Meithrin Natur

Nod y rhaglen ariannu hon yw gwella iechyd a lles plant a'u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gwneud hyn drwy eu helpu i gysylltu â'r amgylchedd naturiol.

Wrth hyn, rydym yn golygu rhoi profiadau cadarnhaol ac ystyrlon i blant a'u gofalwyr gyda natur a mannau awyr agored. Fel parciau, afonydd neu goedwigoedd. Mae'n ymwneud â'u helpu i gael mynediad at natur a'r mannau hyn, rhyngweithio â nhw a dysgu gofalu amdanynt.

Mae’r plant a gofalwyr yn cynnwys:

  • babanod a phlant dan 5 oed
  • rhieni sy’n feichiog
  • teulu, gofalwyr maeth, gofalwyr â thâl neu ofalwyr di-dâl

Rydym am i sefydliadau ddod â'u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd. Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth i wneud cais am yr arian hwn.

Rhaid i chi ddangos i ni sut y bydd eich partneriaeth yn:

  • cynnal gweithgareddau sy'n helpu plant a'u gofalwyr i gysylltu â'r amgylchedd naturiol. A gwella eu hiechyd a'u lles.
  • cynnwys plant a'u gofalwyr yn nyluniad a chyflawniad y prosiect
  • gwella neu ddatblygu mannau naturiol cynhwysol a hygyrch
  • cefnogi pobl sy'n profi tlodi, gwahaniaethu neu anfantais
  • gwerthuso eich prosiect

Gweler yr hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu am ragor o fanylion.

Rydym yn cynnig hyd at £25,000 mewn grant datblygu. Ar ôl defnyddio'r arian hwn i ddatblygu eich prosiect gallwch wneud cais am hyd at £2 filiwn i gyflawni eich prosiect, am hyd at 6 blynedd.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau. Gall y rhain gynnwys sefydliadau gwirfoddol, cymunedol, sector cyhoeddus a sector preifat.
Maint yr ariannu
Hyd at £25,000 ar gyfer y grant datblygu. Hyd at £2 filiwn, am hyd at 6 blynedd i gyflawni eich prosiect.
Cyfanswm ar gael
Hyd at £10 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

12pm, 1 Rhagfyr 2025

Ymgeisio

Cyn i chi ymgeisio

Dysgwch ragor am y grant hwn yn un o'n digwyddiadau:

Cofrestrwch ar gyfer un o’r pedwar digwyddiad wyneb yn wyneb:

Cofrestrwch ar gyfer un o’n gweiniau:

Sut i ymgeisio

Cysylltwch â ni am sgwrs am eich syniad

Byddwn yn eich rhoi mewn cyswllt â swyddog ariannu yn eich ardal chi o fewn 5 diwrnod i chi gysylltu â ni.

Byddwn yn gofyn i chi:

  • sut rydych chi wedi gweithio gyda phlant a gofalwyr o'r blaen. A sut y byddwch chi'n eu cynnwys yn nyluniad, cyflawniad a gwerthusiad y prosiect.
  • pa sefydliadau y byddwch chi'n gweithio gyda nhw
  • pa brofiad sydd gennych o weithio mewn partneriaethau
  • sut rydych chi'n gwybod bod angen eich prosiect, gan gynnwys unrhyw fylchau mewn gwasanaethau lleol y bydd eich gwaith yn eu llenwi 
  • pa brofiad sydd gennych chi o weithio gyda natur a'r amgylchedd
  • ble bydd eich prosiect yn digwydd
  • am y gweithgareddau y byddwch chi'n eu cynnal
  • sut y byddwch chi'n defnyddio’r grant datblygu

Mae 2 gam i'n proses ymgeisio.

Cam 1 – datblygu’r prosiect

Gall partneriaethau ofyn am grant datblygu hyd at £25,000. Gall hyn eich helpu i dalu am bethau fel:

  • amser staff
  • sesiynau ymgysylltu gyda phlant a'u gofalwyr
  • cynnal cyfarfodydd partneriaeth

Bydd cefnogaeth ar gael i ddatblygu eich prosiect.

Os ydych chi'n addas i ymgeisio, byddwn yn anfon ffurflen atoch i ddweud mwy wrthym am eich syniad. Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 12pm, 1 Rhagfyr 2025.

Gweler y cwestiynau yn y ffurflen grant datblygu.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael grant datblygu erbyn mis Mawrth 2026.

