Rhoi gwybod i ni sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen

Roundabout Sheffield

Os oes gennych grant Loteri Genedlaethol o dros £10,000 gennym i brosiect sy’n para dwy flynedd neu fwy, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen yn flynyddol (rydym yn galw hyn yn ddiweddariad datblygiad). Byddwn hefyd yn cael sgyrsiau â chi’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Ond gallwch dal gysylltu â ni ar unrhyw bryd os oes rhywbeth hoffech sgwrsio am neu gael cymorth gyda.

Rydym eisiau sicrhau bod eich prosiect yn mynd yn iawn
Ond mae hefyd yn gyfle i chi adlewyrchu a dysgu o’r gwaith rydych yn ei wneud, a gweld os y gall wella’r hyn rydych yn ei wneud yn y dyfodol.

Beth i’w ddweud wrthym yn niweddariad eich prosiect

Rydym eisiau gwybod sut mae eich prosiect wedi dod yn ei flaen dros y 12 mis diwethaf. Dyma’r pethau rydym fel arfer yn hoffi gwybod amdanynt.

Gall yr union wybodaeth rydym yn gofyn amdano newid yn ddibynnol ar:

  • lle mae eich prosiect wedi’i leoli yn y DU
  • pa wybodaeth oeddech chi a’ch Swyddog Ariannu wedi cynllunio ei gasglu am eich prosiect pan ddechreuodd.
  • pa raglen mae eich rhaglen yn rhan ohoni.

Dylech gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi

Weithiau, mae’r bobl rydym yn ei ariannu yn credu y dylent gasglu dysg i ni. O ganlyniad, maent yn ceisio casglu pethau maent yn meddwl byddem yn ei hoffi, yn hytrach na’r hyn sy’n ddefnyddiol iddyn nhw. Ond dylai’r ddysg fod yn ddefnyddiol i chi a’ch prosiect.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am sut i gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi, eich prosiect a’ch cymuned, dewch o hyd iddo yma.

Gallwch roi diweddariad o’ch prosiect mewn amryw o ffurfiau gwahanol

Gallwch roi’r wybodaeth i ni yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi, er enghraifft drwy ddefnyddio:

  • gwerthusiad
  • adroddiad blynyddol
  • adborth gan staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr
  • graffiau, siartiau, ystadegau a data
  • deciau sleidiau a phostiadau blog
  • fideos, lluniau a ffeithluniau
  • cofnodion cyfarfodydd

Os oes gennych ffynhonnell wahanol o ariannu i’ch prosiect
Efallai eich bod eisoes yn ysgrifennu’r math yma o adroddiadau iddyn nhw hefyd. Felly nid ydym eisiau gwneud i chi orfod ysgrifennu adroddiad gwbl newydd i ni hefyd. Mae hyn y golygu gallwch anfon rhywbeth rydych eisoes wedi’i ysgrifennu i fudiadau eraill sy’n trafod y pethau rydym yn eich ariannu ar eich cyfer. Os ydych yn anfon rhywbeth rydych eisoes wedi’i ysgrifennu, uwch oleuwch y darnau sy’n berthnasol i ni.

Pam rydym yn gofyn am ddiweddariadau ar eich prosiect

Hoffem i chi ddal i edrych ar y gwahaniaeth mae eich arian Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn eich cymuned – a gweld os oes unrhyw beth allwch ei ddysgu o’r gwaith rydych yn ei wneud er mwyn gwella sut rydych yn gweithio yn y dyfodol.

Hoffem ddefnyddio eich diweddariadau i wella ein gwaith ni hefyd – a rhannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu gyda grwpiau eraill i’w helpu i drawsnewid eu cymunedau eu hunain.

Rydym hefyd eisiau gwybod sut rydych yn defnyddio ein harian a beth mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Felly weithiau rydym angen cael y diweddariadau gennych cyn i ni allu talu mwy o’ch arian.

Beth a wnawn â’r wybodaeth am eich prosiect

Bydd eich Swyddog Ariannu yn edrych ar y wybodaeth byddwch wedi’i anfon i ni. Gallent roi adborth i chi, trafod ffyrdd o gefnogi eich gwaith neu rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu ag eraill.

Os hoffech eich dysg gael ei rannu’n ehangach, gallwch ofyn i ni feddwl am ei ychwanegu i'n Llyfrgell Dystiolaeth – efallai hoffech gymryd golwg a gweld os oes unrhyw ddysg sy’n berthnasol i chi yna.

Cofiwch rannu eich stori o’ch arian Loteri Genedlaethol yn ehangach hefyd

Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i gasglu i ddweud wrth eich cymuned sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen. Gallent wedyn weld y gwahaniaeth mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud mewn cymunedau ledled y DU. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth, logos a deunyddiau am ddim i’ch helpu i wneud hyn yma.