Beth rydym fel arfer yn hoffi ei wybod mewn diweddariad cynnydd

PACT

Gallwch ddefnyddio’r is-benawdau a chwestiynau hyn i strwythuro eich diweddariad cynnydd (os hoffech). Ond nid os rhaid i chi ateb bob cwestiwn dan bob is-bennawd – dim ond syniadau yw rhain i beth efallai yr hoffech ei ddweud.

Stori eich prosiect eleni

Beth mae’r arian grant wedi eich galluogi i wneud? Dywedwch wrthym yn eich geiriau eich hun neu yng ngeiriau’r bobl rydych yn ei gefnogi.

Sut rydych wedi cynnwys pobl o’ch cymyned yn y gwaith rydych yn ei wneud

Sut maent wedi newid y ffordd rydych yn gweithio? Sut ydych wedi ymuno gyda beth mae eraill yn ei wneud yn lleol? Sut ydych yn gwneud y mwyaf o gryfderau eich cymuned?

Y gwahaniaethau rydych yn ei wneud (mawr a bach)

Sut mae eich prosiect wedi helpu pobl a’ch cymuned? A sut rydych yn gwybod ei fod wedi helpu?

Sicrhewch fod y wybodaeth rydych yn ei gasglu o nifer o wahanol leisiau o fewn eich cymuned (felly, y bobl rydych yn eu cefnogi, staff a gwirfoddolwyr). A dywedwch wrthym am y gwahaniaethau rydych yn ei wneud gyda rhifau a straeon.

Rydym hefyd yn gwybod gall y gwahaniaeth roeddech wedi cynllunio ei wneud ar ddechrau eich prosiect newid. Mae hynny’n hollol iawn – rydym yn hoffi clywed am y newidiadau hefyd.

Beth rydych wedi’i ddysgu

Beth aeth yn dda? Beth sydd heb fynd mor dda neu wedi bod yn heriol? Beth sydd wedi bod yn annisgwyl neu’n ddiddorol? Beth rydych wedi’i ddysgu gall fod yn ddefnyddiol i eraill? Beth feddylioch ei drio ond ni wnaethoch?

Gall y rhain fod yn bethau rydych wedi’i ddysgu am:

  • y ffordd rydych yn gweithio
  • y ffordd rydych yn cefnogi pobl a’ch cymuned
  • y ffordd rydych yn gweithio ag eraill
  • eich cyd-destun neu gymuned

Sicrhewch eich bod yn siarad â nifer o bobl wahanol (cydweithwyr, gwirfoddolwyr, aelodau cymuned, mudiadau partner) i weld yr hyn maen nhw’n ei feddwl hefyd.

Am fwy o gymorth â hyn, darllenwch y canllaw cam wrth gam i gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi.

Sut rydych yn newid beth rydych yn ei wneud

A ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau ar sail eich profiadau a beth rydych wedi’i ddysgu? Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod – a thu hwnt? Sut bydd eich cynlluniau yn helpu eich cymuned i ffynnu? Ac a oes unrhyw gefnogaeth sydd angen arnoch i wneud hyn?

Beth rydych wedi’i wario eleni

Nid oes angen i ni wybod am bopeth warioch chi’r arian arno. Rydym dim ond angen gwybod:

  • faint wnaethoch gyllidebu ar ei gyfer
  • faint gwarioch chi
  • y gwahaniaeth rhwng eich cyllid a faint warioch chi

Ar gyfer refeniw a chostau cyfalaf.

Enghraifft o’r wybodaeth rydym ei angen gennych

Unwaith i chi weithio allan yr hyn rydych wedi gwario ‘r arian grant arno
Meddyliwch am unrhyw newidiadau hoffech ei wneud i’r cyllid gytunoch â ni ar ddechrau eich prosiect. Siaradwch â’ch Swyddog Ariannu am unrhyw newidiadau.

Os mai hwn yw eich diweddariad cynnydd diwethaf gyda ni

Os mai dyma ddiwedd eich cyfnod ariannu, meddyliwch am:

  • Os oes gennych unrhyw feddyliau am y prosiect yn ei gyfanrwydd? Er enghraifft, a ddysgoch unrhyw beth newydd am y gwaith rydych yn ei wneud neu am eich cymuned, oedd yn annisgwyl neu’n ddiddorol?
  • Unrhyw dystiolaeth neu ddysg arall – megis gwerthusiad neu ddarn o ymchwil – nad ydych eisoes wedi ei rannu â ni.
  • Os nad ydych wedi gwario’r holl arian grant – siaradwch â’ch Swyddog Ariannu a byddent yn gadael i chi wybod beth i’w wneud â fo.