Cyn i chi ymgeisio
Cofrestrwch ar gyfer un o’n gweminarau ynghylch y grant hwn.
Sut i ymgeisio
Cysylltwch â ni am sgwrs am eich syniad
- e-bostiwch meithrinnatur@cronfagymunedolylg.org.uk, neu
- ffoniwch 0300 123 0735 (ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn yn eich rhoi mewn cyswllt â swyddog ariannu yn eich ardal o fewn 5 diwrnod i chi gysylltu â ni. Byddwn yn gofyn i chi am eich syniad ac yn trafod a yw'r rhaglen ariannu hon yn addas i chi.
Mae 2 gam i'r broses ymgeisio.
Cam 1
Os ydych chi'n addas i wneud cais, byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth atom drwy e-bost am eich:
- syniad
- profiad
- sefydliad
Dysgwch ragor am ba wybodaeth fydd angen i chi ei e-bostio atom.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydym am fynd â'ch cais i'r cam nesaf o fewn pythefnos ar ôl i chi gysylltu â ni.
Cam 2
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi am ddogfennau am eich prosiect. Er enghraifft, eich cynllun prosiect. Bydd angen i chi gyflwyno eich cais terfynol erbyn 30 Hydref 2025.
Byddwn yn gwneud ein penderfyniad terfynol erbyn dechrau 2026
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydym yn mynd i ariannu eich prosiect ai peidio. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi anfon y wybodaeth hon atom
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.
Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgeisio
Rydym yn gofyn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni tri pherson gwahanol o'ch sefydliad. Mae angen gwahanol gyfeiriadau e-bost ar gyfer pob person.
Dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad â nhw oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect. Dylai'r lleill fod yn uwch aelodau o'ch sefydliad, a fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am y grant. Mae angen i bob un ohonynt fyw yn y DU.
Ni all y tri pherson hyn fod yn perthyn i’w gilydd. Gall perthyn olygu:
- yn perthyn trwy briodas
- mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
- mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
- yn perthyn trwy bartner hirdymor
- yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
- yn perthyn trwy waed
Rydym yn gofyn i chi am enw cyfreithiol, cyfeiriad a math eich sefydliad.
Gwiriwch y manylion hyn cyn ymgeisio, ynghyd ag unrhyw rifau cofrestru os oes gennych chi nhw – fel rhif elusen neu rif cwmni. Os nad yw’r manylion yn gywir, gall hyn yn oedi eich cais.
Rydym yn gofyn am fanylion am gyfrifon eich sefydliad.
Byddwn yn gofyn am:
- gopi o'ch cyfrifon diweddaraf
- copi o'ch cyfrifon drafft, os yw eich cyfrifon yn hŷn na 10 mis
- copi o'ch rhagamcanion 12 mis, os yw eich sefydliad yn llai na 15 mis oed
- dyddiad gorffen eich cyfrifyddu
- cyfanswm eich incwm am y flwyddyn
Darllenwch a chytunwch i'n telerau ac amodau
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau yma.
Rydym yn gwirio'r wybodaeth a roddwch i ni
Fel sefydliad sy'n rhoi arian cyhoeddus, rydym yn cynnal rhai gwiriadau ar y wybodaeth a roddwch i ni. Dysgwch fwy am ein gwiriadau yma.
Sut rydym yn defnyddio’r data personol rydych chi'n ei roi i ni
Gallwch ddarllen ein Datganiad Diogelu Data yma.
Lleihau eich ôl troed amgylcheddol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn poeni am yr amgylchedd ac yn ymdrechu bob amser i reoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn annog ac yn cefnogi prosiectau a chymunedau i wneud yr un peth. Dysgwch ragor am sut y gallwch wneud eich prosiect neu ddigwyddiad yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac efallai arbed arian ar yr un pryd yn ein canllawiau ar leihau eich ôl troed amgylcheddol.