Cam 2 – cyflawni’r prosiect

Ar ôl i chi ddatblygu eich prosiect, byddwch yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £2 filiwn i'w gyflawni. Dim ond os ydych wedi cael grant datblygu y gallwch chi wneud cais am hwn.

Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn para hyd at 6 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan.

Byddwn yn anfon ffurflen gais fanylach atoch i wneud cais.

Gweler y cwestiynau yn y ffurflen gais.

Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon erbyn 31 Gorffennaf 2026.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n cael y grant hwn erbyn Hydref 2026.

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.

Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad. Er enghraifft, ffurflenni hygyrch sy'n gweithio all-lein.

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgeisio

Rydym yn gofyn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o'ch sefydliad. Mae angen gwahanol gyfeiriadau e-bost ar y ddau gyswllt.

Dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad â nhw os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect. Dylai'r llall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am y grant. Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.

Ni all y ddau berson hyn fod yn perthyn i’w gilydd. Gall perthyn olygu:

  • yn perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn perthyn trwy bartner hirdymor
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed

Rydym yn gofyn i chi am enw cyfreithiol, cyfeiriad a math eich sefydliad.

Gwiriwch y manylion hyn cyn ymgeisio, ynghyd ag unrhyw rifau cofrestru os oes gennych chi nhw – fel rhif elusen neu rif cwmni. Os nad yw’r manylion yn gywir, gall hyn yn oedi eich cais.

Rydym yn gofyn am fanylion am gyfrifon eich sefydliad

Byddwn yn gofyn am:

  • gopi o'ch cyfrifon diweddaraf
  • copi o'ch cyfrifon drafft, os yw eich cyfrifon yn hŷn na 10 mis
  • copi o'ch rhagamcanion 12 mis, os yw eich sefydliad yn llai na 15 mis oed
  • dyddiad gorffen eich cyfrifyddu
  • cyfanswm eich incwm am y flwyddyn

Rydym hefyd yn gofyn i chi ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau

Gallwch ddarllen ein telerau ac amodau yma.

I ddarganfod sut rydym yn defnyddio eich data personol

Gallwch chi ddarllen ein Datganiad Diogelu Data yma.

Lleihau eich ôl troed amgylcheddol

Rydym am ariannu sefydliadau sy'n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd. Nid oes rhaid i chi fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd na'r amgylchedd i ymgeisio.

Yn y ffurflen gais, rydym am i chi ddweud wrthym am y camau y byddwch yn eu cymryd i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Neu hyd yn oed sut y byddwch yn cael effaith gadarnhaol.

Gallai hyn fod drwy bethau fel lleihau eich teithio, gwastraff neu ddefnydd o ynni.

Dylech chi:

ewch i’n Hwb Gweithredu Hinsawdd. Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth am ein dull o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’n cynnwys dysgu, mewnwelediadau, straeon a grantiau.

Pwy all ymgeisio

Pwy all ymgeisio

Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth

Rhaid i'ch partneriaeth fod â phrofiad o weithio:

  • gyda phlant dan 5 oed a'u gofalwyr
  • yn yr amgylchedd naturiol

Rydym am i sefydliadau ddod â'u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd. Er enghraifft, sefydliadau sy'n gweithio mewn:

  • blynyddoedd cynnar
  • natur a'r amgylchedd
  • iechyd a lles

Rhaid i'r sefydliad arweiniol yn y bartneriaeth fod yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol cyfansoddedig
  • grŵp neu glwb cyfansoddedig
  • elusen gofrestredig
  • sefydliad elusennol corfforedig (CIO)
  • cwmni nid-er-elw
  • cwmni budd cymunedol (CIC)
  • cymdeithas budd cymunedol

Byddwn yn rhoi ein harian i'r sefydliad arweiniol. Yna gallant dalu'r partneriaid eraill am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Rhaid i'r sefydliad arweiniol:

Gall partneriaethau hefyd gynnwys:

  • ysgolion (cyn belled â bod eich prosiect o fudd i'r cymunedau o amgylch yr ysgol ac yn eu cynnwys)
  • cyrff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf a chymuned)
  • sefydliadau'r sector preifat

Ond ni all y sefydliadau hyn wneud cais am yr arian.

