pobl ag incwm isel neu’r rhai hynny sydd â nodweddion sy’n eu gwneud yn llai alluog i ymateb i newid hinsawdd.
Rydym am ariannu syniadau a ddatblygwyd gyda phobl yn y gymuned, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Dylai prosiectau gymell pobl i weithredu’n ymarferol, nid codi eu hymwybyddiaeth yn unig. Gall hyn gynnwys datblygu sgiliau.
2. Lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd:
trwy rymuso gweithgareddau a arweinir gan y gymuned i leihau allyriadau carbon a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy, carbon-isel i Gymru.
Rydym am ariannu prosiectau sy’n ysbrydoli pobl i newid y ffordd y maen nhw’n ymddwyn a chael effaith ystyrlon a pharhaus ar leihau allyriadau carbon yn eu cymuned.
Er enghraifft, gall prosiectau ymwneud â bwyd, trafnidiaeth, ynni neu wastraff a defnydd. Dylai syniadau ganolbwyntio ar annog newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn ymddwyn a fydd yn parhau. Gallwn ariannu gwasanaethau cymunedol yn ogystal â datblygu cyfleusterau i helpu gwneud hyn i ddigwydd.
Hoffem wybod am y newidiadau yr ydych wedi’u gwneud ac i ariannu’r rhai hynny sy’n cael effaith gref. Gallwch fesur sut y mae ymddygiad pobl yn newid, sut mae allyriadau carbon yn lleihau, neu ffyrdd eraill sy’n addas ar gyfer eich gwaith. Dylech ddweud wrthym hefyd sut allech chi barhau â’r gwaith yn eich cymuned ar ôl i’ch ariannu ddod i ben.
3. Rhannu’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu ag eraill:
trwy ddangos tystiolaeth effaith a rhannu’r hyn y mae’r grŵp yn ei ddysgu am sut i leihau allyriadau carbon ac ymgysylltu cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Byddwn ni’n ariannu sefydliadau sydd eisiau dysgu, ac yn cynllunio rhannu’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu â grwpiau tebyg. Yn arbennig, rydym eisiau i grwpiau rannu profiadau am gyrraedd pobl newydd, cymell newid mewn ymddygiad a mesur allyriadau carbon. Byddwn ni’n rhannu canllawiau i helpu gyda hyn. Bydd yn barod erbyn 31 Mawrth 2023, mewn pryd i gefnogi grwpiau cyn iddyn nhw ddechrau eu prosiectau.
Yr hyn yr ydym yn disgwyl ei ariannu
Rydym ni’n dymuno ariannu rhwng 10 ac 20 o brosiectau cymunedol, yn dibynnu ar yr hyn y mae pobl yn gofyn amdano. Rydym yn disgwyl derbyn llawer o geisiadau sy’n golygu y bydd angen i ni wneud penderfyniadau anodd am yr hyn y byddwn ni’n ariannu.
Rydym eisiau i’n grantiau annog cymunedau amrywiol i ymgysylltu â newid hinsawdd. Dylai hyn ddigwydd mewn ffyrdd sy’n bwysig i’r cymunedau hynny ac sy’n cael effaith barhaol ar y ffordd y mae pobl yn ymddwyn. Byddwn ni’n ariannu amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru.
Dylai prif ffocws eich prosiect fod am ymgysylltu â newid hinsawdd, ond hoffem wybod hefyd am fuddion eraill eich prosiect. Gallai’r rhain gynnwys pethau fel gwella lles pobl, gwella perthnasoedd rhwng pobl a sefydliadau, neu wella bioamrywiaeth.
Rydym ni’n llai tebygol o ariannu prosiectau lle’r prif ffocws yw natur neu gadwraeth, ond rydym yn cydnabod bod y rhain yn feysydd pwysig, a bod bioamrywiaeth yn lleihau. Felly, rydym eisiau ariannu prosiectau sydd wedi ystyried yr effaith y bydd eu gweithgareddau yn ei chael ar natur, a lle bo hynny’n bosibl, cyfyngu ar unrhyw beth sy’n niweidiol.
Gweithio ag eraill, neu mewn partneriaeth
Rydym am ariannu prosiectau sy’n addas ar gyfer yr hyn sydd eisoes yn digwydd o amgylch gweithredu hinsawdd, felly mae angen i ni wybod sut y byddwch chi’n gweithio â sefydliadau a phobl eraill – yn eich cymuned ac yn ehangach.
Nid oes angen profiad o weithredu hinsawdd arnoch i wneud cais, ond argymhellwn yn gryf eich bod chi’n gofyn am gefnogaeth gan y rhai hynny â phrofiad i helpu gyda’ch syniad. Gallai hyn olygu gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu dylunio a darparu gweithgareddau.
Gallwch hefyd wneud cais os yw eich sefydliad yn brofiadol mewn gweithredu hinsawdd, ond dylech ddangos sut rydych wedi ymgysylltu â’r gymuned yn ystyrlon a dangos sut y bydd y gymuned yn helpu darparu a rheoli’r prosiect.
Y prosiectau yr ydym yn annhebygol o’u hariannu
Rydym ni’n annhebygol o ariannu:
- prosiectau na fyddant yn helpu pobl newid y ffordd y maen nhw’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd
- prosiectau nad ydynt yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar newid hinsawdd, hyd yn oed os bydd manteision eang ar gyfer eich cymuned neu les pobl
- nodweddion ynni i adeiladu ar raddfa fach, oni bai eu bod yn rhan o brosiect ehangach sy’n cynnwys y gymuned mewn gweithredu hinsawdd
- prosiectau lle nad yw’r gymuned wedi bod yn rhan o ddatblygu’r syniad
- prosiectau amgylcheddol neu natur ehangach nad ydynt yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar newid hinsawdd neu fyw’n fwy cynaliadwy.
Os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar les, efallai y bydd hi’n well gennych wneud cais i’n rhaglen Pawb a'i Le.
Darparu eich prosiect yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg
Pan fyddwch chi’n derbyn cyllid gennym am brosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i’ch cymuned yn y ddwy iaith.
I gael gwybodaeth bellach, darllenwch ein canllawiau am reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â’r Tîm Iaith Gymraeg ar cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
Sicrhewch fod eich cyllideb yn cynnwys costau darparu eich prosiect yn ddwyieithog, er enghraifft costau cyfieithu. Efallai bydd angen i chi feddwl hefyd am ffyrdd eraill i gyrraedd eich cynulleidfa darged.
Cadw pobl yn ddiogel
Os bydd eich prosiect yn gweithio â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed – mae angen i chi roi polisi ar waith sy’n egluro sut fyddant yn ddiogel.
Argymhellwn eich bod yn ymweld â gwefan NCVO sy’n darparu amrywiaeth o gyngor a gwasanaethau gwybodaeth diogelu plant ar gyfer y DU cyfan.
Petaech chi’n llwyddiannus yn eich cais, byddem yn disgwyl i chi gadw at ein disgwyliadau fel y nodir yn y polisi deiliad grant am ddiogelu plant ac oedolion dan risg.
Cymorthdaliadau
Mae ein grantiau’n dod o arian cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau Rhyngwladol y DU. Ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol os hoffech gael rhagor o gymorth.
Ewch i'n Hyb Hinsawdd
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Yn ogystal â Chamau Cynaliadwy Cymru, mae gan ein Hyb Hinsawdd wybodaeth am ein dull i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r hyb yn cynnwys dysgu, mewnwelediadau, straeon a gwybodaeth am grantiau eraill.