Telerau ac Amodau Safonol Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

1. Drwy gyflwyno cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y cyfeirir ato fel “ni”), mae'r sefydliad a enwir yn y cais (y cyfeirir ato fel "chi" yn y Telerau ac Amodau hyn) yn cytuno, os dyfernir grant iddo, i:

1.1. Defnyddio’r grant yn unig ar gyfer eich prosiect fel y disgrifiwyd yn eich cais neu y cytunwyd arno fel arall gyda ni, a dim ond ar gyfer gwariant a wneir ar ôl dyddiad dyfarnu eich grant;

1.2. rhoi i ni'n brydlon unrhyw wybodaeth ac adroddiadau sydd eu hangen arnom am y prosiect a'i effaith, yn ystod ac ar ôl diwedd y prosiect;

1.3. gweithredu'n gyfreithlon wrth gyflawni eich prosiect yn unol ag arfer gorau ac arweiniad gan eich rheolyddion, a dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gennym am y prosiect neu'r defnydd o'r grant a rhoi gwybod i ni'n brydlon am unrhyw dwyll, amhriodoldeb arall, camreoli neu gamddefnyddio mewn perthynas â'r grant a/neu unrhyw eitemau a brynwyd gydag arian y grant;

1.4. cydnabod arian y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio ein brandio yn unol â’n canllawiau brand;

1.5. dal y grant mewn cyfrif yn y DU neu gyfrif cymdeithas adeiladu, sydd yn enw cyfreithiol y sefydliad, sydd yn ymgeisio am arian gennym;

1.6. cadw at ein canllawiau ar reolaethau ariannol a threfniadau bancio, gan sicrhau nad oes gan unrhyw unigolyn unigol gyfrifoldeb llwyr am unrhyw drafodiad unigol o awdurdodiad i adolygu a chwblhau, a bod y cyfrif yn cael ei reoli gan o leiaf dau unigolyn anghysylltiedig ac awdurdodedig yn eich sefydliad;

1.7. dychwelyd unrhyw ran o’r grant nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich prosiect neu sy’n gyfystyr â chymhorthdal anghyfreithlon;

1.8. cydymffurfio â'n polisi diogelu ar gyfer deiliaid grant, sydd ar gael ar ein gwefan;

1.9. cydymffurfio ag unrhyw weithgareddau ymchwil neu werthuso a wneir gennym a chadarnhau ymhellach y gallwn ddefnyddio unrhyw ran o’ch cais a/neu wybodaeth am eich prosiect at ddibenion ymchwil neu werthuso.

1.10. cydymffurfio â deddfau diogelu data a chael caniatâd eich buddiolwyr er mwyn i ni a chi dderbyn a phrosesu eu gwybodaeth bersonol a chysylltu â nhw;

1.11. cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr am eich prosiect yn ystod y prosiect ac am saith mlynedd wedi hynny a darparu copïau o’r cofnodion hynny pan fyddwn ni’n gofyn amdanynt yn ogystal â thystiolaeth o wariant y grant, megis derbynebau gwreiddiol a chyfriflenni banc;

1.12. caniatáu i ni a/neu’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i gael mynediad rhesymol at eich lleoliad a systemau i archwilio cofnodion prosiect a grant;

1.13. ein cefnogi wrth gyhoeddi a rhannu gwybodaeth amdanoch chi a’ch prosiect gan gynnwys eich enw a lluniau o weithgareddau prosiect. Wrth dderbyn y grant hwn rydych chi’n rhoi mynediad di-freindal i ni ailgynhyrchu a cyhoeddi unrhyw wybodaeth prosiect a roddwch i ni. Rydych chi’n gyfrifol am gydymffurfio â deddfau diogelu data ar gyfer unrhyw wybodaeth a ddarparwch i ni, a byddwch chi’n rhoi gwybod i ni pan fyddwch chi’n darparu’r wybodaeth os nad ydych wedi ceisio caniatâd i ni ei ddefnyddio.

1.14. os yw eich prosiect yn cael ei gyflawni yng Nghymru, galluogi pobl i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog.

2. Rydych yn cydnabod bod gennym hawl i atal neu derfynu'r grant a/neu ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu'r cyfan neu unrhyw ran o'r grant yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol. Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd.

2.1. Rydych yn defnyddio'r grant mewn unrhyw ffordd ac eithrio fel y'i cymeradwywyd gennym ni neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r Telerau ac Amodau hyn.