Mae angen o leiaf tri aelod ar eich bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn perthyn

Gall perthyn olygu:

  • yn perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn perthyn trwy bartner hirdymor
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed

Rhaid i bob cwmni sy'n ymgeisio gael o leiaf tri chyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn mewn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Pwy na all ymgeisio

Pwy na allwn dderbyn ceisiadau ganddynt:

  • cyrff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref, plwyf a chymuned)
  • ysgolion
  • unigolion
  • masnachwyr unigol
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • cwmnïau a all dalu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau sy’n Gyfyngedig gan Gyfranddaliadau)
  • sefydliadau sy'n gwneud cais i fwy nag un o'n rhaglenni ar gyfer yr un prosiect dros yr un cyfnod. Mae hyn oherwydd na allwch gael arian dyblyg ar gyfer rhywbeth rydym eisoes yn eich ariannu i'w wneud. Mae'n iawn gwneud cais i raglen arall os ydych eisoes wedi cael penderfyniad aflwyddiannus serch hynny
  • sefydliadau a gontractiwyd drwy Gymorth i Ymgeiswyr
  • sefydliadau a ariennir drwy grant Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur
  • un sefydliad yn gwneud cais ar ran un arall

Gallwn ariannu rhai gweithgareddau ac ymgyrchoedd gwleidyddol

Ond dim ond os:

  • nad yw'r gweithgaredd yn blaid wleidyddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo ymwneud â pholisi, ymarfer neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol
  • yw’r gweithgaredd yn ceisio helpu achos eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu'r gymdeithas

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mai gweithgareddau gwleidyddol yn brif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud ag ymgyrchu’n bennaf.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau a ysgrifennwyd ar eich rhan gan fusnesau preifat nac ymgynghorwyr

Byddwch yn ofalus o fusnesau neu ymgynghorwyr sy'n dweud y gallant eich cefnogi gyda'ch ceisiadau ariannu. Mae’n bosibl y byddan nhw’n dweud eu bod yn gweithredu ar ran y Gronfa, neu’n gyflenwr dewisol i’r Gronfa. Gallent hyd yn oed gynnig ysgrifennu cais ar eich rhan.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan y mathau hyn o fusnesau neu ymgynghorwyr.

Ond mae'n iawn i gael help gan sefydliadau cymorth - fel eich awdurdod lleol neu Gyngor Gwirfoddol Sirol (CVC)

Efallai y gallant roi cymorth a chyngor i chi ar ysgrifennu eich cais.

Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei ariannu

Rhaid i chi helpu plant a'u gofalwyr i gysylltu â'r amgylchedd naturiol

Wrth hyn, rydym yn golygu rhoi profiadau cadarnhaol ac ystyrlon i blant a'u gofalwyr gyda natur a mannau awyr agored. Fel parciau, afonydd neu goedwigoedd. Mae'n ymwneud â'u helpu i gael mynediad at natur a'r mannau hyn, rhyngweithio â nhw a dysgu gofalu amdanynt.

Mae plant a gofalwyr yn cynnwys:

  • babanod a phlant dan 5 oed
  • rhieni sy’n feichiog
  • teulu, gofalwyr maeth, gofalwyr â thâl neu ofalwyr di-dâl

Er enghraifft, gallech chi:

  • greu lle awyr agored i blant a'u gofalwyr chwarae a rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol
  • cynnal gweithdai dan do am sut i dyfu eich blodau, ffrwythau neu lysiau eich hun
  • cynnal gweithgareddau synhwyraidd sy'n helpu plant a gofalwyr i feithrin cysylltiadau â natur

Rydym yn agored i ddysgu gan brosiectau eraill sydd eisoes yn helpu pobl i wneud hyn. Dyma rai enghreifftiau a allai helpu i ysbrydoli eich prosiect chi:

Dylai eich prosiect gael ei ddylunio gyda'r bobl rydych chi'n eu cefnogi

Dylech chi:

  • eu cynnwys yn y ffordd y caiff ei ddatblygu, ei gyflawni a'i arwain
  • gwneud defnydd o'u sgiliau a'u diddordebau presennol
  • ategu’r gwasanaethau presennol maen nhw'n eu defnyddio a chreu cysylltiadau â nhw
  • llenwi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau lleol

Bydd gennych gefnogaeth i'ch helpu i ddatblygu a chyflawni eich prosiect. Rydym yn ariannu sefydliadau eraill i'ch helpu trwy ein grant, Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur.

Dylai prosiectau gefnogi pobl sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu

Rydym am ariannu cymunedau sy’n agored i niwed neu gymunedau sydd wedi'u heithrio. Yn enwedig y bobl sy'n ei chael hi anoddaf cael mynediad at gymorth. Felly byddwn yn disgwyl i chi ddangos i ni sut y byddwch yn cyrraedd y bobl hyn.

