Strategaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 2023-2030

Dance Syndrome

Cymuned yw’r man cychwyn

Lle mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol yn ganolog i greu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lewyrchus. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau anhygoel a arweinir gan y gymuned. A pham ein bod yn edrych i wneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt a thrwy ganolbwyntio ar gefnogi newid mwy beiddgar.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn dosbarthu £4 biliwn ychwanegol erbyn 2030. Cefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy. Gweithgareddau a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.

Ein strategaeth

Gweler y strategaeth yma

Glywed gan David Knott, ein Prif Weithredwr, a phrosiectau gymunedol anhygoel am sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn eu galluogi i cwrdd eu hanghenion cymunedol.

Ein huchelgais ar gyfer 2030

Ein uchelgais

Yr uchelgais drwy’r strategaeth hon yw creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy, gan ariannu gweithgareddau a mudiadau sy’n cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.

Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion lle mae’r angen mwyaf. Rydym yn edrych i wneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt, a chanolbwyntio mwy ar gefnogi’r effaith fwyaf.

Lawrlwytho’r adroddiad