2.2. Rydych yn methu â gwneud cynnydd da gyda'ch prosiect neu'n annhebygol yn ein barn ni o gwblhau'r prosiect neu gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt gyda ni.

2.3. Mae gennych arian cyfatebol ar gyfer y prosiect wedi'i dynnu'n ôl neu'n derbyn neu'n methu â datgan unrhyw gyllid dyblyg ar gyfer yr un costau prosiect ag a ariennir gan y grant.

2.4. Rydych yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni naill ai ar gais neu ar ôl dyfarnu'r grant, yn gweithredu'n anonest neu'n destun ymchwiliad gennym ni, corff rheoleiddio neu'r heddlu, neu os ystyriwn am unrhyw reswm arall fod arian cyhoeddus mewn perygl neu eich bod yn gwneud unrhyw beth i ddwyn anfri arnom ni neu'r Loteri Genedlaethol.

2.5. Rydych yn ymrwymo i weinyddu, diddymu, neu yn debygol o ymrwymo i weinyddu, diddymu, neu, yn yr Alban, atafaelu ystâd eich sefydliad. Efallai byddwn ni’n adfer cyllid grant o’r cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr neu ddeiliaid swydd eich sefydliad os ydyn nhw wedi cyfarwyddo eich sefydliad i ddechrau prosesau ansolfedd heb ddileu atebolrwydd y sefydliad hwn o dan y cytundeb grant hwn.

2.6. Rydych yn derbyn unrhyw arian grant yn anghywir naill ai o ganlyniad i wall gweinyddol neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys lle cewch eich talu drwy gamgymeriad cyn i chi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn a Llythyr Cynnig. Bydd unrhyw swm, sy'n ddyledus o dan y paragraff 2.6 hwn, yn ddyledus ar unwaith. Os byddwch yn methu ag ad-dalu'r swm dyledus ar unwaith, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, bydd y swm yn adenilladwy'n ddianyddol fel dyled sifil.

3. Rydych yn cydnabod:

3.1. mae'r grant at eich defnydd yn unig ac efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu cyfran o unrhyw enillion o waredu asedau a brynwyd neu a ychwanegwyd gyda'r grant;

3.2. ni fyddwn yn cynyddu'r grant os byddwch yn gwario mwy na'r gyllideb y cytunwyd arni a gallwn ond gwarantu'r grant cyn belled â bod y Loteri Genedlaethol yn parhau i weithredu a'n bod yn cael digon o arian ganddo;

3.3. nid yw'r grant yn ystyried unrhyw gyflenwad trethadwy at ddibenion TAW;

3.4. nid oes gennym unrhyw atebolrwydd am unrhyw gostau na chanlyniadau a ysgwyddir gennych chi neu drydydd partïon sy'n codi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r prosiect, nac o beidio â thalu neu dynnu'r grant yn ôl, ac eithrio i'r graddau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith;

3.5. bydd y Telerau ac Amodau hyn yn parhau i fod yn gymwys am ddwy flynedd ar ôl i'r grant gael ei dalu neu hyd nes y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, pa un bynnag sydd hwyraf. Bydd cymalau 1.2, 1.4, 1.6, 1.8, 1.9, 1.10, 1.11, 1.12, 1.13, 2.4, 3.4 a 3.5 yn goroesi tan y bydd y Telerau ac Amodau hyn yn dod i ben; a

3.6. os caiff y cais a'r dyfarniad grant eu gwneud yn electronig, ystyrir bod y cytundeb rhyngom yn ysgrifenedig a bernir bod derbyn y Telerau ac Amodau hyn ar-lein yn cyfateb i'ch llofnod ar y cytundeb hwnnw.

4. Pan fyddwch chi’n prynu cerbydau a/neu gyfarpar:

4.1 os gofynnir am hynny, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni eich bod yn berchen ar y cerbydau neu gyfarpar yn ddilys;

4.2 rhaid i chi gadw’r cerbydau neu’r cyfarpar am oes y prosiect a’u defnyddio’n unig ar gyfer y prosiect;

4.3 ni ddylech chi werthu na gwaredu’r cerbydau neu’r cyfarpar yn ystod yr amser hwnnw heb gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf ac os gofynnir am hynny, rhaid i chi dalu cyfran o’r elw o unrhyw warediad; a

4.4. rhaid i chi gadw’r cerbydau neu’r cyfarpar yn ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi’u hyswirio’n ddigonol am oes y prosiect.