Cyhoeddi partneriaeth newydd i atal niwed i blant
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymuno â’r Youth Endowment Fund, Plant mewn Angen y BBC a Sport England yn y Bartneriaeth Arianwyr dros Newid Gwirioneddol, partneriaeth a gynlluniwyd i helpu plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel a ffynnu.
Bydd y pedwar ariannwr yn gweithio gyda’i gilydd i atal plant rhag cael eu niweidio gan drais neu ei denu ato, trwy wrando ar brofiadau plant a deall yn union beth sydd wedi newid pethau i blant o’r blaen.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes yn cefnogi gwaith hanfodol mewn cymunedau ledled y wlad ac yn gallu tynnu ar brofiad sylweddol o weithio gyda sefydliadau eraill yn y maes hwn, i ddeall beth sy’n gweithio. Ond mae’r bartneriaeth newydd hon yn cydnabod y gellir mynd ymhellach trwy gydweithio. Trwy nodi blaenoriaethau a rennir, alinio’r ariannu gyda’r dystiolaeth a defnyddio eu llais ar y cyd a’u dylanwad, gallen nhw sbarduno newid gwirioneddol a pharhaol.
Ac megis dechrau yw hyn. Ymhen amser, bydd y bartneriaeth yn tyfu i gynnwys mwy o arianwyr sy’n rhannu’r un ymrwymiad i gadw plant yn ddiogel a helpu cymunedau i ffynnu.
Meddai David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “I ormod o bobl ifanc, mae tyfu i fyny yn teimlo’n anniogel wedi dod yn realiti. Fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwaith sy’n rhoi pobl ifanc wrth ei wraidd i’w cadw nhw’n ddiogel a’u cefnogi i ffynnu. Rydym yn falch o ymuno fel partner sefydlu'r fenter uchelgeisiol hon i rannu’r dysgu a chynyddu effaith, gan roi’r cyfleoedd gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc.”
Dywedodd Jon Yates, Prif Weithredwr yr Youth Endowment Fund: “Mae pob plentyn yn haeddu cael tyfu i fyny yn ddiogel a gyda chefnogaeth. Trwy ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ar beth sy’n gweithio i atal trais, gallwn wneud y gobaith hwnnw’n fwy real. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac yn gyffrous am y newid gwirioneddol a pharhaol a ddaw. Mae’n fraint ymuno â’r Brenin Charles wrth i ni lansio’r gwaith hanfodol hwn.”
Meddai Simon Antrobus, Prif Weithredwr Plant mewn Angen y BBC: “Ein huchelgais yw rhoi’r cyfle i bob un plentyn ffynnu. Rydym yn gwybod pan fo pobl ifanc yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gydag oedolion y maen nhw’n ymddiried ynddynt yn eu bywydau, maen nhw’n well am gadw’n ddiogel, yn gwneud dewisiadau da a chyrraedd eu llawn botensial. Ar ben ein hunain gallwn gyflawni newid, ond pan rydym yn cydweithio, gall y newid hwnnw fod yn drawsnewidiol. Mae'n ddyletswydd arnom i dorchi’n llewys er budd pobl ifanc y DU. Edrychwn ymlaen at weld y newid cadarnhaol a pharhaol a ddaw trwy gydweithio, ac mae’n anrhydedd i lansio’r darn grymus hwn o waith cyn yr Youth Opportunity Summit a gynhelir gan Ei Fawrhydi’r Brenin.”
Dywedodd Jeanette Bain-Burnett, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Uniondeb Sport England: “Mae mynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gallu newid bywydau i bobl ifanc, gan eu helpu i fagu hyder, cysylltu ag eraill a theimlo ymdeimlad o berthyn. I ormod, yn enwedig mewn cymunedau sydd wedi eu tan wasanaethu, mae rhwystrau ac anghydraddoldebau’n parhau.
“Mae Sport England yn falch o fod yn bartner sefydlu ar y Bartneriaeth Arianwyr dros Newid Gwirioneddol, yn gweithio gyda sefydliadau o’r un meddylfryd ar uchelgais gyffredin i ddod a newid cadarnhaol i fwy o bobl ifanc ym mhob cwr o Loegr.”
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol mwy diogel i bob plentyn.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig