![](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/hull-sound-circles_thinking-of-applyingTablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces%2Cedge&fit=fill&w=1280&s=2ea44ce79eba6c8b3e0ddd4132acd12c)
Meddwl am ymgeisio am arian grant?
Meddwl am ymgeisio am arian grant?
Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i ariannu syniadau gwych sy’n helpu cymunedau i ffynnu.
Gall grwpiau ymgeisio i ni am arian grant o dan £10,000, neu dros £10,000, yn ddibynnol ar beth maent eisiau ei wneud.
O fewn yr adran hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar:
- y mathau o brosiectau rydym yn ei ariannu
- pwy all ymgeisio am arian grant
- beth sy’n gwneud cais da
- faint o arian gallwn ei gynnig ac am ba mor hir
- costau gallwn ac na allwn ei ariannu
- beth mae eich mudiad ei angen i ymgeisio
- lle gallwch gael cymorth wrth sefydlu eich mudiad
- pa fathau o fudiadau gall ymgeisio
- pwy na allwn dderbyn ceisiadau ganddynt.
Arian cyhoeddus yw ein grantiau. Mae hyn yn golygu na ellir ei ddefnyddio i roi mantais anghyfreithlon i sefydliadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rheolau cymhorthdal.