Gallwch chi ddefnyddio ystadegau i’ch helpu i ddangos i ni gyda phwy rydych chi'n gweithio. Ond yn bwysicaf oll mae dweud wrthym am y cyd-destun lleol. Dywedwch wrthym am eich gwybodaeth, eich profiad a'ch ymgysylltiad â phobl sy'n wynebu'r heriau hynny.

Rhaid i chi werthuso eich prosiect

Byddwch yn cael cefnogaeth gan y grant Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur i wneud hyn. Byddwn yn disgwyl i chi gasglu gwybodaeth ddefnyddiol i lywio eich prosiect. A rhannu'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'r prosiect.

Gan y byddwch chi'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc neu oedolion sy’n wynebu risg.

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n egluro sut y byddant yn ddiogel. Os cewch grant bydd angen i chi ddilyn ein disgwyliadau ar ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

Mae gan wefan yr NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant.

Rhaid cyflwyno eich prosiect yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg

Rydym am i bobl yng Nghymru gael mynediad at y prosiectau a ariannwn yn yr iaith sydd ei hangen arnynt. Dylech sicrhau y gall pobl ymgysylltu â'ch prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallwch gynnwys costau ar gyfer gwasanaethau dwyieithog yn eich cyllideb arfaethedig. Er enghraifft, cost cyfieithu deunydd hyrwyddo.

Er mwyn eich helpu i gyflwyno prosiect yn y Gymraeg a’r Saesneg, dylech:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â thîm y Gymraeg drwy e-bostio cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Gallwn ariannu:

  • offer
  • digwyddiadau untro
  • costau staff
  • costau hyfforddi
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau cyfieithu
  • costau marchnata a chyfathrebu
  • costau gwerthuso
  • ffioedd proffesiynol a chyfreithiol
  • rhan o gostau cyffredinol eich sefydliad
  • prosiectau tir bychan neu adnewyddu

Byddwn yn ariannu cyflawniad y prosiect. A byddwn yn ariannu rhai o gostau anuniongyrchol y prosiect.

Gelwir hyn hefyd yn gostau cyffredinol. Gallai hyn gynnwys pethau fel rhent neu yswiriant. Neu ran o gyflog rhywun nad yw'n gweithio'n uniongyrchol ar y prosiect. Fel uwch reolwr neu weithiwr gweinyddol.

Er enghraifft, gallai'r prosiect rydych chi'n ymgeisio amdano fod yn hanner y gwaith y mae eich sefydliad yn ei wneud. Yn yr achos hwnnw, gallem ariannu hanner eich costau cyffredinol.

Weithiau gelwir hyn yn adferiad cost llawn. Dysgwch sut i gyfrifo costau cyffredinol yn ein canllaw i adferiad cost llawn.

Gallwn hefyd ariannu rhai costau cyfalaf

Ond ni fyddwn yn ariannu prosiectau sydd yn bennaf ar gyfer costau cyfalaf.

Gall hyn gynnwys prynu tir, adnewyddu mannau neu dirlunio i'ch helpu i gyflawni'r prosiect.

Er enghraifft, i dalu am dai gwydr neu lochesi bach eraill i gynnal gweithgareddau ynddynt.

Os oes angen arian arnoch ar gyfer prosiectau tir neu adnewyddu

Mae angen i chi naill ai:

  • fod yn berchen ar y tir neu'r adeilad,
  • bod â phrydles na ellir ei therfynu am bum mlynedd,
  • cael llythyr gan y perchennog yn dweud y bydd y tir neu'r adeilad yn cael ei brydlesu i chi am o leiaf bum mlynedd, neu
  • cael llythyr swyddogol gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod chi'n cael gwneud gwaith ar yr adeilad.

Dylech hefyd weld a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith.

Ni allwn ariannu:

  • costau ôl-weithredol (costau am bethau sydd eisoes wedi digwydd, neu rydych chi eisoes wedi talu amdanynt)
  • alcohol
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais ar eich rhan
  • gweithgareddau codi arian (lle rydych chi'n defnyddio ein harian i godi mwy o arian)
  • treth ar werth (TAW) y gallwch ei hawlio'n ôl
  • gweithgareddau crefyddol (gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i gyrff statudol eu gwneud
  • gweithgareddau sy'n helpu plant neu bobl ifanc gyda'u gwaith ysgol yn ystod amser ysgol
  • teithio dramor
  • prosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
  • gweithgareddau sy'n gwneud elw er budd preifat
  • arian parod a fydd yn cael ei roi'n uniongyrchol i unigolion